Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1: pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyries a pham?

Ar ffurf naratif, disgrifiwch y mater a'r camau gweithredu a gynigir gan Lywodraeth Cymru. Sut rydych wedi cymhwyso / y byddwch yn cymhwyso'r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i'r camau a gynigir, yn y polisi a'r cylch cyflenwi drwyddo draw?

Tymor hir

  • Pa dueddiadau, heriau a chyfleoedd hirdymor a allai effeithio ar y cynnig?
  • Sut mae'r cynnig yn atal / lliniaru'r effeithiau gwael yn y tueddiadau hyn neu'n hwyluso / yn gwneud y gorau o'r effeithiau da?

Atal

  • Sut y mae'r cynnig yn cefnogi'r gwaith o dorri'r cylchoedd negyddol megis tlodi, iechyd gwael, difrod amgylcheddol a cholli bioamrywiaeth?
  • A yw'r cynnig yn mynd i'r afael â symptom neu â gwraidd y mater? Os ydyw, sut? Os yw'n mynd i'r afael â symptom, beth y gellir ei wneud am wraidd y mater?
  • Sut y gallai'r cynnig leihau ei effeithiau negyddol ei hun ee lleihau gwastraff a'r defnydd o adnoddau, allyriadau a'r effaith ar ansawdd yr aer, effaith negyddol ar gydlyniant cymunedol / cymdeithasol?

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn pwysleisio ein rhwymedigaeth ni a rhwymedigaeth pob corff cyhoeddus yng Nghymru i gefnogi iechyd a llesiant holl bobl a chymunedau Cymru.

“Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol”

Mae’r pandemig COVID-19 wedi tynnu sylw at rai o'r anghydraddoldebau iechyd annerbyniol sy'n bodoli ym mhoblogaeth Cymru ac efallai wedi gwaethygu rhai ohonynt.  Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi dadansoddi'r risg o farwolaeth gysylltiedig â COVID-19 yng Nghymru a Lloegr a faint o amrywiad y gellir ei egluro drwy ystod o ffactorau.   Mae rhyngberthnasau lluosog a chymhleth rhwng ffactorau economaidd-gymdeithasol, daearyddol a ffactorau demograffig eraill. Mae rheoli ar gyfer y ffactorau hyn yn dangos bod y risg o farwolaeth yn sgil achosion yn ymwneud â’r coronafeirws (COVID-19) ymhlith rhai grwpiau ethnig yn sylweddol uwch na'r risg o farwolaeth sy'n cynnwys y coronaidd (COVID-19) ymhlith rhai grwpiau ethnig yn sylweddol uwch nag ymysg rhai o ethnigrwydd Gwyn. Dengys data SYG hefyd fod dynion a phobl dros 65 oed yn fwy tebygol o farw o ganlyniad i haint COVID-19.

Bydd Adnodd Asesu Risg COVID-19 Cymru Gyfan ar gyfer y Gweithlu (a elwir o’r fan hon ymlaen yn  'adnodd asesu risg') yn cael ei roi ar waith ar unwaith gan Ymddiriedolaethau’r GIG a’r Byrddau Iechyd ac ar draws gofal cymdeithasol. Bydd ar gael i GIG Cymru a chyflogwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru drwy wefan Llywodraeth Cymru a chaiff ei hyrwyddo drwy sianeli cyfryngau digidol. Er bod yr adnodd asesu risg wedi'i gynllunio ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, gellid ei ddefnyddio mewn sectorau a gweithleoedd eraill yng Nghymru.

Bydd gan yr adnodd asesu risg oblygiadau hirdymor a hirdymor i'r unigolion hynny sy'n asesu eu ffactorau risg personol. Yn y tymor hwy, bydd rhai pobl a allai fod wedi bod yn agored i niwed wedi'u diogelu rhag haint COVID-19 difrifol neu bosibilrwydd o farwolaeth. Yn ogystal â'r camau a gymerwyd ar unwaith, yn y tymor hwy bydd unigolion yn gallu nodi a deall gwelliannau i’w ffordd o fyw a allai, os cânt eu gweithredu, gael effeithiau tymor hwy ar eu hiechyd a'u llesiant.

Mae gweithredu'r adnodd asesu risg yn rhoi cyfle i gysylltu'r broses o gyflwyno'r adnodd â chanllawiau presennol y llywodraeth, y negeseuon allweddol ar atal a rheoli heintiau, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol, hylendid dwylo da, addasu a defnyddio cyfarfar diogelu personol yn gywir lle y bo'n briodol, a chael Fitamin D ychwanegol. Bydd hyn yn cefnogi ac yn helpu i ddylanwadu ar ymddygiadau sy'n debygol o alluogi staff i leihau'r siawns o ddal  COVID-19 yn y gwaith yn ogystal â chanolbwyntio ar eu risg.

Integreiddio

  • Sut y gallai'r cynnig hwn gysylltu a chyfrannu at agendâu polisi cyhoeddus gwahanol a sicrhau nifer o fanteision ee sut y gall prosiect trafnidiaeth gefnogi gwelliannau i’r maes iechyd, yn ddiwylliannol neu i lefelau diweithdra?
  • Pa gamau ymarferol ydych chi wedi'u cymryd i integreiddio eich cynnig â Ffyniant i Bawb – ein Strategaeth Genedlaethol, y cynlluniau a'r amcanion llesiant ynghyd â chynlluniau ac amcanion cyrff a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus eraill er mwyn sicrhau bod y cynnig yn cyfrannu cymaint â phosibl ar draws y saith nod llesiant? 

I gefnogi'r addewid Iach ac Egnïol a nodir yn Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol, bydd y cynnig hwn yn golygu ein bod yn newid ein pwyslais, o driniaeth i atal ar gyfer unigolion sy’n wynebu risg yn y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. Yn ogystal, bydd y cynnig yn cyfrannu at ein hamcanion llesiant sy'n ymwneud ag iechyd da i bawb ac yn eu hyrwyddo, gan adeiladu cymunedau iachach a hybu ffyrdd iachach o fyw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae'r cynnig hefyd yn cefnogi gweledigaeth Cymru Iachach: ein cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol i atal salwch a chefnogi pobl i reoli eu llesiant eu hunain. Mae gwerthoedd craidd GIG Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi'r offer, y systemau a'r amgylchedd i'n staff weithio'n ddiogel ac yn effeithiol a dylai'r diwylliant hwn fod yn sylfaen ar gyfer y system iechyd a gofal cymdeithasol gyfan.

Cydweithio

  • Pwy yw'r partneriaid sydd â diddordeb cyffredin yn y cynnig hwn?
  • Sut y mae'r partneriaid hynny wedi bod yn rhan o ddatblygu'r cynnig a'r gwaith cynllunio i'w wireddu, a beth fydd eu cyfraniad hwy iddo?

Cynnwys

  • Sut y bu’r bobl y mae'r cynnig yn effeithio arnynt yn rhan o’r gwaith o'i ddatblygu?
  • Beth sy'n bwysig i'r bobl y mae'r cynnig yn effeithio arnynt a sut y gallant fod yn rhan o'r gwaith o'i wireddu?

Datblygwyd yr adnodd asesu risg ar y cyd ag amrywiaeth o bartneriaid sydd â diddordeb yn yr adnodd asesu risg, gan gynnwys:

  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol – mae cynrychiolwyr amrywiol o'r grwpiau hyn wedi cymryd rhan drwy gydol proses datblygu a gweithredu'r grŵp hwn. Mae hyn yn cynnwys cynrychioliaeth o rwydweithiau amrywiaeth amrywiol, undebau llafur a'r grŵp gwyddonol arbenigol, llawer ohonynt yn gweithio i’r GIG, ac maent wedi ystyried y dystiolaeth sydd ar gael ynghylch y ffordd orau o ddiogelu'r grwpiau hyn o bobl.
  • Cyfarwyddwyr Gweithlu GIG Cymru – Mae Cyfarwyddwyr wedi cael cyfarfodydd gyda Llywodraeth Cymru i drafod materion sy'n ymwneud â COVID-19, lle cawsant yr wybodaeth ddiweddaraf am statws yr adnodd a chyfle i roi sylwadau arno.
  • Pobl ag arbenigedd gwyddonol ar COVID-19 – Er mwyn datblygu'r adnodd hwn sefydlwyd grŵp yn cynnwys amrywiaeth o weithwyr proffesiynol gan gynnwys clinigwyr, ymchwilwyr ac epidemiolegwyr sydd ag arbenigedd gwyddonol ar COVID-19, a aeth ati i ystyried y dystiolaeth a phenderfynu ar y ffactorau a oedd yn golygu bod unigolyn yn wynebu risg o gael COVID-1, felly defnyddiwyd hyn yn yr adnodd.
  • Cyflogwyr gofal cymdeithasol – Mae cyflogwyr gofal cymdeithasol wedi cael cyfle i roi sylwadau ar ddatblygiad yr adnodd drwy'r grŵp gweithredu gofal cymdeithasol. Yn ogystal â'r uchod, fel y grwpiau eraill, maent hefyd wedi cael cyfle i gyflwyno tystiolaeth i'r grŵp gwyddonol ei hystyried.
  • Undebau llafur – sydd wedi helpu i ddatblygu canllawiau i sicrhau bod yr adnodd yn cael ei weithredu'n gywir. Mae'r grŵp hwn hefyd wedi cael cyfle i gyflwyno tystiolaeth i'r arbenigwyr gwyddonol ei hystyried wrth wneud penderfyniadau ar greu'r adnodd.
  • Cynrychiolwyr cymunedol – gwahoddwyd cynrychiolwyr cymunedol amrywiol ar gyfer pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) i ddarparu tystiolaeth ar yr adnodd asesu risg ar wahanol gamau. Mae rhai cynrychiolwyr cymunedol hefyd wedi mynychu’r is-grŵp economaidd-gymdeithasol BAME, ac mae cadeirydd y grŵp yn mynychu is-grŵp asesu risg. Felly, cynrychiolwyr y grŵp hwn yn cael cyfle i roi adborth ar yr adnodd drwy'r cadeirydd.
  • Grŵp Cynghori BAME y Prif Weinidog, sy'n cynnwys cynrychiolaeth o Lywodraeth Leol; clinigwyr blaenllaw; ymchwilwyr; epidemiolegwyr; a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Yn ogystal â'r pum ffordd o weithio uchod, ystyriwch y meysydd canlynol:

Effaith

  • Beth yw'r prif ddadleuon o blaid ac yn erbyn y cynnig? Cyfeiriwch at dystiolaeth; cydnabyddwch fylchau sylweddol yn ein gwybodaeth a disgrifiwch unrhyw gynlluniau i'w llenwi.
  • Pa mor eang ydych chi wedi ystyried y dadleuon hyn drwy gynnwys a chydweithio â phobl?

Bydd y cynnig hwn yn fecanwaith allweddol i gyflogwyr iechyd a chyflogwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru, i nodi gweithwyr y mae mwy o risg iddynt gael eu heintio’n ddifrifol â COVID-19 a marw ohono. Datblygwyd yr adnodd asesu risg gan yr Is-grŵp Asesu Risg a gyd-gadeiriwyd gan yr Athro Keshav Singhal (Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol CTMUHB a BAPIO Cymru) a Helen Arthur (Cyfarwyddwr Busnes a Gweithlu Corfforaethol, LlywodraethCymru). Cafodd yr adnodd asesu risg ei ystyried a'i gymeradwyo gan Grŵp Cynghori Arbenigol COVID-19 BAME y Prif Weinidog a gyd-gadeiriwyd gan y Barnwr Ray Singh CBE a Dr Heather Payne (Uwch Swyddog Meddygol Iechyd Mamau a Plant, Llywodraeth Cymru).

Mae'r Is-grŵp Asesu Risg wedi ystyried amrywiaeth o ddulliau o asesu risg gan ddefnyddio'r adnoddau presennol sy'n cael eu defnyddio mewn mannau eraill, yn ogystal â'r ystod eang o dystiolaeth gyfredol a nifer o adolygiadau pellach gan gynnwys papurau SAGE nad ydynt ar gael i'r cyhoedd ar hyn o bryd, dadansoddiadau Set Ddata'r SYG o farwolaethau sy'n gysylltiedig â’r coronafeirws yn ôl grŵp ethnig, cyflyrau iechyd a galwedigaeth, a ryddhawyd ym mis Mai, yn ogystal â phapurau gan gyfadran Meddygaeth Alwedigaethol, y BMA a a phapurau o Unol Daleithiau America. Archwiliwyd y dystiolaeth hon ynghyd â chyngor arbenigol gan aelodau'r Is-grŵp Asesu Risg. Dyma grynodeb o'r brif dystiolaeth a gyhoeddwyd:

  • Adroddiad y Kings Fund                                                                     
  • Sefydliad Astudiaethau Cyllid a Sefydliad Nuffield               
  • Ethnigrwydd, Y Lancet                                                                       
  • Demograffeg Covid 19 yn y boblogaeth gyffredinol 
  • Demograffeg Covid 19 yn y Sector Gofal Iechyd                   
  • Demograffeg Covid 19 mewn gwahanol rannau o’r Byd                  
  • Fitamin D                                                                                
  • Ffactorau Anniriaethol

Roedd y grŵp yn cynnwys clinigwyr blaenllaw a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yng Nghymru a oedd yn gweithio'n gyflym ac yn broffesiynol ac yn dadansoddi cryn dipyn o ddadansoddiad o'r data rhwng cyfarfodydd – gan gydnabod yr angen dybryd i sicrhau a diogelu lles a llesiant ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. Yn dilyn y dadansoddiad cyflym hwn, daeth yr Is-grŵp i'r casgliad bod cyfuniad o ffactorau amrywiol sy'n dod at ei gilydd i gyfrannu at ddifrifoldeb yr haint a'r marwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID-19. Nodir y ffactorau risg a nodwyd yn yr adnodd asesu risg gan bapur diweddaraf Rhwydwaith Gwybodaeth Glinigol COVID-19 (a gyhoeddwyd ar wefan SAGE) a dadansoddiad Public Health England a gyhoeddwyd ym mis Mehefin.

Mae'r cynnig wedi cael ei dderbyn yn gadarnhaol gan Bartneriaid yn yr Undebau, Cyfarwyddwyr Gweithlu'r GIG, Cyflogwyr GIG Cymru, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru), Gofal Cymdeithasol Cymru. Argymhellodd y Barnwr Ray Singh, Cadeirydd Grŵp Cynghori Arbenigol BAME COVID-19 y Prif Weinidog ar 20 Mai 2020 y dylai’r adnodd fod ar gael ar ynwaith. Ar 22 Mai 2020, cytunodd Vaughan Gething MS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y dylid sicrhau bod Adnodd Asesu Risg COVID-19 Cymru Gyfan ar gyfer y Gweithlu ar gael o 27 Mai, yn dilyn sesiwn friffio i'r wasg a Datganiad Ysgrifenedig gan y Prif Weinidog.

Costau ac Arbedion

  • Beth fydd cost y cynnig a sut y bydd yn cael ei ariannu?
  • Sut y gellir lleihau'r costau drwy gynnwys a chydweithio  ar draws Llywodraeth Cymru a/neu ar y cyd â rhanddeiliaid allanol?
  • A oes arbedion a sut y bydd y rhain yn cael eu gwireddu?

 

Ni fwriedir i'r cynnig fod yn ymarfer torri costau. Y blaenoriaethau parhaus a phwysicaf yw lleihau'r niwed uniongyrchol ac anuniongyrchol o COVID-19. Ychydig iawn o gostau sydd ynghlwm wrth gyflawni'r cynnig hwn. Amcangyfrifir y bydd angen £10k ar gyfer datblygu fersiwn ar-lein o'r adnodd asesu risg. Bydd tua £15k - £20k yn cael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata - ni fydd angen cyllideb ychwanegol ar gyfer y rhan fwyaf o hyn. Efallai y bydd goblygiadau o ran cost i gyflogwyr o ran cymryd y camau angenrheidiol i reoli a lliniaru'r risgiau i'w gweithwyr. Diogelu'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yw ein blaenoriaeth. Drwy ddeall risg bersonol y gweithwyr a thrafod gyda’u cyflogwyr, rydym yn helpu cyflogwyr i gyflawni eu dyletswydd gofal ac i gymryd camau i ddiogelu eu gweithwyr gymaint â phosibl.

Mecanwaith

  • A oes deddfwriaeth yn cael ei chynnig? Os felly, mae’n debygol y bydd  angen i chi lunio Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Gallwch ddefnyddio allbwn yr Asesiad Integredig o'r Effaith hwn i'ch helpu.

Mae'r cynnig hwn yn cyd-fynd â'r ddeddfwriaeth bresennol. Mae'r adnodd asesu risg hwn yn cefnogi strategaethau a pholisïau presennol Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau (gan gynnwys anghydraddoldebau iechyd), cyfiawnder cymdeithasol, gweithredu cadarnhaol a thlodi.

Adran 7: casgliad

​​​​​​7.1 Sut y mae'r bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi'u cynnwys  yn y gwaith o'i ddatblygu?

Mae'n ddyletswydd arnom i drafod ac ymgynghori mewn amgylchiadau penodol, ond mae tystiolaeth glir yn nodi bod cynnwys y cyhoedd a rhanddeiliaid yn hollbwysig  er mwyn sicrhau llwyddiant y polisi a’r gwaith o’i gyflawni. Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, rydym wedi ymrwymo i gynnwys pobl. Disgrifiwch sut rydych wedi cynnwys y canlynol:

  • Plant a'u cynrychiolwyr;
  • Pobl sydd â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010;
  • Siaradwyr Cymraeg a grwpiau arbenigol ym maes y Gymraeg;
  • Pobl eraill y gallai’r cynnig effeithio arnynt.

Dechreuwyd ar y gwaith o ddatblygu a chyflwyno Adnodd Asesu Risg COVID-19 Cymru Gyfan ar gyfer y Gweithlu yng nghanol y pandemig pan ddaeth tystiolaeth gynyddol i'r amlwg ym mis Ebrill fod haint COVID-19 yn cael effaith anghymesur ar bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd, neu Leiafrifoedd Ethnig  (BAME).  Roedd Llywodraeth Cymru o'r farn bod angen ymchwilio ar frys i ddeall y ffactorau dan sylw. Yn benodol, canolbwyntiwyd ar yr angen brys i nodi unrhyw dystiolaeth a fyddai’n ein galluogi i weithredu mewn ffordd wybodus a gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau niwed y gellir ei osgoi mewn grwpiau agored i niwed

Er bod y gwaith hwn wedi'i ddatblygu'n gyflym iawn, fe gafodd hynny ei wneud yn ysbryd partneriaeth gymdeithasol ac rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol i sicrhau bod yr adnodd asesu risg yn cael ei wreiddio ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.

Gan fod COVID-19 wedi achosi mater meddygol brys a oedd yn achosi niwed ar unwaith, yn enwedig i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, ni fu amser i ymgynghori'n uniongyrchol â gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol unigol gan ddefnyddio ein ffrydiau nodweddiadol megis ymgynghori ar y cynigion. Fodd bynnag, mae cynrychiolwyr cyflogwyr iechyd a gofal cymdeithasol, arweinwyr cydraddoldeb, rhwydweithiau BAME a chynrychiolwyr Grŵp Cynghori Arbenigol COVID-19 BAME a chynrychiolwyr cyrff proffesiynol wedi bod yn ymwneud yn uniongyrchol â datblygu'r adnodd (Darperir manylion llawn gan gynnwys aelodaeth yn yr adran Effaith ar dudalennau 8-10). Yn ogystal â hyn, mae'r Undebau Llafur a chynrychiolwyr iechyd a gofal cymdeithasol eraill fel rhwydweithiau BAME a chynrychiolwyr cymunedol amrywiol wedi cael cyfle i gyflwyno tystiolaeth i'r grwpiau gwyddonol eu hystyried. Mae cynrychiolydd o Grŵp Arwain Cydraddoldeb GIG Cymru (ELG) sy'n gweithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru, undebau llafur a chynrychiolwyr GIG Cymru, gan gynnwys cyflogwyr, wedi cydweithio i ddatblygu Canllawiau i gyd-fynd â'r adnodd asesu risg.

7.2 Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Crynhowch yr effeithiau mwyaf arwyddocaol a ddisgwylir o ganlyniad i'r cam gweithredu arfaethedig - ar bobl a diwylliant Cymru, ar y Gymraeg, ac ar economi ac amgylchedd Cymru. Disgrifiwch y themâu a gododd wrth gynnwys pobl. Cyfeiriwch at y saith nod llesiant ac amcanion llesiant Llywodraeth Cymru. Cyferbynnwch hyn ag effaith camau gweithredu presennol Llywodraeth Cymru os yw hynny’n briodol.

Effaith fwyaf arwyddocaol Adnodd Asesu Risg COVID-19 Cymru Gyfan ar gyfer y Gweithlu yw ei fod yn nodi gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sydd mewn mwy o berygl o gael haint COVID-19 difrifol neu farwolaeth, i'w diogelu rhag niwed y gellir ei osgoi ac achub bywydau. Ar ôl cwblhau rhan hunanasesu'r adnodd asesu risg, dylai'r unigolyn drafod y risgiau gyda'i reolwr llinell i liniaru, rheoli a lleihau'r rhain a hybu diogelwch a llesiant gweithwyr.

Gall Adnodd Asesu Risg COVID-19 Cymru Gyfan ar gyfer y Gweithlu nodi ymhellach y  staff sy'n agored i niwed neu sy’n wynebu risg, y mae angen eu hadleoli o rolau rheng flaen sy’n ymwneud â chleifion. Felly, bydd angen rhoi cyfrif am hyn yng ngwaith cynllunio’r Byrddau Iechyd i sicrhau bod ein system iechyd a gofal cymdeithasol mor barod ac mor wydn ag y gall fod ar gyfer yr wythnosau a'r misoedd i ddod.

7.3 Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:

  • yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant;  a/neu,
  • yn osgoi, yn lleihau neu'n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?
  • Pa gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i hyrwyddo bioamrywiaeth, hawliau plant, cydraddoldebau, y Gymraeg neu un o'r meysydd eraill sydd wedi'u cynnwys yn eich asesiadau effaith?
  • Pa gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i atgyfnerthu ei chyfraniad at nod penodol neu gyfrannu at nodau ychwanegol?
  • Pa gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i osgoi, ostwng neu liniaru effaith negyddol?
  • Os na chaiff camau eu cymryd i osgoi, unioni neu liniaru effaith negyddol, eglurwch y rheswm dros hynny.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn pwysleisio ein rhwymedigaeth ni a rhwymedigaeth pob corff cyhoeddus yng Nghymru i gefnogi iechyd a llesiant holl bobl a chymunedau Cymru.

“Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol”

Mae’r pandemig COVID-19 wedi tynnu sylw at rai o'r anghydraddoldebau iechyd annerbyniol sy'n bodoli ym mhoblogaeth Cymru.  Mae hyn yn cynnwys y perygl y bydd pobl o gefndiroedd BAME a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol penodol yn cael eu heintio’n ddifrifol â COVID-19.

Bydd yr adnodd asesu risg yn cael ei roi ar waith ar unwaith gan Ymddiriedolaethau'r GIG a’r Byrddau Iechyd ac anogir y maes gofal cymdeithasol a darparwyr iechyd eraill i’w ddefnyddio. Mae ar gael i bob darparwr gofal iechyd yng Nghymru drwy dudalen rhyngrwyd Llywodraeth Cymru a chaiff ei hyrwyddo’n eang drwy sianeli cyfryngau digidol. Er ei fod wedi'i gynllunio ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, gallai'r adnodd asesu risg gael ei addasu i sectorau gwaith eraill yng Nghymru.

Bydd gan yr adnodd asesu risg oblygiadau hirdymor a hirdymor i'r unigolion hynny sy'n asesu eu ffactorau risg personol. Yn y tymor hwy, bydd rhai pobl a allai fod wedi bod yn agored i niwed wedi cael eu diogelu rhag cael eu heintio’n ddifrifol â COVID-19 neu farw ohono. Yn ogystal â'r camau a gymerir ar unwaith, bydd unigolion yn gallu nodi a deall gwelliannau i’w ffordd o fyw a allai, os cânt eu gweithredu, arwain at fanteision tymor hwy i’w hiechyd.

Mae gweithredu'r adnodd asesu risg yn rhoi cyfle i gysylltu'r broses o gyflwyno'r adnodd â chanllawiau presennol y llywodraeth, y negeseuon allweddol ar atal a rheoli heintiau, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol, hylendid dwylo da, addasu a defnyddio cyfarpar diogelu personol yn gywir lle y bo'n briodol, a chael Fitamin D ychwanegol. Bydd hyn yn cefnogi ac yn helpu i ddylanwadu ar ymddygiadau sy'n debygol o alluogi staff i leihau'r siawns o ddal haint COVID-19 yn y gwaith yn ogystal â chanolbwyntio ar eu risg.

Cyflwynwyd y cynnig i achub bywydau a diogelu unigolion rhag niwed. Felly, mae’r manteision o ran achub bywydau yn drech na'r effeithiau negyddol posibl.

7.4 Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?   

Pa gynlluniau sydd ar waith i wneud gwaith adolygu a gwerthuso ôl-weithredu?

Roedd yr adnodd risg ar gael am y tro cyntaf ar wefan Llywodraeth Cymru ar ffurf pdf. Y flaenoriaeth oedd sicrhau bod yr adnodd ar gael i'r rhai yr oedd angen iddynt ddeall eu risg ar frys a chymryd camau priodol. Felly, nid yw data monitro ar gael ar gyfer rhan fwyaf o ddefnyddwyr cynnar yr adnodd.

Datblygwyd fersiwn ryngweithiol ar-lein o'r adnodd yn gyflym gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) gyda chymorth HEIW. Fe'i cynhelir ar y llwyfan e-ddysgu cenedlaethol a Learning@Wales mae ar gael i unrhyw un sy'n gweithio yng Nghymru. Gall holl staff y GIG ddefnyddio'r adnodd o'u Cofnod Staff Electronig unigol).

Mae data dadansoddi cryno o'r system ryngweithiol yn cael ei archwilio'n wythnosol gan swyddogion ac fe'i hystyrir yn briodol gan yr is-grŵp asesu risg. Anogir adborth ansoddol hefyd drwy ddefnyddio’r blwch HSS.Covid19.WorkplaceAssessmentSubGroup@gov.wales

Yn y tymor hwy, bydd gwerthusiad llawnach yn cael ei gynnal. Mae hyn yn debygol o fod ar ddechrau gwanwyn 2021 ond mae'n dibynnu'n fawr sut y bydd sefyllfa COVID-19 yn newid dros fisoedd y gaeaf. Mae swyddogion polisi y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol wedi cael trafodaethau cynnar gyda chydweithwyr yn y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi i ddechrau ystyried methodolegau priodol.