Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer arolwg ar-lein adolygiad annibynnol o'r system diogelu iechyd yng Nghymru: hysbysiad preifatrwydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymchwil i asesu i ba raddau y gellid cryfhau ein systemau a'n prosesau ymateb brys fel y gallwn wneud y mwyaf o'n gallu i ymateb i fygythiadau cyfredol a rhai sy'n dod i'r amlwg. Prif nodau'r ymchwil yw:

  • diffinio'r hyn sy'n ofynnol ar gyfer gwasanaeth diogelu iechyd uchel ei berfformiad, sy'n gwneud y gorau o effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd ei adnoddau;
  • sicrhau cysondeb cenedlaethol lle byddai hyn yn gwella ansawdd ac effaith; 
  • cryfhau parodrwydd ymhellach i sicrhau ymatebolrwydd a gwydnwch y swyddogaeth diogelu iechyd ar gyfer y dyfodol ym meysydd clefydau heintus, clefyd anhrosglwyddadwy a CBRN.

Fel rhan o'r gwaith ymchwil bydd Llywodraeth Cymru yn casglu gwybodaeth gan aelodau o Grŵp Cyngor Technegol (TAG) Llywodraeth Cymru drwy arolwg ar-lein.

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil.

Gallai canlyniadau'r ymchwil hon gael eu cyhoeddi mewn erthyglau sy'n cael eu hadolygu gan gymheiriaid neu gael eu rhannu mewn cyfarfodydd mewnol neu allanol. Bydd yr holl ddata sy'n cael eu casglu yn gael eu hanonymeiddio cyn eu rhyddhau.

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau'n bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn Llywodraeth Cymru yw ebost: hpag.secretariat@gov.wales

Pa ddata personol sydd gennym ac o ble rydym yn cael y wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)  fel unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr.

Dim ond tîm ymchwil Llywodraeth Cymru fydd yn gweld eich cyfeiriad e-bost, a dim ond fel rhan o’r prosiect ymchwil hwn y caiff ei ddefnyddio. 

Arolwg ar-lein 

Nid yw'r arolwg yn gofyn am eich enw ac nid yw eich cyfeiriad e-bost na'ch cyfeiriad IP yn cael eu cymryd pan fyddwch yn cwblhau'r arolwg. Fodd bynnag, mae'r arolwg yn gofyn am wybodaeth am eich sefydliad a disgrifiad o'ch rôl yn y sefydliad er mwyn ailddatgan gweledigaeth ar gyfer ein system Diogelu Iechyd yng Nghymru yn y dyfodol, ac asesu i ba raddau y gellid cryfhau'r system i ddatblygu i’r eithaf ein gallu i ymateb i fygythiadau cyfredol a bygythiadau sy'n dod i'r amlwg, boed hynny’n glefydau heintus, clefydau anhrosglwyddadwy neu'n ddigwyddiadau iechyd cyhoeddus a achoswyd yn fwriadol i wneud niwed.   

Bydd unrhyw ddata sy'n cael eu casglu yn cael eu hanonymeiddio. Ac eithrio'r tîm astudio, ni fydd mecanwaith i sefydlu unrhyw gysylltiadau rhwng unrhyw gyfranogwyr neu sefydliadau. Bydd yr holl ddata'n cael ei drin yn gwbl unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Gallai canlyniadau'r arolwg hwn gael eu cyhoeddi mewn erthyglau sy'n cael eu hadolygu gan gymheiriaid neu gael eu rhannu mewn cyfarfodydd mewnol neu allanol. Unwaith eto, bydd yr holl ddata yn cael eu hanonymeiddio cyn eu rhyddhau.

Os byddwch yn gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yna'n ei ddileu o ddata'r ymchwil. 

Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio'ch data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. 

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth weithredawy am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth. Gallai’r wybodaeth a gesglir yn y gwaith ymchwil hwn, er enghraifft, gael ei defnyddio i lywio datblygiad y strategaeth diogelu iechyd nesaf. 

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Lywodraeth Cymru bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data hyn. Mae gan Lywodraeth Cymru ardystiad Cyber Essentials.

Wrth gynnal arolygon, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolygon o’r enw SmartSurvey. Mae hwn yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd (caiff yr holl ddata eu prosesu o fewn y DU). 

Rydym yn casglu’r data mwyaf sensitif mewn ffurflen ddienw (gan ddefnyddio SmartSurvey), felly nid ydym yn gwybod i bwy mae’r data’n perthyn, gan mai dim ond darlun cyffredinol o’r bobl sy’n rhan o’r arolwg sydd ei angen arnom. Bydd unrhyw ddata sy'n cael eu casglu yn cael eu hanonymeiddio. Ac eithrio'r tîm astudio, ni fydd mecanwaith i sefydlu unrhyw gysylltiadau rhwng unrhyw gyfranogwyr neu sefydliadau. Bydd yr holl ddata'n cael eu trin yn gwbl unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.

Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau i ddelio ag unrhyw achosion lle’r amheuir bod rheolau diogelwch data wedi’u torri. Os bydd amheuaeth bod rheol wedi’i thorri, bydd Llywodraeth Cymru yn eich hysbysu chi ac unrhyw reolydd cymwys lle bo’n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.

Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd i lunio adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol. 

Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol?

Bydd Llywodraeth Cymru yn dal data personol yn ystod cyfnod y prosiect. Dri mis ar ôl diwedd yr arolwg, bydd y tîm ymchwil yn anonymeiddio’r holl ddata personol y mae wedi’u casglu gennych neu amdanoch chi, mewn cysylltiad â’r prosiect ymchwil hwn.

Hawliau unigol

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o’r prosiect hwn, mae gennych yr hawl: 

  • I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun; 
  • I ni gywiro gwallau yn y data hynny;
  • I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (o dan rai amgylchiadau); 
  • I'ch data gael eu 'dileu' (o dan rai amgylchiadau);
  • I gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar ddiogelu data. 

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.gov.uk  

 

Gwybodaeth bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o’r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Cyffredino y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â: 

ebost: hpag.secretariat@gov.wales

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ

E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru.