Neidio i'r prif gynnwys

Manylion yr adroddiad

Mae'r adroddiad thematig hwn wedi'i ysgrifennu mewn ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn ei llythyr cylch gwaith i Estyn ar gyfer 2025 i 2026. 

Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar addysgu a dysgu gwyddoniaeth mewn ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac ysgolion pob oed yng Nghymru ar draws yr ystod oedran 7 i 16 oed. Nod yr adroddiad yw rhoi cipolwg ar y cryfderau a'r meysydd i'w gwella o ran sut mae ysgolion yn addysgu ac yn cynllunio ar gyfer gwyddoniaeth. Mae'n tynnu sylw at enghreifftiau o arferion effeithiol yn yr ysgolion yr ymwelwyd â nhw ac yn darparu cymorth i athrawon ac arweinwyr i werthuso darpariaeth eu hysgolion ar gyfer gwyddoniaeth yn rhan o’r Cwricwlwm i Gymru.

Crynodeb o'r prif ganfyddiadau

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at enghreifftiau o ymarfer effeithiol yn y cyfnodau cynradd ac uwchradd lle mae ysgolion wedi cynllunio cwricwlwm gwyddoniaeth cydlynol, wedi cryfhau arbenigedd pwnc ac wedi cefnogi dysgwyr i ddyfnhau eu dealltwriaeth o gysyniadau gwyddonol dros amser. 

Fodd bynnag, mae ansawdd y ddarpariaeth ar gyfer gwyddoniaeth yn anghyson ar draws yr ysgolion yr ymwelwyd â nhw. Gwelwyd gormod o achosion lle roedd gwendidau o ran cynllunio, addysgu ac asesu’r cwricwlwm yn cyfyngu ar gynnydd dysgwyr, yn enwedig wrth ddatblygu dealltwriaeth gysyniadol ddiogel a rhesymu gwyddonol. Mae trefniadau i gefnogi dilyniant rhwng y cynradd a’r uwchradd yn aml heb eu datblygu’n ddigonol, gan arwain at ailadrodd, bylchau yn y dysgu a her anghyson.

Mae'r adroddiad yn gwerthuso pedwar maes allweddol. Mae crynodebau byr ohonynt fel a ganlyn:

Gwyddoniaeth yn y cyfnod cynradd

Mae'r rhan fwyaf o ysgolion cynradd yn darparu gwyddoniaeth ddifyr gyda dilyniant clir a chyd-destunau o’r byd go iawn. Fodd bynnag, mewn rhai ysgolion, mae statws pwnc isel, cynllunio dilyniant gwan, ac asesu heb ddatblygu digon yn cyfyngu ar ddealltwriaeth dysgwyr o gysyniadau gwyddonol a chynnydd dros amser.

Gwyddoniaeth yn y cyfnod uwchradd

Mae'r rhan fwyaf o ysgolion uwchradd yn strwythuro gwyddoniaeth yn ôl disgyblaeth, gan gefnogi cwmpas ac arholiadau, gyda dysgu cadarn yn meithrin dealltwriaeth. Fodd bynnag, mae cynllunio gwannach, amser cyfyngedig, problemau staffio, a chydweithio gwael â’r cynradd yn rhwystro cynnydd a chysondeb, yn enwedig ym Mlynyddoedd 7 i 9.

Deall dilyniant mewn gwyddoniaeth

Ar draws y cyfnodau, dim ond rhai ysgolion sy'n cynllunio dilyniant yn effeithiol trwy ddulliau a rennir. Yn y mwyafrif o ysgolion, mae cynllunio dilyniant gwan, trin camsyniadau yn adweithiol, ac asesu anghyson yn cyfyngu ar ddealltwriaeth o sut mae gwybodaeth dysgwyr yn datblygu dros amser.

Arwain a gwella gwyddoniaeth

Mae arweinyddiaeth gadarn yn gwella gwyddoniaeth trwy flaenoriaethu, amser wedi’i warchod a dysgu proffesiynol. Fodd bynnag, mae llawer o ysgolion yn canolbwyntio gormod ar y ddarpariaeth yn hytrach nag effaith, tra bo prinder staffio, yn enwedig mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg, yn parhau i effeithio ar ansawdd a chysondeb.

Y neges gyffredin ar draws y pedwar maes allweddol yw bod cynllunio anghyson, asesu cyfyngedig, a heriau staffio neu gapasiti yn arwain at brofiadau amrywiol i ddysgwyr ac yn rhwystro datblygu dealltwriaeth wyddonol ddofn dros amser.

Argymhellion

Argymhellion ar gyfer ysgolion

Argymhelliad 1

Gwella ansawdd yr addysgu mewn gwyddoniaeth trwy gryfhau gwybodaeth bwnc addysgegol athrawon.

Argymhelliad 2

Cryfhau cynllunio’r cwricwlwm i sicrhau bod dysgu gwyddoniaeth yn gydlynus, gan alluogi disgyblion i adeiladu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth yn systematig dros gyfnod tra’n datblygu annibyniaeth, rhesymu gwyddonol a dealltwriaeth gysyniadol ddyfnach.

Argymhelliad 3

Cryfhau prosesau arwain a gwella mewn gwyddoniaeth fel bod arweinwyr yn gwerthuso effaith y ddarpariaeth ar ddysgu disgyblion ac yn sicrhau bod digon o amser, arbenigedd a chymorth yn cael eu dyrannu i’r pwnc.

Argymhelliad 4

Cryfhau cydweithio rhwng cydweithwyr cynradd ac uwchradd i gytuno a gweithredu disgwyliadau cwricwlaidd ar y cyd mewn gwyddoniaeth, gan wella cydlyniant, dilyniant a pharhad yn nysgu disgyblion.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am drefniadau gwella ysgolion lleol. Fodd bynnag, mae gennym raglenni a ariennir gan grant a fydd yn cefnogi ymarferwyr i gryfhau eu gwybodaeth bwnc addysgegol ac mae Dysgu hefyd yn cyfrannu at gefnogi datblygiad parhaus gwybodaeth addysgegol.

Rydym yn ymwybodol o'r heriau y mae dysgwyr yn eu hwynebu yn y blynyddoedd pontio. Bydd nodi ffyrdd o fynd i'r afael â'r heriau hyn yn rhan allweddol o'n polisi gwyddoniaeth yn nhymor y Senedd hon.

Fel rhan o Raglen Cymorth Grant y Cwricwlwm i Gymru, dyfarnwyd £20 milliwn o gyllid grant yn 2025 i ddarparu cymorth cenedlaethol ar lythrennedd a rhifedd dros gyfnod o 3 blynedd. Mae sylfaen gadarn mewn llythrennedd a rhifedd yn bwysig i helpu ein dysgwyr i wneud cynnydd mewn gwyddoniaeth.

Argymhellion ar gyfer awdurdodau lleol a gwasanaethau gwella ysgolion

Argymhelliad 5

Cryfhau dysgu proffesiynol sy’n benodol i wyddoniaeth i wella gwybodaeth bwnc athrawon, yn cynnwys cymorth targedig ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg ac athrawon anarbenigol.

Argymhelliad 6

Gwella cydweithio mewn clystyrau fel bod ysgolion yn datblygu dealltwriaeth ar y cyd o ddilyniant ac yn sicrhau parhad llyfnach mewn dysgu o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.

Argymhelliad 7

Sefydlu rhwydweithiau dysgu proffesiynol rhanbarthol mewn ffiseg a chemeg i feithrin gallu arbenigol, yn enwedig mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am drefniadau gwella ysgolion lleol, gan ddarparu perchnogaeth ac atebolrwydd wedi’u diffinio. Fel rhan o'r newidiadau i'r trefniant gwella ysgolion, mae'r cyllid cymorth ar gyfer dysgu proffesiynol cyfrwng Cymraeg wedi'i reoli'n ganolog, gyda chefnogaeth yn cael ei darparu drwy Cydag. O fis Medi 2026, bydd hyn yn trosglwyddo i Dysgu ar gyfer darparu cymorth penodol i ymarferwyr cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys datblygu eu gwybodaeth bwnc.

Byddwn yn cydweithio ag awdurdodau lleol a phartneriaethau gwella ysgolion i nodi dulliau priodol o gefnogi'r gwaith o gyflawni'r argymhellion hyn.

Mae ein rhaglenni presennol a ariennir gan grant yn mynd i'r afael â'r angen i ddarparu cymorth ychwanegol i ymarferwyr mewn ffiseg a chemeg. Mae rhwydweithiau cymheiriaid yn parhau i gynnig cefnogaeth werthfawr i ymarferwyr.

Argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru

Argymhelliad 8

Darparu cyfeiriad clir i Dysgu a phartneriaid eraill ar gyfer datblygu dysgu proffesiynol sy’n benodol i wyddoniaeth, i ddarparu rhaglen gymorth gynaledig ar gyfer yr holl athrawon gwyddoniaeth, yn cynnwys y rhai sy’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Argymhelliad 9

Cefnogi disgwyliadau uchel mewn gwyddoniaeth, datblygu diffiniadau cliriach o ddilyniant sy’n amlinellu sut dylai gwybodaeth, medrau ymholi a dealltwriaeth gael eu datblygu a’u dilyniannu ar draws sectorau.

Argymhelliad 10

Cryfhau dulliau ar lefel system i fynd i’r afael â phrinderau athrawon gwyddoniaeth a meithrin gallu athrawon sy’n siarad Cymraeg i addysgu gwyddoniaeth â hyder a rhuglder.

Argymhelliad 11

Cryfhau darpariaeth gwyddoniaeth cyfrwng Cymraeg trwy wella cyfleoedd i ddefnyddio adnoddau Cymraeg o ansawdd uchel, gweithio gyda phartneriaid cenedlaethol fel Adnodd, a chefnogi cysondeb mewn terminoleg wyddonol a dysgu proffesiynol sy’n benodol i bwnc.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Rydym yn derbyn yr argymhellion hyn.

Rydym yn darparu £1.8 miliwn o gyllid grant i'r Sefydliad Ffiseg, Cymdeithas Frenhinol Cemeg a Science Made Simple fel rhan o Raglen Cymorth Grant y Cwricwlwm i Gymru. Mae eu rhaglen 'Hybu addysg wyddoniaeth yng Nghymru' yn darparu cymorth i wella deilliannau addysgu a dysgu gwyddoniaeth mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae'r rhaglen yn cryfhau gwybodaeth bwnc a gwybodaeth addysgegol ymarferwyr, yn ogystal â meithrin hyder trwy ddatblygiad proffesiynol a mentora a hyfforddi arbenigol, gydag adnoddau wedi'u teilwra a rhwydweithiau cymheiriaid ar gael.

Ar draws y Rhaglen Cymorth Grant hyd at fis Mawrth 2028, rydym wedi dyrannu £20 miliwn i gefnogi rhaglenni llythrennedd a rhifedd, a bron i £10 miliwn i gefnogi'r gwyddorau, mathemateg a dysgu digidol.

Argymhelliad 8: mae cyllid yn cael ei ddyrannu i Dysgu, ein corff cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth, i ddatblygu dysgu proffesiynol gwybodaeth bwnc, yn enwedig ar gyfer ymarferwyr uwchradd nad oes ganddynt arbenigedd. Ar hyn o bryd rydym hefyd yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ac arbenigwyr i gasglu tystiolaeth o'r dirwedd wyddoniaeth yng Nghymru ac i ddeall yr heriau sy'n wynebu ymarferwyr a dysgwyr. Bydd hyn yn llywio darpariaeth y dyfodol sydd i'w harwain gan Dysgu.

Argymhelliad 9: mae'r llywodraeth hon wedi ymrwymo i adolygu gwybodaeth yn y cwricwlwm a chryfhau dilyniant a byddwn yn ystyried hyn maes o law. Bydd gweithio mewn partneriaeth effeithiol gyda Dysgu yn cefnogi dysgu a rhwydweithiau proffesiynol penodol i bwnc. Bydd hyn yn ein galluogi ni i gefnogi dealltwriaeth o ddilyniant mewn gwyddoniaeth, gan gynnwys sut mae gwybodaeth, sgiliau ymholi a dealltwriaeth yn datblygu. Bydd hyn yn cefnogi dylunio cwricwlwm ac addysgeg i helpu dysgwyr i wneud cysylltiadau ystyrlon a chynhwysol yn eu dysgu gwyddoniaeth dros amser. 

Argymhelliad 10: rydym yn ymwybodol o heriau penodol wrth ddarparu gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, a hynny o ran recriwtio, hyder ymarferwyr a darparu adnoddau. Yn ystod 2025 i 26 rydym wedi ariannu Cydag i ddarparu dysgu proffesiynol ar wybodaeth bwnc mewn mathemateg a'r gwyddorau i uwchsgilio athrawon presennol. Bydd Dysgu yn gyfrifol am ddatblygu a darparu cymorth arbenigol wrth symud ymlaen, fel yr amlinellir uchod. Hefyd, fel rhan o'n grant capasiti ar gyfer ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg, mae prosiectau tymor byr wedi'u hariannu i alluogi ymarferwyr i rannu arferion, yn enwedig mewn pynciau â phrinder. 

Fel rhan o weithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg, byddwn yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i wella cynllunio'r gweithlu i lywio ein camau gweithredu i gefnogi recriwtio a chadw staff, yn enwedig mewn pynciau uwchradd â phrinder. Rydym hefyd yn parhau i archwilio llwybrau at statws athro cymwysedig i ehangu hygyrchedd i ddarpar athrawon posibl, ac wedi cynyddu ein cymhelliant ar gyfer pynciau blaenoriaeth i ddenu athrawon newydd.

Rydym am feithrin hyder a rhuglder yr holl ymarferwyr i addysgu gwyddoniaeth, ochr yn ochr â chamau ehangach i gryfhau arbenigedd pwnc. Mae cefnogi addysgu a dysgu cyfrwng Cymraeg yn elfen annatod o'n dull gweithredu ni.

Argymhelliad 11: byddwn yn gweithio gydag Adnodd i archwilio'r gwaith o ddatblygu rhagor o adnoddau Cymraeg ym maes gwyddoniaeth.

Manylion cyhoeddi

Mae'r adroddiad llawn ar gael ar wefan Estyn, ac fe'i cyhoeddwyd ar 17th June 2026.