Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynlluniau uchelgeisiol sy'n nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn seilwaith ac yn gweithio gyda'r sector preifat i roi'r hyder i bobl yng Nghymru newid i gerbydau trydan wedi'u datgelu heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gyda mwy na 1,000 o bwyntiau gwefru cyhoeddus eisoes ledled Cymru, un ar gyfer pob chwe cherbyd trydan batri, mae'r cynlluniau'n nodi sut y gallwn sicrhau bod nifer y pwyntiau gwefru yn parhau i dyfu i ateb y galw cynyddol wrth i ni roi’r gorau i ddefnyddio cerbydau tanwydd ffosil.

Mae'r Cynllun Gweithredu ar Wefru Cerbydau Trydan yn nodi hefyd sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r sector preifat, gyda'r nod o ddarparu pwyntiau gwefru ar bob 20 milltir o'r rhwydwaith cefnffyrdd strategol ledled Cymru erbyn 2025, gan roi sicrwydd pellach i yrwyr cerbydau trydan.

Gyda thrafnidiaeth yn cynhyrchu tua 17% o'r holl allyriadau carbon yng Nghymru, dim ond un cam y mae Llywodraeth Cymru yn ei gymryd i leihau'r effaith y mae trafnidiaeth yn ei chael ar yr amgylchedd a'n hiechyd yw gwella’r seilwaith cerbydau trydan. Mae Llwybr Newydd, strategaeth drafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn nodi sut y byddwn yn llunio ein system drafnidiaeth yng Nghymru dros yr 20 mlynedd nesaf i annog mwy o bobl allan o’u ceir i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a cherdded a beicio.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, gyda chyfrifoldeb am drafnidiaeth, Lee Waters:

"Mae angen i ni wneud mwy yn y deng mlynedd nesaf nag yr ydym wedi'i wneud yn y deng mlynedd ar hugain diwethaf os ydym am gyrraedd ein targed sero net erbyn 2050. Bydd troi oddi wrth ein dibyniaeth ar geir ac annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn allweddol, ond ar gyfer y teithiau car hanfodol hynny, mae newid i gerbyd trydan yn ffordd arall y gallwn wneud gwahaniaeth.

"Mae'r cynllun rwyf wedi'i gyhoeddi heddiw yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd i ddarparu seilwaith cerbydau trydan o ansawdd uchel ledled Cymru. Gan weithio gyda'r sector preifat mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i gynyddu nifer y pwyntiau gwefru ledled y wlad, i roi hyder i yrwyr newid wrth i'r galw am gerbydau trydan gynyddu.

Mae Cronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel (ULEV) Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi hwb i lawer o brosiectau cerbydau trydan ledled Cymru.

Dyfarnwyd grant o £350,000 i Gyngor Sir Gaerfyrddin ddatblygu cyfleuster gwefru cyflym ar yr A48 yng Nghross Hands. Bydd y cyfleuster gwefru aml-bwynt yn gwasanaethu un o brif lwybrau Cymru i dwristiaid. Mae'r cyfleuster yn cynnwys pum gwefrydd cyflym o 50kW i 150kW o dan ganopi solar ac mae lle i ehangu ymhellach. Disgwylir iddo ddechrau gweithio yn ddiweddarach eleni.

Bydd y cylch nesaf o gyllid o dan y Gronfa yn agor ar gyfer ceisiadau ym mis Rhagfyr 2021. Bydd y gronfa'n helpu awdurdodau lleol i ddarparu mwy na 300 o bwyntiau gwefru cyflym a chyflymach sy'n hygyrch i'r cyhoedd ledled Cymru yn y flwyddyn ariannol hon. Mae cynlluniau ar waith hefyd i gynyddu'r ddarpariaeth yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat yn unol â strategaeth Llywodraeth Cymru at y dyfodol.