Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd, lle mae adeiladu wedi dechrau a rhai a gwblhawyd ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2021.

Effaith y coronafeirws (COVID-19) ar y datganiad hwn

Oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19), ni chyhoeddwyd data chwarterol ar gyfer mis Ionawr i Mawrth 2020 a data blynyddol  ar gyfer 2019-20. Hefyd, ni chasglwyd na chyhoeddi data chwarterol ar gyfer 2020-21. Gweler y datganiad ar ein gwefan am ragor o wybodaeth.

Cafodd dyfodiad pandemig y coronafeirws (COVID-19) ym mis Mawrth 2020, a’r mesurau iechyd cyhoeddus dilynol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig effaith sylweddol ar y diwydiant adeiladu yn ystod dyddiau cynnar y pandemig. Bydd hyn wedi cael effaith ar weithgarwch adeiladu cartrefi newydd yn ystod 2020-21. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd yn y datganiad hwn.

Prif bwyntiau

  • Yn ystod 2019-20, cynyddodd nifer yr anheddau newydd y dechreuwyd arnynt o 4% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol i 6,224 o anheddau. Fodd bynnag, yn ystod 2020-21, gwelwyd gostyngiad o 31% yn nifer yr anheddau newydd y dechreuwyd arnynt i 4,314 o anheddau.
  • 6,037 oedd nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd yn 2019-20, ac roedd hyn yn gynnydd o 5% ar y flwyddyn flaenorol. Er hynny, yn 2020-21 gwelwyd gostyngiad o 24% yn nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd i 4,616 o anheddau.
  • Yn ystod 2019-20 a 2020-21, roedd yr anheddau a gwblhawyd yn y sector preifat yn cyfrif am 79% a 74% o’r holl anheddau a gwblhawyd yn y drefn honno ac roedd anheddau’r sector cymdeithasol yn cyfrif am y gweddill.
  • Cwblhawyd cyfanswm o 1,215 o anheddau yn y sector cymdeithasol yn ystod 2020-21. O’r rhain, cwblhawyd 93% (1,130 o anheddau) gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac fe gwblhawyd yr 7% sy’n weddill (85 o anheddau) gan awdurdodau lleol (neu is-gyrff iddynt).
  • Yn 2019-20 a 2020-21, y math o eiddo y cwblhawyd y nifer mwyaf ohonynt oedd eiddo â 3 ystafell wely, sef 40% o’r holl anheddau a gwblhawyd yn 2019-20 a 38% o’r anheddau a gwblhawyd yn 2020-21.

Nodyn

Caiff y gostyngiadau yn nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd ac a gwblhawyd eu dylanwadu gan amrywiadau chwarterol gan gynnwys amseru dechrau a chwblhau safleoedd mawr mewn rhai awdurdodau a ffactorau tymhorol fel gwyliau a thywydd. Nid yw'r ystadegau hyn wedi'u haddasu'n dymhorol.

Mae'r wybodaeth am adeiladu tai newydd yn seiliedig ar adroddiadau arolygwyr adeilad yr awdurdodau lleol a'r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC), sy’n arolygwr preifat cymeradwy. Nid yw'n cynnwys gwybodaeth oddi wrth arolygwyr preifat cymeradwy eraill.

Mae'n anodd weithiau i swyddogion rheoli adeiladu sy'n cofnodi'r data i nodi daliadaeth derfynol arfaethedig yr eiddo (sy’n sail ar gyfer y wybodaeth am ddeiliadaeth). Gall hyn arwain at dan gyfrif  tai newydd yn y sector cymdeithasol a gor-gyfrif ar gyfer y sector breifat. Felly dylid trin y data daliadaeth yn ofalus.

Rydym hefyd yn cyhoeddi ystadegau ar wahân ar ddarpariaeth tai fforddiadwy. Mae'r ffigurau'n cwmpasu'r holl unedau tai fforddiadwy ychwanegol, p'un ai drwy adeiladu o'r newydd, prynu, caffael, prydlesu neu addasu anheddau presennol.

Adroddiadau

Adeiladu tai newydd: Ebrill 2019 i Fawrth 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.