Neidio i'r prif gynnwy

Ydych chi am fod yn fwy strategol? Ewch am dro!

Mae tystiolaeth gynyddol sy’n dangos y gall bod ym myd natur wella ein dealltwriaeth, y ffordd rydym yn meddwl a'r ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau, yn ogystal â gwneud cyfraniad sylweddol at ein hiechyd a llesiant cyffredinol. Dyma bedair ffordd y gallwch chi roi cynnig ar wneud hynny:

Ewch â'ch syniadau am dro

Pan fyddwch chi wedi bod yn eistedd wrth y ddesg, pen i lawr ac yn canolbwyntio'n galed, mynnwch seibiant. Ewch am dro byr, ystyriol a dod â'ch meddwl creadigol, strategol yn ôl i'r swyddfa gyda chi.

Byddwch yn weithredol mewn cyfarfodydd un i un

"Pan oeddwn i'n rheoli staff cynhaliais i nifer o gyfarfodydd â nhw yn yr awyr agored. Weithiau byddai un ohonyn nhw'n dod i'r gwaith mewn hwyliau eithaf swta a sarrug. Felly, byddwn i'n mynd ag ef i lawr y rhodfa ac yn ôl er mwyn iddo ddweud ei ddweud. Roedd yn cael hyn yn fuddiol iawn, a chytunon ni y byddai cyfarfodydd un i un rhyngon ni'n cael eu cynnal yn yr awyr agored lle roedd hynny'n ymarferol. Dywedodd wrtho' i fod cynnal cyfarfodydd o dan yr amodau hynny'n gwneud iddyn nhw deimlo'n llai ffurfiol, a'i fod yn teimlo'n fwy cyfforddus wrth siarad yn agored. Roedd fy rheolwr yn fodlon ar y dull hwn, gan ei fod ef hefyd yn gweld y manteision. Doedd un o’r staff ddim yr un mor gyfforddus â'r dull hwnnw, felly, gwnaethon ni fynd yn ôl i gynnal cyfarfodydd yn y gweithle. Roedd aelod arall o fy nhîm i'n hapus imi gynnal ein sgyrsiau rheoli perfformiad yn yr awyr agored."

Ewch ar daith feddwl gyda’ch tîm

"Rydyn ni'n dîm strategol sy'n edrych ar ddata, siartiau a 'sectorau' drwy'r dydd, bob dydd. Fel rhan o'n gwaith adeiladu tîm rydyn ni'n ceisio symud cyfarfodydd rhwng y gwahanol swyddfeydd mae'r tîm yn gweithio ynddyn nhw.  Ar gyfer y cyfarfod tîm yn Sir Benfro, penderfynon ni fod angen dianc o'r swyddfa ac edrych ar y tirweddau a'r ffordd mae pobl yn defnyddio'r tirweddau rydyn ni'n siarad amdanyn nhw yn ein gwaith.

Cynllunion ni daith gerdded ddwy awr. Yr awr gyntaf oedd ein hawr llesiant, lle gwnaethon ni gerdded a siarad, edrych ar y dirwedd a gwneud ychydig o waith botaneg hyd hyn oed, gan fod un aelod o'n tîm yn wybodus am y blodau arfordirol a oedd yn dechrau blodeuo.

Ar gyfer ail ran y daith, edrychon ni ar y dystiolaeth hanesyddol ynghylch sut roedd pobl yn defnyddio'r dirwedd yn y gorffennol. O lecyn ffafriol, roedden ni'n gallu dechrau edrych ar sut mae adnoddau naturiol yn cael eu defnyddio yn yr oes sydd ohoni, gan gynnwys cynefinoedd, ffermio, cymunedau a thwristiaeth. Gan fod yr ardal hon yn cynnwys morwedd hefydd, roedden ni'n gallu meddwl am bysgota a chynhyrchu pŵer. Er na ddaethon ni i unrhyw gasgliadau yn y fan a'r lle, roedd edrych ar y dirwedd a pha mor agos mae'r holl weithgareddau wedi'u cysylltu â'i gilydd yn ddigon i'n helpu ni i weld ein gwaith yn ei gyd-destun, a rhoi ffocws ymarferol i'r gweithgareddau rydyn ni'n siarad amdanyn nhw bob dydd.

Roedd yr adborth gan y tîm yn gadarnhaol iawn: dod â'r materion rydyn ni'n gweithio arnyn nhw'n fyw, deall sut mae tirweddau'n gweithredu fel system gymhleth, ac ailgysylltu â'r hyn rydyn ni'n ceisio ei gyflawni a'i ddeall yn ein gwaith."

Beth yw cysondeb?

"Rydym yn ymdrechu i gael cysondeb er mwyn sicrhau y gall pobl gael yr un disgwyliadau a phrofiad o gerdded ochr yn ochr â Chydlynydd Ardal Leol ni waeth pa gymuned y maen nhw’n byw ynddi. Rydym hefyd yn cydnabod yr amrywiaethau ym mhob person, pob aelod o’r tîm, pob cymuned a’r cydberthnasau dilynol rhyngddynt i gyd. Mae hyn yn golygu na ellir safoni’n aml. Mae’r pwyntiau isod wedi fy helpu i ddeall hyn yn y termau hyn.

Ronan Ruddy

Nid yw cysondeb yn golygu safoni.

Bydd prosiectau, gwasanaethau, adroddiadau a chamau gweithredu yn edrych ac yn teimlo’n wahanol mewn mannau gwahanol.

Rydym yn cyflawni cysondeb drwy:

  • adolygiad gan gymheiriaid i roi sicrwydd
  • cael cynllun egnïol sy’n glir o ran yr amcanion craidd a bod y camau cyntaf yn caniatáu i ni ymateb a bod yn hyblyg
  • pawb yn cofrestru ar gyfer y cynllun, yn rhannu gwaith dysgu ac yn adolygu cynnydd gyda’n gilydd yn rheolaidd
  • Dychwelyd i rannu ein diben a’n cymhelliant yn rheolaidd

Dros amser, bydd hyn yn creu cysondeb yn y meysydd canlynol:

  • Proses (meysydd craidd/hyblygrwydd)
  • Cywirdeb
  • Arddull yr iaith (caled/meddal)
  • Her fewnol
  • Gonestrwydd/disgrifio’r sefyllfa fel y mae
  • Defnyddio geirfa/terminoleg benodol

Caiff y rhain eu gwella drwy:

  • Rannu ‘y trywydd i’w dilyn’ (creu rhestr pwyntiau bwled gyda'ch gilydd)
  • Pan fydd rhanddeiliaid yn gofyn cwestiwn i chi ac nid ydych yn gwybod yr ateb, mae’n iawn i ddweud “Dydw i ddim yn gwybod; af ati i ddod o hyd i’r ateb’ neu ‘Dydw i ddim yn gwybod; beth ydych chi’n meddwl?’
  • Gofyn cwestiynau, dweud wrth bob sut rydych yn teimlo neu’r hyn rydych yn sylwi arno a gofynnwch iddynt am eu cwestiynau, eu meddyliau a’u teimladau, fel y gallwch ddeall beth i ofyn o’ch gilydd y tro nesaf.
  • Gwerthfawrogi amrywiaeth; cysoni yn hytrach na safoni!

Cynllunio eginol

Rydym yn sylweddoli'n raddol pa mor gynyddol gythryblus, ansicr, newydd ac amwys yw ein byd mewn gwirionedd (TUNA yn Saesneg). Nid yw bellach yn bosibl nac yn ddymunol cynllunio mewn ffyrdd cynhwysfawr, i amserlenni caeth ac yn seiliedig ar dargedau. Rhaid inni ddatblygu mecanweithiau cynllunio mwy hyblyg. Un ffordd o wneud hyn yw sefydlu a defnyddio cynllunio eginol.

"Bendant mae’r ffordd hon o weithio’n peri llai o straen (hyd yn oed i rywun sy'n hoffi cynllunio fel fi!) Mae'n debygol o arwain at lai o ohirio, oedi a diffyg hyder.

Sut mae cynllunio eginol yn wahanol i'r hyn roeddem yn arfer ei wneud?

Rydym yn dal i gasglu ac ystyried ystod eang o wybodaeth, ar y cyd â phobl eraill

Rydym yn dal i oedi i ystyried y wybodaeth hon yn drylwyr a defnyddio ein creadigrwydd

Ond…

Ond dim ond y camau cyntaf sydd i’w cymryd yr ydym yn eu nodi a’u disgrifio (un i dri)

Rydym yn dod yn ôl at ein gilydd yn rheolaidd yn ystod y camau hyn i ystyried cynnydd, i rannu dysgu ac i gytuno ar y camau nesaf; gan wneud addasiadau i gamau neu gytuno ar nifer fach o gamau newydd, cymharol uniongyrchol

Rydym wrth ein boddau yn craffu – yn creu trywydd archwilio clir wrth inni fynd yn ein blaenau, gan gasglu adborth, ei ystyried yn ofalus a rhoi syniadau newydd ar waith yn gyflym

…ac yn ailadrodd y broses….

O’r morthwyl i’r dawns…

Cydgynhyrchu a llywodraethu…

Setiau dysgu gweithredol ar gyfer llywodraethu

Pa egwyddorion all fod o gymorth?

Ffrydiau cyllid sy'n canolbwyntio ar y tymor hir a'r canlyniadau

Cydweithio a rhannu gwybodaeth wahanol (sy’n amherthnasol yn ôl pob golwg) 

Gwneud cysylltiadau a chynnwys pobl newydd yn ein trafodaethau

Rhoi pwyslais ar feithrin perthnasau drwy ddysgu drwy wneud

Gwneud amser i gael adborth o ymylon y system yr ydym yn gweithio ynddi

Dechrau

Yn aml, rydym yn wynebu nifer o senarios cymhleth posibl yn y dyfodol. Mae’n bosibl y bydd nifer fawr o bosibiliadau gwahanol ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol.

Edrychwch ar yr hyn a wyddoch am yr holl bosibiliadau hyn …

Beth yw’r camau i’w cymryd beth bynnag?

Dyma'r ychydig (iawn) o gamau a fyddai, pe baech yn eu cymryd, yn fwyaf tebygol o helpu ym mhob un o'r senarios a nodwyd.

Yna crëwch prototeip sy'n dod â'r rhain at ei gilydd.

Beth yw prototeip?

“Mae angen dau beth arnoch i ddechrau: canlyniad a cham cyntaf.”

Awdur anhysbys

Mae gennych eich canlyniad, eich gweledigaeth neu’ch gobaith ar gyfer y dyfodol ac yna mae gennych eich prototeip…

Mae prototeip yn gam gweithredu ymarferol y gellir ei brofi sy’n hoelio sylw ar ddysgu.

Mae prototeip yn trosi syniad yn gam cyntaf cadarn. Nid y canlyniad terfynol ydyw ond arbrawf sy’n ein galluogi i greu adborth gwerthfawr. Bydd yr adborth hwn yn ein helpu i fireinio ein dealltwriaeth a datblygu prototeipiau ar gyfer yr ail a’r trydydd cam...

Mae prototeipiau yn seiliedig ar yr egwyddor o ‘fethu’n gynnar i ddysgu’n gyflym’.

Nid peilot yw prototeip. Yn wahanol i beilot, nid ydym yn disgwyl ehangu yn nes ymlaen ar raddfa fwy ond yn hytrach ysbrydoli ar draws ar hyd y cyfnod gan gael eich ysbrydoli gan yr hyn y mae eraill yn ei ddysgu a defnyddio’r hyn yr ydym ni wedi’i ddysgu i’w hysbrydoli nhw.

“Geographically circumscribed and time-limited pilots can often fail to reveal unintended consequences that arise as a result of scale, duration, or context. There is also a tendency to conduct pilots with partners who are highly committed and comfortable with innovation. Success in a pilot therefore does not necessarily indicate that a policy will be successful at a larger scale.”

The Best Laid Plans? Avoiding unintended consequences in public policymaking, by Lindsay Iversen, Stephen Whitehead and Robin Wilkinson, Arium 2011 (unpublished)

Dewis prototeip: meini prawf 7R

Paratoi - Os ydych yn gweithio ar eich pen eich hun, defnyddiwch y cwestiynau i nodi, ystyried neu ddatblygu eich syniadau. Efallai y gallwch gadw dyddiadur o’ch meddyliau mewn ymateb i bob cwestiwn. Yna trafodwch gyda ffrind, hyfforddwr neu gydweithiwr ac ymrwymo i greu eich prototeip cyntaf.

Os ydych yn gweithio fel tîm, gallwch ddarllen y rhain i’r tîm gan ofyn iddynt gwblhau’r tabl syml isod. Yna trafodwch sut y gallwch ddod â’ch prototeipiau at ei gilydd i wneud un cyfan.

  1. Ydyw’n berthnasol?
    • Yn bersonol?
    • I’r sefydliadau sydd ynghlwm?
    • I’r cymunedau yr effeithiwyd arnynt fwyaf?
  2. A yw (o bosibl) yn chwyldroadol?
    • Ydyw’n newydd?
    • Allai drawsnewid y system?
  3. A yw’n gyflym?
    • Allwch ei ddechrau’n gyflym?
    • Allwch ddechrau arbrofi yn syth er mwyn cael adborth ac iteru?
  4. A yw’n fras?
    • Allwch ei wneud ar raddfa fach?
    • Ai hon yw’r raddfa leiaf bosibl y gallwch chi ei wneud i sicrhau arbrofion ystyrlon?
  5. A yw’n gywir?
    • Ydy’r syniad hwn yn eich caniatáu i hoelio sylw ar yr amrywiadau mwyaf ystyrlon?
  6. A yw’n effeithiol o ran perthynas?
    • A yw’n defnyddio cryfderau, cymwyseddau ac adnoddau presennol rhwydweithiau a chymunedau?
  7. A oes modd ei ddyblygu?
    • Allwch ei wneud yn ôl graddfa?
    • Sut byddwch yn ysbrydoli ar draws?

Fy mhrototeip

(Wrth ichi glywed y cwestiynau
ychwanegwch eich meddyliau,  
newidiadau a’ch addasiadau yma)

Rhyngddibyniaethau

(Wrth ichi glywed y cwestiynau ychwanegwch syniadau ar gyfer prototeipiadau eraill, ymholiadau a chwestiynau yma)

Rhannu - Os ydych yn gweithio ar fwy nag un prototeip – pam na wnewch chi eu rhannu a’u cymharu? Gofynnwch i bob person:

  1. Beth yw’r syniad?
  2. Pam ei fod yn bwysig? (effaith systematig)
  3. Pwy ddylai gymryd rhan? (rhanddeiliaid)
  4. Sut gallwch drosi eich syniad yn brototeip bach y gallwch ei weithredu?
  5. Ym mhle y mae angen help arnoch?

Cymerwch saib.

Cychwyn arni

Gyda phwy y byddwch yn gweithio i gyflawni’r prototeip hwn?

O bwy a sut y byddwch yn cael adborth?

Pryd ac ym mhle y byddwch yn adlewyrchu ac adolygu hynt y gwaith?

Beth fyddwch yn ei wneud yn ystod y 24 awr nesaf i gychwyn arni?

Am rhagor o fanylion am prototeipio ac am Theori U, gweler Leading from the emerging future

Osgoi dyfynnu trydydd parti

Wrth adolygu gwersi a ddysgwyd o’n prosiect, gwnaethom sylwi ar batrwm diddorol.  Gwelon ni ein bod yn arafu’n gwaith oherwydd un camgymeriad cyffredin. Dyma’r hyn oedd yn digwydd:

Mae aelod o dîm (1) yn mynd at reolwr (2) i ofyn am gymorth. Mewn ymateb, mae’r rheolwr yn dyfynnu rheolwr neu randdeiliad arall (3 = y trydydd parti).  Mae geiriau’r trydydd parti yn berthnasol ac yna mae’r aelod o dîm yn mynd ymaith i roi’r geiriau hynny ar waith. 

Yn anfwriadol, rydym wedi rhoi taw ar y drafodaeth.  Rydym, trwy ei ddyfynnu, wedi cymryd arnom ‘ddylanwad’ y trydydd parti, hynny er nad yw’n bresennol. 

Pan wnaethom drafod y mater yn ddiweddarach, daethon ni i ddeall fod gwybodaeth ychwanegol gan aelodau o’r tîm ond doedden nhw ddim wedi’i rhannu oherwydd eu bod yn teimlo bod rheidrwydd arnyn nhw i wireddu gweledigaeth y trydydd parti. Byddai’r wybodaeth ychwanegol hon yn debygol iawn o fod wedi’n helpu i wneud penderfyniad gwell gan arbed amser ac egni. 

Mae pob un ohonom wedi ymrwymo’n bersonol i beidio â dyfynnu trydydd parti gan wneud yr isod yn lle hynny:

  • gwrando’n ofalus
  • rhannu ein safbwyntiau ein hunain (a allai gynnwys syniadau rydym wedi’u cymryd wrth eraill)
  • gofyn i bobl siarad yn uniongyrchol ag eraill er mwyn cael eu safbwyntiau nhw (hyd yn oed os ydym yn meddwl ein bod yn gwybod beth fyddan nhw’n ei ddweud)
  • bod yn effro i ragfarnau diarwybod[i] sydd gennym ni ac eraill.

Datblygu parhaus

“Mae angen i bob un ohonon ni ailfeddwl am adborth fel set ddefnyddiol o ddata yn hytrach na beirniadaeth y byddwn ni’n ei chymryd yn bersonol ac yn pendroni yn ei chylch. Cyfeirio ydw i am “fod yn gyfforddus gyda’r hyn sy’n gwneud inni deimlo’n anghyfforddus!”

Swyddog o Lywodraeth Cymru a wnaeth roi cynnig ar hyn ei hun.

Mae Dyfodol Tanio Cyflawni yn ein cefnogi ac yn ein herio i wella drwy’r athroniaeth sy’n sail i’r cyfan, sef athroniaeth o:

  • Helpu pawb i fod ar eu gorau. Pan fydd pobl ar eu gorau, maen nhw’n helpu eraill i fod ar eu gorau hefyd drwy ddeall pwy ydyn nhw, a deall eu cefndir a’u profiadau a’r cyfyngiadau cymdeithasol a hanesyddol presennol (annheg) rydym yn byw ynddyn nhw
  • Gwerthfawrogi pawb; mae pawb yn bwysig ac yn gallu bod yn arweinydd; gall arweinyddiaeth ddod o bob lefel o’r sefydliad
  • Credu bod arweinyddiaeth yn digwydd fel rhan o berthynas lle ceir parch rhwng y naill ochr a’r llall, a bod meithrin perthnasoedd mwy o faint nid yn unig yn helpu pobl i fod ar eu gorau ond hefyd yn sicrhau canlyniadau mwy a gwell.

Mae rheoli'r effaith a deimlwyd yn allweddol ar gyfer meithrin perthnasoedd mwy o faint, a bod mewn partneriaeth â phobl – ar gyfer cyfranogiad, tegwch a gwerthfawrogi amrywiaeth.

  • Yn gyntaf, byddwch yn gwbl glir ynghylch yr effaith a fwriadwyd – gofynnwch i’ch hunan: Sut mae pobl yn teimlo o’m cwmpas i?
  • Yna, meddyliwch am eich ymddygiad fel arweinydd a fydd yn gwneud i bobl deimlo eu bod yn bwysig – Sut byddwch chi’n meithrin cyfranogiad, tegwch ac amrywiaeth? Pa un o’ch cryfderau fyddwch chi’n ei ddefnyddio wrth ymateb i’r dasg hon?
  • Gofynnwch i bobl pa brofiad a deimlwyd ganddynt wrth feddwl amdanoch chi. Hwyluswch bethau iddyn nhw: ‘Sut brofiad yw bod o’m cwmpas i ar ddiwrnod da?’ ‘Sut brofiad yw bod o’m cwmpas i ar ddiwrnod gwael?’ ‘Beth sy’n eich helpu i deimlo’n rhan o bethau a’ch bod mewn partneriaeth â mi?’ ‘Beth allwn i wneud mwy ohono/llai ohono/ei wneud yn wahanol?’
  • Cymerwch saib: efallai na fyddwch yn hoffi’r hyn byddwch chi’n ei glywed. Peidiwch â gwneud sylwadau ar yr hyn a ddywedwyd.
  • Diolchwch iddyn nhw am eu hadborth. Cofiwch, mae’r data hyn yn bwysig! Dyma’r profiad a deimlwyd ganddynt pan fyddant yn meddwl amdanoch Chi.
  • Crëwch le ac amser i fyfyrio ar yr adborth a gawsoch. Cadwch feddwl agored. Byddwch yn onest â chi’ch hun. Gweithiwch gyda choetsiwr neu fentor cydfuddiannol. Pa wybodaeth newydd sydd gennych amdanoch chi’ch hun?  Beth allwch chi ei ddysgu?

Dyma rai cwestiynau i’w gofyn i chi’ch hun mewn eiliad fyfyriol. Efallai y bydd rhai ohonynt yn addas i weithio arnyn nhw fel tîm hefyd:

  • Sut allech chi dreulio eich bywyd yn dysgu bod yn chi’ch hun yn fwy effeithiol?
  • Sut allwch chi fod yn glir am eich gwerthoedd? (Bydd angen ichi dreulio amser yn meddwl beth yn union ydyn nhw!) Beth mae’n ei olygu i beidio â chyfaddawdu ar eich gwerthoedd? Sut allwch chi ddod o hyd i ffyrdd o’u cymhwyso ac o ymgysylltu â nhw’n gyson?
  • Sut allwch chi geisio deall cyn ceisio cael eich deall eich hun?
  • Rydych chi’n fodel rôl pwerus a bydd gan bobl “enwau” ar eich cyfer chi. (Gan gynnwys pan na fyddwch chi yn yr ystafell!) Ydych chi’n gwneud i bobl deimlo bod ganddyn nhw fwy neu lai o egni? Sut beth yw derbyn adborth negyddol gennyf i? (Dim ond os byddwch yn ceisio ac yn cael adborth gonest y cewch chi wybod.)  Ydy’r awyrgylch yn yr ystafell yn ysgafnhau pan fyddwch chi’n ei chyrraedd neu’n ei gadael?
  • Gofynnwch i bobl eraill beth maen nhw’n ei feddwl. Gofynnwch i bobl eraill am help. Bydd ganddyn nhw syniadau nad ydych chi wedi meddwl amdanyn nhw.
  • Beth ydych chi’n ei ganiatáu, beth ydych chi’n ei annog? Beth ydych chi’n ei ganiatáu?
  • Bod yn garedig yw bod yn glir, ond bod yn angharedig yw bod yn aneglur (Brené Brown) Pa mor glir ydych chi?
  • Os ydyn ni am newid ni ein hunain, newidiwn ein hagwedd. Os ydyn ni am newid pobl eraill, newidiwn eu hamgylchedd. Pa fath o amgylchedd allwch chi ei greu?

Dyma rai pynciau ar gyfer sgwrs tîm neu ar gyfer sgyrsiau un i un efallai.

  • Ystyriwch gynnal sesiynau “pe bawn i yn dy le di” gyda’r staff. Sut beth yw diwrnod da gyda mi? Sut beth yw diwrnod gwael? Sut allwn ni gael mwy o ddiwrnodau da gyda’n gilydd?
  • Beth yw ein dealltwriaeth ar y cyd? Beth ydw i’n ei gael o’r profiad? Beth ydych chi’n ei gael o’r profiad?
  • Beth yw ein hymdeimlad o bwrpas ar y cyd? (Ble mae ein hymdeimlad o bwrpas fel unigolion yn gorgyffwrdd?)
  • Meddyliwch yn ofalus “sut beth yw diwrnod da i mi?” Sut beth yw hynny i bob un ohonoch chi?
  • “Dyma’r hyn rydw i wedi’i ddeall. Beth ydw i wedi’i golli?"
  • “Os nad yw rhywbeth yn gweithio, dywedwch wrthyf ac yna gadewch inni siarad amdano.”
  • “Dywedwch wrthyf beth sydd wedi mynd yn dda a beth allwn i ei wneud yn well.”
  • “Ydych chi’n cael yr hyn sydd ei angen arnoch wrthyf i ac, os na, beth sydd ei angen arnoch chi?”

I gael rhagor o wybodaeth am Effaith a Fwriadwyd ac Effaith a Deimlwyd, ewch i dudalen 66 o’r llyfr Leadership Plain and Simple gan Steve Radcliffe, sydd wedi’i olygu gan Anthony Landale.

Ydyn ni’n gweithio’n rhy galed? Llifo, cyflymder neu lladd nadroedd

Efallai ei fod yn groes i’r graen, ond mae digon o dystiolaeth i awgrymu bod ein cynhyrchiant a’n hawch strategol mwyaf yn dod, nid o weithio mor gyflym a chaled â phosibl ond, drwy sicrhau cydbwysedd a gwneud pethau’n raddol yn ein bywydau (gweler hefyd pum llwybr llesiant).

Ydy’r gwaith yn ‘llifo’n dda’ gyda chi neu ydych chi’n gweithio ‘ar gyflymder’ neu’n ‘gweithio fel lladd nadroedd’?

Gwaith sy’n llifo’n dda

Cyflwr lle mae’r gwaith ‘yn llifo’n dda’ (sy’n cael ei ddisgrifio yn Saesneg hefyd fel bod ‘in the zone’) yw’r sefyllfa feddyliol a chorfforol lle mae person sy’n perfformio gweithgaredd yn teimlo ei fod yn llawn ffocws egnïol, yn ymrwymo’n llawn ac yn mwynhau’r broses o wneud y gweithgaredd. Un o nodweddion y sefyllfa hon yw bod unigolyn yn cael ei amsugno’n llwyr gan yr hyn y mae’n ei wneud, ac o ganlyniad i hynny mae’n colli’r ymdeimlad o le ac amser.

Fel arfer, nid yw’n bosibl aros yn y cyflwr hwn am gyfnodau hir ond mae’n bosibl datblygu arfer parhaus o ran defnyddio’r llif hwn dro ar ôl tro yn y byd chwaraeon, cerddoriaeth neu waith ac ati. Gall sefyllfa o’r fath fod yn gynhyrchiol iawn, yn effeithiol ac yn greadigol.

Gweithio ar gyflymder

Pan fyddwch yn gweithio ‘ar gyflymder’, rydych yn gweithio’n galed ac yn gyflym am resymau da. Efallai bod argyfwng o ryw fath, cyfres o derfynau amser allanol cyflym neu bwysau cyflawni parhaus neu gynyddol.

Rydych yn ymwybodol o’ch diben strategol cyffredinol.

Rydych wedi sicrhau bod ‘amser tîm’ ar gael sy’n caniatáu i’r tîm siarad am bwrpas, cymhelliant personol ac emosiynau, yn ogystal â phethau ymarferol a thactegau. Eich arf cudd yw’r amrywiaeth yn eich tîm. Gwerthfawrogir pawb am eu doniau unigryw ac rydych yn defnyddio ‘bwrdd adar’ neu fecanweithiau eraill i sicrhau eich bod i gyd yn wybodus ac yn canolbwyntio ar y tasgau cywir. Mae pawb yn gyfforddus o ran gofyn am help. Rydych yn gweithio gyda’ch gilydd i sicrhau bod gan bob unigolyn amser adfer personol rhwng pyliau o ymgysylltu trylwyr. Rydych yn defnyddio’r adeg ailymuno ar ôl cyfnod o adferiad (gwyliau, cyrsiau hyfforddi ac ati) i nodi cyfleoedd ar gyfer gwella a’u rhoi ar waith.

Gweithio fel lladd nadroedd

Mae popeth yn digwydd yn gyflym iawn! Rydych yn dechrau teimlo allan o reolaeth neu efallai eich bod wedi teimlo felly ers peth amser. Mae terfynau amser rydych chi wedi’u gosod a therfynau amser allanol ond mae’n anodd dweud p’un yw p’un. Mae’n ymddangos fel pe bai yr hyn rydych chi’n anelu ato yn symud o gwmpas.  Nid ydych chi’n gallu cofio’r tro diwethaf i chi drafod eich diben neu’ch nodau strategol.

Nid oes neb yn gofyn i chi sut ydych chi mewn gwirionedd ac nid oes gennych amser i ofyn i neb arall. Mae’r pwysau cyflawni yn barhaus ac yn cynyddu, heb amser i asesu eich cynnydd. Gallai cyflwyno arferion gofalgar eang/byr wneud gwahaniaeth mawr ond mae’n anodd gweld sut i neilltuo amser ar gyfer y rhain.

Crynodeb

Cyn belled â’ch bod wedi sicrhau bod cyfnodau myfyriol ac amser dysgu gennych, mae gwaith sy’n ‘llifo’n dda’ neu weithio ‘ar gyflymder’ yn debygol o’ch gweld yn llwyddo. Bydd ‘gweithio fel lladd nadroedd’ bob amser yn eich dal yn ôl rhag sicrhau eich canlyniadau gorau.

Mae’n bosibl symud rhwng y cyflyrau hyn.

Beth allwch chi ei wneud i symud eich patrymau gweithio o fod yn gweithio fel lladd nadroedd, i weithio ‘ar gyflymder’ ac i’r sefyllfa lle mae’r gwaith yn llifo’n dda?

Ôl ystyriaeth...

Beth fyddai’n digwydd pe baech chi yn rhoi eich pen ysgrifennu i lawr, yn cau eich gliniadur, ac yn myfyrio bob tro yr ydych teimlo’n wrthwynebus tuag at y gwaith wrth law neu ddim yn teimlo ei fod yn llifo’n dda?

Beth pe baech yn ei gwneud yn flaenoriaeth i chi wrando ar eich greddf ac ailystyried cyn parhau? Beth pe bai hyn yn bolisi? Ac roedd pawb yn ei wneud? Beth pe bai’n arferol dweud “Dw i wir yn teimlo nad dyma’r defnydd gorau o’m hegni”?

Sut y gallwn alluogi pobl Cymru i ddefnyddio eu cryfderau a’u hegni’n dda?  Sut y gallwn annog cydweithio da lle mae pobl yn gwneud yr hyn y maent yn mwynhau ei wneud ac yn ei wneud yn dda, gan ddysgu’n barhaus ac mae’r broses o wasanaethu eraill yn llifo’n dda?