Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd, lle mae adeiladu wedi dechrau a rhai a gwblhawyd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2023.

Adroddiad chwarterol sy'n cynnwys gwybodaeth am anheddau newydd a ddechreuwyd (lle bo’r gwaith adeiladu wedi dechrau) ac â’r anheddau newydd a gwblhawyd (lle bo’r gwaith adeiladu wedi’i orffen a’r adeilad yn barod ar gyfer ei feddiannu).

Mae'r wybodaeth am adeiladu tai newydd yn seiliedig ar adroddiadau arolygwyr adeilad yr awdurdodau lleol a'r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC).  Dylid trin data fesul deiliadaeth gyda gofal (gweler y nodiadau). 

Prif bwyntiau

Anheddau newydd a ddechreuwyd

  • Dechreuwyd 1,875 o anheddau newydd rhwng Hydref i Ragfyr 2023, bron i ddwbl y nifer yn yr un chwarter o 2022 (992). 

Anheddau newydd a gwblhawyd

  • Gwblhawyd 1,539 o anheddau newydd rhwng Hydref i Ragfyr 2023, 15% yn llai na’r un chwarter yn 2022. 
  • Roedd hanner (52%) yr anheddau newydd a gwblhawyd rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2023 yn cynnwys tair ystafell wely neu fwy.
  • Roedd cynnydd sylweddol yn nifer yr anheddau un ystafell wely a gwblhawyd (o 192 i 358), o'i gymharu â'r un chwarter yn 2022.

Anheddau newydd a gwblhawyd fesul deiliadaeth

Dylid trin y ffigyrau fesul deiliadaeth yn ofalus gan y credir ei fod yn tan gyfrif nifer y tai newydd yn y sector gymdeithasol ond yn gor-gyfrif nifer y tai newydd yn y sector breifat.  Efallai bod adeiladau Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSL) wedi eu gor-gyfrif ac adeiladau awdurdodau lleol wedi eu tan gyfrif (gweler y nodiadau).

  • Rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2023, roedd y rhan fwyaf o’r anheddau newydd a adeiladwyd yn perthyn i’r sector preifat (82%), gyda chyfran lai yn perthyn i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (17%) ac awdurdodau lleol (1%).
  • O'i gymharu â'r un chwarter yn 2022, roedd gostwng yng nghyfran yr anheddau a gwblhawyd yr oedd y sector cymdeithasol yn gyfrifol amdanynt (o 22% i 18%).

Nodiadau

  • Oherwydd talgrynnu, mae’n bosibl na fydd pob ffigur yn dod i 100%.
  • Mae'r data hwn yn seiliedig ar adroddiadau archwilwyr adeiladu awdurdodau lleol a'r Cyngor adeiladu tai cenedlaethol (NHBC) sy’n arolygwr preifat cymeradwy. Nid yw'n cynnwys gwybodaeth oddi wrth arolygwyr preifat cymeradwy eraill. Mae'n anodd weithiau i swyddogion rheoli adeiladu a’r NHBC sy'n cofnodi'r data i nodi daliadaeth derfynol arfaethedig yr eiddo (sy’n sail ar gyfer y wybodaeth am ddeiliadaeth). Gall hyn arwain at dan gyfrif  tai newydd yn y sector cymdeithasol a gor-gyfrif ar gyfer y sector breifat. O fewn y sector gymdeithasol, gall hefyd arwain at dan gyfrif tai newydd gan awdurdodau lleol a gor-gyfrif tai landlordiaid cymdeithasol. Felly dylid trin y data daliadaeth yn ofalus. 
  • Bydd amrywiadau chwarterol yn dylanwadu ar y dechreuadau a chwblhadau, gan gynnwys amseru dechrau a chwblhau ar safleoedd mawr mewn rhai awdurdodau a ffactorau tymhorol fel gwyliau a thywydd. Nid yw'r ystadegau hyn yn cael eu haddasu'n dymhorol.
  • Rydym hefyd yn cyhoeddi ystadegau ar wahân ar ddarpariaeth tai fforddiadwy. Mae'r ffigurau'n cwmpasu'r holl unedau tai fforddiadwy ychwanegol, p'un ai drwy adeiladu o'r newydd, prynu, caffael, prydlesu neu addasu anheddau presennol.

Cyhoeddir pwyntiau allweddol a data StatsCymru yn chwarterol a chyhoeddir adroddiad blynyddol. Mae’r data ar StatsCymru yn cynnwys data ar lefel awdurdodau lleol yn ogystal â nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd fesul math yr annedd a nifer yr ystafelloedd gwely.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Scott Armstrong

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.