Neidio i'r prif gynnwy

Data am nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd, lle mae adeiladu wedi dechrau a rhai a gwblhawyd ar gyfer Hydref i Rhagfyr 2018.

  • Ar sail chwarterol, dechreuwyd 1,331 o anheddau newydd ar draws Cymru yn ystod Hydref i Ragfyr 2018. Mae hyn 7% yn llai nag yn ystod y chwarter blaenorol ond 6% yn fwy na’r flwyddyn flaenorol.
  • Yn ystod y 12 mis hyd Ragfyr 2018, dechreuwyd 5,998 o anheddau newydd. Mae hyn 2% yn is nag yn ystod y deuddeg mis yn gorffen ar ddiwedd Rhagfyr 2017.
  • Ar sail chwarterol, cwblhawyd 1,593 o anheddau newydd yng Nghymru yn ystod Hydref i Ragfyr 2018. Mae hyn 23% yn fwy nag yn ystod y chwarter blaenorol ond 12% yn llai na’r flwyddyn flaenorol.
  • Yn ystod y 12 mis yn gorffen Rhagfyr 2018,cwblhawyd 5,819 o anheddau newydd. Mae hyn 15% yn is na’r 12 mis hyd at Ragfyr 2017.
  • Parhaodd y sector preifat fod yn gyfrifol am y mwyafrif o weithgarwch adeiladu tai newydd (gyda 78% o’r holl anheddau newydd a gwblhawyd yn ystod y chwarter hwn). Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig oedd yn gyfrifol am 22% pellach, gydag awdurdodau lleol yn gyfrifol am 1%.
  • Cwblhawyd 9 o anheddau awdurdodau lleol newydd yn ystod y chwarter (oll gan Gyngor Sir y Fflint).
  • Roedd anheddau 3 ystafell wely yn cynrychioli 38% o’r cyfanswm gwblhawyd yn ystod y chwarter gyda anheddau 4 ystafell wely neu fwy yn cyfrif am 25%.
  • Gostyngodd nifer yr anheddau 2 ystafell wely a gwblhawyd 24% o'i gymharu â'r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol. Roeddent yn cynrychioli 22% o’r cyfanswm o gymharu â 25% y flwyddyn flaenorol.
  • Cafwyd cynnydd mawr fodd bynnag yn nifer yr anheddau un ystafell wely a gwblhawyd. Roedd y nifer 18 yn uwch nag yn ystod Hydref i Ragfyr 2017, ac yn cynrychioli 16% o’r holl anheddau a gwblhawyd o gymharu â 12% y flwyddyn flaenorol.

Nodyn

Caiff y gostyngiadau yn nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd ac a gwblhawyd eu dylanwadu gan amrywiadau chwarterol gan gynnwys amseru dechrau a chwblhau safleoedd mawr mewn rhai awdurdodau a ffactorau tymhorol fel gwyliau a thywydd. Nid yw'r ystadegau hyn wedi'u haddasu'n dymhorol.

Mae'r data hwn yn seiliedig ar adroddiadau archwilwyr adeiladu awdurdodau lleol a'r Cyngor adeiladu tai cenedlaethol (NHBC). Mae'n anodd weithiau i swyddogion rheoli adeiladu sy'n cofnodi'r data i nodi daliadaeth derfynol arfaethedig yr eiddo (sy’n sail ar gyfer y wybodaeth am ddeiliadaeth). Gall hyn arwain at dan gyfrif  tai newydd yn y sector cymdeithasol a gor-gyfrif ar gyfer y sector breifat. Felly dylid trin y data daliadaeth yn ofalus.

Rydym hefyd yn cyhoeddi ystadegau ar wahân ar ddarpariaeth tai fforddiadwy. Mae'r ffigurau'n cwmpasu'r holl unedau tai fforddiadwy ychwanegol, p'un ai drwy adeiladu o'r newydd, prynu, caffael, prydlesu neu addasu anheddau presennol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.