Neidio i'r prif gynnwy

Manylion yr adroddiad

Ysgrifennwyd yr adroddiad thematig hwn mewn ymateb i gais am gyngor gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar y pryd, Jeremy Miles AS, yn ei lythyr cylch gwaith at Estyn ar gyfer 2023 i 2024. Dyma'r ail adolygiad thematig ar addysgu ac mae'n adeiladu ar ein canfyddiadau o'r adolygiad thematig cyntaf, Gwella Addysgu (Estyn, 2018). Mae'n seiliedig ar dystiolaeth ynghylch yr ystod oedran oedd yn gweithio o fewn y Cwricwlwm i Gymru ar y pryd, sef hyd at Flwyddyn 9 mewn ysgolion uwchradd ar adeg yr adroddiad hwn.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at rôl ganolog addysgu o ran gwireddu nodau’r Cwricwlwm i Gymru ac o ran sicrhau deilliannau gwell i ddisgyblion, gan bwysleisio pwysigrwydd rhoi addysgeg wrth wraidd gwelliant addysgol a galw ar ysgolion, awdurdodau lleol a phartneriaid cenedlaethol i gynnal ffocws cryf ar addysgu o ansawdd uchel.

Crynodeb o'r prif ganfyddiadau

Er mwyn rhoi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith yn effeithiol rhaid sicrhau addysgu o ansawdd uchel sy'n cyd-fynd â'r pedwar diben. Rhaid i ysgolion ddatblygu gweledigaeth glir, gyffredin ar gyfer addysgu sy'n adlewyrchu nodau ac egwyddorion addysgegol y cwricwlwm. Dylai cynllun y cwricwlwm fod yn gydlynol, mewn trefn ac ymateb i anghenion dysgwyr. Disgwylir i ysgolion gynllunio ar gyfer dysgu sy'n adeiladu'n raddol ar wybodaeth flaenorol gan alluogi’r hyn a ddysgwyd i gael ei gymhwyso mewn cyd-destunau ystyrlon. 

Dylai’r dysgu fod wedi'i wreiddio mewn cyd-destunau go iawn, lleol a diwylliannol berthnasol er mwyn meithrin ymgysylltiad a hunaniaeth. Anogir ysgolion i ddefnyddio'r cysyniad o Cynefin i gysylltu dysgwyr â'u cymunedau a'u treftadaeth. Dylai’r asesu ganolbwyntio ar gynnydd mewn gwybodaeth a sgiliau, nid ar y pedwar diben yn unig. Gallai camddefnyddio'r pedwar diben ar lefel gwersi arwain at ddysgu arwynebol. 

Mae dysgu proffesiynol cyson a chydweithredol yn fwyaf effeithiol pan fydd yn canolbwyntio'n uniongyrchol ar wella addysgu. Mae ysgolion lle mae dysgu proffesiynol yn cael ei flaenoriaethu a'i alinio ag anghenion datblygu’r ysgol gyfan ac unigolion yn tueddu i weld mwy o effaith ar ansawdd addysgu a deilliannau dysgwyr. Mae arweinyddiaeth yn chwarae rhan allweddol wrth feithrin diwylliant lle mae staff yn cael eu cefnogi i ddysgu a myfyrio yn barhaus.

Fodd bynnag, gall cyfyngiadau amser a chyllideb gyfyngu ar argaeledd ac effeithiolrwydd dysgu proffesiynol, gyda rhai staff yn dweud nad oes llawer o gyfle i ganolbwyntio ar addysgeg. Mae hyn yn arbennig o heriol i'r rhai sydd angen datblygiad parhaus, wedi'i deilwra.

Ar draws y system, mae cydnabyddiaeth gynyddol o werth cydweithredu â chymheiriaid i ysgogi gwelliant. Mae ysgolion sydd â diwylliant o ddeialog broffesiynol a rhannu cyfrifoldeb am ansawdd addysgu mewn sefyllfa well i gefnogi gwelliant parhaus.

Mae hunanwerthuso effeithiol yn rhan annatod o gynllunio gwelliant, gyda'r ysgolion mwyaf llwyddiannus yn canolbwyntio ar effaith addysgu ar gynnydd disgyblion. Lle mae hunanwerthuso yn llai effeithiol, mae'n tueddu i roi pwyslais ar gydymffurfiaeth yn hytrach na gwerthusiad ystyrlon o ddulliau addysgu, gan arwain at arferion anghyson a gwelliant cyfyngedig.

Argymhellion ar gyfer ysgolion

Dylai ysgolion: 

  • Ddatblygu a chyfleu gweledigaeth glir, ysgol gyfan ar gyfer addysgu effeithiol sy’n cael ei deall a’i chymhwyso’n feddylgar gan yr holl staff
  • Sicrhau bod cynllunio cwricwlwm wedi’i roi mewn trefn, yn gydlynol ac yn caniatáu i ddisgyblion ailedrych ar wybodaeth a medrau sydd wedi’u nodi’n glir, a’u cymhwyso, mewn profiadau sydd â chyd-destun cyfoethog dros gyfnod
  • Rhoi blaenoriaeth i ddysgu proffesiynol cynaledig, cydweithredol sy’n canolbwyntio ar wella addysgeg ac sydd wedi’i seilio ar arfer yn yr ystafell ddosbarth a’i heffaith ar ddysgu
  • Sicrhau bod prosesau hunanwerthuso’n canolbwyntio’n fanwl ar ansawdd yr addysgu wedi’i werthuso yn ôl ei effaith ar gynnydd disgyblion
  • Ymwreiddio cymorth ac anogaeth barhaus a strwythuredig rhwng cymheiriaid i hybu deialog broffesiynol, myfyrio a gwella ar y cyd 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu argymhellion Estyn.

Mae'r model Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu yn darparu fframwaith i ysgolion ddod yn gymunedau dysgu deinamig, sy’n gwella eu hunain. Mae saith dimensiwn gweithredu'r model yn hyrwyddo diwylliant o gydweithio, ymholi a gwella parhaus, gan roi pedwar diben y cwricwlwm wrth wraidd datblygiad ysgolion. Dylai ysgolion fod yn datblygu ac yn hyrwyddo diwylliant o addysgu effeithiol gan ddefnyddio'r model hwn. 

Mae dysgu proffesiynol cydweithredol parhaus yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Gan weithio'n agos gyda Dysgu, ein corff cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth, a'n partneriaid, byddwn yn helpu ein hymarferwyr i barhau i ddatblygu eu dealltwriaeth o addysgeg effeithiol trwy arweiniad cenedlaethol a chyfleoedd dysgu proffesiynol. Bydd ein cynnig cenedlaethol yn canolbwyntio ar wella addysgeg sy'n seiliedig ar ymarfer yn yr ystafell ddosbarth a'i effaith ar ddysgu. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod yr holl staff yn deall ac yn cymhwyso egwyddorion addysgu effeithiol yn gyson ar draws yr ysgol. 

Bydd y gwaith o drefnu'r cwricwlwm yn cael ei gefnogi drwy'r rhaglen gymorth genedlaethol sy'n pwysleisio cysondeb, cynnydd a phrofiadau dysgu ystyrlon. Bydd hyn yn galluogi dysgwyr i ailymweld a chymhwyso gwybodaeth a sgiliau allweddol dros amser.

Byddwn yn cryfhau arferion hunanwerthuso ac adolygu datblygiad proffesiynol, a fydd yn helpu ysgolion ac ymarferwyr i ganolbwyntio ar ansawdd yr addysgu a'i effaith ar gynnydd dysgwyr. Bydd hyn yn cefnogi gwerthusiad mwy pwrpasol sy’n canolbwyntio ar wella.

Byddwn yn parhau i ymgorffori cymorth a hyfforddiant gan gymheiriaid trwy raglenni a rhwydweithiau cenedlaethol. Bydd y rhain yn annog deialog broffesiynol, myfyrio, a gwelliant a rennir ar draws y system.

Argymhellion ar gyfer awdurdodau lleol a phartneriaethau

Dylai awdurdodau lleol a phartneriaethau:

  • Gryfhau ymagweddau at ddysgu proffesiynol sy’n benodol i bynciau a chyfnodau sy’n rhoi blaenoriaeth i addysgu o ansawdd uchel ac sydd wedi’u teilwra i gwricwlwm ac anghenion addysgegol ysgolion
  • Cryfhau’r cymorth ar gyfer arwain hunanwerthuso mewn ysgolion er mwyn sicrhau ei fod yn canolbwyntio’n fanwl ar wella addysgu a’i effaith ar gynnydd disgyblion 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r argymhellion ac yn cydnabod rôl hanfodol awdurdodau lleol a phartneriaethau wrth gefnogi addysgu a dysgu o ansawdd uchel ledled Cymru. 

Bydd gan Dysgu rôl allweddol wrth weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaethau i gryfhau dysgu proffesiynol sy’n benodol i bynciau a chyfnodau. Bydd hyn yn sicrhau bod datblygu proffesiynol wedi'i deilwra i ddiwallu anghenion cwricwlwm ac addysgegol ysgolion ac wedi'i seilio ar ymarfer yn yr ystafell ddosbarth. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i gynyddu'r gefnogaeth ar gyfer arweinyddiaeth hunanwerthuso mewn ysgolion a bydd Dysgu yn datblygu ystod o gefnogaeth i'n harweinwyr. 

Bydd ein Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg yn nodi sut y byddwn yn hyrwyddo ffocws cliriach ar wella addysgu a'i effaith ar gynnydd dysgwyr.

Argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru

Dylai Llywodraeth Cymru: 

Sicrhau bod cyfleoedd dysgu proffesiynol cenedlaethol wedi’u seilio ar ymchwil addysgol o ansawdd uchel, yn ymarferol berthnasol yn yr ystafell ddosbarth ac wedi’u llunio i feithrin arbenigedd addysgegol athrawon dros gyfnod 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad hwn.

Mae ein Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad Addysgol yn amlinellu ein nod y dylai polisi ac ymarfer addysg yng Nghymru gael eu llywio gan y dystiolaeth ymchwil orau a’r ymholiad disgybledig a wneir gan weithwyr proffesiynol addysgol. Rydym yn gweithio'n agos gyda'n prifysgolion ar nifer o raglenni i sicrhau ein bod yn meithrin gallu ymchwil yng Nghymru ac yn datblygu sgiliau ymchwil ac ymholi ein hymarferwyr.

Cefydlwyd Dysgu i ddatblygu a darparu cyfleoedd datblygu proffesiynol cyson, o ansawdd uchel, sydd ar gael yn genedlaethol i'n hymarferwyr mewn ysgolion. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i Dysgu weithio gyda'n prifysgolion a phartneriaid eraill i sicrhau bod yr holl ddysgu proffesiynol a ddarperir wedi'i seilio ar ymchwil addysgol o ansawdd uchel. Rydym hefyd eisiau i'r dysgu proffesiynol fod yn ymarferol ac yn bwrpasol fel y gall ymarferwyr gymhwyso’r hyn a ddysgwyd yn yr ystafell ddosbarth.

Byddwn yn gweithio ar y cyd ag Estyn, awdurdodau lleol, Dysgu ac ymarferwyr i sefydlu dealltwriaeth glir, gyffredin o’r hyn sy’n cyfrif fel dysgu proffesiynol o ansawdd uchel a sut y dylid mesur effaith dysgu proffesiynol.

Dylai Llywodraeth Cymru: 

Ystyried strategaethau i wella’r amser a’r hyblygrwydd sydd ar gael i ysgolion ar gyfer dysgu proffesiynol o ansawdd uchel sy’n cefnogi gwelliannau mewn addysgu yn uniongyrchol

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad hwn.

Rydym yn cydnabod bod pwysau llwyth gwaith yn rhwystr sylweddol rhag cymryd rhan mewn dysgu proffesiynol. Bydd ein Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg yn nodi’r camau y byddwn yn eu cymryd gyda'n partneriaid i fynd i'r afael â llwyth gwaith. Byddwn yn gweithio gydag ymarferwyr, awdurdodau lleol ac undebau ein gweithlu addysg i gyd-ddatblygu atebion sy'n darparu mwy o amser a hyblygrwydd i ysgolion. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar Ddiwrnod HMS ychwanegol arall ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026 i ysgolion ei ddefnyddio i alluogi ymarferwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu proffesiynol. Dyma'r 7fed flwyddyn yn olynol i ddiwrnod ychwanegol gael ei ddarparu. Rydym wedi comisiynu ymchwil annibynnol i gyfrannu at gynigion ar gyfer HMS yn y dyfodol.

Yn ogystal, mae pob ysgol yn derbyn cyllid fel rhan o'r grant dysgu proffesiynol, sy’n gyfanswm o £13.5m yn 2025 i 2026. Prif bwrpas y grant yw creu amser mewn ysgolion i bob ymarferydd ddatblygu ei sgiliau a'i ymarfer i ddarparu addysgu a dysgu o ansawdd uchel i bob dysgwr. Mae hefyd yn galluogi ysgolion i barhau i addasu a chael mynediad at y cymorth angenrheidiol, gan gynnwys y cymorth cenedlaethol sydd ar gael ar gyfer cyflawni’r Cwricwlwm i Gymru. Mae'r amodau cyllido yn ddigon hyblyg i alluogi ysgolion i weithio gyda'i gilydd mewn ffyrdd sy’n diwallu anghenion penodol eu lleoliadau eu hunain. 

Gan weithio gyda Dysgu, byddwn yn archwilio modelau hyblyg o ddarparu dysgu proffesiynol, gan gynnwys dysgu cyfunol ac anghydamserol trwy lwyfannau digidol, i gefnogi mynediad at ddysgu proffesiynol ar adegau sy'n gyfleus i ymarferwyr.

Dylai Llywodraeth Cymru: 

Cryfhau cyfleoedd i awdurdodau lleol, partneriaethau ac ysgolion gydweithio â’i gilydd i rannu arfer effeithiol, mireinio addysgeg a deall ei heffaith ar gynnydd disgyblion 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad hwn.

Rydym yn cydnabod bod addysgeg effeithiol, sydd wedi'i wreiddio yn yr egwyddorion addysgeg, yn hanfodol i gefnogi cynnydd dysgwyr a galluogi pob dysgwr i ffynnu. Er mwyn meithrin arbenigedd addysgegol a helpu i gyflawni'r cwricwlwm, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo datblygiad proffesiynol cydweithredol parhaus. 

Mae cydweithredu yn ganolog i'n dull o ddysgu proffesiynol a gwella ysgolion. Gan weithio gydag awdurdodau lleol a Dysgu byddwn yn gwella cyfleoedd ar gyfer deialog broffesiynol, dysgu gan gymheiriaid, a lledaenu ymarfer effeithiol.

Rydym yn gweithio gyda'n holl randdeiliaid i wella partneriaethau rhwng ysgolion, awdurdodau lleol, darparwyr addysg gychwynnol athrawon a chyrff cenedlaethol i greu ecosystem dysgu proffesiynol fwy cydlynol ac effeithiol. Mae hyn yn cynnwys gwella ansawdd lleoliadau a mentora ar gyfer myfyrwyr ac athrawon sydd newydd gymhwyso ac annog pobl i rannu’r hyn a ddysgwyd ar draws y system i helpu ymarferwyr i ddatblygu’n barhaus a rhoi'r cwricwlwm ar waith.

Dylai Llywodraeth Cymru: 

Cryfhau adnoddau cynllunio cwricwlwm er mwyn sicrhau bod gan athrawon ddealltwriaeth gliriach o gynnydd, yn enwedig mewn llythrennedd a rhifedd, ac i roi blaenoriaeth i ddatblygu arferion asesu ffurfiannol mwy effeithiol ac ystyrlon.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad hwn. 

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu adroddiad thematig Estyn a'i bwyslais ar rôl ganolog addysgu o ansawdd uchel wrth alluogi dysgu a gwireddu nodau’r Cwricwlwm i Gymru. Mae addysgu cadarn yn ddibynnol ar gynllunio cwricwlwm pwrpasol. Dylai cynllun y cwricwlwm fod yn gydlynol, mewn trefn ac ymateb i anghenion dysgwyr, ac mae llawer o enghreifftiau cadarnhaol o hyn trwy gydol yr adroddiad. Mae gwireddu rhyng-ddibyniaeth addysgeg a datblygiad plant yn effeithiol yn galluogi dysgu sy'n darparu sylfaen gadarn ar gyfer cynnydd dysgwyr. Rydym wedi ymrwymo i helpu ysgolion i gydnabod gwerth creu profiadau diddorol ac amgylcheddau effeithiol drwy'r canllawiau Galluogi Dysgu. 

Ym mis Mai 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ystod o offer a thempledi i ddarparu cymorth ymarferol i ysgolion a lleoliadau ar gyfer cynllunio cwricwlwm ac asesu. Mae'r adnoddau hyn yn rhan o'r Rhaglen Gymorth Genedlaethol ehangach ar gyfer Cynllunio Cwricwlwm ac Asesu, sy'n darparu rhagor o fanylion ac enghreifftiau o ddulliau gweithredu ar gyfer cynnydd ac asesu. Mae'r dysgu a'r offer o'r rhaglen hon yn cael eu rhannu yn genedlaethol a byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu cefnogaeth glir, syml sy'n adeiladu ar y dysgu hwn. Bydd dysgu proffesiynol sydd ar gael yn genedlaethol ar gyfer llythrennedd a rhifedd hefyd ar gael o hydref 2025 ymlaen. Bydd y gefnogaeth ymarferol hon ar gyfer cynllunio dysgu effeithiol mewn sgiliau defnyddiol yn helpu pob ymarferydd i alluogi cynnydd dysgwyr.

Bydd amrywiaeth o raglenni grant ar draws Cymru gyfan ar gyfer cynllunio cwricwlwm, llythrennedd a rhifedd yn gwella'r cymorth hwn, ochr yn ochr â chyhoeddi rhagor o fanylion ar gynnydd mewn llythrennedd a rhifedd i gefnogi cynllunio cwricwlwm ac asesu yn effeithiol ym mhob ysgol a lleoliad.

Manylion cyhoeddi

Mae'r adroddiad llawn ar gael ar wefan estyn ac fe'i cyhoeddwyd ar 11 Medi 2025.