Bydd mwy o gymorth am ddim ar gael mewn un lle i deuluoedd ardaloedd gwledig Conwy pan fydd Canolfan Deuluoedd Llanrwst yn ailagor ar ei newydd wedd fis nesaf.
Mae'r ganolfan, sydd wedi cefnogi cannoedd o deuluoedd lleol dros y 22 flynedd diwethaf, wedi cael ei gweddnewid, diolch i fuddsoddiad o £480,000 gan Lywodraeth Cymru.
Bellach bydd yn bosibl darparu mwy o wasanaethau ar yr un pryd, gan arbed teuluoedd sy'n byw mewn ardaloedd gwledig rhag gorfod teithio pellteroedd ’nôl a blaen i’r ganolfan.
Mae'r ganolfan yn cynnig amrywiaeth o gymorth, gan gynnwys clybiau babanod wythnosol a ddarperir gydag ymwelwyr iechyd, grwpiau gofalwyr ifanc, a chymorth cam-drin domestig i bobl o bob oedran.
Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:
Dw i'n falch o weld y cyfleuster gwych hwn yn ailagor ar ôl cael ei weddnewid. Mae ein buddsoddiad o £480,000 yn golygu y gall y ganolfan barhau â'i gwasanaethau hanfodol, a bod cannoedd o deuluoedd yng Nghonwy bellach yn gallu manteisio ar nifer o wasanaethau mewn un lle, gan arbed amser a theithio.
Mae ehangu ac adnewyddu'r ganolfan hon, yn adlewyrchu ein hymrwymiad ni i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'u darparu yn nes at adref i gymunedau ledled Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Penny Andow, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Integredig i Oedolion a Chymunedol:
Bydd y gwaith adnewyddu hwn yn rhoi hwb i'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig i deuluoedd yn yr ardal, a bydd yn creu mwy o gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth. Rydyn ni'n ddiolchgar am y cyllid gan Lywodraeth Cymru sydd wedi gwneud hyn yn bosibl, a dw i'n falch iawn y gallwn helpu i sicrhau dyfodol i’r ganolfan a pharhau i ddarparu'r gwasanaethau poblogaidd hyn drwy fuddsoddi yn yr adeilad.
Dywedodd y Cynghorydd Cathy Augustine, Aelod Cabinet dros Blant, Teuluoedd a Diogelu:
Dros y 22 flynedd diwethaf, mae Canolfan Deuluoedd Llanrwst wedi datblygu'n ganolfan i ddiwallu anghenion newidiol y gymuned. Felly rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu ein holl deuluoedd yn ôl i'r ganolfan ar ei newydd wedd, lle gallwn barhau i ddarparu amrywiaeth o gymorth hanfodol i'r gymuned.
