Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth ynglŷn â myfyrwyr sy’n hyfforddi i fod yn athrawon ar gyrsiau addysg gychwynnol i athrawon (AGA) sy’n arwain at statws athro cymwysedig ar gyfer Medi 2019 i Awst 2020.

Ar gyfer 2019/20, Cyngor y Gweithlu Addysg bennodd y dyraniadau ar gyfer cyrsiau Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru. Mae hyn yn seiliedig ar a ydynt yn cael eu hyfforddi i fod yn athrawon cynradd neu athrawon uwchradd, ac a ydynt yn dilyn cyrsiau ôl-radd neu gyrsiau gradd.

Image
Mae nifer y myfyrwyr newydd ar gyrsiau addysg gychwynnol i athrawon (AGA) ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd wedi methu’r ffigurau o ran dyraniadau. Mae myfyrwyr AGA cynradd wedi cynyddu yn 2019/20 ar ôl gostwng yn barhaus ers blwyddyn academaidd 2014/15 a myfyrwyr AGA uwchradd wedi bod yn gostwng ers blwyddyn academaidd 2009/10.

Prif bwyntiau

  • Roedd nifer yr athrawon ysgol uwchradd newydd o dan hyfforddiant yn is na’r ffigur dyrannu am chweched blwyddyn (54% yn is yn 2019/20). Roedd nifer yr athrawon ysgol cynradd newydd o dan hyfforddiant yn is na’r ffigur am bumed blwyddyn (12% yn is yn 2019/20).
  • Dechreuodd 1,080 o fyfyrwyr ar gyrsiau AGA yn 2019/20; 615 ar gyrsiau ysgol gynradd a 465 ar gyrsiau ysgol uwchradd.
  • Bu cynnydd yn nifer y myfyrwyr AGA blwyddyn gyntaf yng Nghymru sy’n gallu addysgu yn y Gymraeg yn dilyn gostyngiad dros y pum mlynedd blaenorol. 235 oedd y ffigur yn 2019/20, sef 22% o gyfanswm nifer y myfyrwyr AGA blwyddyn gyntaf yng Nghymru.
  • Gwyddoniaeth, Saesneg a Mathemateg yw’r pynciau mwyaf cyffredin i fyfyrwyr sy’n dechrau ar gyrsiau AGA ysgol uwchradd.
  • Roedd ychydig dros 8 o bob 10 o fyfyrwyr AGA newydd a oedd yn hyfforddi yng Nghymru yn byw yng Nghymru cyn dechrau ar eu gradd.

Adroddiadau

Addysg Gychwynnol i Athrawon, Medi 2019 i Awst 2020 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau