Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth ynglŷn â myfyrwyr sy’n hyfforddi i fod yn athrawon ar gyrsiau addysg gychwynnol i athrawon (AGA) sy’n arwain at statws athro cymwysedig ar gyfer Medi 2021 i Awst 2022.

Mae 'Addysg gychwynnol i athrawon: Medi 2020 i Awst 2021' wedi'i ddiwygio oherwydd gwallau a nodwyd yn y data sy'n ymwneud â dyraniadau, a nifer y myfyrwyr sy'n dysgu i addysgu yn y Gymraeg. Mae ffigurau diwygiedig wedi'u cynnwys yn y datganiad 'Addysg gychwynnol i athrawon: Medi 2021 i Awst 2022' a thablau cysylltiedig StatsCymru. Sylwch nad yw'r datganiad 'Addysg gychwynnol i athrawon: Medi 2020 i Awst 2021' wedi'i ddiweddaru.

Y data mwyaf diweddar yn y diweddariad hwn yw data blwyddyn academaidd 2021/22. Mae’n cynnwys athrawon dan hyfforddiant mewn prifysgolion yng Nghymru a hefyd myfyrwyr o Gymru sy’n astudio ledled y DU.

Ar gyfer 2021/22, Cyngor y Gweithlu Addysg a bennodd y dyraniadau ar gyfer cyrsiau Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru. Cafodd dyraniadau ar wahân eu pennu ar gyfer cyrsiau’r Brifysgol Agored gan Lywodraeth Cymru. Mae’r dyraniadau yn ymwneud â’r nifer sy’n hyfforddi i fod naill ai’n athrawon ysgol gynradd neu’n athrawon ysgol uwchradd a’r nifer sy’n gwneud cyrsiau AGA ôl-raddedig neu israddedig.

Ffigur 1: Dyraniadau derbyn a dyraniadau o ran newydd ddyfodiaid ar gyrsiau AGA yng Nghymru, 2012/13 i 2021/22

Image

Disgrifiad o'r Ffigur 1: Siart linell sy'n dangos bod y nifer a ddechreuodd cyrsiau ysgol gynradd yn uwch na'r dyraniadau am yr ail flwyddyn yn olynol, tra bo’r nifer a ddechreuodd cyrsiau ysgol uwchradd yn is na'r dyraniadau am yr wythfed blwyddyn yn olynol.

Ffynhonnell: Cofnod Myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA), Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) a Llywodraeth Cymru

Prif bwyntiau

  • Dechreuodd 1,610 ar gyrsiau AGA yng Nghymru yn 2021/22; 935 ar gyrsiau ysgol gynradd a 675 ar gyrsiau ysgol uwchradd.
  • Er bod y nifer a ddechreuodd cyrsiau AGA ysgol uwchradd yng Nghymru ar gyfer 2021/22 yn is nag yr oedd yn 2020/21, roedd y nifer a ddechreuodd cyrsiau yn 2021/22 yn dal i fod yn uwch nag yr oeddent am bob blwyddyn rhwng 2015/16 a 2019/20.
  • Roedd nifer y rhai a ddechreuodd cyrsiau AGA ysgol gynradd yng Nghymru 20% yn uwch na'r dyraniadau yn 2021/22.
  • Roedd nifer y rhai a ddechreuodd cyrsiau AGA ysgol uwchradd yng Nghymru 34% yn is na'r dyraniadau yn 2021/22.
  • Roedd nifer y myfyrwyr AGA blwyddyn gyntaf yng Nghymru a oedd yn hyfforddi i allu addysgu yn y Gymraeg 4% yn is nag yr oedd yn 2020/21, sef 325 o fyfyrwyr yn 2021/22. Fodd bynnag, mae hyn yn cyfrif am 20% o gyfanswm nifer y myfyrwyr AGA blwyddyn gyntaf yng Nghymru, sef yr un gyfran ag yn 2020/21.
  • Mathemateg, Bioleg a Chymraeg oedd y pynciau blaenoriaeth mwyaf cyffredin i fyfyrwyr sy'n dechrau ar gyrsiau AGA ysgol uwchradd yng Nghymru.
  • Roedd 5% o fyfyrwyr AGA newydd yng Nghymru yr oedd eu hethnigrwydd yn hysbys o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnic Leiafrifol yn 2021/22, sef yr un gyfran ag ydoedd yn 2020/21.
  • Roedd 84% o fyfyrwyr AGA newydd a oedd yn hyfforddi yng Nghymru yn byw yng Nghymru cyn dechrau ar eu gradd.

Adroddiadau

Addysg Gychwynnol i Athrawon: Medi 2021 i Awst 2022 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 854 KB

PDF
854 KB
Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Sedeek Ameer

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.