Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r cylchlythyr hwn yn egluro sut mae’n rhaid i adeiladau newydd fodloni Rheoliad 25B o Reoliadau Adeiladu 2010 (fel y’u diwygiwyd).

Cylchlythyr reoliadau adeiladu

Rhif y Cylchlythyr: WGC 002/2021 Dyddiad cyhoeddi: 25/02/2021
Statws: Er gwybodaeth
Teitl:

Gofynion adeiladau bron di-ynni ar gyfer adeiladau newydd

Cyhoeddwyd gan: Francois Samuel: Pennaeth Rheoliadau Adeiladu
Cyfeiriwyd at: Anfonwch ymlaen at:

Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Cymdeithas Arolygwyr Cymeradwy Corfforaethol

Cyngor y Diwydiant Adeiladu

Fforwm Personau Cymwys

Swyddogion Rheoli Adeiladu'r Awdurdodau Lleol

 Aelodau’r Senedd
Crynodeb:
Mae hwn yn gylchlythyr sy’n egluro’r broses o weithredu’r gofynion ar gyfer adeiladau newydd er mwyn bodloni Rheoliad 25B o Reoliadau Adeiladu 2010 (fel y’u diwygiwyd), sy’n nodi y dylai pob adeilad newydd fod yn adeilad bron di-ynni o 31 Rhagfyr 2020.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Paul Keepins

Rheoliadau Adeiladu

Swyddfeydd Llywodraeth Cymru

Merthyr Tudful

CF48 1UZ

Llinell Uniongyrchol:

 
0300 062 8646
E-bost:
 
enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Gwefan:

 
https://llyw.cymru/adeiladu-a-chynllunio

Cyflwyniad

Bwriad y llythyr hwn yw egluro'r broses o weithredu gofynion adeiladau bron di-ynni ar gyfer adeiladau newydd, mewn perthynas â Rheoliad 25B o Reoliadau Adeiladu 2010 (ac eithrio adeiladau newydd o dan berchnogaeth a meddiant awdurdodau cyhoeddus, yr oedd yn ofynnol iddynt fod yn adeiladau bron di-ynni o 1 Ionawr 2019. Cafodd y broses o weithredu’r gofynion ar gyfer yr adeiladau hyn ei hamlinellu mewn cylchlythyr blaenorol).

Mae’r llythyr hwn yn amlinellu’r canllawiau ar gyfer adeiladau newydd, y mae’n ofynnol iddynt fodloni Rheoliad 25B o 31 Rhagfyr 2020.

Cwmpas

Mae’r canllawiau yn y Cylchlythyr hwn yn berthnasol i adeiladau a gwaith adeiladu yng Nghymru, ac eithrio adeiladau o dan berchnogaeth a meddiant awdurdodau cyhoeddus.

Rheoliad 25B

Mae Rheoliad 25B yn datgan: 'Pan fydd adeilad yn cael ei godi, mae'n rhaid iddo fod yn adeilad bron di-ynni'.’

Ar gyfer adeiladau newydd o dan berchnogaeth a meddiant awdurdodau cyhoeddus, y dyddiad ar gyfer Rheoliad 25B yn dod i rym yw 1 Ionawr 2019.

Ar gyfer pob adeilad newydd arall, y dyddiad ar gyfer Rheoliad 25B yn dod i rym yw 31 Rhagfyr 2020.

Cydymffurfio â Rheoliad 25B

Gellir cyrraedd y lefel ofynnol o gydymffurfio â'r gofyniad hwn trwy fodloni Targed y Gyfradd Allyriadau sy'n ofynnol o dan Reoliad 26, ac yn ychwanegol ar gyfer adeiladau nad ydynt yn adeiladau domestig, y Gyfradd Defnyddio Ynni Sylfaenol o dan Reoliad 26A.

Dylai'r rhai sy'n cynnal y gwaith hwn hefyd ddadansoddi ymarferoldeb technegol, amgylcheddol ac economaidd defnyddio systemau amgen effeithlonrwydd uchel, sy'n cynnwys systemau cyflenwi ynni wedi’u datganoli, yn seiliedig ar ynni o ffynonellau adnewyddadwy, ac ystyried hyn fel sy'n ofynnol yn ôl Rheoliad 25A.

Nodwch fod safonau’r Rheoliadau Adeiladau o ran effeithlonrwydd ynni yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Rydym wedi ymgynghori ynghylch gwelliannau dros dro sylweddol i’r safonau effeithlonrwydd ynni ar gyfer cartrefi newydd fel cam cyntaf tuag at safon Rhan L 2025. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn:

Adolygiad o Ran L a Rhan F o'r Rheoliadau Adeiladu – Cam 2A

Adolygiad Rhan L o reoliadau adeiladu

Ymholiadau

Dylid anfon unrhyw ymholiadau am y Cylchlythyr hwn at:

Francois Samuel, Rheoliadau Adeiladu, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.

Ffôn: 03000 628232.

E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru

Yn gywir,

Francois Samuel

Pennaeth Rheoliadau Adeiladu