Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddio’r llawlyfr hwn

1.1 Mae'r canllaw hwn yn darparu gwybodaeth i rieni/gofalwyr sy'n ystyried addysgu eu plentyn yn y cartref a'r rheini sydd eisoes yn gwneud hynny.

1.2 At ddibenion y canllaw hwn, mae'r diffiniad o riant neu ofalwr yn cynnwys unrhyw berson sy'n un o rieni naturiol y plentyn, unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhieni neu unrhyw un sy'n gofalu am y plentyn (adran 576 o Ddeddf Addysg 1996).

1.3 Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys hyperddolenni. Nid yw Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gywirdeb gwybodaeth gwefannau nad yw’n eu rheoli, ac ni all warantu cywirdeb eu gwybodaeth; ni ddylid cymryd ychwaith bod cynnwys hyperddolen yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo’r wefan honno, perchennog y wefan, nac unrhyw gynnwys penodol ynddi.

Ystyr addysg yn y cartref

1.4 Mae addysg yn y cartref yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio sefyllfa lle mae rhieni a gofalwyr yn addysgu eu plant yn y cartref yn lle eu hanfon i'r ysgol. Yng Nghymru, fel yng ngweddill y DU, mae addysg yn orfodol, ond nid yw'n orfodol anfon plant i'r ysgol. 

1.5 Nid oes angen i chi gael caniatâd gan yr awdurdod lleol i addysgu yn y cartref (oni bai bod eich plentyn wedi’i gofrestru mewn ysgol arbennig). Nid oes rhaid i chi gadw at gwricwlwm, er y gall fod yn adnodd hwylus i gyfeirio ato. Chi fydd yn penderfynu pa gyfleoedd dysgu y byddwch yn eu darparu a’r ffordd y bydd eich plant yn dysgu, ar yr amod bod yr addysg rydych yn ei darparu yn addysg ‘amser llawn’, ‘addas’, ac ‘effeithlon’.

Addysg ‘amser llawn’, ‘addas’, ac ‘effeithlon’?

1.6 Mae’r llysoedd wedi darparu canllawiau ar yr hyn a ystyrir yn addysg ‘addas’ ac ‘effeithlon’. Mae addysg yn ‘effeithlon’ os yw’n cyflawni’r hyn y mae’n bwriadu ei gyflawni ac mae’n ‘addas’ os yw’n paratoi’r plentyn ar gyfer bywyd mewn cymdeithas fodern waraidd ac yn galluogi’r plentyn i wireddu ei lawn botensial (Harrison a Harrison v Stevenson [1981]). Mae hyn yn golygu y dylai fod yn fwriad i addysg alluogi’r plentyn, pan fydd yn oedolyn, i fod yn ddinesydd annibynnol y tu allan i’r gymuned y cafodd ei fagu ynddi, os yw’r plentyn yn dewis gwneud hynny yn ddiweddarach yn ei fywyd. Rhaid i’r addysg fod yn addas ar gyfer oedran, gallu a doniau’r plentyn, ac unrhyw anghenion dysgu ychwanegol (neu anghenion addysgol arbennig) sydd ganddo, os oes rhai ganddo. 

1.7 Ar hyn o bryd, nid oes diffiniad cyfreithiol o ystyr addysg ‘amser llawn’. I deuluoedd sy'n addysgu yn y cartref, mae'n bosibl y bydd cyswllt un i un neu gyswllt grŵp parhaus, bron, ac mae'n bosibl cynnal yr addysg y tu allan i 'oriau ysgol' arferol. Bydd y cwestiwn a yw'r addysg a roddir i blentyn penodol yn addysg amser llawn yn dibynnu ar amgylchiadau pob achos, ond fel rhieni a gofalwyr, dylech allu o leiaf feintioli a dangos faint o amser y mae eich plentyn yn ei dreulio yn cael ei addysgu. Mae'n debygol na fydd addysg y mae'n amlwg nad yw'n llenwi cyfran sylweddol o fywyd y plentyn yn bodloni'r gofyniad am addysg 'amser llawn'.

Y rhesymau pam mae rhieni a gofalwyr yn dewis addysgu yn y cartref

1.8 Gall llawer o ffactorau ddylanwadu ar benderfyniad rhieni a gofalwyr i addysgu eu plentyn yn y cartref, gan gynnwys eu credoau athronyddol, ysbrydol neu grefyddol. Gall rhieni a gofalwyr hefyd deimlo eu bod yn gallu diwallu anghenion unigol ac arddull dysgu eu plant yn well nag y gallai ysgol ei wneud. 

Cefnogaeth os ydych yn teimlo dan bwysau i addysgu yn y cartref

1.9 Mae'n hanfodol bod y penderfyniad i addysgu yn y cartref yn cael ei wneud gennych chi, a hynny o'ch gwirfodd. Ni ddylai ysgol fyth eich annog i addysgu yn y cartref oherwydd ymddygiad gwael, cyrhaeddiad gwael neu bresenoldeb gwael eich plentyn. Mae hyn yn arbennig o wir os yw awydd i osgoi gwaharddiad parhaol o'r ysgol neu erlyniad yn sgil diffyg presenoldeb yn yr ysgol yn dylanwadu ar eich penderfyniad i addysgu yn y cartref. 

1.10 Dylai pennaeth sydd o’r farn bod yn rhaid gwahardd eich plentyn yn barhaol ddefnyddio'r gweithdrefnau gorfodol neu drafod y posibilrwydd o ‘symudiad wedi'i reoli’ i ysgol arall gyda chi. Pan fydd plentyn wedi cael gwaharddiad cyfnod penodol hirach na 15 diwrnod mewn tymor ysgol neu wedi’i wahardd yn barhaol, mae'n ofynnol i'r awdurdod lleol drefnu addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS) fel addysg mewn uned cyfeirio disgyblion (PRU) os nad yw ysgol brif ffrwd amser llawn yn addas i'ch plentyn. I gael rhagor o wybodaeth, gweler y canllawiau ‘Gwahardd o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion’.

1.11 Mae'r arfer hwn (lle gofynnir ichi addysgu eich plentyn yn y cartref), a elwir yn Saesneg weithiau yn ‘off-rolling’, yn annerbyniol, ac os bydd unrhyw ysgol yn rhoi pwysau o'r fath arnoch i addysgu yn y cartref, dylech roi gwybod i'r awdurdod lleol. 

1.12 Os ydych yn credu o ddifrif nad yw ysgol bresennol eich plentyn yn addas, dylech hefyd drafod gyda'r awdurdod lleol i weld pa ddewisiadau eraill a allai fod ar gael cyn gwneud unrhyw benderfyniad i addysgu eich plentyn yn y cartref. 

1.13 Gallwch hefyd gysylltu â Gwasanaeth Ymchwilio a Chyngor Comisiynydd Plant Cymru. Mae'r gwasanaeth am ddim ac yn gyfrinachol, ac mae’n cynnig cyngor unigol ac yn ymchwilio i achosion unigol. Ei ddiben yw cynnig cymorth a chefnogaeth os yw plant a phobl ifanc neu'r rhai sy'n gofalu amdanynt yn teimlo bod plentyn wedi cael ei drin mewn ffordd annheg.

1.14 Os ydych wedi rhoi cynnig ar bob opsiwn arall, efallai y byddwch am gysylltu ag Estyn, a all eich helpu i'ch cyfeirio at y broses cwynion berthnasol.

Cwestiynau i'w hystyried cyn penderfynu addysgu yn y cartref

1.15 Nid ar chwarae bach y dylid gwneud y penderfyniad i addysgu eich plentyn yn y cartref. Bydd yn rhaid i chi wneud ymrwymiad mawr, a hynny o ran amser, egni ac arian. Os ydych yn dewis addysgu eich plant yn y cartref rhaid ichi fod yn barod i ysgwyddo’r cyfrifoldeb ariannol llawn, gan gynnwys costau unrhyw arholiadau cyhoeddus. Mae'n arbennig o bwysig eich bod, fel rhiant neu ofalwr, yn ystyried natur yr addysg rydych yn bwriadu ei darparu ar gyfer eich plentyn cyn i chi ddechrau ei addysgu yn y cartref. Er enghraifft, dylech ystyried y meysydd dysgu a phrofiad y byddwch yn eu darparu, ac a fyddant yn galluogi eich plentyn i gyflawni ei botensial nawr ac yn y dyfodol, gan gynnwys a yw eich plentyn am sefyll arholiadau cyhoeddus fel TGAU. Mae'n bwysig ystyried cwestiynau fel y canlynol: 

  • a yw eich plentyn yn teimlo’n gadarnhaol ynghylch yr awgrym i’w addysgu yn y cartref?
  • a ydych yn sicr mai hwn yw'r opsiwn gorau i'ch plentyn?
  • a oes gennych yr amser i'w roi i addysg eich plentyn ar sail amser llawn? 
  • a oes gennych y gallu i helpu eich plentyn i ddysgu’n effeithiol? 
  • a fydd modd i chi addysgu eich plentyn i'r lefel ofynnol os bydd eisiau sefyll arholiadau? 
  • a ydych yn gallu darparu'r adnoddau angenrheidiol? 
  • a oes cymorth arall ar gael i chi? 
  • a oes cyfleoedd ar gyfer ymarfer corff? 
  • a fydd profiadau cymdeithasol gyda phlant eraill ar gael? 
  • a ydych yn siŵr eich bod yn dewis addysg yn y cartref o'ch gwirfodd? 

Yr hyn i’w wneud os ydych wedi penderfynu addysgu eich plentyn yn y cartref

1.16 Os yw eich plentyn yn yr ysgol, dylech ysgrifennu at y pennaeth yn rhoi gwybod iddo am eich bwriad i ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros addysg eich plentyn ac er mwyn iddo dynnu ei enw oddi ar y gofrestr. Gweler Atodiad A am lythyr enghreifftiol i’w ddefnyddio. Yna, bydd y pennaeth yn tynnu enw eich plentyn oddi ar y gofrestr ac yn rhoi gwybod i’r awdurdod lleol. Os byddwch yn tynnu eich plentyn o'r ysgol heb roi gwybod iddi yn ysgrifenedig (nid yw rhoi gwybod i'r ysgol ar lafar yn ddigon), gallech gael eich erlyn am ei ddiffyg presenoldeb. 

1.17 Os nad yw eich plentyn wedi mynd i ysgol erioed, nid oes angen rhoi gwybod. Fodd bynnag, argymhellwn yn gryf eich bod yn cysylltu â'ch awdurdod lleol i roi gwybod iddo eich bod yn addysgu eich plentyn yn y cartref er mwyn iddo allu cysylltu â chi a chynnig cymorth. 

Yr hyn i’w wneud os oes gan eich plentyn gynllun datblygu unigol (CDU) neu ddatganiad anghenion addysgol arbennig (AAA)

1.18 Bydd yr un weithdrefn yn gymwys os oes gan eich plentyn CDU neu ddatganiad AAA ac yn mynychu ysgol brif ffrwd.

1.19 Fodd bynnag, os yw eich plentyn yn mynychu ysgol arbennig, bydd angen i chi gael caniatâd gan yr awdurdod lleol cyn y gallwch ei dynnu oddi ar gofrestr yr ysgol a gofyn i’r awdurdod lleol adolygu CDU neu ddiwygio datganiad eich plentyn. 

1.20 Bydd yr awdurdod lleol yn parhau i gynnal adolygiad blynyddol am gyfnod y CDU neu’r datganiad, a fydd yn cynnwys asesu a yw geiriad y cynllun yn dal i fod yn briodol ac a oes angen iddo aros ar waith. Mae'r hawl i apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru neu Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yn dal yn gymwys.

1.21 Gall rhieni a gofalwyr plentyn a addysgir yn y cartref nad oes ganddo CDU neu ddatganiad AAA ofyn i'r awdurdod lleol benderfynu (adran 13 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (‘Deddf 2018’)) a oes gan eu plentyn ADY. Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu bod gan y plentyn ADY, rhaid iddo baratoi CDU ar gyfer y plentyn (adran 14 o Ddeddf 2018).

1.22 I gael gwybodaeth am ddefnyddio gwasanaethau ADY neu AAA, gweler paragraffau 9.21 a 9.22.

Yr hyn i’w wneud os hoffech gael trefniant addysgu hyblyg 

1.23 Mae addysgu hyblyg yn drefniant lle bydd plentyn yn treulio rhan o'r wythnos yn mynychu'r ysgol a'r gweddill yn cael ei addysgu yn y cartref, yn dilyn cais ffurfiol gennych chi sydd wedi’i gymeradwyo gan bennaeth yr ysgol. Mae'n bwysig nodi nad yw addysgu hyblyg yn addysg yn y cartref. Mewn trefniadau o'r fath, bydd y plentyn yn aros ar gofrestr yr ysgol. Gall hyn fod yn ddewis gwell nag addysg yn y cartref os ydych yn dymuno addysgu eich plentyn yn y cartref ond na allwch wneud hynny ar sail amser llawn, neu os nad ydych yn dymuno gwneud hynny. 

1.24 Mae gennych berffaith hawl i ofyn i ysgolion am drefniadau addysgu hyblyg posibl. Fodd bynnag, nid yw’r hawl i drefniant addysgu hyblyg yn awtomatig, a phennaeth yr ysgol fydd yn penderfynu a fydd yn cytuno i’r peth ai peidio. Os bydd y pennaeth yn cytuno â’ch cais, yna bydd y diwrnodau y bydd y plentyn yn cael ei addysgu yn y cartref yn cael eu cofnodi fel absenoldeb wedi’i awdurdodi. Os bydd ysgol yn penderfynu peidio â chytuno i drefniant o'r fath, nid oes unrhyw broses apelio ffurfiol.

Hawliau a chyfrifoldebau

Hawliau'r plentyn

2.1 Mae Erthygl 28 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn darparu bod gan blant a phobl ifanc yr hawl i gael addysg, ni waeth pwy ydynt.

2.2 Mae Deddf Plant 2004 yn mynegi'n glir ei disgwyliad y bydd plant a phobl ifanc yn cael eu cynnwys wrth wneud penderfyniadau sy'n effeithio arnynt, ac y rhoddir pwysau priodol ar eu barn, yn unol â'u hoedran. Os byddant o oedran a galluedd meddyliol digonol, mae'n bwysig eu bod yn cael cyfle i fynegi eu barn, a bod y farn honno'n cael ei hystyried wrth wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar ei hiechyd, eu haddysg a'u lles.

2.3 Mae Erthygl 12 o CCUHP yn mynnu bod gwladwriaethau'n darparu hawl i blant fynegi eu barn ac i bwysau dyledus gael ei roi i'r farn honno, yn unol ag oedran ac aeddfedrwydd y plentyn. Nid yw hyn yn rhoi awdurdod i blant drosoch chi, a mater i chi yw'r penderfyniad ynghylch addysgu eich plentyn yn y cartref. Dylech, fodd bynnag, ystyried a yw addysg yn y cartref yn bosibiliad ymarferol o dan amgylchiadau penodol eich teulu, ac a fydd eich plentyn yn hapus i gael ei addysgu yn y ffordd hon.

Hawliau a chyfrifoldebau'r rhiant neu’r gofalwr

2.4 Mae gennych hawl i addysgu eich plant o'ch safbwynt athronyddol, ysbrydol neu grefyddol eich hunan. Mae Deddf Hawliau Dynol 1998, Erthygl 2 (Protocol 1) yn datgan: ‘No person shall be denied the right to education. In the exercise of any functions which it assumes in relation to education and to teaching, the State shall respect the right of parents to ensure such education and teaching in conformity with their own religious and philosophical convictions.’

2.5 Mae hyn yn golygu y gallwch ddewis addysgu eich plentyn yn y cartref neu ei anfon i'r ysgol. Mae'r rhan fwyaf o rieni a gofalwyr yn dewis addysgu eu plant drwy eu hanfon i'r ysgol, lle mae'r wladwriaeth yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb ariannol dros addysg eu plentyn. Mae eraill yn dewis addysg yn y cartref. Rhaid i rieni a gofalwyr sy'n gwneud hynny fod yn barod felly i ysgwyddo'r cyfrifoldeb ariannol llawn dros addysg eu plant. Fodd bynnag, ni cheir hawl absoliwt i addysgu yn y cartref. Mae addysgu yn y cartref yn cael ei chaniatáu ar yr amod eich bod yn darparu addysg amser llawn, 'effeithlon' ac 'addas' i'ch plentyn (gweler paragraff 1.6 o’r ddogfen hon) yn unol ag adran 7 o Ddeddf Addysg 1996 sy’n datgan:

‘The parent of every child of compulsory school age shall cause him to receive efficient full-time education suitable

  • (a) to his age, ability, aptitude, and
  • (b) to any special educational needs … he may have either by regular attendance at school or otherwise.’

2.6 Daw plentyn i oedran addysg orfodol ar y cyntaf o'r dyddiadau canlynol (31 Awst, 31 Rhagfyr neu 31 Mawrth) ar ôl iddo droi'n bum mlwydd oed (neu, os yw ei ben-blwydd yn bump oed yn digwydd ar un o'r diwrnodau hynny, ar y diwrnod hwnnw). Mae'r plentyn yn parhau i fod fel y cyfryw tan ddydd Gwener olaf mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd pan fydd yn troi'n un ar bymtheg. Gall plant hefyd gael eu haddysgu yn y cartref er mwyn cymryd rhan mewn addysg a hyfforddiant hyd at 18 oed.

Cyfrifoldebau'r awdurdod lleol

2.7 Mae adran 436A o Ddeddf Addysg 1996 yn darparu'r canlynol: 

‘A local authority must make arrangements to enable them to establish (so far as it is possible to do so) the identities of children in their area who are of compulsory school age but:

  • (a) are not registered pupils at a school, and
  • (b) are not receiving suitable education otherwise than at a school.’

2.8 Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i awdurdodau lleol wneud trefniadau i nodi plant nad ydynt yn cael addysg addas.

2.9 Mae’r llysoedd wedi sefydlu’r ffaith y caiff awdurdodau lleol holi rhieni a gofalwyr yn anffurfiol am fanylion darpariaeth addysgol eu plentyn (Phillips v Brown [1980]). Er nad ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio ac i ateb y cwestiynau hyn, byddai’n synhwyrol ichi wneud hynny. Os na fydd gan yr awdurdod lleol wybodaeth am yr addysg a ddarperir, bydd yn gorfod penderfynu p’un a yw’n ymddangos nad ydych yn cyflawni eich cyfrifoldeb i sicrhau bod eich plentyn yn cael addysg addas, lawn-amser, effeithlon. 

2.10 Mae canllawiau statudol wedi’u datblygu er mwyn helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswydd i sicrhau bod plant yn cael addysg addas. Yn ogystal ag egluro nodweddion addysg addas, mae’r canllawiau statudol newydd yn atgyfnerthu’r opsiynau sydd ar gael i awdurdodau lleol pan fyddant yn penderfynu nad yw addysg addas yn cael ei darparu. Mae’r canllawiau statudol hefyd yn egluro’r cymorth y gallai awdurdodau lleol ei gynnig i’r rheini sy’n addysgu yn y cartref o fewn eu hardal. 

2.11 Er mwyn i awdurdod lleol fod yn fodlon ynghylch addasrwydd yr addysg a ddarperir gan y rhieni neu’r gofalwyr, nid yw’n afresymol i’r awdurdod lleol drefnu i weld y plentyn a chyfathrebu ag ef. Bydd angen i awdurdodau lleol gadw mewn cof y ffaith bod gan rieni a gofalwyr wybodaeth fanwl am y ffordd mae eu plentyn yn datblygu, a dylid holi eu barn ynghylch cynnydd eu plentyn, gan roi sylw digonol i hyn wrth asesu addasrwydd yr addysg. Dylid holi barn y plentyn am ei addysg hefyd ac, wrth i awdurdodau lleol ystyried y sefyllfa, dylid rhoi sylw digonol i hynny.

2.12 Wrth benderfynu pryd i drefnu i weld plentyn, dylid rhoi’r sylw pennaf i amgylchiadau unigol pob plentyn a’i deulu. Nid oes rhaid cynnal cyfarfod o’r fath yn y cartref; gellir cytuno ar leoliad sy’n gyfleus i bawb. Disgwylir i’r awdurdod lleol wneud pob ymdrech resymol i fod yn hyblyg wrth drefnu’r cyfarfodydd hyn, sy’n gyfle i awdurdodau lleol drafod yr addysg a ddarperir ac unrhyw gymorth y gall fod ei angen ar y teulu. Fodd bynnag, nid oes rheidrwydd ar rieni a phlant cymwys yn ôl diffiniad Gillick gwrdd â'r awdurdod lleol ac maent yn rhydd i wrthod cyfarfod os byddant yn dymuno. Gall plentyn wneud ei benderfyniadau ei hun pan fydd ganddo ddigon o ddealltwriaeth a deallusrwydd i allu gwneud ei benderfyniad ei hun ar y mater y gwneir y penderfyniad yn ei gylch) (Gillick v Awdurdod Iechyd Ardal Gorllewin Norfolk a Wisbech [1985] UKHL 7).)

Yr hyn a fydd yn digwydd os ymddengys nad ydych yn darparu addysg addas

2.13 Os na fydd yr awdurdod lleol yn hyderus eich bod yn darparu addysg addas oherwydd, er enghraifft, nad ydych wedi darparu gwybodaeth ddigonol neu nad yw’r wybodaeth yr ydych wedi’i darparu yn ei gwneud yn glir bod yr addysg yn addas ac yn effeithlon, bydd yr awdurdod lleol yn parhau i ymgysylltu â chi i ddarparu’r wybodaeth honno.

2.14 Os bydd yr awdurdod lleol, ar ôl gwneud pob ymdrech resymol drwy drafodaethau â chi, yn parhau i fod heb ei fodloni bod yr addysg yr ydych yn ei darparu yn addas ac yn effeithlon, bydd yn dilyn y prosesau ffurfiol a amlinellir mewn deddfwriaeth.

2.15 Mae adran 437(1) o Ddeddf Addysg 1996 yn datgan ‘If it appears to a local education authority that a child of compulsory school age in their area is not receiving suitable education, either by regular attendance at school or otherwise, they shall serve a notice in writing on the parent requiring him to satisfy them within the period specified in the notice that the child is receiving such education.’ (Mae adran 437(2) o Ddeddf Addysg 1996 yn datgan bod yn rhaid i'r cyfnod a nodir yn yr hysbysiad fod yn 15 diwrnod o leiaf, gan ddechrau ar y diwrnod y cyflwynwyd yr hysbysiad. 

2.16 Mae hyn yn golygu, os yw pryderon yr awdurdod lleol yn parhau, a'i fod felly o'r farn bod yn rhaid i'r plentyn fynychu'r ysgol, rhaid iddo gyflwyno gorchymyn mynychu'r ysgol i'r rhiant neu’r gofalwr. 

2.17 Mae gorchymyn mynychu'r ysgol yn orchymyn a ddyroddir ar ran yr awdurdod lleol yn ei gwneud yn ofynnol i'r plentyn gael ei gofrestru fel disgybl amser llawn yn yr ysgol a enwir yn y gorchymyn. Os ydych yn dymuno, cewch ddewis ysgol wahanol i'r un a enwir yn llythyr y gorchymyn mynychu'r ysgol. Fodd bynnag, rhaid i'r ysgol fod yn addas i ddiwallu anghenion y plentyn a rhaid iddi fod wedi cytuno i gynnig lle i'ch plentyn. Yn yr achos hwn, bydd y gorchymyn mynychu'r ysgol yn cael ei newid i gynnwys enw'r ysgol a ddewisir gennych.

2.18 Dim ond ar ôl i bob cam rhesymol gael ei gymryd er mwyn ceisio datrys y sefyllfa y caiff gorchymyn mynychu'r ysgol ei gyflwyno. Ar unrhyw gam ar ôl i'r gorchymyn gael ei ddyroddi, gall rhieni a gofalwyr gyflwyno tystiolaeth i'r awdurdod lleol i ddangos eu bod bellach yn darparu addysg briodol a gwneud cais i’r gorchymyn gael ei ddirymu'r. Os yw'r awdurdod lleol yn gwrthod dirymu'r gorchymyn mynychu'r ysgol, gall rhieni a gofalwyr ddewis cyfeirio'r mater at Weinidogion Cymru. Os yw'r awdurdod lleol yn erlyn y rhieni neu’r gofalwyr am beidio â chydymffurfio â'r gorchymyn, mater i'r llys fydd penderfynu a yw'r addysg a ddarperir yn addas ac yn effeithlon ai peidio. Gall y llys ddirymu'r gorchymyn os yw'n fodlon bod y rhiant neu’r gofalwr yn cyflawni ei ddyletswydd. Gall hefyd ddirymu'r gorchymyn drwy orfodi gorchymyn goruchwylio addysg (gweler paragraff 2.20 i gael rhagor o wybodaeth).

2.19 I gael rhagor o wybodaeth am orchmynion mynychu'r ysgol, gweler Fframwaith Presenoldeb ar gyfer Cymru Gyfan

2.20 Dyma’r broses ar gyfer gorchymyn mynychu'r ysgol:

  1. Mae'r awdurdod lleol yn dyroddi hysbysiadau yn rhoi gwybod i'r rhieni neu’r gofalwyr yr ymddengys nad yw eu plentyn yn derbyn addysg addas, naill ai oherwydd pryderon am yr addysg ei hun neu oherwydd diffyg gwybodaeth am yr addysg yn y cartref a ddarperir.
  2. Os bydd y teulu'n penderfynu peidio â herio'r awdurdod, dylid bod digon o amser (15 diwrnod o ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad) i'r teulu fynd i'r afael â phryderon yr awdurdod, naill ai drwy newid yr addysg a ddarperir yn y cartref neu drwy ddarparu gwybodaeth ychwanegol am raglen yr addysg yn y cartref.
  3. Os na fydd y teulu'n mynd i'r afael â phryderon yr awdurdod, rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno hysbysiad o fwriad i ddyroddi gorchymyn mynychu'r ysgol.
  4. Ar ôl cael yr hysbysiad o fwriad, gall y teulu ddarparu gwybodaeth am yr addysg yn y cartref neu herio barn yr awdurdod nad yw'r addysg yn cael ei rhoi.
  5. Os bydd pryderon yr awdurdod lleol yn parhau, gall fwrw ymlaen â dyroddi gorchymyn mynychu'r ysgol. Ar unrhyw gam yn ystod y trafodion, gall y teulu atal y gorchymyn drwy roi tystiolaeth neu ddangos i'r awdurdod lleol fod y plentyn yn derbyn addysg yn y cartref.
  6. Ar ôl i'r gorchymyn gael ei ddyroddi, os nad yw'r rhieni neu’r gofalwyr yn cofrestru'r plentyn yn yr ysgol a enwir, gall yr awdurdod lleol ddewis erlyn.
  7. Yna, bydd yr achos yn mynd gerbron llys ynadon, a fydd yn golygu na fydd y rhieni neu’r gofalwyr yn delio â'r awdurdod lleol mwyach. Mae hwn yn gyfle arall i ddangos bod addysg yn cael ei darparu. Gall y rhieni neu’r gofalwyr gael eu dyfarnu'n euog neu'n ddieuog. Os caiff eu dyfarnu'n euog, bydd y rhieni neu’r gofalwyr yn gorfod talu dirwy (‘ddim yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol’). Rhaid i'r awdurdod lleol hefyd ystyried a fyddai'n briodol gwneud cais am orchymyn goruchwylio addysg (gweler paragraff 2.17) mewn perthynas â'r plentyn.

2.21 Os bydd rhiant neu ofalwr yn methu â chydymffurfio â gorchymyn mynychu'r ysgol, rhaid i'r awdurdod lleol ystyried a fyddai'n briodol gwneud cais am orchymyn goruchwylio addysg mewn perthynas â'r plentyn (gweler adran 447 o Ddeddf Addysg 1996).

2.22 Mae gorchymyn goruchwylio addysg yn orchymyn a ddyfernir yn y llys achosion teuluol sy'n ei gwneud yn ofynnol i chi a'ch plentyn ddilyn cyfarwyddiadau a wneir yn y gorchymyn hwnnw. Mae gorchymyn goruchwylio addysg yn rhoi'r cyfrifoldeb dros gynghori, cefnogi a rhoi 'cyfarwyddyd' i'r plentyn a gaiff ei oruchwylio a'i rieni neu’r gofalwyr i'r awdurdod lleol, er mwyn sicrhau bod y plentyn yn cael ei addysgu mewn ffordd addas. 

2.23 Unwaith y cyflwynir gorchymyn goruchwylio addysg, mae dyletswydd ar rieni a gofalwyr i gydymffurfio â'r cyfarwyddiadau. Os bydd rhieni a gofalwyr yn methu â chydymffurfio, bydd y swyddog goruchwylio yn cyhoeddi rhybudd ac yn trafod y cyfarwyddiadau gyda nhw yn llawn unwaith eto. Os bydd rhieni a gofalwyr yn parhau i fethu â chydymffurfio, mae'n bosibl y byddant yn cael eu herlyn yn y llys ynadon, a gallent gael dirwy neu gosb arall. 

Sut i ddarparu tystiolaeth o ddarpariaeth addysgol foddhaol 

2.24 Rhaid i'r awdurdod lleol fod yn fodlon bod yr addysg a ddarperir yn addas ar gyfer 'oed, gallu a doniau eich plentyn ac unrhyw anghenion addysgol arbennig y gallai fod ganddo’. Ystyrir y dystiolaeth a ddarperir gennych yng ngoleuni hyn. Gellir mynd ati i ddarparu addysg yn y cartref mewn nifer o wahanol ffyrdd. Er enghraifft, mae rhai rhieni a gofalwyr yn teimlo y bydd eu plentyn yn dysgu drwy brofiad, gyda'r addysgwr yn hwylusydd ac yn dywysydd, sy'n defnyddio profiad y plentyn fel sail ar gyfer dysgu. Bydd rhieni a gofalwyr eraill yn dewis addysgu eu plant mewn ffordd sy'n adlewyrchu amserlen ysgol, gyda meysydd dysgu a phrofiad yn cael eu haddysgu mewn ffordd fwy ffurfiol, gan ddilyn maes llafur clir a all gynnwys targedau i'r plant eu cyflawni. 

2.25 Chi piau'r dewis o ran athroniaeth a gall newid dros amser. Eich cyfrifoldeb chi fydd rhoi enghreifftiau sy'n dangos addasrwydd darpariaeth addysg eich plentyn. 

2.26 Wrth gynnig tystiolaeth o addasrwydd darpariaeth addysg eich plentyn, gallech, er enghraifft, ddarparu'r wybodaeth hon fel a ganlyn:

  • anfon gwybodaeth drwy e-bost fel atodiad
  • bod eich plentyn yn dangos rhywfaint o'i waith neu’n sôn am yr hyn mae'n ei ddysgu
  • gwaith gwreiddiol
  • llungopïau o waith ysgrifenedig
  • ffotograffau
  • gwaith celf
  • llyfrau lloffion
  • cyflawniadau cerddorol ac ym maes chwaraeon (tystysgrifau)
  • dyddiadur digwyddiadau
  • recordiadau ar gryno ddisg
  • defnyddio'r cyfryngau digidol
  • gwefannau a grëwyd gan eich teulu, neu wefannau y mae eich teulu wedi cyfrannu atynt 
  • adroddiad ysgrifenedig

Pwyntiau o esboniad

Cymwysterau a phrofiad

3.1 Nid oes angen i chi fod yn athro i addysgu yn y cartref, ac nid oes angen cymwysterau penodol arnoch.

Dilyn cwricwlwm wrth addysgu yn y cartref

3.2 Nid oes unrhyw rwymedigaeth i ddilyn cwricwlwm na'r un dulliau â'r ysgol, ond mae'n bosibl y byddai hyn yn ddefnyddiol i chi fel fframwaith er mwyn penderfynu pa feysydd dysgu a phrofiad i’w cynnwys a sut i asesu cyflawniad eich plentyn. Er enghraifft, mae Cwricwlwm i Gymru yn ceisio galluogi dysgu ehangach a hyrwyddo dull mwy hyblyg er mwyn paratoi plant a phobl ifanc i ffynnu yn y dyfodol.

3.3 Nid oes unrhyw rwymedigaeth i gael ystafelloedd neu safleoedd yn cynnwys cyfarpar o safon benodol ac nid oes angen cyfateb â diwrnodau neu dymhorau ysgolion prif ffrwd (ond rhaid i’r addysg a ddarperir fod yn ‘llawn-amser’ fel yr amlinellir yn 1.7). Yn yr un modd, nid oes angen cofrestru â Llywodraeth Cymru na chael eich arolygu gan Estyn. 

3.4 Fodd bynnag, gall awdurdodau lleol ddisgwyl gweld y canlynol

  • cyfraniad cyson rhieni a gofalwyr
  • cydnabyddiaeth o anghenion, doniau a dyheadau'r plentyn
  • cyfleoedd i'r plentyn gael ei ysgogi gan ei brofiadau dysgu
  • mynediad at adnoddau a deunyddiau angenrheidiol er mwyn darparu addysg i'r plentyn yn y cartref

3.5 Yn yr un modd, dylai'r addysg a ddarperir gennych:

  • alluogi eich plentyn i gaffael gwybodaeth newydd a gwneud cynnydd yn unol â'i allu er mwyn cynyddu ei ddealltwriaeth a datblygu ei sgiliau yn y meysydd dysgu a phrofiad sy’n cael eu cyflwyno 
  • meithrin sgiliau deallusol, corfforol a chreadigol eich plentyn a'i allu i feddwl a dysgu dros ei hun
  • dangos gwybodaeth a dealltwriaeth briodol o'r meysydd dysgu a phrofiad sy’n cael eu cyflwyno 
  • rhoi fframwaith ar waith i fesur cynnydd eich plentyn yn rheolaidd ac yn drylwyr er mwyn gallu cynllunio eich darpariaeth addysg mewn ffordd addas

Sut y gallwch addysgu’ch plentyn

3.6 Gall addysg yn y cartref adlewyrchu amrywiaeth eang o ddulliau, gan ddibynnu ar yr hyn sy'n gweithio orau i'ch plentyn. Yn yr un modd, gall yr addysg a ddarperir amrywio dros amser ac yn ôl maes dysgu a phrofiad. Dros y flwyddyn, gall addysg yn y cartref fod yn fwy strwythuredig yn ystod y gaeaf ac yn fwy ymatebol i'r tywydd a chyfleoedd lleol yn ystod yr haf. Gall rhai meysydd dysgu a phrofiad fel mathemateg a rhifedd gael eu cyflwyno gan ddefnyddio dull strwythuredig, tra gall eraill, fel y dyniaethau, gael eu cyflwyno drwy brosiectau a arweinir gan y plentyn ei hun. 

3.7 Pan gaiff plant eu haddysgu yn y cartref, gellir disgwyl gweld llai o waith cynllunio ffurfiol na'r hyn a geir mewn ysgolion prif ffrwd. Gan fod addysg yn y cartref yn fwy hyblyg, gall rhiant neu ofalwr ddatblygu gweithgareddau dysgu yn unol â'r cynnydd y mae ei blentyn yn ei wneud a'i anghenion unigol. Fodd bynnag, bydd angen gwneud rhywfaint o waith cynllunio er mwyn mynd i'r afael â materion fel y canlynol:

  • anghenion dysgu'r plentyn a sut y gellir ymdrin â nhw
  • sut y caiff galluoedd y plentyn eu datblygu
  • sut y caiff sgiliau sylfaenol (iaith lafar, llythrennedd a rhifedd) eu caffael a'u datblygu
  • yr ystod o destunau neu'r meysydd dysgu a phrofiad sydd ar gael i'r plentyn
  • sut y caiff y profiadau dysgu hyn eu darparu
  • faint o amser i'w neilltuo ar gyfer y dysgu hwn, gan sicrhau amser i ymlacio a chwarae
  • sut y gellir cael gafael ar gymorth pellach os bydd angen 

Nodweddion addysg dda 

3.8 Byddai addysg dda yn un:

  • eang sy’n cyflwyno amrywiaeth eang o wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau i’r plentyn
  • cytbwys lle mae digon o amser yn cael ei neilltuo i bob rhan ohoni er mwyn iddi gael gwneud ei chyfraniad arbennig, ond nid cymaint fel y bo ar draul agweddau hanfodol eraill ar y dysgu
  • perthnasol lle mae testunau’n cael eu defnyddio mewn ffordd sy'n dangos sut maent yn berthnasol i brofiad y plentyn ei hun ac i fywyd fel oedolion ac mewn ffordd sy’n rhoi pwyslais dyledus ar agweddau ymarferol ar ddysgu
  • gwahaniaethol lle mae'r ffordd rydych yn addysgu eich plentyn yn cydweddu â’i allu a’i ddoniau, ac yn rhoi digon o her iddo er mwyn iddo allu dangos ei fod yn gwneud cynnydd 

3.9 Dylai addysg dda:

  • roi profiad i'ch plentyn mewn perthynas ag addysg ieithyddol, fathemategol, wyddonol, dechnegol, dynol a chymdeithasol, corfforol ac esthetig a chreadigol
  • rhoi arweiniad gyrfaoedd priodol i'ch plentyn (gweler paragraff 4.10 i gael rhagor o wybodaeth) 
  • rhoi profiadau i’ch plentyn mewn perthynas â sgiliau siarad a gwrando, llythrennedd, rhifedd a digidol
  • paratoi’ch plentyn ar gyfer cyfleoedd, cyfrifoldebau a phrofiadau bywyd fel oedolyn
  • galluogi'ch plentyn i ddatblygu ei hunanwybodaeth, ei hunan-barch a'i hunanhyder
  • galluogi'ch plentyn i wybod y gwahaniaeth rhwng drwg a da

Cyllid a chymorth

3.10 Nid oes unrhyw gyfrifoldeb na rhwymedigaeth gyfreithiol ar awdurdodau lleol i ariannu rhieni a gofalwyr sy'n dewis addysgu yn y cartref. Rhaid i rieni a gofalwyr sy’n dewis addysgu eu plant yn y cartref fod yn barod i ysgwyddo’r cyfrifoldeb ariannol llawn ar gyfer addysg eu plentyn, gan gynnwys llyfrau a phob adnodd arall, ynghyd â thalu costau unrhyw arholiadau cyhoeddus a ffioedd cyrsiau. 

Plant sy’n dychwelyd i'r ysgol

3.11 Gall eich plentyn ddychwelyd i’r ysgol ar unrhyw adeg. Fodd bynnag, efallai y bydd angen cymorth ychwanegol ar eich plentyn wrth ddychwelyd i’r ysgol os nad yw wedi bod yn dilyn y cwricwlwm perthnasol yn ystod cyfnod ei addysg gartref.

3.12 Rhaid i chi gysylltu â'r awdurdod derbyn lleol i wneud cais am le mewn ysgol. Ni ellir gwarantu y bydd lle yn yr ysgol yr arferai eich plentyn fynd iddi. Gallwch ddod o hyd i ysgolion lleol a'u cymharu gan ddefnyddio’r canllawiau ar-lein.

3.13 Lle y gwrthodwyd cais i dderbyn dysgwr, rhaid i lythyr gwrthod gan yr awdurdod derbyn roi gwybod i chi am eich hawl i apelio. Mae hefyd yn ofynnol i'r awdurdod derbyn gynnal rhestr aros ar gyfer ysgolion lle gwnaed mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael, a rhaid i fanylion y rhestr aros gael eu nodi yn y trefniadau derbyn a gyhoeddir ganddo. Ar ôl i leoedd gael eu dyrannu yn ystod y cylch derbyn arferol, rhaid i blant fod ar y rhestr aros tan 30 Medi yn y flwyddyn ysgol y maent wedi gwneud cais amdani. Ar ôl hynny, disgwylir i chi wneud cais derbyn newydd.

3.14 Os ydych yn addysgu yn y cartref tra bod eich plentyn ar restr aros ar gyfer ysgol lle gwnaed mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael, dylech nodi nad yw bod ar restr aros yn gwarantu lle i'ch plentyn yn yr ysgol honno. Os daw lleoedd ychwanegol ar gael tra bod y rhestr aros ar waith, rhaid iddynt gael eu dyrannu i'r plant ar y rhestr aros ar sail y meini prawf a gyhoeddir ar gyfer sefyllfa lle gwnaed mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael. Rhaid i restrau aros beidio â rhoi blaenoriaeth i blant yn seiliedig ar y dyddiad y cafodd y cais ei ychwanegu at y rhestr. Er enghraifft, os bydd plentyn yn symud i ardal ar ôl y cylch derbyn arferol a bod y meini prawf derbyn yn rhoi blaenoriaeth uwch iddo, rhaid iddo gael ei roi uwchlaw'r rheini â blaenoriaeth is sydd eisoes ar y rhestr.

3.15 Os nad ydych yn siŵr am y broses hon, dylech gysylltu â'ch awdurdod lleol, a fydd yn gallu helpu. 

A fydd fy mhlentyn yn gweld eisiau agwedd gymdeithasol ysgol? 

3.16 Pan fydd plentyn yn mynd i'r ysgol, bydd cyfleoedd dyddiol i gyfarfod â phlant eraill ac oedolion, a rhyngweithio â nhw. Nid oes unrhyw reswm pam na all plant a gaiff eu haddysgu yn y cartref gyfarfod â phlant eraill ac oedolion, a rhyngweithio â nhw, neu barhau i weld eu ffrindiau o’r ysgol. Yr unig wahaniaeth yw y bydd yn rhaid i chi greu'r cyfleoedd eich hunan. Mae llawer o grwpiau ffurfiol ac anffurfiol yn bodoli ac maent yn cwrdd ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol ac addysgol. Mae'r grwpiau hyn yn rhwydweithio ac yn rhannu syniadau ac adnoddau. Gall fod yn brofiad cyfoethog iawn i ymuno ag amrywiaeth o glybiau a grwpiau diddordeb arbennig ac ati, a chymysgu a rhannu sgiliau â phobl eraill o bob oedran.

Yr hyn i’w wneud os bydd eich plentyn am fynd ymlaen i addysg bellach

3.17 Beth bynnag y bydd eich plentyn am wneud ar ôl iddo droi'n 16 oed, byddai'n synhwyrol paratoi ar ei gyfer yn gynnar a bod yn ymwybodol o’r gofynion mynediad.

3.18 Os hoffai gael addysg neu hyfforddiant amser llawn, mae’r 3 dewis canlynol ar gael iddo.

  • Gall eich plentyn ddychwelyd i ysgol â chweched dosbarth os oes un yn eich ardal. Bydd angen i chi gysylltu â'r coleg neu’r ysgol mor gynnar â phosibl a gwneud apwyntiad i weld y pennaeth. Mae ysgolion yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau gan gynnwys cyrsiau Safon Uwch a Safon UG ac mae'n bosibl y bydd eich plentyn hefyd yn gallu sefyll TGAU a Bagloriaeth Cymru.
  • Gall eich plentyn fynd i goleg addysg bellach. Pan fydd eich plentyn yn 15 oed neu’n hŷn (Blwyddyn 10), gofynnwch am brosbectws gan eich coleg addysg bellach lleol a chadarnhewch pa gymwysterau y gall fod angen arno a'r cyrsiau a gynigir.
  • Gall eich plentyn ddilyn hyfforddiant seiliedig ar waith neu brentisiaeth fodern. Mae hwn yn llwybr gwych os yw eich plentyn yn dymuno dechrau gweithio ac ennill cymwysterau seiliedig ar waith. Mae cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer prentisiaethau i'w gweld ar wefan Gyrfa Cymru.

3.19 Gall Gyrfa Cymru ddarparu cyngor, gwybodaeth ac arweiniad diduedd ar bob opsiwn sydd ar gael i'ch plentyn (gweler paragraff 4.10 i gael rhagor o wybodaeth). Gall swyddog addysg ddewisol yn y cartref eich awdurdod lleol roi manylion cyswllt y swyddog Gyrfa Cymru lleol i rieni a gofalwyr.

Tiwtoriaid preifat 

3.20 Eich penderfyniad chi fydd sut i addysgu eich plentyn, gan gynnwys cyflogi tiwtor preifat. Fodd bynnag, nid oes unrhyw warant y byddai tiwtor preifat yn weithiwr proffesiynol sydd wedi’i hyfforddi'n briodol a'i ddilysu.

3.21 Yn yr ysgol, bydd unrhyw oedolyn sy'n gweithio gyda'ch plentyn wedi cael gwiriad 'uwch' gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Gwiriad gan yr heddlu yw hwn, a gynhelir mewn perthynas ag unigolyn ac mae'n rhoi rhywfaint o sicrwydd nad yw'r oedolyn wedi'i nodi fel rhywun sy'n peri risg i blant.

3.22 Wrth gyflogi tiwtor preifat, dylai rhieni a gofalwyr ofyn am gael gweld ei wiriad 'uwch' gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Efallai y bydd rhai tiwtoriaid yn dangos eu 'gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd' cyfredol i rieni a gofalwyr, ond nid yw hynny'n ddigonol. Pan fydd person yn gweithio'n agos gyda phlant ac oedolion agored i niwed, dylai gael gwiriad 'uwch' gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Os bydd tiwtor yn dangos ei wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd i chi, ond nad yw wedi gweithio am 3 mis, nid yw'r gwiriad yn ddilys mwyach. 

3.23 Fel rhiant neu ofalwr, ni chewch unrhyw wybodaeth ychwanegol a allai fod wedi cael ei rhoi i ysgol o ran p'un a fu rhywfaint o bryderon am unigolyn pan oedd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cynnal gwiriad . Yn yr un modd, fel rhiant neu ofalwr, ni allwch drefnu i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gynnal gwiriad. 

3.24 Gall gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ond rhoi gwybodaeth i chi hyd at yr adeg y cynhaliwyd y gwiriad. Nid yw'n dweud dim wrthych am yr hyn y gallai'r unigolyn fod wedi'i wneud ar ôl i'r gwiriad gael ei gynnal. 

3.25 O ganlyniad, mae'n bwysig iawn eich bod bob amser yn cyfweld ag unrhyw diwtor posibl, a gofyn am gael gweld crynodeb o’i yrfa. Dylech bob amser ofyn am eirdaon proffesiynol gan rywun sy'n adnabod y tiwtor ar hyn o bryd, a'u cadarnhau. Os yw'r tiwtor yn cael ei gyflogi gan ysgol, neu wedi'i gyflogi gan ysgol yn ddiweddar, gofynnwch am eirda gan y pennaeth, ac os yw'r tiwtor hefyd yn athro cymwys, gofynnwch am gael gweld copi o ardystiad y tiwtor gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA). 

3.26 Ni ddylai hyfforddiant preifat fyth ddigwydd ar sail un i un heb fod ail oedolyn yn bresennol, gan fod hyn yn gallu peri risg i'r gweithiwr proffesiynol a'r plentyn. Mae angen lle astudio addas ar gyfer hyfforddiant preifat. Nid yw byth yn briodol iddo ddigwydd mewn ystafell wely. Yn ogystal, mae'n hanfodol eich bod chi (neu oedolyn arall yr ymddiriedir ynddo) yn aros ar y safle. Dylid gwrthod unrhyw drefniant o ran hebryngwr a gynigir gan y tiwtor. Mae'n bwysig eich bod yn gallu cael mynediad i'r ardal addysgu a chlywed ac arsylwi ar y gweithgarwch ar unrhyw adeg a fynnoch. Dylai drysau gael eu cadw ar agor, hyd yn oed os gall hynny gyfyngu ar eich gweithgareddau eich hun.

3.27 Ni ddylai unrhyw diwtor sy'n ymwybodol o'r disgwyliadau presennol o staff proffesiynol, ac yn eu parchu, fod ag unrhyw wrthwynebiad i'r ceisiadau hyn. 

3.28 Os byddwch yn dewis cyflogi tiwtor neu anfon eich plentyn i grŵp dysgu preifat amser llawn, dylech nodi, os bydd eich plentyn yn dysgu ochr yn ochr â 4 neu fwy o blant eraill neu â phlentyn sydd ag CDU neu ddatganiad AAA, y gallai'r ddarpariaeth hon gael ei hystyried yn ysgol annibynnol. Er nad oes diffiniad cyfreithiol o ystyr addysg amser llawn, byddai'n cael ei hystyried yn ‘amser llawn’ os yw'n cyfrif am y cyfan, neu ran sylweddol, o addysg y plentyn.

3.29 Rhaid i unrhyw ddarpariaeth sy'n bodloni’r diffiniad o ysgol annibynnol, hynny yw, sy’n darparu addysg lawn-amser ar gyfer:

  • 5 neu fwy o blant o oedran ysgol gorfodol
  • un neu fwy o blant o oedran ysgol gorfodol sydd ag CDU neu ddatganiad AAA gael ei chofrestru â Llywodraeth Cymru. Bydd unrhyw un sy'n cynnal ysgol annibynnol nad yw wedi'i chofrestru yn torri'r gyfraith ac mae'n bosibl y caiff ei ddirwyo a’i garcharu

Cymorth addysgol

Cael gafael ar gymorth Cymraeg 

4.1 Gall dysgu Cymraeg fod yn brofiad cyfoethog, i'ch plentyn ac i'ch teulu cyfan.

4.2 Os byddwch yn ystyried defnyddio’r Gymraeg gyda’ch plentyn cyn iddo gyrraedd oedran addysg orfodol (5 oed) mae nifer o adnoddau ar gael i chi. Er enghraifft, mae Clwb Cwtsh yn gwrs blasu’r Gymraeg 8 wythnos i oedolion i ddatblygu iaith y byddwch yn ei defnyddio gyda'ch plentyn. Mae'r cwrs am ddim, a cheir adloniant am ddim i blant bach hefyd. Dysgwch fwy ar wefan Mudiad Meithrin ac ar wefan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

4.3 Mae amrywiaeth eang o gyrsiau Cymraeg i oedolion ar gael. Mae'r ffioedd cyrsiau yn amrywio, ond mae rhai yn rhad ac am ddim ac mae cymorth ariannol ar gael.

4.4 Mae'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd yn cynnal sesiynau Taith Iaith unwaith y mis. Cânt eu cynnal gan staff yr amgueddfa sy'n siarad Cymraeg neu sydd wedi dysgu Cymraeg ac maent yn ymdrin ag amrywiaeth o destunau. Maent wedi'u hanelu at ddysgwyr o bob lefel ac maent ar gael i'r cyhoedd. Gellir gweld y rhaglen lawn ar-lein. 

4.5 Bydd cyfle i ddysgwyr Cymraeg gymdeithasu a defnyddio'r Gymraeg yng ngŵyl Ar Lafar a gynhelir gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

4.6 Mae'n werth nodi bod pob arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn ddwyieithog a byddant fel arfer yn cynnig deunyddiau dysgu cysylltiedig yn Gymraeg. Er enghraifft, mae pecyn adnoddau ar gyfer Amgueddfa Werin Sain Ffagan wedi'i ddatblygu mewn cydweithrediad â'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac mae wedi'i dargedu at ddysgwyr Cymraeg ar bob lefel. Mae'r adnodd hwn yn cefnogi pobl i ymweld â rhai o adeiladau eiconig yr amgueddfa, ac ymarfer Cymraeg ar yr un pryd.

4.7 Mae Urdd Gobaith Cymru yn sefydliad sy'n rhoi'r cyfle i blant a phobl ifanc ddysgu a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cylchgronau yn ogystal â miloedd o weithgareddau'r Urdd ar gael i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg drwy gydol y flwyddyn.

4.8 Efallai y byddwch hefyd am siarad â swyddog addysg ddewisol yn y cartref eich awdurdod lleol i holi am fynediad at unrhyw gyfleoedd i siarad Cymraeg.

Cefnogaeth gan fy awdurdod lleol

4.9 Mae pecyn cymorth wedi’i gytuno gydag awdurdodau lleol unigol. Dyma amlinelliad ohono:

  • Mae gan deuluoedd sy’n addysgu yn y cartref y cyfle i sefyll arholiadau mewn canolfan leol.
  • Mae teuluoedd sy’n addysgu yn y cartref yn gallu gofyn i awdurdodau lleol benderfynu a oes gan eu plentyn anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
  • Mae teuluoedd sy’n addysgu yn y cartref yn gallu atgyfeirio eu plentyn ar gyfer cwnsela.
  • Dylai teuluoedd sy’n addysgu yn y cartref fod yn ymwybodol o’r broses ar gyfer atgyfeirio at gynghorwyr gyrfaoedd.
  • Mae defnydd estynedig o lyfrgelloedd ar gael (i fenthyg mwy o lyfrau).
  • Bydd awdurdodau lleol yn darparu cynnig lleol sy’n cynnwys cynnig gweithgareddau lleol unigryw a dyrannu defnyddiau traul pan fo unrhyw gyllid grant addysgu yn y cartref yn caniatáu.
  • Bydd teuluoedd sy’n addysgu yn y cartref yn cael mynediad at safleoedd Cadw.
  • Bydd teuluoedd sy’n addysgu yn y cartref yn cael eu cyfeirio at gymorth Cymraeg.

Yr hawl i gael cyngor gyrfaoedd

4.10 Gall Gyrfa Cymru roi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i helpu'ch plentyn i gynllunio'i ddyfodol.

4.11 Gall siarad â chynghorydd Gyrfa Cymru helpu eich plentyn i wneud y canlynol: 

  • deall yr opsiynau sydd ganddo a dysgu mwy am yr hyn y gall ei wneud yn lleol
  • meddwl am sut i ddewis beth i'w wneud nesaf
  • rhoi eu cynlluniau ar waith

4.12 Os hoffech i Gynghorydd Gyrfa Cymru helpu'ch plentyn i gynllunio'i ddyfodol, gallwch gysylltu drwy e-bost neu drwy ffonio 0800 028 4844, neu gallwch gysylltu â’ch swyddog addysg ddewisol yn y cartref lleol a all eich cysylltu chi â chynghorwr Gyrfa Cymru lleol.

Hwb

4.13 Mae Hwb yn blatfform dysgu digidol sy’n cynnal adnoddau dysgu am ddim i gefnogi cyflwyno Cwricwlwm i Gymru.

Teithiau addysgol

4.14 Gall teithiau addysgol gynnig nifer o fuddion dysgu i'ch plentyn. Mae teithiau addysgol yn cynnig cyfleoedd unigryw ar gyfer dysgu cinesthetig (dysgu drwy wneud) ac annog plant i ymgysylltu â phobl, lleoedd ac adeiladau mewn ffyrdd newydd. 

4.15 Yn ystod tymor yr ysgol, mae Cadw yn cynnig ymweliadau addysgol hunan-dywys am ddim i blant a addysgir yn y cartref a'r unigolyn sy’n rhoi addysg iddynt, â’i safleoedd sydd wedi'u staffio (safleoedd y mae'n rhaid talu i ymweld â nhw fel arfer) pan fydd yr ymweliadau hynny wedi’u trefnu ymlaen llaw. Dyma’r un cynnig ag sydd ar gael i blant a addysgir mewn ysgolion.

4.16 Dewch o hyd i safle hanesyddol i ymweld ag ef yn eich ardal chi.

4.17 Mae safleoedd heb eu staffio, sy’n cynnig straeon a chyfleoedd yr un mor dda ar gyfer dysgu yn ymwneud â gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, y celfyddydau a mathemateg yn ogystal â threftadaeth yn yr awyr agored ar gael i ymweld â nhw pa bryd bynnag y byddant ar agor, heb drefnu ymlaen llaw.

4.18 Mae adnoddau addysgol am ddim ar gael i’w defnyddio cyn, yn ystod ac ar ôl eich ymweliad. Ewch i Twitter, YouTube, neu Facebook i gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Cadw.

4.19 Dyma rai ffynonellau eraill o wybodaeth a allai fod yn ddefnyddiol ar gyfer prosiectau treftadaeth:

Mae Amgueddfa Cymru yn cynnwys 7 amgueddfa mynediad am ddim. Mae pob un o’r rhain yn canolbwyntio ar wahanol agweddau ar dreftadaeth gyfoethog ac amrywiol Cymru. Dyma’r amgueddfeydd:

4.20 Mae amrywiaeth eang o adnoddau addysgol ar gael am ddim ar y wefan i'w defnyddio ar y cyd â'ch ymweliad.

4.21 Techniquest yw'r ganolfan wyddoniaeth fwyaf hirsefydlog yn y DU, a'i chenhadaeth yw ymwreiddio gwyddoniaeth yn niwylliant Cymru drwy ymgysylltu rhyngweithiol. Mae’n cynnig profiadau sy’n hygyrch i bawb ac yn cynnig cyfleoedd i addysgwyr yn y cartref ymweld yn ystod tymor yr ysgol. Mae hyn yn cynnwys ymweliadau â'r planetariwm, gweithdai yn y labordy, a sioeau yn y Theatr Wyddonol. Yn ystod penwythnosau a gwyliau ysgol, cynigir rhaglen addysg anffurfiol i'r teulu cyfan.

4.22 Ceir hefyd amrywiaeth eang o amgueddfeydd ac orielau lleol y gallwch ymweld â nhw yng Nghymru. 

Cyfleoedd gwirfoddoli

4.23 Mae miloedd o gyfleoedd gwirfoddoli i'ch plentyn yng Nghymru. Gall gwirfoddoli gynnig llawer o fanteision i'ch plentyn, er enghraifft:

  • yn ogystal â helpu pobl eraill, dangoswyd bod gwirfoddoli yn gwella lles gwirfoddolwyr hefyd 
  • gall fod yn gyfle perffaith i roi cynnig ar yrfa, neu gael mwy o wybodaeth amdani, heb wneud ymrwymiad llawn 
  • mae'n gyfle i gael hyfforddiant ychwanegol ac, mewn llawer o achosion, ddyfarniadau neu achrediad
  • mae llawer o gyflogwyr yn ystyried profiad o wirfoddoli fel arwydd o aeddfedrwydd ac fel tystiolaeth o amrywiaeth o sgiliau a fyddai'n werthfawr mewn cyflogaeth 

4.24 Mae cronfa ddata genedlaethol o gyfleoedd gwirfoddoli yng Nghymru ar gael ar-lein.

Darpariaeth i ddysgwyr mwy abl a thalentog

4.25 Mae llawer o gyfleoedd cyfoethogi i unigolion ifanc, talentog yng Nghymru y gallwch fanteisio arnynt ar y cyd ag addysgu eich plentyn yn y cartref.

  • Bob dydd Sadwrn, mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn gartref i'r Conservatoire Iau. Mae'r Conservatoire Iau yn cynnig yr unig hyfforddiant o'i fath yng Nghymru, gan drochi myfyrwyr mewn amgylchedd arbenigol lle gallant elwa ar addysg gerddorol ddwys a chyfannol. Drwy ysgolion haf preswyl, cyrsiau datblygu cenedlaethol a hyfforddiant un-i-un i gerddorion talentog, y nod yw galluogi myfyrwyr i archwilio'u potensial llawn, ac i osod y sylfeini ar gyfer bywyd cerddorol llwyddiannus sy'n rhoi boddhad. Gall bwrsarïau fod ar gael.
  • Mae Opera Ieuenctid (yn Opera Cenedlaethol Cymru) yn rhaglen hyfforddi sydd wedi ennill gwobrau ar gyfer unrhyw berson ifanc sydd wrth ei fodd yn canu. Nid oes angen profiad, ond mae angen egni, brwdfrydedd, ymrwymiad a pharodrwydd i weithio gyda phobl ifanc eraill. Nid oes clyweliadau i'r grwpiau iau, a chewch gymryd rhan yn y sioe flynyddol, cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn perfformiadau mawr rheolaidd a mynychu sioeau ac ymarferion gwisgoedd Opera Cenedlaethol Cymru.
  • Mae SportsAid yn helpu'r athletwyr Prydeinig ifanc mwyaf addawol drwy roi cymorth ariannol iddynt, yn ogystal â chydnabyddiaeth a chyfleoedd datblygu personol yn ystod camau cyntaf hollbwysig eu gyrfaoedd. Yr her ariannol wrth geisio cyrraedd y brig yn eu chwaraeon yw un o'r heriau mwyaf i lwyddiant.

“With the help of SportsAid, I did my thing. I didn’t come from a wealthy family, and there were times when I thought ‘I need a job’ but I stuck to my swimming. Thankfully it did pay off.”, Adam Peaty MBE 

  • Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn creu hyfforddiant, cyfleoedd perfformio a datblygu i actorion, dawnswyr, offerynwyr a chantorion mwyaf talentog Cymru. Gwneir hyn drwy’r ensembles celfyddydau ieuenctid cenedlaethol canlynol: 
  1. Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
  2. Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
  3. Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru
  4. Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru
  5. Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru

Yn ogystal â darparu'r ensembles cenedlaethol hyn, datblygir rhaglenni ychwanegol er mwyn galluogi mwy o bobl ifanc ledled Cymru i gymryd rhan. Bydd y rhain yn cael eu targedu at bobl ifanc efallai nad ydynt yn barod ar gyfer yr ensembles cenedlaethol ond a all gael eu hysbrydoli i ddatblygu eu talentau a'u sgiliau er mwyn rhoi'r hyder iddynt wneud cais mewn blynyddoedd i ddod.

Llyfrgelloedd

4.26 Mae gan eich llyfrgell leol amrywiaeth fawr o adnoddau fel llyfrau, e-lyfrau, DVDs, CDs ac ati y gallwch gael gafael arnynt am ddim. Mae rhai llyfrgelloedd yn cynnig cynllun benthyca i fyfyrwyr sydd ar gael i blant sy’n cael eu haddysgu yn y cartref, ac sy’n caniatáu iddynt gael benthyg mwy o lyfrau am gyfnodau hirach.

Addysg iechyd rhywiol

4.27 Mae addysg iechyd rhywiol yn ymwneud â dysgu am amrywiaeth eang o destunau sy'n ymwneud â rhyw a rhywioldeb, gan ystyried gwerthoedd a chredoau am y testunau hynny a meithrin y sgiliau sydd eu hangen i ymdopi â chydberthnasau a rheoli iechyd rhywiol personol. 

4.28 Os byddwch chi a'ch plentyn yn dewis trafod iechyd rhywiol, mae nifer o adnoddau ar-lein ar gael i'w defnyddio:

Gwasanaethau ieuenctid

4.29 Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cymorth ieuenctid. Bwriedir i'r gwasanaethau hyn gynnig cyfleoedd sy'n annog, galluogi neu gynorthwyo pobl ifanc (11 i 25 oed) i:

  • gymryd rhan yn effeithiol mewn addysg neu hyfforddiant
  • manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth
  • gymryd rhan mewn ffordd effeithiol a chyfrifol ym mywydau eu cymunedau

4.30 Yn ogystal â'r gwasanaethau hyn, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyllid

grant i awdurdodau lleol i gefnogi'r gwaith ieuenctid y maent yn ei gynnig i bobl ifanc. Nod gwaith ieuenctid yw galluogi pobl ifanc i ddatblygu mewn ffordd holistaidd, gan hwyluso eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol. Drwy hyn, mae'n ceisio eu helpu i ddatblygu eu llais, eu dylanwad a’u lle mewn cymdeithas ac i gyflawni eu potensial llawn.

4.31 I gael rhagor o wybodaeth am sut i gael gafael ar y gwasanaethau hyn, cysylltwch â'ch awdurdod lleol. Mae’n bosibl y bydd eich swyddog addysg ddewisol yn y cartref lleol yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad â darpariaeth gwasanaethau ieuenctid lleol. 

4.32 Mae gan sefydliadau trydydd sector hefyd ran bwysig i'w chwarae wrth ddarparu gwasanaethau a chyfleoedd i bobl ifanc. I ddysgu mwy am yr hyn sydd ar gael yn eich ardal leol, cysylltwch â Chyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS), a all ddarparu rhagor o wybodaeth. 

Chwarae a hamdden

4.33 Mae chwarae yn hanfodol ar gyfer datblygiad gwybyddol, corfforol, cymdeithasol ac emosiynol plant. 

4.34 Os hoffech gael gwybod mwy am chwarae yn eich ardal, dylech gysylltu â'ch awdurdod lleol a all roi gwybodaeth i chi am gyfleoedd chwarae, mannau chwarae, gweithgareddau, clybiau a digwyddiadau i blant a phobl ifanc yn eich ardal a'r gymuned ehangach.

Cymorth arholiadau

Arholiadau

5.1 Bydd yn rhaid i rieni a gofalwyr plant sy’n cael eu haddysgu yn y cartref gofrestru eu plentyn ar gyfer arholiadau a thalu costau'r arholiadau eu hunain. Os gallwch, dylech gynllunio cyrsiau arholi ymhell ymlaen llaw.

5.2 Mae nifer o wahanol fyrddau arholi sy'n cynnig cymwysterau TGAU gyda gwahanol feysydd llafur. Mae'n hanfodol nodi canolfan fel ysgol, uned cyfeirio disgyblion neu goleg a fydd yn derbyn cofrestriad arholiad eich plentyn cyn dechrau ar gwrs TGAU penodol. Gallech gysylltu â’ch swyddog addysg ddewisol yn y cartref lleol a fyddai’n gallu rhoi gwybod ichi am leoliad dynodedig lleol sy’n derbyn plant a addysgir yn y cartref fel ymgeiswyr annibynnol a pha un a yw’r lleoliad hwn wedi’i gofrestru ar gyfer cwrs TGAU dewisol y plentyn.

5.3 Os oes gennych gydberthynas bresennol a chadarnhaol gydag ysgol neu goleg, mae'n bosibl y byddwch am holi a all eich plentyn gael ei gofrestru yno ar gyfer yr arholiadau ac a fyddai'r ysgol neu'r coleg yn fodlon ymrwymo i asesu unrhyw waith cwrs. 

5.4 Os nad oes gennych unrhyw berthynas neu gysylltiad ag ysgol neu goleg, bydd angen i chi gysylltu â bwrdd arholi, a all, o bosibl, drefnu canolfan leol ar eich rhan. Os byddwch yn gwneud hyn, dylech sicrhau hefyd y gall y bwrdd drefnu i unrhyw waith cwrs gael ei asesu. 

5.5 Gan amlaf, os bydd person ifanc am ddilyn TGAU sy'n gofyn am arholiad, rhaid i'r arholiad gael ei sefyll mewn canolfan arholiadau gymeradwy, sef ysgol uwchradd neu goleg addysg bellach fel arfer. Fel addysgwr yn y cartref, gallwch gysylltu â’ch swyddog addysg ddewisol yn y cartref lleol a fydd yn gofyn i’r darparwr gysylltu â chi i rannu sut yn union y mae'n ymdrin ag ymgeiswyr preifat. 

5.6 Bydd yn rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd cofrestru ar gyfer arholiadau a bydd yn rhaid i chi dalu i'r gwaith cwrs gael ei asesu gan berson achrededig. Mae'n bosibl y bydd ffioedd ychwanegol yn ddyledus os byddwch yn cofrestru'n hwyr. 

Sut i baratoi eich plentyn ar gyfer ei arholiadau

5.7 Wrth helpu eich plentyn i baratoi ar gyfer ei arholiadau, mae llawer o adnoddau ar-lein sydd ar gael i chi eu defnyddio. Er enghraifft, mae BBC Bitesize yn darparu deunydd adolygu rhyngweithiol fel cardiau fflach a chwisiau sydd wedi'u teilwra at TGAU a byrddau arholi penodol. Yn yr un modd, mae Hwb yn rhoi mynediad at lu o adnoddau addysgu am ddim.

5.8 Gall byrddau arholi ddarparu meysydd llafur a chopïau o bapurau arholiad blaenorol am bris bach iawn neu gellir eu lawrlwytho oddi ar wefan y bwrdd. 

5.9 Efallai y byddwch am gyflogi tiwtor i gefnogi eich plentyn drwy ei TGAU. Fodd bynnag, os byddwch yn cyflogi tiwtoriaid preifat, fe'ch cynghorir yn gryf i sicrhau eu bod wedi cael gwiriad uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (gweler paragraffau 3.20 i 3.27 am ragor o fanylion).

5.10 Mae rhwydweithiau addysg yn y cartref ar-lein a all ddarparu cymorth a chanllawiau ar helpu eich plentyn i sefyll arholiadau. 

TGAU Rhyngwladol

5.11 Gall TGAU gynnwys swm sylweddol o waith cwrs wedi'i raddio, y byddai angen i berson annibynnol ei farcio. Am y rheswm hwn, mae rhai addysgwyr yn y cartref yn dewis defnyddio TGAU Rhyngwladol, gan eu bod yn cael eu hasesu'n bennaf drwy arholiadau. 

5.12 Fel TGAU, bydd yn rhaid i chi benderfynu gyda'ch plentyn pa bynciau y mae eisiau eu hastudio, pa fwrdd arholi rydych am ei ddefnyddio, ac mae’n bosibl y byddwch am gysylltu â’ch swyddog addysg ddewisol yn y cartref lleol i weld a oes canolfan leol sydd wedi’i chofrestru yn ganolfan arholi TGAU Rhyngwladol ac sydd hefyd yn derbyn ymgeiswyr preifat ar gyfer TGAU Rhyngwladol. 

5.13 Mae nifer o sefydliadau yn cynnig cyrsiau dysgu o bell ar gyfer TGAU Rhyngwladol. Gall hyn fod yn ddefnyddiol i addysgwyr yn y cartref, yn enwedig gan fod llawer ohonynt yn cynnig cymorth i gofrestru ar gyfer arholiadau. 

5.14 Mae LearnOnline gan Goleg Sir Benfro yn adnodd dysgu o bell arloesol sy'n rhoi mynediad at yr addysg ddiweddaraf o ansawdd uchel heb orfod mynychu ysgol na choleg. Mae Coleg Sir Benfro wedi bod yn darparu dysgu o bell ar-lein ers 2011, ac wedi bod yn datblygu LearnOnline yn barhaus mewn cysylltiad â nifer o grwpiau addysgu yn y cartref, ysgolion a cholegau.

5.15 Mae LearnOnline yn rhoi mynediad at gymwysterau TGAU, TGAU Rhyngwladol a Safon Uwch. Mae'r holl ddysgu wedi'i gynnwys gyda chwrs LearnOnline (gan gynnwys gwerslyfrau). Mae’n galluogi dysgwyr i weithio wrth eu pwysau, gan astudio pryd bynnag y dymunant, ble bynnag y dymunant, gan olygu y gallant addasu eu hastudiaethau yn ôl eu ffyrdd o fyw unigryw eu hunain. Caiff cyrsiau Safon Uwch, TGAU a TGAU Rhyngwladol LearnOnline eu cefnogi gan diwtor cymwys sy’n llywio'r astudiaethau, yn gosod ac yn marcio gwaith cartref ac yn helpu i baratoi ar gyfer arholiadau.

Dewisiadau eraill yn lle TGAU

5.16 Mae nifer o gymwysterau ar gael i chi fel dewis arall yn lle TGAU. Er enghraifft, mae Agored Cymru yn cynnig ffordd hyblyg o ennill cymwysterau mewn pynciau yn amrywio o 'Sgiliau Hanfodol ar gyfer Gwaith a Bywyd' i 'Gymraeg i'r Teulu'. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio gyda mwy na 200 o ganolfannau ledled Cymru. Gall ddarparu cymorth, canllawiau a hyfforddiant un i un ar bob cam o'r daith ddysgu, o gofrestru i ddatblygu cymwysterau a gwobrwyo cyflawniad. Gellir defnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu i ddangos tystiolaeth o gyflawniad, gan gynnwys gwaith ysgrifenedig, recordiadau sain neu fideo a thystiolaeth gan dyst.

5.17 At hynny, mae cymwysterau ASDAN yn cynnig cymwysterau sy'n helpu pobl ifanc i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau ar gyfer dysgu, bywyd a gwaith. Mae ASDAN hefyd yn cynnig rhaglenni a chymwysterau i ddysgwyr ag AAA/ADY. Mae ei gyrsiau wedi cael eu datblygu i ddysgwyr ag amrywiaeth eang o anghenion a galluoedd dysgu.

Teuluoedd sy’n Sipsiwn, Roma neu Deithwyr

6.1 Dylai awdurdodau lleol ddeall ethos ac anghenion unigryw cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr a bod yn sensitif iddynt. Os ydych yn deulu sy’n Sipsiwn, Roma neu Deithwyr sydd â phlant o oedran addysg orfodol, fe'ch anogir yn gryf i gysylltu â'r Gwasanaeth Cymorth Addysg i Deithwyr lleol i gael cyngor a help i gael mynediad at leoliadau addysg lleol. Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn darparu gwasanaeth o'r fath ac mae’n bosibl y bydd eich swyddog addysg ddewisol yn y cartref lleol yn gallu darparu eu manylion cyswllt ichi.

Diogelwch ar y rhyngrwyd

7.1 Mae technoleg yn adnodd addysgol gwerthfawr i blant. Gall y rhyngrwyd, gwybodaeth ddigidol arall a thechnolegau cyfathrebu hyrwyddo creadigrwydd a chefnogi datblygiad sgiliau cymdeithasol allweddol. Fodd bynnag, gall hefyd fod yn gyfrwng ar gyfer cynnwys amhriodol fel pornograffi a delweddau camdriniol, bwlio ar-lein a meithrin perthnasau amhriodol ar-lein. 

7.2 Gallwch gael cyngor a gwybodaeth ar gadw plant yn ddiogel tra byddant ar y rhyngrwyd drwy ymweld â:

7.3 Mae pecynnau addysg yn cynnwys cynlluniau gwersi, posteri, cyflwyniadau, gweithgareddau a mwy ar gael yn Pecynnau Addysg: UK Safer Internet Centre.

7.4 Os hoffech gael gwybod mwy am gadw plant yn ddiogel ar-lein, gallwch ddefnyddio adnoddau addysg Child Exploitation and Online Protection Command (CEOP Command) Thinkuknow. Y nod yw grymuso plant a phobl ifanc 5 i 17 oed i adnabod y risgiau y gallent eu hwynebu ar-lein ac i wybod ble y gallant gael cymorth.

Eiriolaeth a chyfryngu

Eiriolaeth plant

8.1 Mae Erthygl 12 o CCUHP yn datgan bod gan blant a phobl ifanc yr hawl i gael barn, ac i'r farn hon gael ei chyfrif. Dylai barn plant a phobl ifanc gael ei hystyried pan fydd pobl yn gwneud penderfyniadau am bethau sy'n ymwneud â nhw, ac ni ddylid eu diystyru ar sail eu hoedran. Dylai plant a phobl ifanc gael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud penderfyniadau da. Dylai barn plant a phobl ifanc gael ei hystyried ym mhobman, gan gynnwys eu cartrefi, yn eu gweithle ac yn yr ysgol. Mae hyn yn wir ni waeth pa mor ifanc y mae plentyn neu berson ifanc, er y dylai'r pwysau a roddir i'w barn newid wrth iddynt dyfu i fyny a dod yn fwy aeddfed. Gallwch gael gafael ar wasanaethau eiriolaeth plant i gynrychioli llais y plentyn drwy wefannau fel: 

Comisiynydd Plant Cymru

8.2 Mae CCUHP yn nodi hawliau dynol pob plentyn a pherson ifanc dan 18 oed. Mae'r Deyrnas Unedig (y DU) wedi cytuno'n ffurfiol i'r confensiwn rhyngwladol hwn ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru roi sylw dyledus iddo. Cafodd yr ymrwymiad cenedlaethol i hawliau plant ei atgyfnerthu gan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. 

8.3 Mae angen cyflawni egwyddorion arweiniol CCUHP er mwyn i blant arfer eu hawliau. Dyma'r egwyddorion arweiniol:

  • dim camwahaniaethu (Erthygl 2)
  • rhaid i oedolion weithredu er budd gorau'r plentyn (Erthygl 3) 
  • mae gan blant yr hawl i fyw, goroesi a datblygu (Erthygl 6)
  • mae gan blant yr hawl i gymryd rhan mewn penderfyniadau (Erthygl 12) 

8.4 Mae'r hawliau a nodir yn y CCUHP yn gyffredin i bawb: mae gan bob plentyn yr hawliau hyn, heb gamwahaniaethu. Maent hefyd yn ddiwahân. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i blant gael arfer pob un o'r hawliau hyn. 

8.5 Mae gan blant yr hawl i wybod eu hawliau dynol (Erthygl 42) ac mae Comisiynydd Plant Cymru yn diogelu ac yn sicrhau hawliau plant yng Nghymru. 

8.6 Os yw eich plentyn yn rhan o grŵp cymunedol ac yn dymuno dysgu mwy am hawliau plant, gallai ei grŵp ymuno â chynllun Llysgenhadon Cymunedol Comisiynydd Plant Cymru. Mae Llysgenhadon Cymunedol yn blant a phobl ifanc sydd wedi gwirfoddoli i gyflawni 3 prif dasg: 

  • i ddweud wrth eraill am hawliau plant 
  • i ddweud wrth eraill am Gomisiynydd Plant Cymru
  • i ddweud wrth Gomisiynydd Plant Cymru beth sy'n bwysig iddyn nhw drwy gwblhau 'cenadaethau hawliau' rheolaidd

Os hoffech chi gymryd rhan, cysylltwch â Swyddfa'r Comisiynydd Plant ar 01792 765 600 neu drwy e-bost.

8.7 Mae Comisiynydd Plant Cymru hefyd yn cyhoeddi amrywiaeth o adnoddau am bynciau y mae plant a phobl ifanc yng Nghymru wedi dweud eu bod yn bwysig iddynt.

Cyfryngu rhwng rhiant a phlentyn neu ofalwr a phlentyn

8.8 Mae symud i addysgu yn y cartref yn benderfyniad mawr i unrhyw riant, gofalwr neu deulu, a gall effeithio ar lawer o agweddau ar fywyd teuluol. Felly mae'n bwysig pwyso a mesur yn ofalus ac ystyried pob dewis sydd ar gael i chi. Bydd rhai rhieni a gofalwyr yn gweld ar ôl cyfnod o amser, bod addysgu eu plentyn yn y cartref yn cael effaith ar bawb. Gall addysgu yn y cartref effeithio ar gydberthnasau hefyd os nad oes gan blentyn a rhiant neu ofalwr amser i fynd ar ôl eu diddordebau eu hunain neu dreulio amser oddi wrth gartref y teulu. Mae gwasanaethau cyfryngu ar gyfer teuluoedd ar gael ar wefannau fel Relate (Saesneg yn unig).

Cyfryngu rhwng rhiant neu ofalwr ac ysgol

8.9 Mae llawer o rieni a gofalwyr yn dewis addysgu yn y cartref am resymau addysgol cadarnhaol. Fodd bynnag, os ydych yn ystyried addysg yn y cartref o ganlyniad i anghydfod â'r ysgol y mae eich plentyn yn ei mynychu, byddai'n syniad da ceisio datrys y problemau gyda'r ysgol cyn penderfynu addysgu yn y cartref. Os yw'r pryderon hyn yn parhau heb eu datrys, mae gan bob ysgol ac awdurdod lleol weithdrefn cwynion y gellir ei dilyn. Os oes gennych unrhyw bryderon, dylech gysylltu â swyddog addysg ddewisol yn y cartref eich awdurdod lleol, a fydd yn gallu rhoi cyngor i chi. 

8.10 Mae gwasanaeth ymchwilio a chynghori Comisiynydd Plant Cymru yn rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol. Ei ddiben yw cynnig cymorth a chefnogaeth os yw plant a phobl ifanc neu'r rhai sy'n gofalu amdanynt yn teimlo bod plentyn yn cael ei drin mewn ffordd annheg. Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig cyngor unigol ac yn ymchwilio i achosion unigol.

Defnyddio gwasanaethau cymorth

9.1 Dylech sicrhau bod eich plentyn wedi'i gofrestru â meddyg teulu er mwyn iddo allu rhoi gofal iechyd cyffredinol a chynnig gwasanaethau ataliol pwysig fel imiwneiddio a sgrinio iechyd.

9.2 Drwy ddewis addysgu plentyn yn y cartref, rydych wedi optio allan o ddarpariaeth addysg y wladwriaeth. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu eich bod wedi optio allan o wasanaethau iechyd y wladwriaeth. Mae gwasanaethau iechyd a gynigir fel arfer drwy ysgolion yn dal i fod ar gael ichi.

Gwasanaethau iechyd

Imiwneiddio

9.3 Mae imiwneiddio yn rhan bwysig o ddiogelu plant rhag salwch y gellir ei osgoi. Dylech gysylltu â'ch ymwelydd iechyd, meddyg teulu, fferyllydd neu fwrdd iechyd lleol i drafod amserlen y brechiadau imiwneiddio arferol a argymhellir yn y DU.

9.4 Mae'r rhan fwyaf o imiwneiddiadau i blant hŷn yn cael eu cynnig fel mater o drefn yn yr ysgol ac yn cael eu rhoi gan wasanaethau nyrsio ysgolion. Gallwch gysylltu â'ch meddyg teulu neu'ch fferyllydd i drefnu i'ch plentyn gael y rhain yn eich meddygfa leol neu eich fferyllfa.

Rhaglenni sgrinio

9.5 Defnyddir rhaglenni sgrinio i brofi pobl nad oes ganddynt unrhyw symptomau a allai fod yn wynebu risg uwch o ddioddef o broblem y gellir ei thrin. Ymhlith plant o oedran ysgol, rydym yn cynnig prawf sgrinio clyw a golwg i bob plentyn 5 i 6 blwydd oed er mwyn chwilio am broblemau golwg neu glyw.

Sgrinio clyw rhwng 4 a 5 mlwydd oed

9.6 Nod y prawf sgrinio clyw yw adnabod plant sydd wedi colli clyw. Gallai hynny fod wedi digwydd ers y prawf sgrinio i fabanod newydd-anedig. Mae'n bwysig nodi problemau clyw cyn gynted â phosibl am eu bod yn gallu effeithio ar ddatblygiad lleferydd ac iaith, sgiliau cymdeithasol ac addysg eich plentyn. Mae'r driniaeth yn fwy effeithiol os caiff unrhyw broblemau eu hadnabod a'u rheoli'n gynnar. Bydd diagnosis cynnar hefyd yn helpu i sicrhau eich bod chi a'ch plentyn yn cael gafael ar unrhyw wasanaethau cymorth arbennig y gall fod eu hangen arnoch. Os hoffech fanteisio ar y prawf sgrinio clyw dechrau ysgol, neu os oes gennych unrhyw bryderon am glyw eich plentyn, dylech gysylltu â gwasanaethau awdioleg eich bwrdd iechyd lleol.

Sgrinio golwg rhwng 4 a 5 mlwydd oed

9.7 Dylai pob plentyn fynd at optegydd stryd fawr am brawf llygaid pan fydd yn 4 neu'n 5 mlwydd oed. 

Profion llygaid

9.8 Mae plant dan 16 oed, a phobl ifanc rhwng 16 a 18 oed sydd mewn addysg amser llawn yn cael profion llygaid am ddim gan y GIG. Maent hefyd â hawl i gael talebau GIG tuag at gost sbectols neu lensys cyffwrdd. At y dibenion hyn, mae addysg amser llawn yn cynnwys addysg yn y cartref. 

9.9 Y cyfan sydd angen ei wneud er mwyn cael prawf llygaid i'ch plentyn yw trefnu apwyntiad gydag optegydd o'ch dewis. Nid oes angen cofrestru.

Iechyd deintyddol

9.10 Dylai pob plentyn gael ei gofrestru â deintydd o'r adeg y bydd y dannedd cyntaf yn ymddangos, a mynd i gael archwiliadau yn unol â chyngor. Mae gan blant dan 18 oed a phobl ifanc 19 oed sydd mewn addysg amser llawn hawl i gael triniaeth ddeintyddol am ddim gan y GIG.

9.11 I gael gwybodaeth am bractisau deintyddol yng Nghymru, gan gynnwys manylion cyswllt, amseroedd agor, y gwasanaethau a gynigir ac a ydynt yn derbyn cleifion newydd, ewch i GIG 111 Cymru. Neu gallwch gysylltu â'ch bwrdd iechyd lleol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

9.12 Os ydych yn cael anawsterau wrth gael gofal a chyngor rheolaidd gan eich deintydd teuluol, dylech gysylltu â'r bwrdd iechyd lleol i gael gwybod mwy am ei wasanaethau. Mae'r rhain yn cynnwys Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol a all ddarparu gofal i blant y gall fod angen gwasanaethau gofal arbennig arnynt.

9.13 Mae cyngor defnyddiol ar iechyd deintyddol ar gael drwy’r Oral Health Foundation. Mae Galw Iechyd Cymru hefyd yn darparu gwybodaeth ar amrywiaeth eang o bynciau iechyd deintyddol ac iechyd y geg.

Ymweliadau iechyd a gwasanaethau nyrsio i blant o oedran ysgol

9.14 Nod y gwasanaeth nyrsio i blant o oedran ysgol yw sicrhau bod plant o oedran ysgol yn derbyn gwybodaeth a chyngor cyfredol i'w galluogi i wneud dewisiadau gwybodus am eu ffordd o fyw nawr ac yn y dyfodol. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael ond nid yw’n orfodol i bobl ei ddefnyddio. Mae nyrsys ar gael ar gyfer plant a phobl ifanc o oedran ysgol i roi cymorth a chyngor iddynt pryd bynnag y bydd eu hangen arnyn. Mae hyn yn cynnwys cysylltu â phlant a phobl ifanc nad ydynt yn mynychu'r ysgol a hyrwyddo, gwella a diogelu eu hiechyd a'u lles er mwyn sicrhau eu bod yn profi'r iechyd gorau posibl. 

9.15 Bydd nyrsys plant a phobl ifanc o oedran ysgol yn darparu ac yn cydgysylltu rhaglenni iechyd cyhoeddus ac ymyrraeth iechyd yn ymwneud ag amrywiaeth o faterion. Er enghraifft, gallant gyfeirio plant i'r gwasanaeth deintyddol cymunedol neu roi cymorth i gael gafael ar ofal a chyngor arferol drwy Wasanaethau Deintyddol Cyffredinol ar y 'stryd fawr'.

Therapydd lleferydd ac iaith

9.16 Os ydych yn poeni am unrhyw agwedd ar ddatblygiad lleferydd ac iaith eich plentyn, y cam cyntaf yw ceisio cyngor gan eich ymwelydd iechyd neu'ch meddyg teulu. Gallant gynnal asesiadau ac, os oes angen, gwneud atgyfeiriad ar gyfer asesiad lleferydd ac iaith, asesiad clyw neu wasanaethau eraill yn ôl yr angen. 

9.17 Darperir gwasanaethau lleferydd ac iaith y GIG yn rhad ac am ddim gan fyrddau iechyd lleol a ddylai ddarparu manylion cyswllt eich gwasanaeth lleferydd ac iaith plant lleol.

Cwynion neu bryderon am ofal a thriniaeth GIG Cymru

9.18 Gweithio i Wella yw'r broses ar gyfer rheoli cwynion a phryderon yn GIG Cymru.

9.19 Os ydych chi neu eich plentyn yn anhapus â'r gofal neu'r driniaeth a gafodd, dylech godi'ch pryderon gyda'r staff a oedd yn rhan o'i ofal neu ei driniaeth yn y lle cyntaf. Byddant yn ceisio datrys eich pryderon ar unwaith. Os na fydd hyn yn helpu, neu os nad ydych am siarad â'r staff, gallwch gysylltu â thîm pryderon yr ymddiriedolaeth neu’r bwrdd iechyd.

9.20 Os oes gennych bryder am wasanaethau rydych wedi'u derbyn gan eich meddyg teulu, deintydd, fferyllydd neu optegydd, dylech ofyn i'r practis ymchwilio i'r mater fel arfer, ond os byddai'n well gennych, gallwch ofyn i'ch bwrdd iechyd wneud hynny.

Cymorth anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac anghenion addysgol arbennig (AAA) 

9.21 Mae’r system ADY yn disodli’r system AAA dros gyfnod o bedair blynedd (2020 i 2024). Mae’r adran hon yn nodi sut mae’r system ADY yn gweithio. I gael gwybodaeth am y system AAA gweler Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru.

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (‘Deddf 2018’)

9.22 Mae Deddf 2018 yn darparu ar gyfer CDU i blant a phobl ifanc ag ADY. Cynllun statudol yw CDU a fydd yn cymryd lle datganiadau AAA a mathau eraill o gynlluniau cymorth o dan y system AAA. Mae CDU yn disgrifio ac yn sicrhau o dan y gyfraith y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) y mae’r plentyn neu berson ifanc ei hangen i helpu i fynd i’r afael â’i ADY.

9.23 Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i benderfynu (adran 13 o Ddeddf 2018) a oes gan blentyn ADY, ac felly a oes angen CDU arno. Nid yw'r ddyletswydd yn amodol ar sicrhau cytundeb y rhieni neu ofalwyr i asesu plentyn i weld a oes ganddo ADY.

9.24 Os bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu bod gan y plentyn ADY, rhaid iddo baratoi a chynnal CDU a sicrhau'r DDdY a ddisgrifir yn y cynllun hwnnw. Nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i'r awdurdod lleol ddarparu'r ddarpariaeth addysgol ychwanegol yn uniongyrchol. Lle bo'r CDU, er enghraifft, yn nodi mai cymorth un i un yw'r ddarpariaeth addysgol arbennig, gallai hyn gael ei darparu gan y rhiant neu’r gofalwr sy'n addysgu'r plentyn yn y cartref (gweler paragraffau 18.21 i 18.23 o God ADY Cymru 2021). Fodd bynnag, mae'n rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod y ddarpariaeth addysgol ychwanegol yn cael ei chyflawni. Byddai hyn yn cael ei asesu fel rhan o'r adolygiad o'r CDU a gynhelir gan yr awdurdod lleol bob blwyddyn. 

9.25 Mae Deddf 2018 wedi dechrau cael ei rhoi ar waith yn raddol ers mis Medi 2021. 

SNAP Cymru

9.26 Os bydd angen help arnoch gyda'r broses hon, mae SNAP Cymru yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth annibynnol ac am ddim er mwyn helpu i gael yr addysg gywir i blant a phobl ifanc ag ADY ac anableddau o bob math. Gall hefyd ddarparu eiriolaeth, gwasanaeth datrys anghydfod a hyfforddiant i bobl ifanc a rhieni a gofalwyr. .

Gwasanaethau niwroddatblygiadol

9.27 Mae'r gwasanaethau niwroddatblygiadol yng Nghymru yn ddarpariaeth arbenigol ar gyfer y rheini ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig (ASD) ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) ac maent yn cynnwys y plant hynny y gall fod ganddynt anableddau dysgu.

9.28 Dylech ofyn am gyngor gan eich ymwelydd iechyd neu eich meddyg teulu os oes gennych bryderon yn ymwneud â phroblemau canolbwyntio, bywiogrwydd, neu broblemau cymdeithasol neu gyfathrebu sy'n awgrymu anhwylder sbectrwm awtistiaeth neu anhwylder diffyg canolbwyntio. Gall ddarparu cyngor, cymorth ac atgyfeiriad am asesiad manylach os oes angen.

9.29 Dylai rhieni neu ofalwyr plant â datganiad o anghenion addysgol arbennig neu CDU gael eu cefnogi gan yr awdurdod lleol i gael gafael ar wasanaeth y seicolegydd addysg a chael cefnogaeth i gael atgyfeiriad ganddo. Dylai plant neu bobl ifanc sy'n bodloni'r meini prawf am atgyfeiriad i dîm niwroddatblygiadol i gael asesiad, gael asesiad, a dylai ddechrau o fewn 26 wythnos (targed Llywodraeth Cymru) i'r adeg y bydd y gwasanaeth niwroddatblygiadol yn derbyn yr atgyfeiriad.

9.30 Noder, er bod modd ystyried diagnosis preifat ac mae'n bosibl y byddai modd lleihau'r amser aros ar gyfer diagnosis, mae'n bosibl na fydd rhai awdurdodau lleol yn derbyn canlyniadau diagnosis preifat os nad yw'r asesiad yn bodloni'r safonau ansawdd y cytunwyd arnynt, ac mae'n bosibl na fydd yn gallu dibynnu ar asesiad o'r fath i lywio unrhyw benderfyniad ynghylch darparu gwasanaethau. Dylech gadarnhau gyda'ch awdurdod lleol felly, cyn gwneud i berson ifanc gael asesiad preifat, gall fod yn gostus a gallai ohirio diagnosis cywir mewn gwirionedd.

Cwnsela annibynnol

9.31 Rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru ddarparu ‘darpariaeth resymol’ ar gyfer gwasanaethau cwnsela annibynnol mewn cysylltiad ag anghenion iechyd, anghenion emosiynol ac anghenion cymdeithasol pob person ifanc 11 i 18 oed yn ei ardal, gan gynnwys y rheini nad ydynt yn cael eu haddysgu yn yr ysgol.

9.32 Os hoffech i'ch plentyn ddefnyddio gwasanaethau cwnsela annibynnol, cysylltwch â'r swyddog addysg ddewisol yn y cartref yn eich awdurdod lleol i ddysgu mwy. 

Gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd

9.33 Mae gwasanaethau gwybodaeth i deuluoedd yn darparu cymorth, cefnogaeth a chyngor diduedd ac am ddim ar amrywiaeth o faterion fel gofal iechyd, addysg a hyfforddiant a gwasanaethau hamdden. Gallant hefyd eich rhoi mewn cysylltiad ag arbenigwyr a fydd yn darparu cymorth a chefnogaeth am ddim, wedi'u teilwra i'ch anghenion unigol. Gallant hefyd eich cyfeirio at wybodaeth a gwasanaethau defnyddiol fel Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf. Mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd y gallwch gysylltu ag ef drwy'r post, e-bost neu dros y ffôn. Mae manylion cyswllt Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd eich awdurdod lleol ar gael yn ‘Dod o hyd i’ch gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd lleol’.

Teuluoedd yn Gyntaf

9.34 Gall Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf roi cymorth, cyngor a chefnogaeth i'ch teulu. Bydd timau Teuluoedd yn Gyntaf yn eich ardal leol yn gweithio gyda chi a'ch teulu i'ch helpu i ystyried yr hyn sy'n gweithio'n dda yn eich bywyd, ac i benderfynu pa help sydd ei angen ar eich teulu er mwyn iddo ffynnu. Mae Teuluoedd yn Gyntaf ar gael i bob teulu sydd angen help, ni waeth ble rydych yn byw neu faint rydych yn ei ennill. I gael gwybod mwy am Deuluoedd yn Gyntaf, cysylltwch â’ch awdurdod lleol.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Os ydych yn penderfynu addysgu yn y cartref, efallai y bydd y gwefannau canlynol yn ddefnyddiol ichi. Maent yn darparu cysylltiadau, cymorth, canllawiau ac adnoddau i’ch cynorthwyo wrth roi addysg i’ch plentyn yn y cartref.

Cysylltiadau ac adnoddau defnyddiol

Adnoddau addysgol ar-lein

Cynradd

Uwchradd

Mathemateg

Gwyddoniaeth

Saesneg

Hanes

Daearyddiaeth

Ieithoedd

Cerddoriaeth

Pob pwnc

Cwricwlwm ffydd

Dysgu o bell

Cysylltiadau gwasanaethau cyffredinol

Nam ar y synhwyrau

e-bost: bda@bda.org.uk

Ffôn: 0303 123 9999 

Ffôn: 0808 808 0123 

Testun: 07360 268 988

Ffôn: 0300 330 9280 

Ffôn: 029 2037 3474

Llinell gymorth: 0808 800 8800

Lleferydd ac iaith 

Ffôn: 02920 465854 

Llinell gymorth: 0300 666 9410 

Anawsterau dysgu 

Ffôn: 029 2068 1160

Ffôn: 01784 222 034

Llinell gymorth: 0808 8000 300

Llinell gymorth: 0808 801 0608

Awtistiaeth 

Ffôn: 0808 800 4104

Iechyd meddwl 

Sefydliadau cymorth meddygol 

Ffôn: 0208 952 2800 

Sefydliadau cymorth cyffredinol

Ffôn: 029 2049 3387 

Ffôn: 0300 123 2112 

Ffôn: 029 2034 2434

Cyrff cyhoeddus

Ffôn: 0808 800 0082