Cynhelir Adolygiad Covid-19 annibynnol Cymru o dan arweiniad arbenigwyr i asesu a yw gallu Cymru i ymateb i bandemig neu argyfwng cenedlaethol yn y dyfodol wedi'i gryfhau.
Wrth ei gyhoeddi yn y Senedd, dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd y Llywodraeth a'r Cyfansoddiad, Dafydd Trystan Davies, y bydd yr adolygiad yn gymesur ac wedi'i dargedu mewn modd i roi sicrwydd annibynnol bod gwersi wedi cael eu dysgu a'u gweithredu yng Nghymru mewn gwirionedd.
Bydd yn ategu Ymchwiliad Cyhoeddus Covid-19 y DU, gan ganolbwyntio ar iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion, sef gwasanaethau a oedd yn ganolog i ymateb y genedl i'r pandemig, ac a godwyd yn aml, gan deuluoedd mewn profedigaeth ac eraill a ddioddefodd effeithiau sylweddol, fel materion sy'n peri pryder mawr.
Bydd yr adolygiad yn cael ei arwain gan gadeirydd annibynnol, yr Athro Daniel Wincott o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd, a bydd yn cael ei gefnogi gan Banel Sicrwydd a fydd yn cynnwys unigolion sydd ag arbenigedd mewn systemau gofal iechyd, gofal cymdeithasol, ac iechyd y cyhoedd.
Bydd y panel yn gwneud y defnydd gorau o'r dystiolaeth sylweddol a gasglwyd eisoes gan Ymchwiliad Cyhoeddus Covid-19 y DU, gan gynnwys canfyddiadau, adolygiadau sydd wedi'u cyhoeddi, a gwaith perthnasol arall i gydnabod cynnydd, mynd i'r afael â diffygion, a sicrhau bod Cymru'n fwy parod ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd Cadeirydd y Panel, yr Athro Daniel Wincott:
"Fe wnaeth pandemig Covid-19 gyffwrdd â phob unigolyn a chymuned yng Nghymru. Mae llawer o bobl yn dal i fyw gyda'i ganlyniadau heddiw. Fel ei Gadeirydd, dw i wedi ymrwymo i annibyniaeth yr adolygiad hwn, a gaiff ei gynnal gan banel o arbenigwyr. Bydd yr adolygiad yn asesu'r pandemig yng Nghymru yn benodol, gan nodi a mynd i'r afael â bylchau yn y dystiolaeth ynghylch profiad Cymru, a dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol."
Bydd yr adolygiad yn asesu a yw argymhellion Ymchwiliad Covid-19 y DU, adroddiadau pwyllgorau, ac ymarferion gwydnwch wedi cael eu gweithredu. Os nad oes digon o dystiolaeth, neu os yw bylchau’n parhau i fodoli, bydd modd i'r panel archwilio materion yn fwy manwl a nodi beth arall sydd angen ei wneud.
Gyda’r nod o sicrhau y bydd profiadau bywyd yn cael eu clywed a'u hadlewyrchu'n llawn, dywedodd y Gweinidog Cabinet:
"Rydyn ni'n ddyledus i bawb yng Nghymru a gafodd eu heffeithio gan y pandemig, ac yn enwedig i'r rheini a gollodd anwyliaid, i archwilio'r hyn a ddigwyddodd yn onest, ac i wneud yn siŵr bod y gwersi a ddysgwyd yn cael eu gweld a'u teimlo yn y modd y mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn cynllunio ac yn paratoi ar gyfer y dyfodol.
"Er bod Ymchwiliad Covid y DU bellach wedi adrodd ar sawl modiwl, bydd y llywodraeth newydd hon yn anrhydeddu ei hymrwymiad i sicrhau bod elfennau sydd naill ai'n unigryw i Gymru, neu'n arbennig o acíwt yng Nghymru, yn cael eu harchwilio'n briodol.
"Ni all tystiolaeth sydd wedi ei chyhoeddi a'i dogfennu, ar ei phen ei hun, gyfleu profiadau'r rheini yr effeithiwyd arnynt. Felly, byddaf yn gofyn i'r panel ystyried y ffordd orau o sicrhau bod lleisiau dinasyddion yn llywio ei waith, ac yn ei helpu i asesu a yw'r gwelliannau'n gwneud gwahaniaeth ymarferol.
"Bydd canfyddiadau'r adolygiad yn helpu i lywio parodrwydd pandemig yng Nghymru yn y dyfodol, yn ogystal â gwella tryloywder ac atebolrwydd, a gwneud yn siŵr bod gwersi'n cael eu dysgu o'r cyfnod trallodus a heriol hwn.
Dyna sut byddwn ni'n parchu pawb a gafodd eu heffeithio gan y pandemig, ac yn adeiladu Cymru fwy diogel a gwydn ar gyfer y dyfodol."
Bydd y Panel yn adrodd yn gyhoeddus, ac yn bwrw ymlaen â'i waith fesul cam, gan adlewyrchu amserlen adrodd Ymchwiliad y DU, a'r nod yw cwblhau'r adolygiad erbyn mis Mawrth 2029.
