Neidio i'r prif gynnwy

Nodau a methodoleg yr ymchwil

Cafodd Rheoliadau Trethi Tirlenwi 1996 eu cyflwyno yn y Deyrnas Unedig gyda’r prif nod o leihau gwaredu gwastraff mewn safleoedd tirlenwi ac o annog canlyniadau mwy cynaliadwy wrth reoli gwastraff. Cafodd y dreth ei datganoli i Gymru trwy Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017.

Comisiynwyd adolygiad annibynnol o Dreth Gwarediadau Tirlenwi Cymru i asesu ei heffeithiolrwydd trwy ysyried unrhyw wersi a ddysgwyd ers iddi ddod i rym. Mae’r ymchwil yn ymdrin â’r cyfnod o fis Medi 2017 hyd fis Mawrth 2023.

Nod yr adolygiad hwn oedd ateb dau gwestiwn ymchwil cyffredinol:

  • Pa effaith mae cyfraddau’r dreth gwarediadau tirlenwi wedi ei gael ar ymddygiadau yn y sector gwastraff (gan gynnwys gwarediadau anawdurdodedig)? (Effaith)
  • I ba raddau mae deddfwriaeth y dreth gwarediadau tirlenwi (sef heblaw cyfraddau treth) wedi dylanwadu ar ymddygiadau? (Ymddygiadau)

Defnyddiwyd amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys adolygiad desg a dadansoddiad ac ymchwil uniongyrchol gyda rhanddeiliaid a oedd yn cynnwys arolygon a chyfweliadau.

Cynhaliwyd cyfweliadau gyda chwe grŵp o randdeiliaid. Y rhain oedd: cymdeithasau masnach; sefydliadau amgylcheddol; rheoleiddwyr, llywodraeth a llunwyr polisi; casglwyr masnachol / gweithredwyr seilwaith arall; gweithredwyr safleoedd tirlenwi; a chynhyrchwyr gwastraff. Fodd bynnag, effeithiwyd ar yr ymchwil uniongyrchol gan gyfraddau cyfranogi isel gan randdeiliaid. Trwy ymestyn ffrâm amser y cyfweliadau a symleiddio’r arolwg, roedd yr astudiaeth yn gallu cynnwys 29 o randdeiliaid mewn cyfweliadau a 44 o ymatebwyr i’r arolwg. Nid oedd y data a gasglwyd yn gwbl gynrychioliadol.

Cylchredwyd yr arolygon i bedwar o grwpiau targed rhanddeiliaid gan gynnwys darparwyr triniaethau amgen gwastraff, casglwyr masnachol, gweithredwyr safleoedd tirlenwi, a darparwyr gwasanaethau llogi sgipiau.

Canfyddiadau allweddol

Effaith cyfraddau Treth Gwarediadau Tirlenwi Cymru

Effaith ar ailgylchu ac ailddefnyddio

Rhwng 2018-2022, cynyddodd cyfraddau ailgylchu 2 y cant, er na chynyddodd cyfraddau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi mewn termau real. Er y gallai’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi fod wedi cynyddu ailgylchu, credai rhanddeiliaid fod ffactorau eraill yn dylanwadu (yn benodol arwyddion gwleidyddol fod tirlenwi yn ddewis anghynaliadwy a thargedau ailgylchu statudol awdurdodau lleol) wedi cael mwy o effaith.

Defnyddio technolegau amgen

Mae’r symiau o wastraff trefol a masnachol a diwydiannol a anfonir i safleoedd tirlenwi wedi lleihau dros amser. Ar yr un pryd, mae’r cyfraddau ailgylchu, ailddefnyddio, a chompostio ar gyfer y ffrydiau gwastraff hyn wedi cynyddu, fel mae llosgi. Mae’r cynnydd yn y defnydd o dechnolegau triniaeth amgen ar gyfer y ffrydiau gwastraff hyn i’w briodoli i ffactorau y tu hwnt i Dreth Gwarediadau Tirlenwi Cymru. Mae’r ffactorau hyn yn cynnwys cost is ynni o wastraff (o gymharu â thirlenwi) a’r cyd-destun polisi ehangach megis targedau ailgylchu statudol awdurdodau lleol, y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff, a gofynion dim gwastraff i dirlenwi. Hefyd, mae gwastraff adeiladu a dymchwel a anfonir i safleoedd tirlenwi wedi lleihau, sy’n dangos y cynnydd mewn defnyddio dewisiadau triniaethau amgen yn y Deyrnas Unedig.

Cyfatebiaeth ag effaith amgylcheddol ffrydiau gwastraff

Roedd y data yn amwys ynghylch a oedd cyfraddau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn gymesur ag effaith amgylcheddol gwahanol ffrydiau gwastraff. Bydd hyn yn gofyn am astudiaeth fwy cynhwysfawr. Roedd rhanddeiliaid yn awgrymu’r angen am gyflwyno gwahanol gyfraddau treth i gynrychioli baich amgylcheddol gwahanol ddeunyddiau, ond mae’n bwysig ystyried effaith posibl hyn ar reoliadau presennol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

Effeithiau ar ffrydiau gwastraff penodol

Nodwyd sawl ffrwd gwastraff fel rhai nad oedd cyfraddau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn gweithredu fel atalydd rhag triniaeth tirlenwi: gypsum; asbestos; lludw gwaelod llosgydd; priddoedd halogedig; cyfansoddion anorganaidd actifedd isel; plastigau, tecstilau, pren; a gwastraff cymysg wedi ei drin. Y prif reswm dros barhau i ddefnyddio tirlenwi ar gyfer y ffrydiau gwastraff hyn yw naill ai ddiffyg mynediad at gyfleusterau triniaeth amgen a chost ratach gwaredu o gymharu â triniaeth amgen. Awgrymai rhanddeiliaid addasu cyfradd treth y ffrydiau gwastraff neu cyflwyno cyfradd dreth ganolig i ymateb i hyn.

Twristiaeth gwastraff

Nid yw’r dystiolaeth yn dangos bod Treth Gwarediadau Tirlenwi Cymru yn ffactor pwysig mewn dylanwadu ar lif trawsffiniol gwastraff rhwng Cymru a chenhedloedd eraill y Deyrnas Unedig. Mae’r ffin yn agored, gyda gwastraff yn teithio ar draws y ffin i’w drin yn y ddau gyfeiriad oherwydd agosrwydd, hwylustod a chost (ffioedd clwyd a thrafnidiaeth).

Ffioedd clwyd

Dengys data fod ffioedd clwyd tirlenwi yn lleihau mewn termau real. Y ffactorau allweddol sy’n effeithio ar ffioedd clwyd yw amodau’r farchnad a chostau sylfaenol safleoedd tirlenwi (gweithrediadau, peirianneg a seilwaith). Ni chanfuwyd gwahaniaeth mewn ffioedd clwyd rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig.

Camddisgrifio gwastraff

Mae’r bwlch rhwng cyfraddau is a chyfraddau safonol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi wedi cyfrannu at gamddosbarthu bwriadol gwastraff. Fodd bynnag, mae angen tystiolaeth bellach i ddeall graddau’r camddosbarthu a sut y gorfodir ar hyn. Er mwyn gwrthsefyll camddosbarthu, roedd rhanddeiliaid yn awgrymu lleihau’r bwlch mewn cyfraddau, cyflwyno cyfradd dreth ganolig, neu neilltuo’r cyfrifoldeb dros ddosbarthu gwastraff i gynhyrchwr y gwastraff. Mae’r gyfradd is hefyd wedi anghymell y drefnydd o ddewisiadau drutach (o gymharu â thirlenwi) amgen a chynaliadwy o drin gwastraff.

Gwarediadau anawdurdodedig

Er bod rhanddeiliaid o’r farn fod y gyfradd gwarediadau anawdurdodedig (150% o’r gyfradd safonol) yn synhwyrol, codwyd cwestiynau ynghylch ei effeithiolrwydd posibl wrth atal troseddau gwastraff oherwydd diffyg gwelededd a gorfodi. Roedd rhanddeiliaid yn mynegi’r farn hefyd nad oedd, hyd yma, unrhyw effaith weladwy o’r gyfradd o 150% o gymharu â chyfradd Lloegr a’r Alban.

Effaith rheoleiddio

Gwahaniaethau yn neddfwriaeth y Deyrnas Unedig

Er gwaethaf rhai gwahaniaethau deddfwriaethol rhwng y Dreth Gwarediadau Tirlenwi a’r Dreth Tirlenwi a Threth Tirlenwi’r Alban (sef disgowntiau, esemptiadau a rhyddhadau dŵr, ffrydiau gwastaff cyfraddau is, gwarediadau anawdurdodedig a threthadwy), mae’r ddeddfwriaethau’n debyg yn fras. Roedd gan randdeiliaid a gyfwelwyd ddiffyg ymwybyddiaeth yn gyffredinol o’r gwahaniaethau mewn deddfwriaeth ac felly’n ei chael yn anodd cynnig sylwadau manylach ar hyn.

Rhyddhadau, disgowntiau ac esemptiadau

Nid oedd y data yn ddiamheuol ynghylch yr effeithiau mae rhyddhadau, disgownt ac esemptiadau yn eu cael ar ymddygiad trethdalwyr, nac ynghylch y graddau maent yn briodol ac angenrheidiol.

Amwyseddau a bylchau mewn deddfwriaeth

Ni nodwyd unrhyw amwyseddau o fewn y ddeddfwriaeth fel rhan o’r adolygiad hwn. Fodd bynnag, gallai hyn adlewyrchu diffyg ymwybyddiaeth o’r gwahaniaethau mewn deddfwriaeth ac nid yw’n golygu nad oes amwyseddau.

Levels of tax risk

For some stakeholders, legislative differences in Wales pertaining to water discounts have had a negative impact on tax risk due to increasing operating costs and closing part of the market. On the other hand, another stakeholder noted that water discounts were open to abuse where some operators had been claiming relief for water without carrying out any qualifying activities to prove this.

Graddau risg y dreth

I rai rhanddeiliaid, mae gwahaniaethau deddfwriaethol yng Nghymru ynghylch disgownt dŵr wedi cael effaith negyddol ar risg treth oherwydd costau cynyddol gweithredu a chau rhan o’r farchnad. Ar y llaw arall, roedd rhanddeiliad arall yn nodi bod disgownt dŵr yn agored i’w camddefnyddio lle’r oedd rhai gweithredwyr wedi bod yn hawlio rhyddhad am ddŵr heb gyflawni unrhyw weithgareddau cymhwyso i brofi hyn.

Hyfywedd tirlenwi

Mae’r data yn amwys ynghylch effaith deddfwriaeth y Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar hyfywedd tirlenwi. Er bod rhanddeiliaid yn nodi’r baich ariannol a gweinyddol sy’n codi o’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi, nid oes dim tystiolaeth i awgrymu bod hyn wedi effeithio’n uniongyrchol ar hyfywedd safleoedd tirlenwi. Mae’r nifer o safleoedd tirlenwi wedi aros yn rhesymol sefydlog tra bod cyfanswm tunelli a aeth i safleoedd tirlenwi wedi gostwng rhwng 2018-2022.

Ymddygiad y diwydiant ac arloesi o’i fewn

Yn bennaf trwy weithredu fel ysgogydd ariannol, mae deddfwriaeth y Dreth Gwarediadau Tirlenwi wedi dylwanadu ar ymddygiad y diwydiant yn ehangach ac ar arloesi o’i fewn, gan hyrwyddo arferion amgen a chynaliadwy o reoli gwastraff. Fodd bynnag, mae trosolion polisi amgylcheddol eraill wedi dylanwadu ar ymddygiad ac arloesi (i raddau mwy, gellir dadlau), sef targedau datgarboneiddio, targedau ailgylchu statudol llywodraeth leol a chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.

Canfyddiadau ehangach

Gwersi a ddysgwyd o wledydd eraill y Deyrnas Unedig

Ni chanfuwyd unrhyw wersi penodol o wledydd eraill y Deyrnas Unedig a allai ddangos ffyrdd o newid ymddygiad ymhellach o safbwynt trethi tirlenwi fel rhan o’r adolygu. Canfuwyd dulliau presennol o gydweitho a rhannu gwybodaeth, gan cynnwys trafodaethau tair-gwlad.

Cydnawsedd â pholisi amgylcheddol ehangach

Mae’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn gydnaws iawn â pholisïau a blaenoriaethau amgylcheddol eraill Llywodraeth Cymru. Mae’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn bod fel rhan o dirwedd polisi ehangach sy’n cynnwys targedau ailgylchu statudol awdurdodau lleol ac uchelgeisiau datgarboneiddio a sero net, gyda’r cyfan â’r nod o ddargyfeirio gwastraff o dirlenwi. Wrth edrych ymlaen, bydd cyflwyno cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr a chynllun dychwelyd ernes yn ategu’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi ymhellach.

Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Mae cefnogi cymunedau trwy Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn un o fuddion cadarnhaol Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru). Er nad yw Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn anelu’n benodol ar ddylanwadau ar y sector rheoli gwastraff, canfuwyd ei fod yn hyrwyddo camau gweithredu o’r gwaelod i fyny trwy brosiectau a gefnogwyd gan gylllid y Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Mae prosiectau o’r fath yn cefnogi’r economi gylchol a chanlyniadau amgylcheddol ehangach.

Casgliadau a argymhellion

Roedd yn anodd her barnu effeithiolrwydd penodol y dreth gwarediadau tirlenwi ynddi ei hun oherwydd ei bod yn rhan o dirwedd polisi ehangach, ac mae’n anodd gwahanu ei heffeithiau uniongyrchol oddi wrth ymyraethau eraill. Roedd anawsterau wrth ennyn ymateb rhanddeiliaid addas a hefyd diffyg data ar gael ar gyfer yr astudiaeth hon.

Dengys y canfyddiadau fod y dreth gwarediadau tirlenwi yn gydnaws iawn â pholisïau a blaenoriaethau amgylcheddol eraill Llywodraeth Cymru a’i bod wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at flaenoriaethau rheoli gwastraff, ond mae ymyraethau polisi eraill a ffactorau allanol wedi chwarae rhan fwy mewn annog effaith cadarnhaol i ailddefnyddio, ailgylchu, a defnyddio technolegau amgen.

Roedd y gwelliannau i’r dreth a awgrymwyd gan randdeiliaid yn cynnwys cyflwyno gwahanol gyfraddau o’r dreth, gan newid y cyfraddau ar sail y driniaeth o ddeunyddiau, lleihau beichiau gweinyddol ar weithredwyr tirlenwi a neilltuo mwy o adnoddau fel refeniw treth i wella rheoleiddio’r dreth gwarediadau tirlenwi.

Manylion cyswllt

Awduron: Joe Hudson, Alexa Cancio, Sam Taylor, Paula Orr, Leyla Lugal, Petra Bistričić, Rhiannon Lee

Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Tom Cartwright
Ebost: ymchwil.gwasanaethauchoeddus@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 69/2023
ISBN digidol 978-1-83504-294-6

Image
GSR logo