Addysg Gychwynnol i Athrawon: Awst 2022 i Orfennaf 2024
Gwybodaeth am unigolion ar gyrsiau addysg gychwynnol i athrawon (AGA) a oedd yn arwain at statws athro cymwysedig (SAC) ar gyfer Awst 2022 i Orffennaf 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r bwletin hwn yn darparu gwybodaeth am unigolion a oedd yn hyfforddi i fod yn athrawon o dan ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru, gan gynnwys canolfan genedlaethol y Brifysgol Agored yng Nghymru. Cyrsiau Addysg Gychwynnol i Athrawon sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig yw’r prif lwybr i fynd yn athro.
Prif ffynhonnell y data yw cofnod myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA). Mae blwyddyn academaidd HESA yn dechrau ar 1 Awst ac yn gorffen ar 31 Gorffennaf y flwyddyn ganlynol. Er enghraifft, mae blwyddyn academaidd 2023 i 2024 yn dechrau ar 1 Awst 2023 ac yn gorffen ar 31 Gorffennaf 2024.
Mae'r datganiad cychwynnol o ddata 2022 i 2023 a 2023 i 2024 i'w weld yn Addysg gychwynnol i athrawon: Awst 2022 i Orffennaf 2024 (canlyniadau pennawd). Mae datganiad y prif ganlyniadau yn cynnwys gwybodaeth am fyfyrwyr a dechreuwyr o Gymru sy'n astudio yn y DU, ond mae newidiadau i gofnod myfyrwyr HESA yn golygu nad yw manylion pellach ar gael yn rhwydd, ac felly nid ydynt wedi'u cynnwys yn y bwletin hwn.
Mae'r cyfuniad o oedi cyn cael data myfyrwyr HESA, problemau ansawdd data ac ailstrwythuro'r data wedi achosi oedi mewn cyhoeddiadau ynghylch AGA o gymharu â blynyddoedd blaenorol.
Mae'r holl niferoedd yn seiliedig ar nifer y cofrestriadau. Mae'r data yn cyfeirio'n bennaf at fyfyrwyr sy'n dechrau eu cwrs. Gellir galw'r myfyrwyr hyn yn ddechreuwyr. Mewn achosion prin pan fydd myfyriwr wedi dechrau dau wahanol gwrs AGA yn yr un flwyddyn academaidd, bydd y myfyriwr hwnnw’n cael ei gyfrif fel dau ddechreuwr. Mae data am ddechreuwyr, myfyrwyr ac unigolion cymwysedig ar gael ar StatsCymru: Addysg uwch.
Prif bwyntiau
- Roedd 1,405 o ddechreuwyr AGA yn 2023 i 2024, 3% yn uwch nag yn 2022 i 2023.
- Roedd 895 o ddechreuwyr AGA yn hyfforddi i addysgu mewn ysgol gynradd yn 2023 i 2024, 2% yn uwch nag yn 2022 i 2023.
- Roedd 505 o ddechreuwyr AGA yn hyfforddi i addysgu mewn ysgol uwchradd yn 2023 i 2024, 4% yn uwch nag yn 2022 i 2023.
- Roedd 80 o ddechreuwyr AGA o gefndir Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol (6% o'r dechreuwyr AGA yr oeddem yn gwybod beth oedd eu hethnigrwydd).
- Gwyddom fod 335 o ddechreuwyr AGA, yr oedd eu cyfeiriad parhaol yng Nghymru, yn siarad Cymraeg yn rhugl yn 2023 i 2024, 7% yn uwch nag yn 2022 i 2023.
- Roedd 265 o ddechreuwyr AGA, yr oedd eu cyfeiriad parhaol yng Nghymru, yn hyfforddi i allu addysgu drwy'r Gymraeg yn 2023 i 2024, 13% yn uwch nag yn 2022 i 2023.
- Roedd 14% o ddechreuwyr cyrsiau pynciau â blaenoriaeth (ac eithrio Cymraeg), yr oedd eu cyfeiriad parhaol yng Nghymru, yn hyfforddi i allu addysgu drwy'r Gymraeg yn 2023 i 2024.
- Cymhwysodd 1,190 ar gyrsiau AGA, gan ennill SAC, yn 2023 i 2024, 4% yn is nag yn 2022 i 2023.
Y cyd-destun polisi
Polisi
Rhwng 2005 i 2006 a 2013 i 2014, bu Llywodraeth Cymru yn anelu at leihau nifer y bobl a oedd yn gwneud cyrsiau AGA yn unol ag anghenion ysgolion yng Nghymru. Gwnaed hyn mewn ymateb i Adolygiad o’r Ddarpariaeth ar gyfer Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon yng Nghymru. O Fedi 2019, o dan y meini prawf achredu newydd, dim ond rhaglenni TAR a oedd yn cael eu hachredu i ddarparu AGA ar gyfer addysg uwchradd, ac ni chafodd rhaglenni israddedig ar gyfer arbenigeddau pwnc uwchradd eu cyflwyno i'w hachredu gan Bartneriaethau AGA.
Y blaenoriaethau recriwtio presennol ar gyfer AGA yng Nghymru yw:
- athrawon dan hyfforddiant o gefndiroedd amrywiol gan gynnwys myfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
- athrawon dan hyfforddiant ar gyfer arbenigeddau pwnc uwchradd penodol. Yr arbenigeddau pwnc yw Bioleg, Cemeg, Cymraeg, Dylunio a Thechnoleg, Ffiseg, Ieithoedd Tramor Modern, Mathemateg a Thechnoleg Gwybodaeth
- athrawon dan hyfforddiant ag arbenigeddau pwnc uwchradd sy'n hyfforddi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
Partneriaethau Addysg Gychwynnol i Athrawon
Ym mlwyddyn academaidd 2023 i 2024, cyflwynodd y Partneriaethau Addysg Gychwynnol i Athrawon canlynol raglenni achrededig addysg gychwynnol i athrawon â SAC:
- CaBan - Partneriaeth Bangor Gogledd Cymru
- Yr Athrofa: Partneriaeth Dysgu Proffesiynol
- Partneriaeth Caerdydd
- Partneriaeth AGA Aberystwyth
- Partneriaeth AGA Prifysgol De Cymru
- Partneriaeth y Brifysgol Agored
Dyraniadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024
Ar gyfer 2023 i 2024, pennodd Cyngor y Gweithlu Addysg y dyraniadau ar gyfer cyrsiau AGA yng Nghymru. Cafodd dyraniadau ar wahân eu pennu ar gyfer cyrsiau’r Brifysgol Agored gan Lywodraeth Cymru. Mae’r dyraniadau yn ymwneud â’r nifer sy’n hyfforddi i fod naill ai’n athrawon ysgol gynradd neu’n athrawon ysgol uwchradd, a’r nifer sy’n gwneud cyrsiau AGA ôl-raddedig neu israddedig. Yn aml, defnyddir y termau 'ôl-raddedig' a 'TAR' i olygu yr un peth, er bod rhai mân wahaniaethau rhyngddynt. Gweler ' Lefel yr astudio neu gymhwyster ' yn 'Addysg Gychwynnol i Athrawon: diffiniadau' am ragor o wybodaeth.
| Cyfnod AGA | Ôl-raddedig | Israddedig | Pawb |
|---|---|---|---|
| Cynradd | 379 | 252 | 631 |
| Uwchradd | 1,056 | 0 | 1,056 |
| Pawb | 1,435 | 252 | 1,687 |
Ffynhonnell: Dyraniadau AGA Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer 2023 i 2024
| Cyfnod AGA | Ôl-raddedig | Israddedig | Pawb |
|---|---|---|---|
| Cynradd | 127 | 0 | 127 |
| Uwchradd | 93 | 0 | 93 |
| Pawb | 220 | 0 | 220 |
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru
| Cyfnod AGA | Ôl-raddedig | Israddedig | Pawb |
|---|---|---|---|
| Cynradd | 506 | 252 | 758 |
| Uwchradd | 1,149 | 0 | 1,149 |
| Pawb | 1,655 | 252 | 1,907 |
Ffynhonnell: Dyraniadau AGA Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer 2023 i 2024 a Llywodraeth Cymru
Dechreuwyr AGA o dan ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru
Ffigur 1: dyraniadau derbyn a dyraniadau o ran newydd ddyfodiaid i gyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru, blwyddyn academaidd 2014 i 2015 hyd at flwyddyn academaidd 2023 i 2024
Disgrifiad o ffigur 1: siart linell sy'n dangos bod nifer y dechreuwyr a oedd yn hyfforddi i addysgu mewn ysgol gynradd yn fwy na'r dyraniadau am y bedwaredd flwyddyn yn olynol. Mae nifer y cofrestriadau ar gyfer dechreuwyr hyfforddiant uwchradd wedi bod yn is na'r dyraniadau ers 2014 i 2015.
Ffynhonnell: Cofnod myfyrwyr HESA, dyraniadau AGA Cyngor y Gweithlu Addysg a Llywodraeth Cymru
- Roedd 1,405 o ddechreuwyr AGA yn 2023 i 2024, 3% yn uwch nag yn 2022 i 2023.
- O'r 1,405 o ddechreuwyr AGA yn 2023 i 2024, yng Nghymru yr oedd cyfeiriad parhaol 87% ohonynt, ac roedd cyfeiriad parhaol 6% mewn rhan arall o'r DU cyn cofrestru.
- Roedd 895 o ddechreuwyr AGA yn hyfforddi i addysgu mewn ysgol gynradd yn 2023 i 2024, 2% yn uwch nag yn 2022 i 2023.
- Roedd nifer y dechreuwyr AGA a oedd yn hyfforddi i addysgu mewn ysgol gynradd 18% yn uwch na'r dyraniadau yn 2023 i 2024.
- Roedd 505 o ddechreuwyr AGA yn hyfforddi i addysgu mewn ysgol uwchradd yn 2023 i 2024, 4% yn uwch nag yn 2022 i 2023.
- Roedd nifer y dechreuwyr AGA a oedd yn hyfforddi i addysgu mewn ysgol uwchradd 56% yn is na'r dyraniadau yn 2023 i 2024.
Dechreuodd y Brifysgol Agored gynnig y dystysgrif addysg i raddedigion (TAR) yng Nghymru yn 2020 i 2021. Mae dau lwybr y gellir eu dilyn wrth ymgymryd â TAR o dan y Brifysgol Agored - y llwybr rhan-amser a'r llwybr cyflogedig.
Defnyddir codau llaw-fer yn y tabl hwn, [r] = diwygiedig
| Llwybr ôl-radd | 2020/21 | 2021/22 | 2022/23 | 2023/24 |
|---|---|---|---|---|
| Cyflogedig | 85 [r] | 90 [r] | 60 | 85 |
| Rhan-amser | 60 [r] | 70 [r] | 75 | 95 |
| Cyfanswm | 140 | 160 | 135 | 180 |
[r] Roedd data a gyhoeddwyd yn flaenorol ar lwybrau dechreuwyr ôl-raddedig o dan y Brifysgol Agored ym mwletin 'Addysg gychwynnol i athrawon: Medi 2021 i Awst 2022' yn labelu'r gwerthoedd yn anghywir. Cafodd y llwybr cyflogedig ei drin yn anghywir fel y llwybr rhan-amser, a'r llwybr rhan-amser ei drin fel y llwybr cyflogedig.
Ffynhonnell: Cofnod myfyrwyr HESA
Nodweddion personol dechreuwyr AGA
Mae ansawdd y data ar nodweddion personol yng nghofnod myfyrwyr HESA, yn enwedig o 2022 i 2023, yn effeithio ar sut mae data yn cael ei gofnodi.
Ar gyfer rhyw, mae ffactorau ansawdd data a nodwyd gan HESA yn golygu nad yw'n briodol cyhoeddi gwybodaeth a wrthodwyd, gwybodaeth nad yw ar gael, a gwybodaeth arall ar wahân. At ddibenion cyhoeddi'r data, maent wedi'u cyfuno fel gwybodaeth arall neu anhysbys. Am ragor o wybodaeth, gweler diffiniad HESA o ryw.
Dim ond yn achos unigolion y mae eu cyfeiriad parhaol yn y DU cyn dechrau eu cwrs y caiff data ethnigrwydd ei gasglu a'i gofnodi.
Ar gyfer rhyw, ethnigrwydd ac oedran, cyfrifir y cyfrannau gan ddefnyddio cofnodion sydd â data hysbys yn unig. Ar gyfer anabledd, mae gwybodaeth anhysbys ac ymatebion sy'n nodi nad oes gan unigolyn amhariad sy'n hysbys, sy'n nodi bod yn well gan yr unigolyn beidio dweud, neu sy'n nodi nad yw'r wybodaeth ar gael, yn cael eu grwpio gyda chofnodion lle mae'r data yn anhysbys, a chânt eu categoreiddio fel rhai sydd heb anabledd hysbys. Mae hyn yn golygu bod y ffigurau anabledd yn dangos y gyfran y gwyddom bod ganddynt anabledd, a gall gwelliannau o ran creu data mwy cyflawn effeithio ar y newidiadau o flwyddyn i flwyddyn.
Mae data ar gofrestriadau AGA gyda darparwyr addysg uwch yng Nghymru yn ôl oedran, statws anabledd, ethnigrwydd a rhyw ar gael ar StatsCymru: Cofrestriadau addysg gychwynnol i athrawon gyda darparwyr addysg uwch yng Nghymru yn ôl nodweddion personol.
Gweler ‘adroddiad Addysg gychwynnol i athrawon: methodoleg ac ansawdd’ i gael rhagor o wybodaeth am fethodoleg ac ansawdd data nodweddion personol.
Adroddir ar arbenigeddau pwnc uwchradd yn ôl rhyw yn Arbenigeddau pwnc uwchradd o dan ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru.
- O'r ymgeiswyr AGA yr oeddem yn gwybod eu rhyw, roedd 75% (1,045) yn fenywod a 26% (355) yn ddynion.
- Gwelwyd lleihad bychan yn y bwlch rhwng y rhywiau ymhlith dechreuwyr AGA o gymharu â 2022 i 2023 (76% yn fenywod a 24% yn ddynion yn 2022 i 2023).
- Roedd 250 o ddechreuwyr AGA yn 30 oed neu'n hŷn yn 2023 i 2024 (18% o ddechreuwyr AGA).
- Roedd nifer y dechreuwyr AGA a oedd yn 30 oed neu'n hŷn yn 2023 i 2024 5% yn is nag yn 2022 i 2023.
- Gwyddom fod gan 260 o ddechreuwyr AGA anabledd yn 2023 i 2024 (18% o'r dechreuwyr).
- Roedd nifer y dechreuwyr AGA y gwyddom fod ganddynt anabledd yn 2023 i 2024 20% yn uwch nag yn 2022 i 2023.
- Roedd 80 o ddechreuwyr AGA o gefndir Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol (6% o'r dechreuwyr AGA yr oeddem yn gwybod beth oedd eu hethnigrwydd) yn 2023 i 2024.
- Roedd nifer y dechreuwyr AGA o gefndir Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol yn 2023 i 2024 77% yn uwch nag yn 2022 i 2023.
Dechreuwyr AGA a'r Gymraeg
Mae'r adran hon yn darparu gwybodaeth am y Gymraeg mewn perthynas â dechreuwyr AGA o dan ddarparwyr addysg uwch Cymru, gan gynnwys eu statws o ran siarad Cymraeg, ac a oedd y dechreuwyr yn hyfforddi i allu addysgu drwy'r Gymraeg ai peidio.
Gall unigolion hyfforddi i allu addysgu drwy'r Gymraeg drwy ymgymryd â chwrs AGA sydd wedi'i gynllunio i'w galluogi i addysgu'n ddwyieithog, p'un a yw hyn yn arwain at ardystiad ffurfiol ai peidio. Nid oes angen i athrawon fod wedi ymgymryd â'r hyfforddiant hwn i allu addysgu drwy'r Gymraeg.
Dim ond data ar ddechreuwyr AGA y gwyddom mai yng Nghymru yr oedd eu cyfeiriad parhaol a gofnodir yn yr adran hon. Yn achos unigolion nad ydym yn gwybod mai yng Nghymru yr oedd eu cyfeiriad parhaol, mae'r data ar eu gallu yn y Gymraeg ar gael ar StatsCymru: Cofrestriadau addysg gychwynnol i athrawon gyda darparwyr addysg uwch yng Nghymru yn ôl statws hyfforddiant athrawon dwyieithog a statws siarad Cymraeg.
Yn 2022 i 2023, gwnaed newidiadau sylweddol i'r data ynghylch y gallu i siarad Cymraeg a gesglid yng nghofnod myfyrwyr HESA yn sgil cyflwyno model casglu data Data Futures. Nid oedd y data ar y gallu i siarad Cymraeg yn cymharu'n union, felly, â'r data a ddarperid cyn 2022 i 2023. Effeithiwyd ar ansawdd y data ynghylch statws unigolion mewn perthynas â'u gallu i siarad Cymraeg hefyd yn dilyn gweithredu model Data Futures. O ystyried y materion hyn, cofnodir statws siaradwr Cymraeg ar gyfer y rhai y gwyddom eu bod yn siarad Cymraeg yn rhugl, ac yn achos pob categori arall, gan gynnwys lle nad yw'r gallu i siarad Cymraeg yn hysbys, nodir nad yw'n hysbys eu bod yn siarad Cymraeg yn rhugl. Mae hyn yn golygu bod y ffigurau ynghylch statws unigolion mewn perthynas â'u gallu i siarad Cymraeg yn dangos y gyfran y gwyddom eu bod yn siaradwyr Cymraeg rhugl, a gall gwelliannau o ran creu data mwy cyflawn effeithio ar y newidiadau o flwyddyn i flwyddyn.
Nodwyd nifer o broblemau ansawdd data hefyd yn y statws a ddynodwyd i hyfforddiant athrawon dwyieithog ar draws sawl blwyddyn o ddata hanesyddol. Lle nodwyd problemau posibl gydag ansawdd data, cawsant eu cywiro yn y datganiad hwn. Mae hyn yn golygu efallai na fydd y data yn cyfateb i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol.
Gweler ‘adroddiad Addysg gychwynnol i athrawon: methodoleg ac ansawdd’ i gael rhagor o wybodaeth am fethodoleg ac ansawdd data sy'n gysylltiedig â'r Gymraeg.
Adroddir am arbenigeddau pwnc uwchradd yn ôl statws siarad Cymraeg a statws hyfforddiant athrawon dwyieithog yn Arbenigeddau pwnc uwchradd o dan ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru.
- Gwyddom fod 335 o ddechreuwyr AGA yn siaradwyr Cymraeg rhugl yn 2023 i 2024, 7% yn uwch nag yn 2022 i 2023.
- Gwyddom fod 225 o ddechreuwyr AGA yn y cyfnod cynradd yn siaradwyr Cymraeg rhugl yn 2023 i 2024.
- Gwyddom fod 110 o ddechreuwyr AGA yn y cyfnod uwchradd yn siaradwyr Cymraeg rhugl yn 2023 i 2024.
- Roedd 265 o ddechreuwyr AGA yn hyfforddi i allu addysgu drwy'r Gymraeg yn 2023 i 2024, 13% yn uwch nag yn 2022 i 2023.
- O'r dechreuwyr AGA cyfnod cynradd yn 2023 i 2024, roedd 23% (180) yn hyfforddi i allu addysgu drwy'r Gymraeg.
- O'r dechreuwyr AGA cyfnod uwchradd yn 2023 i 2024, roedd 20% (85) yn hyfforddi i allu addysgu drwy'r Gymraeg.
Arbenigeddau pwnc uwchradd dechreuwyr AGA
Mae unigolion sy'n hyfforddi i fod yn athrawon uwchradd yn dewis pwnc i arbenigo ynddo. Ar gyfer 2023 i 2024, y pynciau â blaenoriaeth oedd Bioleg, Cemeg, Cymraeg, Dylunio a Thechnoleg, Ffiseg, Ieithoedd Tramor Modern, Mathemateg a Thechnoleg Gwybodaeth.
Caiff pynciau eu cyfrifo ar sail ffigurau cyfwerth â pherson llawn. Mae hyn yn golygu, os yw cwrs yn canolbwyntio ar fathemateg am hanner yr amser, a ffiseg am yr hanner arall, caiff ei gofnodi fel 0.5 cofrestriad mewn arbenigedd mathemateg a 0.5 cofrestriad mewn arbenigedd ffiseg.
Gweler ‘adroddiad Addysg gychwynnol i athrawon: methodoleg ac ansawdd’ i gael rhagor o wybodaeth am fethodoleg ac ansawdd data sy'n gysylltiedig ag arbenigeddau pwnc.
Ffigur 2: dechreuwyr AGA cyfnod uwchradd yn ôl arbenigedd pwnc a rhyw, 2023 i 2024 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 2: siart far sy'n dangos bod mwyafrif y dechreuwyr a oedd yn hyfforddi i addysgu mewn ysgol uwchradd yn fenywod yn achos pynciau â blaenoriaeth a phynciau nad oes ganddynt flaenoriaeth.
Ffynhonnell: Cofnod myfyrwyr HESA
[Nodyn 1] Caiff y bariau eu harddangos fel cyfrannau a gyfrifir ar sail ffigurau wedi'u talgrynnu, ac felly gallant fod yn gamarweiniol.
- O'r arbenigeddau pwnc â blaenoriaeth ar gyfer cyrsiau AGA uwchradd, bioleg oedd â'r nifer fwyaf o ddechreuwyr (50), a TG a chemeg oedd â'r nifer leiaf o ddechreuwyr (10).
- Addysg Gorfforol oedd yr arbenigedd pwnc â'r nifer uchaf o ddechreuwyr gwrywaidd (40), a Saesneg oedd yr arbenigedd pwnc â'r nifer uchaf o ddechreuwyr benywaidd (45).
Ffigur 3: dechreuwyr AGA cyfnod uwchradd yr oedd eu cyfeiriad parhaol yng Nghymru yn ôl statws hyfforddiant athrawon dwyieithog, 2023 i 2024 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 3: siart far sy'n dangos nad oedd yr un dechreuwr yn arbenigeddau pynciau â blaenoriaeth cemeg, ffiseg, gwyddoniaeth gyffredinol a thechnoleg gwybodaeth yn hyfforddi i allu addysgu drwy'r Gymraeg.
Ffynhonnell: Cofnod myfyrwyr HESA
[Nodyn 1] Caiff y bariau eu harddangos fel cyfrannau a gyfrifir ar sail ffigurau wedi'u talgrynnu, ac felly gallant fod yn gamarweiniol.
Dim ond data ar ddechreuwyr AGA y gwyddom mai yng Nghymru yr oedd eu cyfeiriad parhaol a gofnodir yn yr adran hon. Yn achos unigolion nad ydym yn gwybod mai yng Nghymru yr oedd eu cyfeiriad parhaol, mae'r data ar eu gallu yn y Gymraeg ar gael ar StatsCymru: Cofrestriadau addysg gychwynnol i athrawon ysgol uwchradd gyda darparwyr addysg uwch yng Nghymru yn ôl arbenigedd pwnc uwchradd.
- Roedd 13% o ddechreuwyr cyrsiau pynciau â blaenoriaeth (ac eithrio Cymraeg) yn hyfforddi i allu addysgu drwy'r Gymraeg yn 2023 i 2024.
- Roedd 17% o ddechreuwyr cyrsiau pynciau nad oes ganddynt flaenoriaeth yn hyfforddi i allu addysgu drwy'r Gymraeg yn 2023 i 2024.
- Ac eithrio'r Gymraeg, addysg gorfforol oedd â'r nifer uchaf o ddechreuwyr a oedd yn hyfforddi i allu addysgu drwy'r Gymraeg (20).
Myfyrwyr a gymhwysodd ar gyrsiau AGA o dan ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru
Y rhai a gafodd gymhwyster yn sgil y cwrs y flwyddyn honno yw myfyrwyr a gymhwysodd neu fyfyrwyr cymwysedig. Mae'r data ar y myfyrwyr cymwysedig yn seiliedig ar nifer y cofrestriadau sy'n gysylltiedig â dyfarnu cymhwyster addysg uwch. Dim ond myfyrwyr cymwysedig a enillodd gymhwyster SAC yn llwyddiannus sydd wedi'u cynnwys. Mewn achosion prin pan fydd unigolyn wedi ennill SAC yn llwyddiannus ar ddau wahanol gwrs yn yr un flwyddyn, bydd yn cael ei gyfrif fel dau fyfyriwr cymwysedig. Mae data ar unigolion cymwysedig AGA gan ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru ar gael ar StatsCymru: Cofrestriadau addysg gychwynnol i athrawon gyda darparwyr addysg uwch yng Nghymru yn ôl nodweddion personol.
- Cymhwysodd 1,190 ar gyrsiau AGA yn 2023 i 2024, 4% yn is nag yn 2022 i 2023.
- Roedd nifer y myfyrwyr a gymhwysodd ar gyrsiau AGA ar ei uchaf yn 2021 i 2022 (1,325).
- Hyfforddwyd 770 o fyfyrwyr a gymhwysodd ar gyrsiau AGA i addysgu mewn ysgol gynradd yn 2023 i 2024.
- Roedd nifer y myfyrwyr a gymhwysodd ar gyrsiau AGA, a hyfforddwyd i addysgu mewn ysgol gynradd, ar ei uchaf yn 2022 i 2023 (790).
- Hyfforddwyd 420 o fyfyrwyr a gymhwysodd ar gyrsiau AGA i addysgu mewn ysgol uwchradd yn 2023 i 2024.
- Dyma'r nifer isaf o fyfyrwyr cymwysedig a hyfforddwyd i addysgu mewn ysgol uwchradd ers 2018 i 2019 (405).
Gwybodaeth am fethodoleg ac ansawdd
Y brif ffynhonnell ddata ar gyfer y rhan fwyaf o'r ystadegau yw cofnod myfyrwyr HESA. O flwyddyn academaidd 2022 i 2023, newidiwyd fformat cofnod myfyrwyr HESA i fodel Data Futures. Roedd hyn yn newid sylweddol i'r strwythur, ac arweiniodd at heriau mawr o ran cyfnodau gwahanol ddata a'r gallu i'w ddilysu. Nodwyd problemau ansawdd data yng nghofnod myfyrwyr HESA ar gyfer 2022 i 2023 a 2023 i 2024, ac roedd angen cywiro rhywfaint ar lefel darparwr addysg uwch.
Oherwydd natur y newidiadau a'r newid yn y fformat i fodel Data Futures, adolygwyd methodoleg a diffiniadau'r datganiadau AGA blaenorol hefyd. Nodwyd problemau ansawdd yn rhywfaint o'r data a gyhoeddwyd mewn datganiadau blaenorol ar gyfer blynyddoedd academaidd cyn 2022 i 2023, a gywirwyd yn y datganiad hwn.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Jisc a Medr i wella ansawdd data dros amser. Lle caiff data ei gymharu, dylid ei ddehongli yng nghyd-destun y wybodaeth am fethodoleg ac ansawdd a ddarperir, sydd i'w gweld yn ‘adroddiad Addysg gychwynnol i athrawon: methodoleg ac ansawdd’.
Statws ystadegau swyddogol
Dylai’r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau DU).
Mae’r rhain yn ystadegau swyddogol achrededig. Cafodd eu hadolygu'n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (SRY) ym mis Rhagfyr 2010. Maent yn cydymffurfio â'r safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir fel rhan o'r achrediad. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r SRY yn brydlon. Gellir dileu neu atal achrediad ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir ei adennill pan fydd y safonau yn cael eu hadfer.
Gelwir ystadegau swyddogol achrededig (SRY) yn Ystadegau Gwladol yn Neddf 2007.
Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y SRY. SRYsy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.
Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.
Mae'r ystadegau swyddogol achrededig (SRY) hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.
Dibynadwyedd
Mae'r ystadegau hyn yn cael eu cynhyrchu gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, gan sicrhau annibyniaeth, uniondeb a thryloywder. Lle mae oedi neu newidiadau wedi digwydd yn sgil trosglwyddo o hen gofnod myfyrwyr HESA i Data Futures, mae'r rhain wedi'u rhannu'n agored i gynnal lefelau ymddiriedaeth. Lle nodwyd problemau ansawdd data, rhoddwyd sylw iddynt yn ‘adroddiad Addysg gychwynnol i athrawon: methodoleg ac ansawdd’.
Ansawdd
Yn sgil trosglwyddo o hen gofnod myfyrwyr HESA i Data Futures, gwelwyd newidiadau strwythurol a heriau o ran ansawdd data. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda darparwyr, Medr a HESA i wella ansawdd data, gan ddefnyddio gwiriadau dilysu i sicrhau bod y ffigurau a gyhoeddir mor gywir a dibynadwy â phosibl. Lle nodwyd problemau ansawdd data, rhoddwyd sylw iddynt yn ‘adroddiad Addysg gychwynnol i athrawon: methodoleg ac ansawdd’.
Gwerth
Defnyddir yr ystadegau yn y bwletin hwn oddi mewn ac oddi allan i Lywodraeth Cymru i fonitro tueddiadau yn narpariaeth AGA darparwyr addysg uwch yng Nghymru. Dyma rai o’r prif ddefnyddwyr:
- gweinidogion Cymru a Gwasanaeth Ymchwil y Senedd
- swyddogion yn Llywodraeth Cymru
- sefydliadau addysg uwch a chyrff cynrychiadol
- myfyrwyr, ymchwilwyr ac academyddion
- dinasyddion unigol, cwmnïau preifat, a’r cyfryngau
Defnyddir yr ystadegau hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dyma rai enghreifftiau:
- rhoi cyngor i Weinidogion Cymru
- llywio’r broses o wneud penderfyniadau ar bolisïau addysg yng Nghymru
- helpu i fodelu’r cyflenwad a’r galw yn y dyfodol o ran athrawon a llywio dyraniadau derbyn AGA
- rhagweld gwariant yn y dyfodol o ran cynlluniau cymorth i fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru
Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â'r SRY drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy fynd i'w gwefan.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.
Manylion cyswllt
Ystadegau Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr
E-bost: AddysgUwchAChyllidMyfyrwyr.ystadegau@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SB 6/2026
