Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair gan y gweinidog

Rydym wedi cyflawni llawer dros y pedair blynedd diwethaf. Rydym wedi gosod dyheadau a disgwyliadau newydd i bob dysgwr ac athro. Rydym wedi lleihau’r bwlch cyrhaeddiad, gan roi mwy o gymorth i ddysgwyr o gefndiroedd difreintiedig fel y gallant gyflawni eu potensial. Mae ein canlyniadau arholiadau gwell a’n perfformiad rhyngwladol gwell yn golygu bod parch newydd tuag at Gymru a hyder newydd gartref. Ond mae gwaith i’w wneud o hyd wrth inni barhau â chenhadaeth ein cenedl i godi safonau i bawb a chyflwyno ein cwricwlwm newydd – Cwricwlwm i Gymru.

Ni allem fod wedi rhagweld y byddem yn cymryd y cam hwn yn hanes addysg Cymru dan y fath amgylchiadau. Mae’r ymdrech genedlaethol yn erbyn y coronafeirws (COVID-19) wedi cynnwys tîm o 3.2 miliwn ac mae’r teulu addysg wedi wynebu’r her gyda’i gilydd, gan gamu i’r bwlch i sicrhau bod ein plant a’n pobl ifanc yn cael cymorth gyda’u lles a’u gallu i ddysgu a thyfu.

Mae ein gwaith parhaus i ddiwygio addysg, gyda Chwricwlwm i Gymru yn ganolbwynt iddo, hefyd yn ymdrech genedlaethol a rennir. Rwy’n hynod falch o fod yn gweithio gydag athrawon, academyddion, ymarferwyr, busnesau, undebau a llawer o bobl eraill sy’n adeiladu’r dyfodol hwn i’n dysgwyr, ein hysgolion a’n cenedl.

Mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) wedi cydweithio â ni bob cam o’r ffordd ac yn cydnabod ein cynnydd. Mae ei adroddiad diweddar yn rhoi her dda inni ac argymhellion ar gyfer y cyfnod sydd i ddod. Mae’r diweddariad hwn ynghylch 'Cenhadaeth ein cenedl' yn dangos sut rydym eisoes yn ymateb, gan fapio ffordd glir ymlaen.

Gyda’i gilydd, bydd ein diwygiadau a’n cwricwlwm newydd yn cefnogi pobl ifanc i ddatblygu safonau uwch o lythrennedd a rhifedd, dod yn fwy cymwys yn ddigidol ac yn ddwyieithog, a bod yn ddinasyddion hyderus, galluog a thosturiol – dinasyddion Cymru a dinasyddion y byd.

Pedwar diben y cwricwlwm yw’r weledigaeth a’r dyhead a rennir ar gyfer pob person ifanc. Drwy gyflawni’r rhain, rydym yn gosod disgwyliadau uchel i bawb, yn hyrwyddo lles unigolion a’r genedl, yn mynd i’r afael ag anwybodaeth a chamwybodaeth, ac yn annog ymgysylltiad beirniadol a dinesig. Bydd pob ysgol yn cael y cyfle i gynllunio ei chwricwlwm ei hun a’i roi ar waith o fewn y dull cenedlaethol sy’n sicrhau cysondeb i ddysgwyr ledled y wlad.

Rydym yn symud i gyfnod newydd lle bydd pob dysgwr yn cael budd o addysg eang a chytbwys. Ni ddylem byth ostwng ein disgwyliadau ar gyfer unrhyw rai o’n pobl ifanc, ni waeth beth fo’u cefndir. Mae’n fater sylfaenol o sicrhau tegwch a rhagoriaeth i bawb, a dyna pam mae miloedd ar filoedd yn fwy o ddysgwyr yng Nghymru bellach yn sefyll ac yn ennill TGAU mewn gwyddoniaeth. Dyna pam ein bod bellach yn perfformio’n well na gwledydd eraill y Deyrnas Unedig yn ein canlyniadau Safon Uwch, a dyna pam mae miloedd yn fwy yn astudio ar lefelau addysg uwch ac yn llwyddo ynddynt.

Rydym yn llwyddo i godi safonau a chyflawni system y mae’r cyhoedd yn ymddiried ynddi. Dyna’r sylfaen sy’n ein galluogi i fwrw ymlaen â’n cwricwlwm newydd. Cwricwlwm i Gymru, gan Gymru, ac rydym wedi symud gyda’n gilydd i gyrraedd y pwynt hwn.

Mae ein system yn un y mae pawb yn cyfrannu ati, lle rydym yn gosod safonau uchel i bawb ac wir yn cyfuno gwybodaeth, sgiliau a phrofiad. Ni chaiff unrhyw un nag unrhyw le ei ddiystyru, a gallwn gymryd y camau nesaf yng nghenhadaeth ein cenedl i ddiwygio addysg.

Kirsty Williams AS
Y Gweinidog Addysg

“Rydym yn llwyddo i godi safonau a chyflawni system y mae’r cyhoedd yn ymddiried ynddi.” Kirsty Williams, Y Gweinidog Addysg.

Ein taith hyd yn hyn

Cyflwyniad

Mae addysg yng Nghymru yn newid. Mae rhagolygon a chyfleoedd bywyd ein pobl ifanc yn gwella o ganlyniad i genhadaeth gyffredinol ein cenedl i ddiwygio addysg.

Mae’n newid er gwell, o ganlyniad i waith caled miloedd o athrawon, staff ysgolion, penaethiaid a phartneriaid addysg ledled y wlad.

Mae pob un ohonom, a’n pobl ifanc yn arbennig, wedi wynebu heriau yn ystod y misoedd diwethaf.

Mae hefyd wedi dangos pa mor bwysig yw hi – yn academaidd, yn gymdeithasol ac yn emosiynol – i blant fod mewn amgylchedd ysgol diogel. Ceir mwynhad yn yr ystafell ddosbarth, yn cael eich herio a’ch cymell i ddysgu, ymhlith ffrindiau a chydag athrawon sy’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.

Rydym wedi adeiladu sylfeini cadarn ar gyfer y cam nesaf ar ein taith gyda’n cwricwlwm newydd – Cwricwlwm i Gymru. Gallwn fod yn hyderus y byddwn yn gwireddu’r uchelgais y bydd pob dysgwr yn cael budd o addysg eang a chytbwys, gyda disgwyliadau uchel i bawb, ni waeth beth fo’u cefndir. Mae’r sylfeini cadarn a osodwyd dros y pedair blynedd diwethaf yn golygu ein bod mewn sefyllfa dda i gyflawni hyn.

Mae miloedd ar filoedd yn fwy o ddysgwyr o gefndiroedd incwm isel bellach yn ennill graddau TGAU mewn gwyddoniaeth ac yn mynd ymlaen i’r brifysgol. Rydym yn perfformio’n well na gwledydd eraill y DU yn ein canlyniadau Safon Uwch gorau.

Mae safonau llythrennedd a rhifedd, ar bob oed, yn well nag erioed.

Rydym yn gweld y buddsoddiad mwyaf erioed mewn dysgu proffesiynol i athrawon, wedi’i lywio gan ein Harolwg Cenedlaethol o’r Gweithlu Addysg.

Mae gennym ddull newydd, a gefnogir gan fwy o gyllid nag erioed, i gefnogi’r holl ddysgwyr, p’un a ydynt yn ddysgwyr sydd ag anghenion ychwanegol, yn dod o gefndiroedd incwm isel, neu wedi dioddef yn arbennig yn ystod y cyfnod diweddar i ffwrdd o’r ysgol.

Mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) wedi cydnabod y cynnydd hwn, gan ddweud:

Wales is on the path to transform the way children learn, with a new curriculum aimed to prepare its children and young people to thrive at school and beyond. The new curriculum for Wales is future oriented and intends to create a better learning experience for students and to contribute to the overall improvement of Welsh education. The co-construction process succeeded in engaging many and in developing trust, while systemic adjustments in institutions and other policies are helping set in motion a professionally-led education.

Mae hefyd wedi rhoi rhai argymhellion inni ynghylch sut i barhau ar ein taith.

Mae’r adran hon yn myfyrio ar y ffordd rydym wedi symud gyda’n gilydd o ran 'Cenhadaeth ein cenedl' ac yn nodi rhai o’r camau nesaf ar gyfer y meysydd diwygio allweddol hynny.

Addysg a datblygiad athrawon, a’n gwaith ymgysylltu yn rhyngwladol

Rydym wedi diwygio hyfforddiant athrawon, gan newid y ffordd y caiff ei ddarparu, pwy sy’n ei ddarparu, yr hyn a gaiff ei astudio a ble mae’n digwydd. Nid oes gan yr un sefydliad hawl ddwyfol i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o athrawon; mae’n llawer rhy bwysig i hynny. Bu’n rhaid gwneud rhai penderfyniadau anodd yn sgil hyn, ond rydym bellach mewn sefyllfa well ac wedi gosod safon uchel ar gyfer y dyfodol.

Rydym yn gwarantu chwe diwrnod HMS ar gyfer pob athro, fel rhan o’n hymrwymiad i ddysgu proffesiynol a rhoi’r cwricwlwm ar waith. Rydym hefyd wedi buddsoddi mwy nag erioed mewn dysgu proffesiynol. Rhwng 2018/19 a 2020/21, rydym wedi buddsoddi £31 miliwn yng nghyllidebau ysgolion er mwyn eu galluogi i greu’r amser a’r lle sydd eu hangen ar gyfer dysgu proffesiynol a byddwn yn parhau i flaenoriaethu cyllid ar gyfer dysgu proffesiynol yn y dyfodol.

Rydym wedi sefydlu’r Corff Adolygu Cyflogau Cymru. Er mwyn dangos ein parch tuag at y proffesiwn addysgu, ac i ddenu’r unigolion gorau, rydym hefyd wedi rhoi’r codiadau cyflog mwyaf erioed i athrawon, gan godi’r cyflog cychwynnol i athrawon newydd. 

Bydd Cwricwlwm i Gymru hefyd yn galluogi mwy o gyfranogiad gan brifysgolion, gwasanaethau cyhoeddus, busnesau, sefydliadau chwaraeon a sefydliadau cymunedol yn yr ystafell ddosbarth a’r tu allan iddi, gan weithio gydag athrawon, rhieni/gofalwyr a dysgwyr.

Rydym wedi dechrau’r gwaith hwn drwy gefnogi cannoedd o’n myfyrwyr prifysgol, mewn pynciau allweddol megis gwyddoniaeth ac ieithoedd modern, i fynd i mewn i ystafelloedd dosbarth ac ysbrydoli dysgwyr yn y pynciau hynny, yn ogystal â chael blas ar addysgu eu hunain. Yn yr ysgolion hynny lle mae hyn wedi digwydd, rydym wedi gweld mwy o ddysgwyr nag erioed yn astudio’r pynciau hynny.

Mae ein colegau a’n prifysgolion yn cynnig pont i’r byd, ac rydym wedi ehangu dimensiwn rhyngwladol ein system addysg gyfan yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rydym wedi dod â myfyrwyr o brifysgol fwyaf blaenllaw y byd – Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) – i dreulio amser yn gweithio gyda dysgwyr ac athrawon yn ysgolion Cymru ar wyddoniaeth a thechnoleg.

Mae cannoedd o ddysgwyr o Gymru, yn enwedig o gefndiroedd difreintiedig, bellach yn cael profiad i newid bywydau drwy ysgolion haf mewn prifysgolion megis Yale, Chicago a Harvard, gyda mwy o fyfyrwyr nag erioed yn mynd ymlaen i astudio cyrsiau israddedig mewn prifysgolion Ivy League ac yn Rhydychen a Chaergrawnt yn y DU. Mae hyn wedi bod yn rhan allweddol o Strategaeth Mwy Galluog a Thalentog gyntaf erioed Cymru.

Rydym wedi rhoi mentrau ar waith ac wedi darparu cyllid fel y gall myfyrwyr ddychwelyd i Gymru i gwblhau eu hastudiaethau ôl-raddedig a dod â’u profiadau o astudio yn rhai o brifysgolion gorau’r byd, a manteision hyn, yn ôl gyda nhw.

Drwy weithio gyda’r OECD a’r Atlantic Rim Collaboratory (ARC), rydym yn elwa o gyngor a her gan systemau addysg gorau’r byd, ac rydym bellach mewn sefyllfa lle mae gweinyddiaethau ac addysgwyr o bedwar ban byd yn edrych ar Gymru i ddysgu am y ffordd rydym yn codi safonau, yn defnyddio technoleg ac yn diwygio’r cwricwlwm.

Mae parch newydd i Gymru, ac rydym wedi gweithio’n galed i’w ennill. Mae annog a chefnogi cydweithio yn hytrach na chystadleuaeth wedi bod yn allweddol er mwyn meithrin ymddiriedaeth ac mae wedi arwain at ein cyflawniadau ar y cyd.

Croesawyd ein perfformiad gwell yn PISA (Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr) lle rydym wedi gweld cynnydd ym mhob maes am y tro cyntaf erioed. Roedd cynnydd sylweddol yn nifer y dysgwyr a oedd yn cyrraedd lefelau uwch, sef un o dargedau 'Cenhadaeth ein cenedl'. Cawsom ein sgoriau mathemateg a darllen uchaf erioed. Am y tro cyntaf erioed, roedd Cymru ym mhrif ffrwd yr OECD ar gyfer pob maes. Dywedodd y Gweinidog Addysg mai cynnydd oedd hyn ac nid perffeithrwydd, ac y dylai PISA barhau i fod yn ffon fesur bwysig ar gyfer hyder y cyhoedd a balchder cenedlaethol.

Mae annog a chefnogi cydweithio yn hytrach na chystadleuaeth wedi bod yn allweddol er mwyn meithrin ymddiriedaeth ac mae wedi arwain at ein cyflawniadau ar y cyd.  

Tegwch

Wrth ehangu’r Grant Datblygu Disgyblion, rydym yn mynd i’r afael ag effaith amddifadedd ac yn torri’r cyswllt rhwng amddifadedd a thynged. Rydym wedi cyflawni llawer, ond mae mwy i’w wneud o hyd. Mae’r gwelliannau ledled Cymru yn galonogol i Estyn.

Mae canlyniadau plant sy’n derbyn gofal yn parhau i fod yn is na’r hyn y dylem ei ddisgwyl yn gyson. Bydd ffocws o’r newydd ar hyn dros y misoedd nesaf. Gwnaethom hefyd ehangu’r Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer y blynyddoedd cynnar er mwyn rhoi dechrau gwell i blant, a sicrhau cyllid ychwanegol i helpu pobl i brynu offer a gwisg ysgol er mwyn helpu rhieni/gofalwyr gyda’r costau ychwanegol hynny.

Ond mae angen mwy nag arian i godi safonau i bawb ac mae’n rhaid inni barhau i fynd i’r afael ag enghreifftiau o ddisgwyliadau isel ac esgusodion. Yn ôl yn 2016, cafodd y mwyafrif o ddysgwyr mewn gormod o ysgolion eu cofrestru’n anghywir ar gyfer cymwysterau gwyddoniaeth galwedigaethol, gan arwain at gyfraddau llwyddo o bron 100 y cant. Roedd y mesurau perfformiad ar y pryd yn galluogi hyn, a hyd yn oed yn ei annog.

Mae cymwysterau galwedigaethol yn addas i rai dysgwyr 15 ac 16 oed, ond ni all hyn fod yn addas pan fydd mwy na 90 y cant o ddysgwyr yn cael eu cofrestru. Lleihaodd ddisgwyliadau a chyfleoedd i ddatblygu, a chafodd effaith anghymesur ar ddysgwyr o gefndiroedd incwm isel.

Mewn ymateb, gwnaethom ddiwygio mesurau perfformiad ysgolion, herio diwylliant o ysgolion yn sefyll yn eu hunfan a chodi disgwyliadau er mwyn gwireddu hyn. Nawr mae degau ar filoedd yn fwy o ddysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn sefyll arholiadau TGAU mewn gwyddoniaeth ac yn ennill graddau da (ynghyd â llenyddiaeth Saesneg a chymwysterau academaidd eraill), gan wella eu cyfleoedd bywyd a’u cynnydd. Dyma beth mae mynd i’r afael â’r bwlch cyrhaeddiad a dyhead yn ei olygu.

Mae gosod disgwyliadau uchel i bawb yn golygu goresgyn rhwystrau ble bynnag y maent. Gwnaethom gyhoeddi’r Cynllun gweithredu addysg wledig cyntaf erioed (2018), darparu grant newydd fel y gallai ysgolion bach ac ysgolion gwledig arloesi a chydweithredu, sefydlu rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig, a buddsoddi mewn band eang a thechnoleg newydd.

Un datblygiad arloesol yw Prosiect E-sgol, sy’n darparu dysgu dwyieithog o bell mewn ysgolion gan sicrhau bod mwy o ddysgwyr yn gallu manteisio ar gwricwlwm eang.  Mae’r prosiect hwn yn mynd o nerth i nerth gan ehangu ledled y wlad ac mae’n enghraifft wych o brosiect a oedd yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â heriau i ddysgwyr cyfrwng Cymraeg a dysgwyr gwledig yn gyntaf, ond sydd bellach o fudd i hyd yn oed mwy o ddysgwyr, athrawon ac ysgolion.

Mae sicrhau cydraddoldeb i bob dysgwr o ran yr adnoddau sydd ar gael yn parhau i fod yn flaenoriaeth ac rydym yn parhau i gefnogi’r gwaith o ddatblygu adnoddau cyfrwng Cymraeg a gwella darpariaeth ddwyieithog. Cynhaliodd y Gweinidog Addysg uwchgynhadledd ar hyn ym mis Ebrill 2017 ac yna sefydlwyd grŵp rhanddeiliaid newydd sydd wedi nodi ffordd ymlaen ar gyfer darparu adnoddau perthnasol, y mae eu hansawdd wedi’u sicrhau, yn y ddwy iaith ar yr un pryd yn y dyfodol. Rydym eisoes yn blaengynllunio cyn rhoi Cwricwlwm i Gymru ar waith a bydd ffordd newydd, gyffrous o fynd i’r afael â hyn sy’n manteisio ar arbenigedd athrawon, academyddion a chyhoeddwyr yn cael ei chyhoeddi yn fuan.

Mae 2020 wedi dangos pa mor bwysig yw amgylchedd yr ysgol o hyd fel y man lle mae plant yn dysgu, yn tyfu ac yn teimlo’n ddiogel. Rydym hefyd wedi cael ein hatgoffa am ei bwysigrwydd i’r gymuned ehangach. Mae angen inni wneud mwy o hyn, a bwrw ati gyda mwy o bwyslais ar ysgolion bro, cydleoli gwasanaethau allweddol, ymgysylltu’n well â rhieni/gofalwyr, addysg y tu hwnt i’r oriau traddodiadol ac ati.

Dangosodd y cyfnod i ffwrdd o’r ysgol eleni lawer o bethau da, ond tynnwyd sylw at rywfaint o annhegwch hefyd o ran defnyddio adnoddau a dysgu ar-lein. Gallwn fod yn falch iawn o Hwb a’r miliynau o fewngofnodion, yn ogystal â’r cydberthnasau addysgol cryf rydym wedi’u meithrin â chwmnïau megis Google, Microsoft ac Adobe, gan olygu adnoddau am ddim i deuluoedd ac athrawon ledled y wlad.

Gwnaethom ddosbarthu offer am ddim i ddysgwyr o gefndiroedd incwm isel, ond mae’n amlwg bod angen inni wneud mwy gydag athrawon, ysgolion a rhieni/gofalwyr er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r ffordd i fanteisio i’r eithaf ar adnoddau a dysgu digidol. Bydd hyn yn flaenoriaeth wrth inni barhau i roi ein rhaglen dysgu proffesiynol uchelgeisiol i athrawon ar waith.

Mae dysgu digidol yn cefnogi dysgu yn yr ystafell dosbarth, ond ni all gymryd lle’r profiad hwnnw. Rydym wedi lleihau maint dosbarthiadau babanod, gan dargedu’r rhai a fydd yn elwa fwyaf a chefnogi athrawon i godi safonau i bawb. Drwy flaenoriaethu’r cyllid, mae £36 miliwn y Grant Ysgolion Bach a Gwledig wedi mynd tuag at y dosbarthiadau mwyaf hynny lle mae lefelau uchel o amddifadedd, lle mae angen gwella dysgu ac addysgu, a lle nad Cymraeg na Saesneg yw’r iaith gyntaf. Mae oddeutu 6,000 o ddysgwyr a 100 o ysgolion wedi elwa ar y cyllid hwn, a chyflogwyd dros 165 o aelodau ychwanegol o staff ysgolion.

Gan ein bod bellach wedi pasio’r ddeddfwriaeth anghenion dysgu ychwanegol (ADY), yr her nawr yw ei rhoi ar waith yn llawn ac yn briodol. Rhaid i’r system addysg gyfan fod yn ymrwymedig i drawsnewid disgwyliadau, profiadau a chanlyniadau plant a phobl ifanc sydd ag ADY. Rhaid inni barhau i gydweithio ar hyn dros y cyfnod sydd i ddod gan ei fod yn brawf gwirioneddol o’n hymrwymiad ar y cyd i godi safonau i bawb.

Rhaid inni barhau i gydweithio dros y cyfnod sydd i ddod gan ei fod yn brawf gwirioneddol o’n hymrwymiad ar y cyd i godi safonau i bawb.

Lles

Yn y ddogfen 'Cenhadaeth ein cenedl', gwnaethom roi ffocws newydd ar les, gan sicrhau tegwch a rhagoriaeth i bawb. Drwy ddatblygu’r gwaith hwnnw, ac ystyried argymhellion gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (PPIA) y Senedd, rydym nawr yn agos at sicrhau fframwaith Cymru gyfan ar gyfer dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a lles emosiynol.

Bydd hyn yn adeiladu ar gynnydd a wnaed eisoes, megis y gwasanaeth cwnsela llwyddiannus mewn ysgolion a’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS). Mae heriau’r misoedd diwethaf wedi dangos bod yn rhaid inni barhau â’r gwaith hwn, ond hefyd pa mor bwysig yw sicrhau bod plant yn yr ysgol ac yn mwynhau amgylchedd diogel sy’n croesawu pawb.

Rydym yn gwybod y gall plant fynd gam yn ôl o ran dysgu pan fyddant i ffwrdd o’r ysgol am gyfnod hir. Rydym wedi comisiynu gwaith i adolygu’r diwrnod a’r flwyddyn ysgol, a ffyrdd o wneud mwy o ddefnydd o ysgolion y tu hwnt i oriau arferol.

Ers 2017, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i gefnogi Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf (SHEP). Caiff y rhaglen ei rheoli a’i hariannu ar y cyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan. Ei nod yw cyfoethogi profiadau gwyliau haf plant sy’n byw mewn ardaloedd â lefelau uchel o amddifadedd, gydag ysgolion sy’n cymryd rhan yn darparu prydau am ddim, sesiynau ymarfer corff a chymorth addysgol i helpu’r rhai sydd ‘gam yn ôl o ran dysgu’ yn ystod gwyliau’r haf. Mae llwyddiant SHEP wedi tyfu’n raddol, gan gyrraedd dros 3,000 o blant mewn 76 o gynlluniau SHEP yng Nghymru yn ystod 2019.

Gall plant hefyd fynd gam yn ôl o ran dysgu os na chânt fanteisio ar y cwricwlwm llawn. Rydym yn deddfu i sicrhau y gall pawb fanteisio ar y cwricwlwm, er enghraifft sicrhau bod pob plentyn yn cael budd o gydberthnasau modern, sensitif a gwell ag addysg. Bydd hyn yn helpu i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi i drafod a deall eu hawliau a hawliau pobl eraill, yn ogystal â chael gwybodaeth sy’n eu cadw’n ddiogel rhag niwed, gan gynnwys gwybodaeth am ddiogelwch ar-lein.

Ein system addysg

Cyn inni ddechrau datblygu 'Cenhadaeth ein cenedl', dywedodd yr OECD wrthym fod angen i arweinyddiaeth ysgogi ein gwaith diwygio a bod Cymru wedi anwybyddu hyn am ormod o amser.

Erbyn hyn, mae gennym ddull cenedlaethol o ymdrin ag arweinyddiaeth sy’n cynnwys ein hacademi arweinyddiaeth ein hunain – Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru. Mae wedi dechrau’n dda, ar y cyd â dysgu proffesiynol ein hathrawon, er mwyn sicrhau cyfleoedd datblygu arweinyddiaeth o ansawdd da i arweinwyr a darpar arweinwyr. Bydd angen inni fynd ymhellach ac yn gyflymach i sicrhau ein bod yn parhau i newid y diwylliant, yn cefnogi cyfleoedd arweinyddiaeth gwahanol ac yn ehangu’r gronfa o arweinwyr posibl, fel y gall dysgwyr o bob cwr o’r wlad elwa.

Mae paratoi pob ysgol ac athro ar gyfer rhoi Cwricwlwm i Gymru ar waith o 2022 yn gofyn am arweinyddiaeth bersonol a phroffesiynol gref ym mhob ystafell ddosbarth ac ystafell staff. Mae angen i’r holl bartneriaid sy’n rhan o addysg Cymru ymrwymo o’r newydd i gydweithio, cydnabod rolau a chyfrifoldebau a chefnogi ysgolion i gynllunio a gwireddu’r cwricwlwm.

Mae’r OECD wedi gweld y newid cadarnhaol hwn mewn diwylliant dros y blynyddoedd diwethaf. Mae wedi rhoi cyfres o argymhellion inni adeiladu ar y sylfeini cadarn rydym wedi’u rhoi ar waith. Mae’r ddogfen hon yn rhoi rhagor o eglurder a chydlyniaeth o ran y tasgau sydd o’n blaenau dros y misoedd nesaf yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn. 

Dywedodd yr OECD:

Wales has to strike a balance between showing continuity on this reform journey and acknowledging that the next steps of implementation have to place schools and their communities at the centre. Striking this balance implies continuing to pursue the reform course detailed in Education in Wales: Our national mission with a new emphasis: adopting a school’s perspective and giving schools capacity and even more room in the next steps.

Bydd pob athro, wrth ddarllen y ddogfen hon, yn deall o ble rydym wedi dod, i ble rydym yn mynd a sut y byddwn yn cyrraedd yno gyda’n gilydd, wrth inni fwrw ymlaen â’n diwygiadau a gwireddu’r cwricwlwm.

Cwricwlwm ysgol yw popeth y bydd dysgwr yn ei brofi wrth gyflawni pedwar diben y cwricwlwm. Nid dim ond yr hyn rydym yn ei addysgu sy’n bwysig, ond yn hytrach sut rydym yn ei addysgu ac, yn hanfodol, pam ein bod yn ei addysgu.

Bydd y cyfnod nesaf hwn ar gyfer Cenhadaeth ein cenedl yn llwyddo drwy ddealltwriaeth a rennir o’r ffordd y mae pob un ohonom yn cydweithio i gefnogi ysgolion, athrawon, rheini/gofalwyr a dysgwyr.

Mae’n gofyn bod yr holl bartneriaid yn gwerthfawrogi safbwynt yr ysgol yn llwyr o ran y cymorth cywir, ar yr adeg gywir, yn y lle cywir, fel y gall athrawon gefnogi pob dysgwr i gyrraedd y safonau uchaf.  Rydym yn buddsoddi yn lles y gweithlu drwy ymateb i’r gofynion hyn.

Drwy ein hymrwymiad cyffredin i ddiwylliant o safonau uchel, sy’n cyfuno tegwch â rhagoriaeth, gallwn fod yn hyderus y bydd pob ysgol, pob athro ac, yn bwysicaf oll, pob dysgwr yn llwyddo.

Cwricwlwm ysgol yw popeth y bydd dysgwr yn ei brofi wrth gyflawni pedwar diben y cwricwlwm.

Ein cyflawniadau

Mae mwy nag 11,000 o bobl ifanc yn gwella eu sgiliau digidol drwy fwy na 700 o glybiau codio. Dros y tair blynedd diwethaf mae nifer y bobl ifanc sy’n cymryd rhan wedi cynyddu 75 y cant.

Rhwng 2016 a 2019, mae nifer y dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim sydd wedi ennill o leiaf un cymhwyster TGAU mewn gwyddoniaeth wedi cynyddu 60 y cant. Mae nifer y dysgwyr sy’n cyflawni o leiaf un radd C neu’n uwch mewn TGAU gwyddoniaeth wedi cynyddu dros 30 y cant.  

O’r holl ddysgwyr Safon Uwch yng Nghymru yn 2019, mae 27 y cant wedi ennill graddau A*–A, sef y lefel uchaf yn y DU. Mae hyn yn gynnydd o 23 y cant ers 2016 pan oeddem gryn dipyn y tu ôl i Loegr a Gogledd Iwerddon gan arwain at gynllun gwella pwrpasol gan y Gweinidog Addysg.

Mae 86 y cant o ddysgwyr Blwyddyn 9 yn cyrraedd y lefel asesu ddisgwyliedig o leiaf mewn pynciau craidd. Roedd yn 63 y cant ar ddechrau’r degawd diwethaf. Mae’r bwlch cyrhaeddiad cyffredinol ar gyfer dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim wedi lleihau 4 y cant yn ystod y pedair blynedd diwethaf.

Yng Nghymru, mae gan 100 y cant o ysgolion fand eang cyflym iawn erbyn hyn. Dim ond 37 y cant oedd y ffigur hwn yn 2016.

Roedd 950 o gyfranogwyr ar raglenni arweinyddiaeth a gefnogir gan Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru yn ystod 2019 i 2020.

Mae dros 400 o ysgolion a mwy na 40,000 o ddysgwyr yn cael budd o’r Grant Ysgolion Bach a Gwledig.

Mae ysgolion â’r dosbarthiadau mwyaf a wnaeth elwa ar y Grant Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod wedi lleihau maint cyfartalog eu dosbarthiadau babanod i 23. Mae mwy na 6,000 o blant wedi elwa’n uniongyrchol ar hyn, a chyflogwyd 165 o aelodau ychwanegol o staff.

Rydym wedi datblygu’r Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol ac rydym yn ei gyflwyno, gan fuddsoddi £31 miliwn yn natblygiad athrawon, sef y ffigur mwyaf erioed. Rydym hefyd wedi cyflwyno fframwaith cyflog ac amodau ‘Gwnaed yng Nghymru’ yn llwyddiannus, gan godi’r cyflog cychwynnol yn sylweddol.

Rydym wedi gwella cyfran y dysgwyr sy’n perfformio orau yn PISA, ac wedi cyflawni ein sgoriau gorau erioed mewn darllen a mathemateg, gan fod ym mhrif ffrwd yr OECD ar gyfer pob maes am y tro cyntaf. Yn y canlyniadau PISA diwethaf, Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i wella yn y tri maes.

Mae mwy na 90,000 o ddysgwyr, mewn 176 o leoliadau, yn cael budd o amgylcheddau dysgu newydd a gwell ers 2016 o ganlyniad i’n Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif.

Rydym wedi diwygio addysg gychwynnol i athrawon ac mae nifer y ceisiadau wedi cynyddu 50 y cant, ac rydym wedi gweld cynnydd cyffredinol yn nifer yr athrawon dan hyfforddiant.

Cefnogwyd mwy na 10,000 o ddysgwyr drwy ein dwy Raglen Seren sydd wrth wraidd Strategaeth Mwy Galluog a Thalentog gyntaf erioed Cymru. Mae mwy nag erioed o’r blaen o fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig ac anhraddodiadol bellach yn mynd ymlaen i addysg uwch.

Rydym wedi cyflwyno deddfwriaeth ADY yn barod ar gyfer y Cod a’r rheoliadau ADY cyn i’r system ADY newydd ddechrau ym mis Medi 2021.

Rydym wedi darparu canllawiau ar Gwricwlwm i Gymru, gan gyflwyno deddfwriaeth newydd i ymwreiddio pedwar diben y cwricwlwm a sicrhau bod pawb yn canolbwyntio ar safonau llythrennedd a rhifedd uwch, a bod ein pobl ifanc yn fwy cymwys yn ddigidol ac yn ddwyieithog.

Argymhellion yr OECD a sut rydym yn ymateb iddynt

Hyd yn oed cyn inni ddechrau ar ein taith i ddiwygio’r cwricwlwm, roedd yr OECD wedi nodi’r rôl allweddol roedd angen i arweinyddiaeth ei chwarae wrth wella ysgolion a systemau.

Mae’r OECD wedi parhau i weithio mewn partneriaeth â ni ac wedi gweld drosto’i hun y diwylliant o gydweithio, cyd-awduro a pharch at ei gilydd sy’n bodoli yn system addysg gyfan Cymru.

Datblygodd y gwaith partneriaeth yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac mae wedi bod yn rhan hanfodol o’n hymateb i’w adroddiad ar ein proses o ddatblygu Cwricwlwm i Gymru a’i roi ar waith.

Ar ddechrau 2020, roedd yr OECD yn cwblhau ei adroddiad, Achieving the New Curriculum for Wales, a chyhoeddwyd hwnnw, yn Saesneg yn unig, ar 5 Hydref 2020. Mae’r adroddiad yn nodi ei argymhellion i alluogi Cymru i gynnal momentwm a gwireddu ein dyheadau cyffredin i bob dysgwr, ysgolion a’r system.

Fel y gellir ei ddisgwyl, bu oedi cyn cyhoeddi’r adroddiad yn sgil heriau COVID-19. Fodd bynnag, rydym wedi bod yn cymhwyso’r hyn rydym wedi’i ddysgu o adborth yr OECD yn ein hymyriadau wrth inni barhau i ymateb i effaith y pandemig ar ein system addysg. 

Gan fod plant a phobl ifanc bellach wedi dychwelyd i’r ysgol a’n system addysg yn croesawu ffyrdd newydd o weithio, mae’r OECD wedi cyhoeddi’r adroddiad ac rydym yn ei groesawu.

Gyda’n gilydd, rydym wedi ymateb i bob her a gyflwynwyd gan y pandemig hwn ac rydym wedi gallu parhau ar ein taith i ddiwygio’r cwricwlwm drwy nifer o’r camau rydym wedi’u cymryd dros y chwe mis diwethaf. Mae’r OECD wedi gwneud nifer o argymhellion. Mae’r camau rydym wedi’u cymryd ar y cyd ers mis Mawrth 2020 a’r gwaith gwych rydym yn parhau i’w wneud gyda’n partneriaid allweddol wedi’u nodi yn yr atodiad i’r ddogfen hon.

Er gwaethaf yr holl bethau rydym wedi’u hwynebu ers mis Mawrth 2020, rydym ar y trywydd iawn o hyd ac mae gennym weledigaeth a chynllun clir ar gyfer gwireddu’r cwricwlwm. Bydd y 12 mis nesaf yn heriol heb os ond, gyda’n hegni, ein brwdfrydedd a’n hymroddiad, gallwn ymwreiddio’r system addysg y gall ein dysgwyr yng Nghymru ei disgwyl.  

Ein cwricwlwm gweddnewidiol

Gwella addysg yw cenhadaeth ein cenedl. Nid oes dim byd mor hanfodol â sicrhau y gall pawb gael y profiadau, yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar ein pobl ifanc ar gyfer cyflogaeth, dysgu gydol oes a dinasyddiaeth weithgar, a manteisio arnynt.

Gwireddu pedwar diben y cwricwlwm ar gyfer pob plentyn


Mae fframwaith Cwricwlwm i Gymru yn ddatganiad clir o’r hyn sy’n bwysig wrth ddarparu addysg eang a chytbwys.

Pedwar diben y cwricwlwm yw’r weledigaeth a’r dyhead a rennir ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Dylent arwain a chyfeirio popeth a wnawn fel system. Drwy gyflawni’r rhain, byddwn yn gosod disgwyliadau uchel i bawb – i godi safonau, mynd i’r afael â’r bwlch cyrhaeddiad a sicrhau bod ein system addysg yn ennyn hyder y cyhoedd.

Nod ein holl ddiwygiadau a’n system addysg yw galluogi holl blant a phobl ifanc Cymru i fod yn:

  • ddysgwyr uchelgeisiol, galluog
  • cyfranwyr mentrus, creadigol
  • dinasyddion egwyddorol, gwybodus
  • unigolion iach, hyderus

Er mwyn gwireddu hyn, bydd angen i bob ysgol ddatblygu ei chwricwlwm ardderchog ei hun. Mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru yn nodi sut y dylai ysgolion fynd ati i wneud hyn. Mae gan Lywodraeth Cymru a phartneriaid strategol rôl hollbwysig wrth gefnogi a galluogi ysgolion. Bydd angen dull newydd er mwyn gwneud hyn wrth i ysgolion baratoi ar gyfer Cwricwlwm i Gymru a datblygu eu cwricwlwm.

Adeiladu ar gyd-awduro

Ffrwyth cyd-awduro yw canllawiau Cwricwlwm i Gymru. Cawsant eu datblygu gan ymarferwyr, ar gyfer ymarferwyr, gan ddod ag arbenigedd addysgol ac ymchwil a thystiolaeth ehangach ynghyd. Er mwyn i’r diwygiadau fod yn llwyddiannus, rhaid inni barhau â’r broses gyd-awduro hon ym mhopeth a wnawn ac ar bob lefel.

Mae cyd-awduro yn golygu rhannu problemau fel y gall pawb fod yn berchen ar yr atebion. Wrth i ysgolion ddatblygu eu cwricwla, bydd partneriaid yn datblygu ac yn rhoi cymorth. Bydd pawb sy’n rhan o’r broses yn cael eu gwerthfawrogi ac yn deall pam y gwneir pethau. Mae cyd-awduro yn golygu bod angen i bobl weithio ar draws ffiniau traddodiadol: rhwng haenau addysgol yn ogystal â rhwng disgyblaethau, ysgolion, cyfnodau a chyda rhanddeiliaid y tu hwnt i’r system addysg. Mae hyn yn sicrhau y caiff atebion eu profi â safbwyntiau gwahanol, gan ddefnyddio dealltwriaeth o brofiadau gwahanol ac arbenigedd amrywiol.

Er mwyn cefnogi’r broses gyd-awduro ar bob lefel a gwireddu Cwricwlwm i Gymru, byddwn yn cyhoeddi cynllun cyflawni’r cwricwlwm ac yn sefydlu rhwydwaith cenedlaethol i gefnogi’r broses o’i roi ar waith. Bydd cynllun cyflawni’r cwricwlwm yn nodi’r canlynol:

  • ein disgwyliadau o ran gwireddu Cwricwlwm i Gymru a’r modd y bydd ysgolion, partneriaid strategol a Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at hynny
  • sut y byddwn ni fel system yn datblygu cymorth i ysgolion drwy gyd-awduro ag ymarferwyr a rhanddeiliaid yn y rhwydwaith cenedlaethol
  • sut y byddwn yn sicrhau bod y system yn creu lle ac yn rhoi cymorth er mwyn galluogi ysgolion i wireddu Cwricwlwm i Gymru
  • sut y byddwn yn defnyddio dysgu ac adborth ar draws y system i ddeall sut mae’r diwygiadau yn gweithio

Yn ystod hydref 2021, byddwn yn disgwyl i ysgolion fod yn datblygu eu cwricwla eu hunain, meddu ar ddealltwriaeth o’r ffordd y bydd y system addysg ehangach yn eu cefnogi yn hyn o beth, a chael eglurder o ran ein dyheadau cenedlaethol er mwyn cyd-fynd â blaenoriaethau rhanbarthol, lleol a chymunedol. 
 

Yn ystod y cyfnod tan fis Medi 2021, byddwn yn:

  • hybu dysgu ar bob ffurf ac ym mhob senario mewn cyd-destun COVID-19 – er mwyn i asesu allu bod yn sail i gynnydd, byddwn yn troi at yr adolygiad annibynnol o gymwysterau i argymell ystyriaethau ar gyfer cyfres cymwysterau 2021
  • cyhoeddi disgwyliadau a rennir i gefnogi ysgolion gyda’r camau y mae’n rhaid iddynt eu cymryd i baratoi ar gyfer rhoi Cwricwlwm i Gymru ar waith ym mis Hydref 2020
  • gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu a chyhoeddi cynllun cyflawni’r cwricwlwm sy’n nodi’r camau ar gyfer y llywodraeth a phartneriaid strategol o hydref 2020
  • sefydlu rhwydwaith cenedlaethol o ymarferwyr a rhanddeiliaid i rannu dealltwriaeth ar draws y proffesiwn, casglu gwybodaeth a chyd-awduro cymorth ac atebion i broblemau, a chydweithio i roi’r cynllun cyflawni ar waith, erbyn mis Ionawr 2021
  • cefnogi’r Bil Cwricwlwm ac Asesu i gael Cydsyniad Brenhinol erbyn gwanwyn 2021
  • datblygu’r adnoddau a’r deunyddiau ategol cyntaf erbyn haf 2021 er mwyn helpu ymarferwyr i wireddu Cwricwlwm i Gymru
  • datblygu a chyhoeddi canllawiau ychwanegol ar y cwricwlwm i gefnogi ymarferwyr mewn meysydd allweddol penodol erbyn mis Medi 2021


2022 a thu hwnt

  • 2022 – Bydd pob ysgol yn symud tuag at y cwricwlwm newydd a chaiff Cwricwlwm i Gymru ei gyflwyno o’r dosbarth Meithrin hyd at Flwyddyn 7.
  • 2022 – Datblygu cymwysterau TGAU newydd.
  • 2023 – Cwricwlwm i Gymru yn cael ei gyflwyno i Flwyddyn 8.  
  • 2024 – Cwricwlwm i Gymru yn cael ei gyflwyno i Flwyddyn 9.
  • 2025 – Cwricwlwm i Gymru yn cael ei gyflwyno i Flwyddyn 10.
  • 2025 – Addysgu’r cymwysterau TGAU newydd am y tro cyntaf.
  • 2026 – Cwricwlwm i Gymru yn cael ei gyflwyno i Flwyddyn 11.

Y pedwar amcan galluogi

Nododd 'Cenhadaeth ein cenedl' gynllun gweithredu ac roedd yn cynnwys pedwar amcan galluogi a fyddai’n helpu i ddatblygu ein cwricwlwm gweddnewidiol. Wrth i’r diwygiad cwricwlwm hwn fynd rhagddo, mae’r pedwar amcan galluogi wedi esblygu a datblygu i adlewyrchu ein system addysg sy’n newid.

Amcan galluogi 1: Dysgu proffesiynol

Mae Llywodraeth Cymru a’n partneriaid strategol yn ymrwymedig i gefnogi athrawon drwy ddysgu proffesiynol o’r adeg y byddant yn penderfynu dod yn athrawon a thrwy eu gyrfaoedd cyfan.

Am y rheswm hwn, rydym wedi newid addysg gychwynnol i athrawon (AGA) yn sylweddol yn ogystal â’n dull o recriwtio athrawon ac oedolion eraill sy’n cefnogi dysgu yn ein hysgolion. Rydym wedi ailwampio’r trefniadau sefydlu a chymorth gyrfa gynnar ar gyfer athrawon yn eu blynyddoedd cyntaf o addysgu, ac mae ein consortia rhanbarthol yn parhau i gefnogi cynorthwywyr addysgu yn ogystal ag athrawon.

Bydd ein buddsoddiadau yn ein dull cenedlaethol o ymdrin â dysgu proffesiynol, ymchwil ac ymholiad addysgol, a choetsio a mentora yn galluogi athrawon i gael profiad o amrywiaeth eang o ffurfiau dysgu a datblygu, a bydd ein gradd genedlaethol Meistr mewn Addysg newydd yn eu galluogi i gael cydnabyddiaeth academaidd o’u gwaith.

Yn ogystal â’r gweithgareddau a’r buddsoddiadau hyn, byddwn yn parhau i gefnogi’r gwaith o ddatblygu arferion addysgu yn ein hysgolion drwy’r Safonau Proffesiynol, a thrwy gefnogi dysgu cydweithredol a’r archwiliad cenedlaethol o addysgeg. Rydym wedi buddsoddi’n sylweddol mewn adnoddau dysgu digidol, a byddwn yn parhau i wneud hynny, er mwyn cefnogi teithiau dysgu proffesiynol athrawon a phobl eraill, a byddwn yn parhau i roi adnoddau ariannol i gefnogi ymgysylltiad ysgolion â dysgu proffesiynol ac amser ychwanegol ar gyfer HMS.

Er mwyn cefnogi’r gwaith o wireddu Cwricwlwm i Gymru mewn ysgolion, byddwn yn:

  • sicrhau bod ein haddysg gychwynnol i athrawon yn hyblyg ac yn ymatebol i’r cyfleoedd a gyflwynir gan Gwricwlwm i Gymru a bod ein hathrawon yn archwilio’r cyfleoedd hyn ac yn manteisio arnynt
  • adolygu ac ailgynllunio ein trefniadau sefydlu a chymorth gyrfa gynnar a diweddaru ein dull o ymdrin â dysgu proffesiynol a HMS i athrawon, cynorthwywyr addysgu mewn ysgolion ac yn y sector meithrin nas cynhelir
  • lansio’r Dull Cenedlaethol o Ymdrin ag Ymchwil ac Ymholiad Addysgol yn ffurfiol er mwyn tynnu sylw at ba mor bwysig yw ymholi i athrawon a dysgwyr
  • parhau i adeiladu ar yr adnoddau llwyddiannus ar Hwb er mwyn archwilio rhagor o brofiadau dysgu cyfunol a dysgu o bell o ansawdd da
  • wrth weithio gyda’n consortia rhanbarthol a’n prifysgolion, lansio ein dull cenedlaethol o ymdrin â choetsio a mentora a’r radd genedlaethol Meistr mewn Addysg newydd gyda ffocws ar yrfaoedd cynnar athrawon a phenaethiaid

Yn ystod y cyfnod tan fis Medi 2021, byddwn yn:

  • rhoi’r Rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau ar waith
  • dechrau’r fersiynau newydd o’r rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon (sydd wedi’u hachredu a’u monitro gan Gyngor y Gweithlu Addysg) a lansio ein strategaeth newydd ar gyfer recriwtio athrawon
  • adolygu ac ailgynllunio ein trefniadau sefydlu a chymorth gyrfa gynnar, a diweddaru ein dull o ymdrin â dysgu proffesiynol a HMS i athrawon a chynorthwywyr addysgu
  • parhau i wella mynediad digidol at ddysgu proffesiynol a sgiliau athrawon wrth ddarparu profiadau dysgu digidol
  • lansio’r Dull Cenedlaethol o Ymdrin ag Ymchwil ac Ymholiad Addysgol
  • dechrau’r ymgyrch recriwtio gyntaf ar gyfer y radd genedlaethol Meistr mewn Addysg a lansio ein dull cenedlaethol o ymdrin â choetsio a mentora.

Rydym ni a’n partneriaid strategol yn ymrwymedig i gefnogi athrawon drwy y dysgu proffesiynol mwyaf hyblyg drwy gydol eu gyrfa.  

Amcan galluogi 2: Arweinyddiaeth


Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod maint yr her y mae penaethiaid ac arweinwyr eraill yn ei hwynebu wrth inni geisio gwireddu Cwricwlwm i Gymru a diwallu anghenion ein hysgolion mewn perthynas â COVID-19.

Am y rheswm hwn, rydym yn ymrwymedig i ystod o fesurau a dulliau cyfredol a newydd er mwyn cefnogi ein harweinwyr. Byddwn yn cynnal adolygiad cyflym o’r cymorth sydd ar gael i arweinwyr ar draws y system ac yn ei fireinio mewn ymateb i’r her newydd. Byddwn yn parhau i gefnogi ein harweinwyr drwy Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru, y cynnig dysgu proffesiynol yn y rhanbarthau a’r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP) yn arbennig.

Mae cyrff llywodraethu yn chwarae rôl hanfodol fel y llinell gyntaf o atebolrwydd i’w hysgolion a’u cymunedau gan gynnig yr her a’r cymorth angenrheidiol i benaethiaid er mwyn iddynt arwain eu hysgolion yn effeithiol. Yn hyn o beth, byddwn yn sicrhau bod y dull cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol yn cynnwys adnoddau ar gyfer llywodraethwyr ysgolion. 

Bydd y Fframwaith Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu a’r Fframwaith Safonau Proffesiynol yn parhau i gael eu datblygu ac yn ychwanegu gwerth at arweinyddiaeth yn ein hysgolion, yn enwedig mewn meysydd sy’n ymwneud â chydweithredu a hunanwella. Byddwn yn annog arweinwyr ysgolion i fod yn ymholwyr arweiniol yn eu cymunedau dysgu fel rhan o’n Dull Cenedlaethol o Ymdrin ag Ymchwil ac Ymholiad Addysgol. Byddwn yn gofyn iddynt roi’r un sylw i’w hanghenion dysgu proffesiynol eu hunain, drwy HMS, y cyllid penodol ar gyfer dysgu proffesiynol a chymwysterau uwch, ag y maent yn ei roi i anghenion eu staff. Byddwn yn sicrhau bod elfen sylweddol o’r dull cenedlaethol o ymdrin â choetsio a mentora yn canolbwyntio ar arweinwyr, yn enwedig penaethiaid sy’n newydd i’r rôl, a byddwn yn sicrhau lefelau uchel o rannu arferion proffesiynol ac arweinyddiaeth drwy’r adnoddau digidol y byddwn yn eu darparu ar Hwb.

Er mwyn cefnogi’r gwaith o wireddu Cwricwlwm i Gymru mewn ysgolion, byddwn yn:

  • cynnal adolygiad cyflym o gymorth i benaethiaid yng ngoleuni her COVID-19 a’r cyfle a gyflwynir drwy fabwysiadu Cwricwlwm i Gymru a’i roi ar waith yn gynnar
  • parhau i ariannu a chefnogi’r gwaith o gynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu proffesiynol ar gyfer arweinyddiaeth a’r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP)
  • sicrhau bod Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru yn darparu portffolio hyblyg o wasanaethau sy’n ymatebol i ofynion Cwricwlwm i Gymru
  • adnewyddu ein dull ar gyfer ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu, yn enwedig y dechnoleg sy’n sail i allu ysgolion i hunanwerthuso yn y maes hwn
  • parhau i ddarparu adnoddau ar Hwb i gefnogi arweinwyr i rannu eu profiadau, a diweddaru’r adnoddau yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn addas i’r diben ac o werth

Yn ystod y cyfnod tan fis Medi 2021, byddwn yn:

  • cynnal adolygiad cyflym o’r cymorth i arweinwyr er mwyn sicrhau y bydd y cymorth sydd gennym i arweinwyr ysgolion ym mhob rhan o’r system yn eu galluogi i wireddu Cwricwlwm i Gymru o dan yr amodau heriol a all fod yn bresennol am beth amser
  • adolygu ac addasu’r ffordd y caiff y CPCP ei gyflwyno fel y gall carfan mis Medi 2021 gymhwyso eu profiad o arwain yng nghyd-destun yr amodau newydd
  • datblygu portffolio o wasanaethau Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru ymhellach yng ngoleuni’r adolygiad o gymorth
  • ymgysylltu â’r consortia rhanbarthol er mwyn datblygu eu cynnig dysgu proffesiynol i arweinwyr yng ngoleuni canfyddiadau’r arolwg ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu
  • sefydlu a rhannu adnoddau sy’n canolbwyntio ar deithiau arweinyddiaeth drwy Hwb
  • gweithio gydag Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru a chonsortia rhanbarthol i roi’r sgiliau i arweinwyr gynllunio datblygiad y Gymraeg yn strategol o fewn diwylliant o ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu.

Byddwn yn cefnogi mwy o gyfleoedd arwain a byddwn yn ehangu’r gronfa o ddarpar arweinwyr fel bod dysgwyr ledled y wlad yn elwa.

Amcan galluogi 3: Tegwch, rhagoriaeth a lles

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid i barhau i greu system addysg ragweithiol a chynhwysol, a’i rhoi ar waith. Wrth barhau i godi safonau i bawb, byddwn yn blaenoriaethu cymorth i blant a phobl ifanc sy’n agored i niwed, sydd dan anfantais neu sydd ag ADY. Drwy’r system hon, byddwn yn nodi meysydd lle ceir anghydraddoldeb ac adfyd yn gyflym ac yn targedu adnoddau er mwyn datblygu a chyflwyno rhaglenni i liniaru prif achosion anghydraddoldeb a sicrhau bod y rhai y mae angen cymorth arnynt yn cael hynny

Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith negyddol ar bob dysgwr, ond rydym yn cydnabod ei bod yn debygol mai ar y rhai mwyaf agored i niwed oedd yr effaith fwyaf. Dyna pam ein bod wedi buddsoddi £40 miliwn i ddarparu prydau ysgol am ddim, gan gynnwys darpariaeth yn ystod gwyliau’r ysgol. Gwnaethom hefyd gynyddu gwasanaethau cwnsela a chymorth iechyd meddwl mewn ysgolion, dosbarthu miloedd o ddyfeisiau digidol am ddim, gweithio’n agos gyda’n gwasanaethau ieuenctid er mwyn rhoi cymorth ychwanegol mewn partneriaeth â’n hawdurdodau lleol, a chynyddu hyblygrwydd i’n hysgolion ddefnyddio’r Grant Datblygu Disgyblion.

Mae’r Rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau hefyd wedi cael ei chynllunio gyda’r nod o gefnogi ein dysgwyr mwyaf agored i niwed a bydd yn rhoi cymorth addysgu ychwanegol i helpu’r rhai hynny a fydd yn elwa fwyaf.
 

Er mwyn cefnogi’r gwaith o wireddu Cwricwlwm i Gymru mewn ysgolion, byddwn yn:

  • gweithio gyda chonsortia rhanbarthol i sicrhau y gwneir y defnydd gorau o’r Grant Datblygu Disgyblion i dargedu cymorth ble mae ei angen a thynnu sylw at yr ymyriadau mwyaf effeithiol er mwyn hybu cynnydd dysgwyr unigol
  • cryfhau ein hymrwymiad ynghylch cost y diwrnod ysgol, sy’n broblem i’n teuluoedd mwyaf difreintiedig yn arbennig; mae hyn yn cynnwys canllawiau i ysgolion a mynediad at y Grant Datblygu Disgyblion, sy’n mynd i deuluoedd yn uniongyrchol er mwyn helpu i dalu am wisg ysgol a thalu costau cysylltiedig y diwrnod ysgol
  • datblygu’r dull integredig o wella canlyniadau addysg i blant sy’n derbyn gofal
  • gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau y gwneir y defnydd gorau o’r Grant Lleiafrifoedd Ethnig a Sipsiwn, Roma a Theithwyr er mwyn sicrhau bod addysg yn gynhwysol ac yn hygyrch i bob dysgwr
  • parhau i ddatblygu systemau sy’n cynyddu’r cymorth sydd ar gael i ddarparu bwyd iachach mewn ysgolion
  • cyhoeddi canllawiau ar ddiogelu mewn addysg
     

Yn ystod y cyfnod tan fis Medi 2021, byddwn yn:

  • datblygu’r dull ysgol gyfan o ymdrin â’r fframwaith iechyd corfforol ac iechyd meddwl a lles, a chynyddu capasiti gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion
  • sicrhau bod y Cod a’r rheoliadau ADY ar waith yn barod i’r system ADY ddechrau ym mis Medi 2021
  • sefydlu a chynyddu gwasanaethau gwaith ieuenctid mewn ysgolion a chymunedau fel rhan o fodel cyflawni cynaliadwy, gan gynnwys adnewyddu’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid
  • parhau i gyflawni’r ymrwymiadau yn y Fframwaith Gweithredu ar gyfer darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol.

Byddwn yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid i barhau i greu system addysg ragweithiol a chynhwysol, a’i rhoi ar waith.

Amcan galluogi 4: Gwerthuso, gwella ac atebolrwydd

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pa mor bwysig yw cael system werthuso, gwella ac atebolrwydd sy’n cyd-fynd ag egwyddorion Cwricwlwm i Gymru.

Gwnaethom gyhoeddi trefniadau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd drafft ym mis Chwefror 2019 ac rydym wedi ymgysylltu’n eang ar yr egwyddorion hynny.

Ymhlith y rhain mae:

  • cefnogi cydweithio yn hytrach na chystadleuaeth
  • symud oddi wrth bwyslais anghymesur ar fesurau perfformiad cul tuag at ystod ehangach o wybodaeth
  • cymell ac annog ymddygiadau sy’n cefnogi ac yn galluogi ein gweledigaeth ar gyfer y cwricwlwm ac asesu
  • gwahaniaeth clir rhwng trefniadau gwerthuso a gwella a’r system atebolrwydd

Bydd gwaith hunanwerthuso a chynllunio gwelliannau effeithiol yn rhan bwysig o’r system newydd. Byddwn felly yn parhau i weithio gyda phartneriaid ac ysgolion i ddatblygu’r Adnodd Gwerthuso a Gwella Cenedlaethol. Bydd hyn yn hyrwyddo prosesau gwella effeithiol, yn annog cydweithio rhwng ysgolion, ac yn darparu canllawiau ac adnoddau ymarferol i gefnogi trefniadau gwerthuso a gwella.

Mae Estyn wedi croesawu’r cysyniad o Arolygiaeth Dysgu, yr adroddiad annibynnol o Estyn gan Graham Donaldson, ac wedi gwneud cynnydd da ar yr argymhellion sy’n deillio o’r adolygiad. Mae gwaith ymgynghori a chynllunio yn parhau cyn inni gyflwyno trefniadau arolygu newydd o fis Medi 2021.

Er mwyn cefnogi’r gwaith o wireddu Cwricwlwm i Gymru mewn ysgolion, byddwn yn:

  • llunio canllawiau gwella anstatudol i ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol sy’n nodi’r ffordd y bydd y fframwaith gwerthuso, gwella ac atebolrwydd newydd yn gweithio’n ymarferol
  • parhau i gefnogi ein hysgolion ‘sydd â’r angen mwyaf’ drwy waith amlasiantaethol
  • sefydlu sylfaen dystiolaeth i bennu’r data a’r wybodaeth sydd eu hangen i gefnogi trefniadau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd effeithiol ar draws y system ysgolion
  • datblygu system well ar gyfer coladu ac yna ddarparu data a gwybodaeth i gefnogi gwelliannau i’r system
  • gweithio gydag ysgolion a phartneriaid i ddatblygu a lansio’r Adnodd Gwerthuso a Gwella Cenedlaethol

Yn ystod y cyfnod tan fis Medi 2021, byddwn yn:

  • ymgynghori ar y canllawiau gwella ysgolion a’u cwblhau cyn dechrau blwyddyn academaidd 2021 i 2022
  • comisiynu ymchwil i roi sylfaen dystiolaeth i Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag anghenion data a gwybodaeth a ffyrdd o’u defnyddio yn y system ysgolion
  • gweithio gydag ysgolion i ddatblygu adnoddau digidol sy’n enghreifftio ac yn modelu dulliau hunanwerthuso effeithiol, gan bwysleisio ansawdd y broses ac nid y ddogfennaeth
  • parhau i gasglu a rhannu arferion effeithiol ym mhob rhan o’r system er mwyn cefnogi ysgolion i enghreifftio’r Adnodd Gwerthuso a Gwella Cenedlaethol yn effeithiol
  • gweithio gydag Estyn i bennu amser priodol ar gyfer dechrau ei hymweliadau ymgysylltu ag ysgolion gan ganolbwyntio ar baratoi ar gyfer rhoi Cwricwlwm i Gymru ar waith

Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw cael system werthuso, gwella ac atebolrwydd sy’n cyd-fynd ag egwyddorion Cwricwlwm i Gymru ac sy’n modelu dulliau hunanwerthuso effeithiol.

Y Gymraeg mewn addysg

Mae sicrhau y bydd pob dysgwr yn gallu defnyddio’r Gymraeg pan fydd yn gadael yr ysgol yn rhan bwysig o’n diwygiadau addysg parhaus.

Mae hyn yn rhan o’n taith genedlaethol tuag at filiwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae ein hysgolion eisoes yn chwarae rôl hollbwysig drwy alluogi miloedd o blant y flwyddyn i ddechrau ar eu taith tuag at ddod yn ddinasyddion dwyieithog, neu barhau â’r daith honno. Rydym am i fwy o blant feithrin sgiliau yn y ddwy iaith a defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd. Ar y cyd â Chyngor y Gweithlu Addysg, Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru a darparwyr addysg gychwynnol i athrawon, rydym yn parhau i ddatblygu ffyrdd arloesol o gynyddu nifer yr athrawon sy’n gallu gweithio yn y sector cyfrwng Cymraeg. Mae’r sylfeini wedi cael eu gosod drwy roi 'Cenhadaeth ein cenedl' ac 'Y Gymraeg mewn addysg, Cynllun gweithredu 2017–21' ar waith.

Byddwn yn ymgynghori ar ddynodiad ysgolion o ran eu cyfrwng cyfarwyddo yn ystod 2020/21; bydd hyn yn sicrhau dealltwriaeth gyffredin o gynnydd a chanlyniadau disgwyliedig.

Mae pandemig COVID-19 wedi ein hatgoffa am rôl bwysig rheini/gofalwyr o ran cefnogi addysg ein plant, ond hefyd yr angen am becyn o gymorth sydd wedi’i deilwra i rieni/gofalwyr y mae eu plant yn derbyn addysg Gymraeg ond nad ydynt yn siarad Cymraeg eu hunain o bosibl. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu’r cymorth hwn yn 2020 i 2021.

Er mwyn cefnogi 'Cenhadaeth ein cenedl' a’r rôl y bydd y Gymraeg yn ei chwarae, byddwn yn parhau i weithio ym mhob rhan o’r system addysg i gyflawni’r gorau i’n plant a’n pobl ifanc.

Yn ystod y cyfnod tan fis Medi 2021, byddwn yn:

  • ymchwilio i dechnegau trochi a ddefnyddir ar hyn o bryd ynghyd â’r ymchwil academaidd genedlaethol a rhyngwladol ddiweddaraf er mwyn cefnogi arferion gorau mewn modelau cyfrwng Cymraeg a modelau dwyieithog
  • ystyried rôl canolfannau trochi ieithyddol hwyr wrth gefnogi’r sector cyfrwng Cymraeg ac a ddylai cymorth o’r fath fod ar gael ym mhob awdurdod lleol
  • ymgynghori ar y ffordd y caiff ysgolion eu dynodi o ran eu cyfrwng cyfarwyddo
  • ehangu argaeledd E-sgol i bob ysgol gyfun Gymraeg
  • ystyried rôl bosibl y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i gefnogi’r gwaith o addysgu’r Gymraeg mewn ysgolion, ac ystyried y llwybrau dysgu iaith o ysgolion i addysg ôl-16 ac ôl-18 i fyfyrwyr sy’n astudio’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg
  • adeiladu ar y cymorth sydd ar gael i rieni/gofalwyr y mae eu plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg a’i wella
  • datblygu fframwaith newydd ar gyfer cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg gan blant a phobl ifanc

Cenedlaethau’r dyfodol

Mae cenedlaethau’r dyfodol yn haeddu’r gorau ac, yng Nghymru, mae gennym Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i’n cefnogi yn hyn o beth.

Nododd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 bum egwyddor ar gyfer gweithio. Mae’r broses o roi Cenhadaeth ein cenedl ar waith wedi datblygu ochr yn ochr â’r Ddeddf ac mae’n parhau i ddefnyddio’r egwyddorion hynny gan sicrhau’r canlynol:

  • dull hirdymor drwy ddatblygu cwricwlwm sy’n torri tir newydd wrth gynnal ffocws tymor byrrach sy’n dangos gwelliannau a chanlyniadau arholiadau
  • ataliaeth – ein ffocws parhaus ar flynyddoedd cynnar hollbwysig y Cyfnod Sylfaen, gofal cofleidiol ar gyfer y diwrnod ysgol, gwaith ieuenctid ac ymyriadau i gefnogi teuluoedd gyda’n rhaglen prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau’r haf; wrth wraidd y cyfan mae ein proses o roi’r ddeddfwriaeth ADY ar waith fel y gall pob dysgwr gyflawni ei botensial
  • integreiddio drwy ddull traws-sector a system gyfan sy’n allweddol i’r partneriaethau bywiog sydd gennym drwy’r sector addysg
  • cydweithio sy’n parhau i ymestyn y prosesau cyd-awduro sydd wrth wraidd datblygu a hyrwyddo’r gweddnewidiad sydd ei angen o fewn cymdeithas ehangach a fydd yn parhau i herio ein ffordd o feddwl
  • cyfranogiad gan ystod eang o bartneriaid, rhieni/gofalwyr a busnesau, a chyfranogiad gweithredol y proffesiwn addysgu sy’n rhan hollbwysig o’n cenhadaeth.

Bydd rhoi 'Cenhadaeth ein cenedl' ar waith yn cyfrannu at y newid a ragwelwyd gan y Ddeddf, gan ddangos datblygiad Cymru mewn cyd-destun byd-eang.

Casgliad

Fel rhan o strategaeth 'Cenhadaeth ein cenedl' rydym wedi codi safonau i bawb, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad, ac mae gennym fwy o falchder a hyder yn ein system addysg.

Dros y pedair blynedd diwethaf, rydym wedi gweld y cyrhaeddiad gorau erioed gan fyfyrwyr; dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig yn dal i fyny â’u cyfoedion; ein sgoriau PISA gorau; mwy o fuddsoddiad yn ein hathrawon nag erioed o’r blaen; gwaith sylweddol i ddatblygu sgiliau digidol; miloedd o ddysgwyr ac athrawon yn cael budd o adeiladau ysgol newydd a band eang cyflym iawn; cymorth newydd ar gyfer arweinwyr presennol ac arweinwyr y dyfodol; rhaglenni wedi’u targedu ar gyfer ein dysgwyr mwy galluog a thalentog; lleihad ym maint dosbarthiadau; a llawer mwy.

Rydym wedi cyflawni hyn i gyd gyda’n gilydd, a gwnaethom wynebu heriau COVID-19 gyda’n gilydd, ac rydym yn parhau i wneud hynny. Bydd newidiadau technolegol ac economaidd parhaus yn ein profi hefyd, ond gallwn fod yn hyderus bod ein diwygiadau yn rhoi’r cyfle gorau i’n pobl ifanc a’n system addysg ffynnu.

Mae cyfrifoldeb cyfunol arnom o hyd i ysbrydoli ac ennyn diddordeb y genhedlaeth nesaf o ddysgwyr er mwyn cael Cymru fwy ffyniannus a chyfartal. Cenhadaeth ein cenedl yw sicrhau ein bod yn cyflawni’r holl bethau hyn i bob dysgwr, ym mhob ysgol, ym mhob cwr o Gymru.

Kirsty Williams AS

Y Gweinidog Addysg

“Gallwn fod yn hyderus bod ein diwygiadau yn rhoi’r cyfle gorau i’n pobl ifanc a’n system addysg ffynnu.” Kirsty Williams, Y Gweinidog Addysg.

Rhagor o wybodaeth

Mae Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl, Cynllun gweithredu 2017–21 (2017) yn nodi sut y bydd y system ysgolion yng Nghymru, gan gynnwys sefydliadau chweched dosbarth, yn symud ymlaen yn ystod y cyfnod tan 2021 er mwyn sicrhau y caiff cwricwlwm newydd – Cwricwlwm i Gymru – ei roi ar waith yn effeithiol.

Mae Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol (2017) yn nodi’r nod hirdymor o adeiladu Cymru iach ac egnïol, ffyniannus a diogel, uchelgeisiol ac sy’n dysgu, unedig a chysylltiedig.  

Roedd Addysgu Athrawon Yfory: Opsiynau ynglŷn â dyfodol addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru (2015) yn amlinellu cynigion yr Athro John Furlong ar gyfer diwygio AGA.

Roedd y Model cenedlaethol ar gyfer gweithio’n rhanbarthol yn amlinellu egwyddorion i weddnewid y broses o wella ysgolion yng Nghymru.  

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn nodi nodau lles clir ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.

Mae’r Cytundeb Blaengar yn amlinellu’r blaenoriaethau cyffredin a’r blaenoriaethau addysg y cytunwyd arnynt gan y Prif Weinidog a’r Gweinidog Addysg.