Bydd yr adolygiad hwn yn darparu asesiad annibynnol, ymarferol o'r baich biwrocrataidd ar ffermydd teuluol.
Cynnwys
Crynodeb
Bydd yr adolygiad hwn yn darparu asesiad annibynnol, ymarferol o'r baich biwrocrataidd ar ffermydd teuluol yng Nghymru. Y nod yw lleihau biwrocratiaeth a chymhlethdod diangen, wrth gadw ein safonau uchel ar yr un pryd.
Cefndir yr adolygiad
Rydyn ni wedi lansio adolygiad annibynnol i edrych ar effaith gronnol gofynion rheoleiddio, sicrwydd a chymorth ar fusnesau fferm yng Nghymru.
Bydd yr adolygiad yn:
- deall sut mae gofynion yn effeithio ar ffermwyr yn ymarferol
- nodi dyblygu neu brosesau diangen
- argymell ffyrdd ymarferol o symleiddio a gwella sut mae'r system yn gweithio
Mae'r adolygiad yn cael ei arwain gan John Davies, a fydd yn Gadeirydd annibynnol, a disgwylir iddo adrodd o fewn naw mis.
Cylch gorchwyl
Rhannwch eich sylwadau
Hoffen ni glywed gan ffermwyr, asiantau, y diwydiant ac eraill sydd â phrofiad o sut mae gofynion yn gweithio yn ymarferol.
Gallwch rannu eich barn neu'ch tystiolaeth ar gyfer yr adolygiad drwy e-bostio:
Beth fydd yn digwydd nesaf
Bydd yr adolygiad yn cysylltu â rhanddeiliaid ledled Cymru ac yn casglu tystiolaeth dros y misoedd nesaf.
Bydd diweddariadau, adroddiadau ac ymateb Llywodraeth Cymru yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen hon.
