Adolygiad annibynnol o'r baich biwrocrataidd ar ffermydd teuluol: y cylch gorchwyl
Mae'r cylch gorchwyl yn nodi'r cwmpas, yr amcanion a'r dull ar gyfer yr adolygiad.
Ar y dudalen hon
Diben
Darparu asesiad annibynnol, ymarferol o'r baich biwrocrataidd ar ffermydd teuluol yng Nghymru, a nodi camau gweithredu clir, cymesur a chyflawnadwy i leihau cymhlethdod gweinyddol a dyblygu diangen.
Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar sut mae rheoleiddio, gweinyddu cynlluniau a chynlluniau sicrwydd fferm yn gweithio yn ymarferol, gan gydnabod bod y baich yn aml yn deillio o effaith gronnol gofynion lluosog yn hytrach nag unrhyw reoliad sengl.
Cwmpas
Bydd yr adolygiad yn ystyried:
- Y baich gweinyddol cyffredinol ar ffermydd, gan gynnwys ffurflenni, cadw cofnodion, arolygiadau, tystiolaeth ddogfennol a gofynion adrodd
- Gweithredu'r gofynion rheoleiddiol cyfredol, gan gynnwys sut mae'r rhain yn cael eu tystiolaethu yn ymarferol ac a yw cymhwyso'r gofynion hyn yn rhy amodol
- Gweithredu cyfundrefnau cydymffurfio e.e. arolygiadau, monitro, gan gynnwys dyblygu ar draws sefydliadau a'r cydbwysedd rhwng gorfodi a chymorth
- Y rhyngweithio rhwng Llywodraeth Cymru a chynlluniau sicrwydd fferm a fframweithiau rheoleiddio, gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer mwy o aliniad
- Effaith gronnol gofynion sy'n tarddu o wahanol ffynonellau, gan gynnwys fframweithiau Cymru, y DU a (lle bo'n berthnasol) yr UE
- Rôl cynlluniau sicrwydd, gofynion y gadwyn gyflenwi a safonau sy'n cael eu gyrru gan y farchnad, lle mae'r rhain yn gorgyffwrdd â gofynion rheoleiddiol a chynlluniau.
Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio'n bennaf ar feysydd o fewn cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, tra'n cydnabod a mapio dylanwadau ehangach ar y baich sydd ar ffermwyr.
Yr amcanion
Bydd yr adolygiad yn:
- Nodi prif ysgogwyr y baich gweinyddol a dyblygu
- Nodi ac asesu effaith gronnol gofynion ar fusnesau fferm
- Amlygu meysydd lle gellir symleiddio, alinio neu ddileu gweinyddu
- Argymell newidiadau ymarferol, cyflawnadwy, gan gynnwys:
- "Buddugoliaethau cyflym" tymor byr
- Tymor canolig i hirdymor
- Nodi meysydd ar gyfer aliniad posibl gwiriadau cydymffurfio ar draws gwahanol reoliadau a chynlluniau
- Sicrhau bod unrhyw argymhellion yn gyson â chynnal canlyniadau a safonau rheoleiddiol priodol.
Gall y Cadeirydd nodi meysydd ychwanegol i'w hystyried yn ystod yr adolygiad. Bydd unrhyw newidiadau arfaethedig i gwmpas yr adolygiad yn amodol ar y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch a Chynaliadwyedd Gwledig yn cytuno ar hynny.
Dull a Methodoleg
Bydd yr adolygiad yn:
- Ymgysylltu'n uniongyrchol â ffermwyr a rhanddeiliaid y diwydiant i ddal materion 'ar lawr gwlad' sy'n ymwneud â'r baich gweinyddol ar ffermydd
- Ceisio mewnbwn gan gyrff cyflenwi allweddol, rheoleiddwyr a thimau polisi
- Dadansoddi cynlluniau cyfredol, cyfundrefnau arolygu a gofynion adrodd i nodi gorgyffwrdd a dyblygu
- Ystyried tystiolaeth berthnasol, adolygiadau blaenorol a data presennol fel y bo'n briodol, yn amodol ar ganllawiau GDPR
- Ystyried Dyletswydd Rheoli Tir yn Gynaliadwy Llywodraeth Cymru o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 a rhwymedigaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Bydd yr adolygiad yn annibynnol, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn canolbwyntio ar gyflawni, gyda phwyslais clir ar atebion ymarferol.
Llywodraethu a Chymorth
- Bydd yr adolygiad yn cael ei arwain gan Gadeirydd annibynnol a benodir gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch a Chynaliadwyedd Gwledig.
- Bydd y Cadeirydd yn cael ei gefnogi gan ysgrifenyddiaeth fechan Llywodraeth Cymru sy'n darparu cymorth dadansoddol, polisi a gweinyddol.
Allbynnau ac Adrodd
Bydd yr adolygiad yn:
- Darparu cyngor dros dro i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch a Chynaliadwyedd Gwledig fel y bo'n briodol, yn enwedig pan fo cyfleoedd cynnar ar gyfer symleiddio yn cael eu nodi
- Cynhyrchu adroddiad terfynol sy'n nodi:
- Y Prif Ganfyddiadau
- Camau gweithredu a argymhellir (tymor byr, canolig a hirdymor)
- Cyflwyno'r adroddiad terfynol i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch a Chynaliadwyedd Gwledig.
Amserlen
Disgwylir i'r adolygiad adrodd o fewn tua naw mis i'w ddechrau.
