Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar blant mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd, a pha mor aml mae rhieni yn helpu gydag addysg eu plant ar gyfer Ebrill 2016 i Mawrth 2017.

Gofynnwyd i rieni a phobl heb blant am eu barn ar y system addysg yng Nghymru. Mae'r dadansoddiad yn cwmpasu:

  • boddhad rhieni ag ysgolion
  • cefnogaeth rhieni gyda llythrennedd a rhifedd
  • hyder rhieni i helpu’u plentyn gyda'r Gymraeg, Saesneg a mathemateg
  • boddhad â'r system addysg.

Prif bwyntiau

  • Roedd 54% o rieni'n helpu eu plentyn bob dydd gyda llythrennau, darllen neu ysgrifennu, o gymharu â 39% o rieni yn helpu eu plentyn bob dydd gyda mathemateg neu rifau.
  • Rhoddodd pobl 16 i 24 oed sgôr uwch ar gyfartaledd ar gyfer boddhad ag addysg yng Nghymru (6.6 allan o 10) na phobl 55 i 64 oed (5.8 allan o 10).

Adroddiadau

Addysg: safbwyntiau a chymorth gan rieni (Arolwg Cenedlaethol Cymru), Ebrill 2016 i Mawrth 2017 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 671 KB

PDF
671 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.