Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd, lle mae adeiladu wedi dechrau a rhai a gwblhawyd ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

Prif bwyntiau

  • Yn ystod 2021-22, cynyddodd nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd 31% i 5,659 o anheddau o gymharu â 4,314 o anheddau'r flwyddyn flaenorol.
  • 5,273 oedd nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd yn 2021-22, ac roedd hyn yn gynnydd o 14% ar y flwyddyn flaenorol.
  • Cwblhawyd 4,392 o anheddau newydd gan y sector breifat, gan gynrychioli 83% o’r cyfanswm a gwblhawyd yn ystod 2021-22.
  • Cwblhawyd cyfanswm o 882 o anheddau yn y sector cymdeithasol yn ystod 2021-22. O’r rhain, cwblhawyd 92% (810 o anheddau) gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac fe gwblhawyd yr 8% sy’n weddill (72 o anheddau) gan awdurdodau lleol (neu is-gyrff iddynt).
  • Roedd dros draean (38%) o’r anheddau newydd a gwblhawyd yng Nghymru yn ystod 2021-22 yn rhai 3 ystafell wely.

Nodyn

Er bod nifer y dechreuadau a chwblhadau yn 2021-22 yn uwch na’r rhai yn 2020-2021, mae'r niferoedd ar gyfer y ddwy flynedd yn is na blynyddoedd blaenorol ac mae hyn yn debygol o fod yn ganlyniad i'r amgylchiadau a gymhwyswyd ym misoedd cynnar pandemig COVID-19.

Bydd amrywiadau chwarterol yn dylanwadu ar y dechreuadau a chwblhadau, gan gynnwys amseru dechrau a chwblhau ar safleoedd mawr mewn rhai awdurdodau a ffactorau tymhorol fel gwyliau a thywydd. Nid yw'r ystadegau hyn yn cael eu haddasu'n dymhorol.

Mae'r wybodaeth am adeiladu tai newydd yn seiliedig ar adroddiadau arolygwyr adeilad yr awdurdodau lleol a'r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC), sy’n arolygwr preifat cymeradwy. Nid yw'n cynnwys gwybodaeth oddi wrth arolygwyr preifat cymeradwy eraill.

Mae'n anodd weithiau i swyddogion rheoli adeiladu sy'n cofnodi'r data i nodi daliadaeth derfynol arfaethedig yr eiddo (sy’n sail ar gyfer y wybodaeth am ddeiliadaeth). Gall hyn arwain at dan gyfrif  tai newydd yn y sector cymdeithasol a gor-gyfrif ar gyfer y sector breifat. Felly dylid trin y data daliadaeth yn ofalus.

Rydym hefyd yn cyhoeddi ystadegau ar wahân ar ddarpariaeth tai fforddiadwy. Mae'r ffigurau'n cwmpasu'r holl unedau tai fforddiadwy ychwanegol, p'un ai drwy adeiladu o'r newydd, prynu, caffael, prydlesu neu addasu anheddau presennol.

Adroddiadau

Adeiladu tai newydd, Ebrill 2021 i Fawrth 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.