Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd, lle mae adeiladu wedi dechrau a rhai a gwblhawyd ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2022.

Oherwydd pandemig COVID-19, rhoddwyd y gorau i gyhoeddi adroddiadau Adeiladu Tai Newydd yng Nghymru ar ôl adroddiad chwarterol Hydref i Ragfyr 2019. Ailddechreuwyd eu cyhoeddi gyda chyhoeddi adroddiad Ebrill i Fehefin 2022. Mae adroddiad Gorffennaf i Fedi 2022 yn cymharu data â’r chwarter blaenorol a chwarter Gorffennaf i Fedi 2019, cyn y pandemig.

Mae'r wybodaeth am adeiladu tai newydd yn seiliedig ar adroddiadau arolygwyr adeilad yr awdurdodau lleol a'r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC) sy’n arolygwr preifat cymeradwy. Dylid trin data fesul deiliadaeth gyda gofal (gweler y nodiadau).

Anheddau newydd a ddechreuwyd

  • Dechreuwyd 1,300 o anheddau newydd yn chwarter Gorffennaf i Fedi 2022, 25% yn llai nag yn yr un chwarter yn 2019 a 6% yn fwy nag yn y chwarter blaenorol (Ebrill i Fehefin 2022).

Anheddau newydd a gwblhawyd

  • Cwblhawyd 1,339 o anheddau newydd yn y chwarter hwn (Gorffennaf i Fedi 2022), 4% yn llai nag yn yr un chwarter yn 2019 ac 16% yn llai nag yn y chwarter blaenorol (Ebrill i Fehefin 2022).
  • Cwblhawyd 320 o anheddau 4 ystafell wely yn y chwarter hwn, 13% yn llai nag yn yr un chwarter yn 2019 a 15% yn llai nag yn y chwarter blaenorol, gan gyfrif am 24% o’r holl anheddau a gwblhawyd.
  • Cwblhawyd 546 o anheddau 3 ystafell wely yn y chwarter hwn. Dim fawr o newid felly o’r 544 a gwblhawyd yn yr un chwarter yn 2019 a 3% yn llai na’r chwarter blaenorol. Roeddynt yn cyfrif am 41% o’r holl anheddau a gwblhawyd. 
  • Cwblhawyd 285 o anheddau 2 ystafell wely yn y chwarter hwn, 6% yn fwy nag yn yr un chwarter yn 2019 ond 27% yn llai nag yn y chwarter blaenorol, gan gyfrif am 21% o’r holl anheddau a gwblhawyd.
  • Cwblhawyd 188 o anheddau 1 ystafell wely yn y chwarter hwn, 11% yn llai nag yn yr un chwarter yn 2019 a 27% yn llai nag yn y chwarter blaenorol, gan gyfrif am 14% o’r holl anheddau a gwblhawyd.

Anheddau newydd a gwblhawyd fesul deiliadaeth

Dylid trin y ffigyrau fesul deiliadaeth yn ofalus gan y credir ei fod yn tan gyfrif nifer y tai newydd yn y sector gymdeithasol ac awdurdodau lleol, ond yn gor-gyfrif nifer y tai newydd yn y sector breifat a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (LCC) (gweler y nodiadau).

  • O’i gymharu â’r un chwarter yn 2019, gwelwyd cynnydd yn y gyfran o’r anheddau a gwblhawyd oedd ar gyfer y sector preifat o 79% i 83%.
  • Mae nifer yr anheddau a gwblhawyd ar gyfer awdurdodau lleol wedi codi’n sylweddol, o 6 annedd i 77; dyma’r ail nifer fwyaf a gwblhawyd i awdurdodau lleol a gofnodwyd ers 2010-11, gan gyfateb i 6% o’r anheddau a gwblhawyd yn y chwarter hwn.
  • Roedd y cyfran a gwblhawyd ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i lawr bron i hanner (21% i 11%).
  • O’i gymharu â’r chwarter blaenorol, roedd nifer yr anheddau a gwblhawyd yn is ym mhob deiliadaeth; o’r 1,339 a gwblhawyd, roedd 1,113 ar gyfer y sector preifat (7% yn is), 149 rar gyfer LCC (48% yn is) a 77% ar gyfer awdurdodau lleol (25% yn is).

Nodiadau

Oherwydd talgrynnu, mae’n bosibl na fydd pob ffigur yn dod i 100%.

Mae'r data hwn yn seiliedig ar adroddiadau archwilwyr adeiladu awdurdodau lleol a'r Cyngor adeiladu tai cenedlaethol (NHBC) sy’n arolygwr preifat cymeradwy. Nid yw'n cynnwys gwybodaeth oddi wrth arolygwyr preifat cymeradwy eraill. Mae'n anodd weithiau i swyddogion rheoli adeiladu a’r NHBC sy'n cofnodi'r data i nodi daliadaeth derfynol arfaethedig yr eiddo (sy’n sail ar gyfer y wybodaeth am ddeiliadaeth). Gall hyn arwain at dan gyfrif  tai newydd yn y sector cymdeithasol a gor-gyfrif ar gyfer y sector breifat. O fewn y sector gymdeithasol, gall hefyd arwain at dan gyfrif tai newydd gan awdurdodau lleol a gor-gyfrif tai landlordiaid cymdeithasol. Felly dylid trin y data daliadaeth yn ofalus.

Bydd amrywiadau chwarterol yn dylanwadu ar y dechreuadau a chwblhadau, gan gynnwys amseru dechrau a chwblhau ar safleoedd mawr mewn rhai awdurdodau a ffactorau tymhorol fel gwyliau a thywydd. Nid yw'r ystadegau hyn yn cael eu haddasu'n dymhorol.

Rydym hefyd yn cyhoeddi ystadegau ar wahân ar ddarpariaeth tai fforddiadwy. Mae'r ffigurau'n cwmpasu'r holl unedau tai fforddiadwy ychwanegol, p'un ai drwy adeiladu o'r newydd, prynu, caffael, prydlesu neu addasu anheddau presennol.

Cyhoeddir pwyntiau allweddol a data StatsCymru yn chwarterol a chyhoeddir adroddiad blynyddol. Mae’r data ar StatsCymru yn cynnwys data ar lefel awdurdodau lleol yn ogystal â nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd fesul math yr annedd a nifer yr ystafelloedd gwely.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Craig Mcleod

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.