Neidio i'r prif gynnwy

Roedd yr adolygiad yn edrych ar ystod y gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu a ddarperir yng Nghymru a’r dulliau o fynd ati i’w darparu yn y dyfodol.

Mae’r adolygiad yn awgrymu:

  • bod tystiolaeth dros yr ymyriadau mwyaf effeithiol, yn enwedig cefnogaeth wyneb yn wyneb gyda ffarmacotherapi, defnyddio ffarmacotherapi â chymorth, a chefnogaeth dros y ffôn
  • mae tystiolaeth dros gael ymyriadau sy’n targedu grwpiau o ysmygwyr, gan gynnwys rhai mewn aelwydydd/cymunedau difreintiedig, merched beichiog a rhai ag iechyd meddwl gwael
  • gellir defnyddio gweithgareddau rhoi’r gorau i ysmygu mewn amryw o leoliadau, gan gynnwys fferyllfeydd cymunedol, gofal sylfaenol, gofal eilaidd a’r gweithle
  • mae angen i ysmygu gael ei drin ar wahân, gan fod yr effaith yn llai os ymdrinnir ag ef fel rhan o ymyriad ymddygiadol aml-risg
  • ceir peth tystiolaeth y gall newid systemau fod yn fuddiol, ee cofnod iechyd electronig i gofnodi statws ysmygu ac atgyfeiriadau at wasanaethau arbenigol
  • gall gwahanol dechnegau fod o gymorth i recriwtio, ac mae’n bosibl y gallai’r trydydd sector chwarae rhan werthfawr yn y gwaith.

Adroddiadau

Adolygiad annibynnol o’r ddarpariaeth o wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu yng Nghymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Chris Roberts

Rhif ffôn: 0300 025 6543

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.