Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd, lle mae adeiladu wedi dechrau a rhai a gwblhawyd ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2018.

Mae'r wybodaeth am adeiladu tai newydd yn seiliedig ar adroddiadau arolygwyr adeilad yr awdurdodau lleol a'r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC), sy’n arolygwr preifat cymeradwy. Nid yw'n cynnwys gwybodaeth oddi wrth arolygwyr preifat cymeradwy eraill.

Prif bwyntiau

  • Ar sail chwarterol, dechreuwyd 1,431 o anheddau newydd ar draws Cymru yn ystod Gorffennaf i Fedi 2018. Roedd hyn 21% yn llai nag yn ystod y chwarter blaenorol a 5% yn llai na’r flwyddyn flaenorol.
  • Yn ystod y 12 mis hyd Fedi 2018, dechreuwyd 5,922 o anheddau newydd. Mae hyn 15% yn is nag yn y 12 mis hyd ddiwedd Medi 2017.
  • Ar sail chwarterol, cwblhawyd 1,299 o anheddau newydd yng Nghymru yn ystod Gorffennaf i Fedi 2018. Mae hyn 17% yn llai na’r tri mis blaenorol a 8% yn llai na’r flwyddyn flaenorol.
  • Yn ystod y 12 mis yn gorffen Medi 2018,cwblhawyd 6,043 o anheddau newydd. Mae hyn 15% yn is na’r 12 mis hyd at Fedi 2017.
  • Parhaodd y sector preifat fod yn gyfrifol am y mwyafrif o weithgarwch adeiladu tai newydd (gyda 78% o’r holl anheddau newydd a gwblhawyd yn ystod y chwarter hwn). Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig oedd yn gyfrifol am 20% pellach, ac awdurdodau lleol yr 1% oedd yn weddill.
  • Cwblhawyd 18 o anheddau awdurdodau lleol newydd yn ystod y chwarter, oll gan Gyngor Abertawe.
  • Roedd anheddau 3 ystafell wely yn cynrychioli 41% o’r cyfanswm gwblhawyd o gymharu â 36 y flwyddyn flaenorol. Gostyngodd nifer yr anheddau 2 ystafell wely a gwblhawyd 26% o'i gymharu â'r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol. Roeddent yn cynrychioli 22% o’r cyfanswm gwblhawyd yn ystod Gorffennaf i Fedi 2018 o gymharu â 27% y flwyddyn flaenorol.

Nodyn

Caiff y gostyngiadau yn nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd ac a gwblhawyd eu dylanwadu gan amrywiadau chwarterol gan gynnwys amseru dechrau a chwblhau safleoedd mawr mewn rhai awdurdodau a ffactorau tymhorol fel gwyliau a thywydd. Nid yw'r ystadegau hyn wedi'u haddasu'n dymhorol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.