Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn broblemau arwyddocaol yng Nghymru.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Er bod diffyg data cadarn, dengys yr amcangyfrifon fod cam-drin domestig yn effeithio ar 11% o fenywod a 5% o ddynion bob blwyddyn yng Nghymru, bod trais rhywiol yn effeithio ar 3.2% o fenywod a 0.7% o ddynion ; a bod 3.1% o bobl hŷn yn cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso gan ofalwyr.
Casgliadau ac argymhellion (Dewiswyd)
Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn broblemau cymhleth, eang, sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn. Dim ond yn ddiweddar y dechreuwyd cydnabod eu hyd a’u lled, eu natur a’u canlyniadau yn gyffredinol.
Argymhelliad 9: Dylid cyflwyno ymatebion amddiffynnol i llurgunio organau rhywiol menywod (FGM) mewn lleoliadau iechyd, neu eu cysylltu â hwy.
Argymhelliad 18: Mae gan wasanaethau cyffredinol megis iechyd, addysg a’r heddlu rôl allweddol i’w chwarae wrth adnabod dioddefwyr trais a chamdriniaeth, wrth ddarparu ymyrraeth gynnar gyfer y rhai sy’n wynebu risg isel neu ganolig, ac wrth gyfeirio ymlaen at wasanaethau arbenigol perthnasol.
