Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd, lle mae adeiladu wedi dechrau a rhai a gwblhawyd ar gyfer Ebrill 2017 i Mawrth 2018.

Mae'r wybodaeth am adeiladu tai newydd yn seiliedig ar adroddiadau arolygwyr adeilad yr awdurdodau lleol a'r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC), sy’n arolygwr preifat cymeradwy. Nid yw'n cynnwys gwybodaeth oddi wrth arolygwyr preifat cymeradwy eraill.

Prif bwyntiau

  • Yn ystod 2017-18,  gostyngodd nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd 12% o gymharu a’r flwyddyn flaenorol i 6,037. Hwn oedd y cyfanswm isaf ers 2013-14.
  • Gostyngodd nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd yn ystod 2017-18 hefyd o 2%. Fodd bynnag, roedd y 6,663 o anheddau a gwblhawyd yn ystod 2017-18 yn dal i gynrychioli’r trydydd nifer uchaf ers 2008-09.
  • Yn ystod 2016-17, gostyngodd nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd ar gyfer y sector preifat 2%. Gostyngodd nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd ar gyfer y sector gymdeithasol  4% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
  • Cwblhawyd 5,465 o anheddau newydd gan y sector breifat, gan gynrychioli 82% o’r cyfanswm a gwblhawyd yn ystod 2017-18.
  • Cwblhawyd 1,198 o anheddau newydd yn y sector gymdeithasol yn ystod 2017-18. Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig oedd yn gyfrifol am 93% (1,117 annedd), gyda’r 7% arall ( 81 annedd) wedi’u cwblhau gan awdurdodau lleol. Y 81 annedd a gwblhawyd gan awdurdodau lleol yn ystod 2017-18 oedd y cyntaf i’w cofnodi ers 2013-14.
  • O’r 81 o anheddau awdurdodau lleol newydd, cofnodwyd 78 yn Sir y Fflint a 3 ym Mro Morgannwg. O’r 78 o anheddau yn Sir y Fflint, Cyngor Sir y Fflint oedd berchen 24 a North East Wales Homes and Property Management (is-gwmni Cyngor Sir y Fflint) gwblhaodd y 54 arall a byddant yn cael eu cynnig ar rent fforddiadwy.
  • oedd dros draean (37%) o’r anheddau newydd a gwblhawyd yng Nghymru yn ystod 2017-18 yn rhai 3 ystafell wely.

Adroddiadau

Adeiladu tai newydd, Ebrill 2017 i Mawrth 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.