Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd, lle mae adeiladu wedi dechrau a rhai a gwblhawyd ar gyfer Ebrill i Fehefin 2022.

Dyma ailgyflwyno adroddiad chwarterol Adeiladu Tai Newydd yng Nghymru a gafodd ei atal oherwydd pandemig COVID-19 gyda'r adroddiad chwarterol diwethaf yn cwmpasu cyfnod Hydref i Ragfyr 2019. Lle gwnaed cymariaethau gyda data chwarterol blaenorol mae hyn wedi'i wneud gyda chwarter Ebrill i Fehefin 2019, cyn y pandemig.

Mae'r wybodaeth am adeiladu tai newydd yn seiliedig ar adroddiadau arolygwyr adeilad yr awdurdodau lleol a'r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC).  Dylid trin data fesul deiliadaeth gyda gofal (gweler y nodiadau).

Anheddau newydd a ddechreuwyd

  • Dechreuwyd 1,232 o anheddau newydd yn ystod Ebrill i Mehefin 2022, 27% yn llai na’r un chwarter yn 2019.

Anheddau newydd a gwblhawyd

  • Cafodd 1,591 o anheddau newydd eu hadeiladu yn ystod Ebrill i Mehefin 2022, oddeutu yr un nifer ag ar gyfer Ebrill i Fehefin 2019.
  • Gostyngodd nifer yr eiddo 3 ystafell wely a adeiladwyd 13% (i 565 eiddo) o'i gymharu â'r un chwarter yn 2019 ac roeddent yn cyfrif am 36% o'r holl anheddau a adeiladwyd.
  • Roedd nifer yr eiddo 2 ystafell wely wedi'u hadeiladu i fyny 3% (i 390 eiddo) ar yr un chwarter yn 2019 ac roeddent yn cyfrif am 25% o'r holl anheddau a adeiladwyd.
  • Roedd nifer yr eiddo 1 ystafell wely wedi'u hadeiladu i fyny 89% (i 259 eiddo) ar yr un chwarter yn 2019 ac roeddent yn cyfrif am 16% o'r holl anheddau a adeiladwyd.

Anheddau newydd a gwblhawyd fesul deiliadaeth

Dylid trin y ffigyrau fesul deiliadaeth yn ofalus gan y credir ei fod yn tan gyfrif nifer y tai newydd yn y sector gymdeithasol ac awdurdodau lleol, ond yn gor-gyfrif nifer y tai newydd yn y sector breifat a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (gweler y nodiadau).

  • Roedd 75% o'r tai a adeiladwyd yn ystod y chwarter hwn yn y sector preifat, roedd 18% gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a'r 6% arall gan awdurdodau lleol.
  • Roedd nifer y tai a adeiladwyd yn y sector preifat a gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn is yn y chwarter hwn nag ar gyfer yr un chwarter yn 2019; fodd bynnag roedd cynnydd yn y nifer y tai a adeiladwyd gan awdurdodau lleol gyda'r rhain yn 6% o'r holl dai a adeiladwyd yn y chwarter hwn o'i gymharu â 0.4% yn yr un chwarter yn 2019.

Nodiadau

Oherwydd talgrynnu, mae’n bosibl na fydd pob ffigur yn dod i 100%.

Mae'r data hwn yn seiliedig ar adroddiadau archwilwyr adeiladu awdurdodau lleol a'r Cyngor adeiladu tai cenedlaethol (NHBC) sy’n arolygwr preifat cymeradwy. Nid yw'n cynnwys gwybodaeth oddi wrth arolygwyr preifat cymeradwy eraill. Mae'n anodd weithiau i swyddogion rheoli adeiladu a’r NHBC sy'n cofnodi'r data i nodi daliadaeth derfynol arfaethedig yr eiddo (sy’n sail ar gyfer y wybodaeth am ddeiliadaeth). Gall hyn arwain at dan gyfrif  tai newydd yn y sector cymdeithasol a gor-gyfrif ar gyfer y sector breifat. O fewn y sector gymdeithasol, gall hefyd arwain at dan gyfrif tai newydd gan awdurdodau lleol a gor-gyfrif tai landlordiaid cymdeithasol. Felly dylid trin y data daliadaeth yn ofalus.

Bydd amrywiadau chwarterol yn dylanwadu ar y dechreuadau a chwblhadau, gan gynnwys amseru dechrau a chwblhau ar safleoedd mawr mewn rhai awdurdodau a ffactorau tymhorol fel gwyliau a thywydd. Nid yw'r ystadegau hyn yn cael eu haddasu'n dymhorol.

Rydym hefyd yn cyhoeddi ystadegau ar wahân ar ddarpariaeth tai fforddiadwy. Mae'r ffigurau'n cwmpasu'r holl unedau tai fforddiadwy ychwanegol, p'un ai drwy adeiladu o'r newydd, prynu, caffael, prydlesu neu addasu anheddau presennol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Craig Mcleod

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.