Canfyddiadau gwaith ymchwil ac argymhellion i gefnogi gweithredu ein Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol, a sicrhau cefnogaeth i benaethiaid ac arweinwyr mewn ysgolion.
Dogfennau

Adolygiad annibynnol o arweinyddiaeth , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 900 KB
PDF
900 KB
Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.
Manylion
Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys:
- Adolygiad strategol o’r gefnogaeth i arweinwyr yng Nghymru, sy’n ystyried y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP), y model cyllid ar gyfer cefnogi arweinwyr, cynllunio ar gyfer olyniaeth, a’n disgwyliadau o rôl arweinwyr o ran gweithredu’r cwricwlwm.
- Adolygiad annibynnol beirniadol o rolau a chyfrifoldebau holl asiantaethau’r system sy’n darparu cefnogaeth i arweinwyr, a sut y maent yn rhyngweithio i ddarparu’r gwasanaeth gorau i dîm arwain arferol mewn ysgol, gan gynnwys penaethiaid, dirprwy benaethiaid a phenaethiaid cynorthwyol.