Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad yn amlygu dulliau gweithredu, heriau a bylchau amrywiol o ran diffinio a mesur datblygiad plant 2 i 11 oed yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Comisiynwyd yr adolygiad hwn i fynd i'r afael â bwlch cydnabyddedig mewn data safonedig ar lefel y boblogaeth ar ddatblygiad plant 2 i 11 oed yng Nghymru. Y nod oedd cynhyrchu tystiolaeth ar bwysigrwydd, defnydd a nodweddion dangosyddion a mesurau datblygiad plant, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, a llywio polisi ac arferion i’r dyfodol.

Data canlynol

  • Cyfweliadau ag 11 aelod o staff Llywodraeth Cymru ac 1 rhanddeiliad o Iechyd Cyhoeddus Cymru. Roedd y rhai a gafodd eu cyfweld yn cynrychioli: Iechyd; Dechrau'n Deg; Ymchwil Addysg; Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar; Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu; y Cwricwlwm i Gymru; Safonau a Gwybodaeth Ysgolion; a Tegwch mewn Addysg.
  • Adolygiad desg systematig o lenyddiaeth ymchwil. Cynhwyswyd 71 o astudiaethau yn yr adolygiad.

Prif ganfyddiadau

Dim diffiniad unigol a rennir o ddatblygiad plant

Nid oes diffiniad unigol a rennir o ddatblygiad plant na chyfres ganolog o fesurau ar draws meysydd polisi Llywodraeth Cymru. Mae diffiniadau a meysydd (ee corfforol, gwybyddol, cymdeithasol-emosiynol, lleferydd/iaith/cyfathrebu) yn amrywio yn ôl maes polisi a thros amser.

Mae rhanddeiliaid yn cytuno ar ddiffiniad lefel uchel: datblygiad plant yw'r dilyniant o newidiadau o feichiogi i fywyd fel oedolyn, wedi'u grwpio i feysydd sy'n gorgyffwrdd, wedi'u llywio gan ryngweithiadau deinamig rhwng y plentyn a'i amgylchedd.

Nodir dau fodel gwahanol o ddatblygiad plant

Llinol (Normadol)
  • Mae datblygiad yn dilyn dilyniant cyffredinol o gamau; caiff gwyriad ei ystyried yn oedi neu ddiffyg. Defnyddir y model hwn yn bennaf ym maes iechyd (ee sgrinio am oedi datblygiadol).
Plwralaidd
  • Yn cydnabod sawl llwybr datblygiadol, yr un mor ddilys â’i gilydd; yn pwysleisio amrywiaeth a chynhwysiant. Yn gynyddol ddylanwadol ym maes addysg (ee y Cwricwlwm i Gymru).

Yn ymarferol, mae'r modelau hyn yn bodoli ar gontinwwm, a chaiff y ddau eu defnyddio yn dibynnu ar gyd-destun a diben.

Mae datblygiad plant yn cael ei lywio gan ffactorau ffisiolegol a rhai amgylcheddol

Mae'r blynyddoedd cynnar yn hollbwysig ar gyfer canlyniadau gydol oes. Mae datblygiad plant yn cael ei lywio gan ffactorau ffisiolegol a rhai amgylcheddol (ee teulu, ysgol, cymuned).

Mae mathau a dibenion gwahanol o ran mesur ar draws gwahanol feysydd polisi

Ym maes polisi Iechyd mae ffocws ar sgrinio (nodi materion penodol ar adeg benodol) a gwyliadwriaeth (monitro parhaus) gan ddefnyddio dulliau gweithredu safonedig (ee Amserlen Sgiliau Tyfu, y Rhaglen Mesur Plant). 

Ym maes polisi y Blynyddoedd Cynnar mae pwyslais ar asesu seiliedig ar arsylwi a chefnogi cynnydd, yn enwedig ar gyfer grwpiau sy'n wynebu risg (ee Dechrau'n Deg, Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar). 

Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn hyrwyddo asesu a chynnydd ffurfiannol a pharhaus, nid lefelau sy'n gysylltiedig ag oedran. Defnyddir asesiadau safonedig (ee Asesiadau Personol Darllen a Rhifedd), ond nid ydynt yn fesurau cynhwysfawr o ddatblygiad plant. 

Er bod datblygiad plant yn ganolog i bob un o'r tri phrif faes polisi a ystyrir gan yr adolygiad hwn (y blynyddoedd cynnar, iechyd ac addysg), mae rhywfaint o "ddatgysylltiad" rhwng meysydd polisi.

Mae bylchau a gwendidau yn y data a gesglir ar hyn o bryd

Mae bwlch sylweddol yn y data safonedig ar lefel y boblogaeth ar gyfer plant 2 i 11 oed, yn enwedig ar ôl i Broffil y Cyfnod Sylfaen ddod i ben.  

Mae'r gwendidau yn cynnwys: defnydd anghyson o ddulliau gweithredu ar draws lleoliadau; data hydredol cyfyngedig; heriau wrth fesur datblygiad mewn cyd-destunau dwyieithog/amlieithog; samplau bach ac anghynrychioliadol; a data cyfyngedig ar grwpiau penodol.

Adroddiadau

Adroddiad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 283 KB

PDF
283 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Ymchwil Plant a Theuluoedd

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn:

0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.