Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Richard Matthams  
Rheolwr Cynllunio Datblygu
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyfarwyddiaeth Cymunedau - Cynllunio Datblygu
Swyddfeydd Dinesig 
Stryd yr Angel
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4WB

04 Tachwedd 2019

Annwyl Richard,   

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Cynllun Datblygu Lleol Newydd - Ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir: Ymateb Llywodraeth Cymru  

Diolch ichi am ymgynghori â Llywodraeth Cymru ar Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr – Ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir. Mae'n hanfodol bod gan yr awdurdod CDLl cyfredol er mwyn rhoi sicrwydd i gymunedau lleol a buddsoddwyr.  

Heb effeithio ar bwerau'r Gweinidogion, mae Llywodraeth Cymru'n ymrwymedig i helpu Awdurdodau Cynllunio Lleol (ACLlau) i leihau'r risg o gyflwyno cynlluniau nad ydynt yn gadarn drwy wneud sylwadau priodol mor gynnar â phosibl yn ystod camau paratoi'r cynllun. Mae Llywodraeth Cymru'n chwilio am dystiolaeth glir bod y profion o gadernid (a nodir yn y 'Llawlyfr ar Gynlluniau Datblygu Lleol') yn cael eu hystyried. 

Mae Argraffiad 10 Polisi Cynllunio Cymru (PCC) yn nodi mai'r blaenoriaethau cynllunio cenedlaethol allweddol yw'r angen i ddarparu lleoedd cynaliadwy o ansawdd uchel drwy greu lleoedd. Mae PCC hefyd yn gofyn am agwedd ehangach, gynaliadwy sy'n ceisio datrys problemau, ac sy'n canolbwyntio ar integreiddio a mynd i'r afael â nifer o faterion er mwyn cyflawni canlyniadau cynllunio effeithiol. Mae hyn yn golygu symud oddi wrth y dull gweithredu traddodiadol o ystyried meysydd polisi ar eu pen eu hunain, ac yn cefnogi polisïau sy'n fwy seiliedig ar leoedd. Rhaid hefyd dangos y saith nod llesiant, ynghyd â'r pum ffordd o weithio sy'n annog pawb i feddwl mewn ffordd integredig a chydweithredol am y broses o lunio polisïau ac ystyried tueddiadau hirdymor. Caiff y broses o roi meysydd polisi craidd PCC ar waith, fel sicrhau strategaeth ofodol gynaliadwy, tai a lefelau twf economaidd, cyflwyno seilwaith a chreu lleoedd, ei disgrifio'n fanylach yn y Llawlyfr ar Gynlluniau Datblygu (Argraffiad 3). Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i awdurdodau gadw at elfennau craidd y Llawlyfr, yn enwedig y canllawiau a nodir ym Mhennod 5: Paratoi CDLl – Materion Craidd a'r 'rhestr wirio dadrisgio' wrth baratoi sail dystiolaeth y cynllun, ac i'w hystyried yng nghynnwys a diwyg y cynllun ei hun.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (FfDC) er mwyn ymgynghori arno. Disgwylir i'r FfDC gael ei fabwysiadu cyn i CDLl Pen-y-bont ar Ogwr gael ei fabwysiadu. Bydd yn ofynnol i'r CDLl gydymffurfio'n fras â'r FfDC pan gaiff ei fabwysiadu.  Dylai'r Cyngor sicrhau ei hun bod modd cyflawni cydymffurfiaeth gyffredinol.

Mae Llywodraeth Cymru'n gefnogol ar y cyfan i'r strategaeth ofodol a lefel y cartrefi a'r swyddi a gynigir, yn amodol ar yr esboniadau y gofynnir amdanynt yn yr Atodiad cysylltiedig.  

Fel cynllun newydd, mae'n siomedig nodi nad oedd rhai dogfennau cefndirol pwysig ar faterion sy'n cynnwys darparu safleoedd strategol, astudiaeth hyfywedd a'r asesiad ynni adnewyddadwy, wedi'u cwblhau er mwyn llywio'r Strategaeth a Ffefrir. Mae sail dystiolaeth gadarn yn allweddol er mwyn deall y cynllun yn llawn. Er bod yr ymgynghoriad yn dweud y bydd mwy o waith yn cael ei wneud ar gyfer y cynllun Adneuo, mae'n anodd gwneud sylwadau ystyrlon ar rai meysydd pwnc ar yr adeg hon gan nad yw'r astudiaethau wedi cael eu cwblhau eto.  
   
Bydd yn hanfodol dangos sut y caiff y strategaeth, safleoedd strategol a dyraniadau a gaiff eu cario drosodd eu cyflawni, a dylai tystiolaeth eich awdurdod yn y cynllun Adneuo gefnogi hyn. Nodir rhagor o sylwadau yn yr atodiad i'r llythyr hwn gyda chanllawiau manwl ychwanegol yn y Llawlyfr ar Gynlluniau Datblygu.

Mae Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, y Llawlyfr ar Gynlluniau Datblygu, y profion o gadernid a PCC oll yn pwysleisio pwysigrwydd cydweithio rhwng awdurdodau cyfagos er mwyn sicrhau'r canlyniad cynllunio gorau posibl ar gyfer cymunedau. Mae gan y Cyngor gydberthnasau cryf ag awdurdodau cyffiniol, yn enwedig Rhondda Cynon Taf, Castell-nedd Port Talbot a Bro Morgannwg. Mae'n rhaid i'r cynllun ddangos yn glir sut mae'r cydberthnasau hyn wedi dylanwadu ar y strategaeth ac, ar gamau diweddarach, bolisïau, cynigion a dyraniadau safle y cynllun. 

Mae ein sylwadau hefyd yn cynnwys materion manylach yn yr atodiad i'r llythyr hwn. Gyda'i gilydd, mae ein sylwadau'n tanlinellu nifer o faterion y mae angen mynd i'r afael â nhw, yn ein barn ni, er mwyn ystyried bod y cynllun yn ‘gadarn’. Rydym wedi nodi lle nad yw tystiolaeth o gadernid yn amlwg ar unwaith a lle dylid gwella neu atgyfnerthu'r sail dystiolaeth wrth i'r cynllun fynd rhagddo. Ymhlith y meysydd allweddol mae'r canlynol:

  • Hyd a lled y tir cyflogaeth a'r gydberthynas â thai 
  • Cyflawni a gweithredu
  • Tai fforddiadwy 
  • Y Ddarpariaeth ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr 
  • Ynni adnewyddadwy
  • Y tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas

Argymhellwn yn gryf y dylid ymdrin â'r materion hyn er mwyn rhoi'r cyfle gorau i'ch CDLl gael ei ystyried yn ‘gadarn’ ar y cam Adneuo.  

Fel bob amser, byddem yn eich annog i gael eich cyngor cyfreithiol eich hun er mwyn sicrhau eich bod wedi bodloni'r holl ofynion gweithdrefnol, gan gynnwys Arfarniad o Gynaliadwyedd, Asesiad Amgylcheddol Strategol ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd gan mai eich awdurdod chi sy'n gyfrifol am y materion hyn. Dylid cyflawni gofyniad i Asesu'r Effaith ar Iechyd sy'n deillio o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, os bydd yn briodol, er mwyn asesu effaith debygol y cynllun datblygu arfaethedig ar iechyd, lles meddyliol ac anghydraddoldeb.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i sicrhau yr arweinir gwaith datblygu gan gynllun yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y bydd y sylwadau hyn yn eich cynorthwyo wrth baratoi eich Cynllun Adneuo ac yn sicrhau yr ystyrir bod eich CDLl yn 'gadarn' ac y caiff ei fabwysiadu yn dilyn archwiliad annibynnol. Mae fy nghydweithwyr yn edrych ymlaen at gyfarfod â chi a'ch tîm i drafod materion sy'n codi o'r ymateb ffurfiol hwn. 

Yn gywir,

Mark Newey

Pennaeth y Gangen Cynlluniau

Y Gyfarwyddiaeth Cynllunio

Atodiad

Atodiad i Lythyr Llywodraeth Cymru 04 Tachwedd 2019 mewn ymateb i CDLl Newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr – Strategaeth a Ffefrir 

Lefelau Twf: Cartrefi a Swyddi 

Mae'r polisi cenedlaethol yn dweud bod yn rhaid i CDLlau gynnwys strategaeth ofodol ar gyfer oes y cynllun sy'n sefydlu patrwm datblygu sy'n gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol er mwyn sicrhau gwaith datblygu cynaliadwy a chreu lleoedd. Rhaid i'r system gynllunio ganolbwyntio ar fodloni'r gofyniad tai a'r cyflenwad tir cysylltiedig. 

Mae'r ACLl wedi profi nifer o senarios sy'n seiliedig ar faterion demograffig, cyflogaeth ac anheddau er mwyn llywio'r cynllun. Cynigir cynnydd o 7,575 o gartrefi (505 o anheddau y flwyddyn) (gofyniad tai), ynghyd â hyblygrwydd o 10% sy'n arwain at 8,333 o unedau. Dros gyfnod y cynllun (2018-2033), gwneir darpariaeth hefyd ar gyfer 71.7ha o dir cyflogaeth i greu hyd at 4,995 o swyddi ychwanegol. Mae'r lefel tai a gynigir 3,700 o unedau yn uwch na phrif amcanestyniad Llywodraeth Cymru yn 2014 a 2,400 o unedau'n uwch nag amrywiolyn mudo 10 mlynedd Llywodraeth Cymru. Mae'r Cyngor wedi dod i'r casgliad bod tueddiadau dirwasgiad yn dylanwadu'n fawr ar amcanestyniadau 2014 ac y byddai lefelau allfudo'n cynyddu'n sylweddol, yn enwedig ymhlith pobl economaidd weithgar, ac na fyddai hyn yn ei gwneud hi'n bosibl i fynd i'r afael â'r ystod o faterion y mae'r cynllun yn ceisio mynd i'r afael â nhw. Yn ei gyd-destun, mae'r cynnydd tai (505 o anheddau y flwyddyn) yn uwch na'r gyfradd adeiladu dros y 10 mlynedd diwethaf (422 y flwyddyn) ond mae'n cyd-fynd â'r duedd dros y 5 mlynedd diwethaf (503 o anheddau y flwyddyn). Mae'r gofyniad tai 2,115 o unedau'n llai na gofyniad y CDLl mabwysiedig, sef 9,690 o gartrefi.

Yr opsiwn twf a ffefrir (POPGROUP - byrdymor – 'Twf Canolig') yw senario demograffig sy'n deillio o brif amcanestyniad 2014, wedi'i addasu i gynnwys tair blwyddyn arall o amcangyfrifon canol blwyddyn 2014-2017. Ystyrir bod hyn yn dangos twf/tueddiadau poblogaeth (mudo) mwy cadarnhaol sy'n rhannol gysylltiedig â nifer yr anheddau a gwblhawyd yn y Fwrdeistref Sirol dros y blynyddoedd diwethaf. Daeth y Cyngor i'r casgliad y byddai'r senario twf hwn yn arwain at lai o bobl economaidd weithgar yn allfudo ac yn gwrthbwyso poblogaeth sy'n heneiddio. Yn ôl dadansoddiad economaidd y Cyngor, bydd y cynnydd yn y boblogaeth oedran gweithio o'r opsiwn twf a ffefrir yn rhoi cyfle i drigolion fyw a gweithio yn yr ardal, yn golygu y bydd llai o bobl yn cymudo allan o'r ardal ac yn creu 333 o swyddi y flwyddyn (60ha o dir cyflogaeth). 

Mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi egwyddor y dull gweithredu hwn, yn amodol ar yr esboniad canlynol o feysydd lle ceir anghysondeb rhwng y cynllun a'r sail dystiolaeth. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod y Cyngor wedi ystyried yr amcanestyniadau diweddaraf, ynghyd ag ystyriaethau polisi perthnasol eraill a nodir ym mharagraffau 4.2.6 – 4.2.8 (PCC, Argraffiad 10). Mae Llywodraeth Cymru'n gefnogol ar y cyfan i lefel y cartrefi a'r swyddi a gynigir, yn amodol ar yr esboniadau canlynol, ac esboniad o'r goblygiadau ar gyfer lefel y cartrefi a swyddi a nodir yn y cynllun. 

Mae'r strategaeth economaidd sy'n seiliedig ar ddemograffi yn golygu bod angen hyd at 60ha o dir cyflogaeth i greu 4,995 o swyddi (333 y flwyddyn) yn y Fwrdeistref Sirol. Nid oes amheuaeth am hyn, ac mae'n gyson ac yn gydnaws â'r opsiwn twf a ffefrir. Fodd bynnag, mae Polisi Strategol 1 yn dyrannu 71 hectar o dir cyflogaeth er mwyn darparu 60 hectar. Er nad yw Llywodraeth Cymru'n gwrthwynebu'r egwyddor o 'glustogfa' er mwyn cynnig amrywiaeth a dewis o safleoedd a mynd i'r afael â methiant i ddarparu pe byddai hynny'n digwydd, nid yw hyn yn gyson â chasgliadau'r dadansoddiad economaidd. Mae paragraffau 4.87-4.89 a 4.101 o Astudiaeth PBA o'r Sail Dystiolaeth Economaidd yn dweud y dylai'r Cyngor gynllunio ar gyfer 60ha o dir cyflogaeth Dosbarth B. O ystyried bod y dybiaeth hon eisoes yn gadarnhaol iawn, ar hyn o bryd, nid oes angen clustogfa/ymyl ychwanegol ac nid oes angen mwy o dir ar gyfer gweithwyr posibl o'r boblogaeth uwch a gaiff ei thargedu gan yr opsiwn twf canolig sy'n seiliedig ar ddemograffi. Yn y bôn, mae'r 60ha yn cynnwys elfen o hyblygrwydd gan ei fod ar 'begwn uchaf' yr hyn y gellid ei gyflawni. Caiff y casgliadau hyn eu nodi yn y cynllun ym mharagraffau 5.4.16-5.4.17. Ar y sail hon, mae'r rheswm dros ddyrannu'r tir ychwanegol hwn sydd, i bob golwg, yn ychwanegu 'hyblygrwydd dwbl' yn aneglur ac mae angen ei esbonio a'i gyfiawnhau. Yn benodol, o ystyried bod cysylltiad rhwng lefel y cartrefi a'r swyddi, beth yw goblygiadau'r dull gweithredu hwn ar gyfer lefel y cartrefi a'r swyddi a geir yn y cynllun?

Strategaeth Ofodol – Graddfa a Lleoliad Twf

Mae'r opsiwn gofodol a ffefrir gan y Cyngor (Opsiwn 4: Strategaeth Adfywio a Thwf Trefol Cynaliadwy) yn ceisio rhoi blaenoriaeth i ddatblygu tir o fewn neu ar gyrion ardaloedd trefol, gan gyfeirio'r rhan fwyaf o dwf i ardaloedd lle mae seilwaith, gwasanaethau a chyfleusterau da neu sydd eisoes yn meddu ar y capasiti i'w darparu. Bydd y strategaeth yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygu tir llwyd mewn Ardaloedd Twf Adfywio ym Mhorthcawl, Maesteg a Chwm Llynfi. Fodd bynnag, am nad oes llawer o safleoedd tir llwyd cyflawnadwy yn y Fwrdeistref Sirol, bydd angen tir ychwanegol, gan gynnwys rhyddhau rhywfaint o dir glas yn Ardaloedd Twf Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr, Pencoed, y Pîl, Mynydd Cynffig a Gogledd Corneli. Mae'r cynllun yn nodi Pen-y-bont ar Ogwr fel Anheddiad Allweddol Sylfaenol, ynghyd â 5 Prif Anheddiad arall a 23 o Aneddiadau Lleol sydd, gyda'i gilydd, yn ffurfio hierarchaeth aneddiadau'r cynllun. Caiff 54% o'r twf ei gyfeirio i Ben-y-bont ar Ogwr, 42% i'r prif aneddiadau a 4% i'r Aneddiadau Lleol. Mae'r hierarchaeth aneddiadau yn seiliedig ar Bapur Asesu Aneddiadau, ac mae methodoleg y papur hwn yn fanwl, yn sensitif ac wedi'i phwysoli tuag at feini prawf cynaliadwyedd, yn enwedig agosrwydd at drafnidiaeth gyhoeddus a'i hamlder ar amseroedd brig, cyfleoedd cyflogaeth a gwasanaethau a chyfleusterau. Mae Llywodraeth Cymru'n gefnogol i'r dull gweithredu hwn ar y cyfan

Mae Mantolen Tai 'Tabl 6' yn egluro elfennau'r cyflenwad tai ac yn nodi y caiff 1,822 o unedau eu 'cario dros' ddyraniadau cyflawnadwy ym Mhorthcawl a Pharc Afon Ewenni. Mae angen 2,950 o gartrefi ar ddyraniadau newydd. Mae Atodiad 2 i'r Cynllun yn cynnwys asesiad o safleoedd/ardaloedd twf strategol ac allweddol posibl sydd, ym marn y Cyngor, yn cydymffurfio o safbwynt strategol ac y gellir eu cynnwys yn y Cynllun Adneuo, os cânt eu mireinio ymhellach. I grynhoi, mae Llywodraeth Cymru'n gefnogol ar y cyfan i'r strategaeth ofodol a graddfa a lleoliad y twf.

Darparu Safleoedd a'u Rhoi ar Waith 

Bydd cyflawni'r strategaeth hon yn ddibynnol ar allu'r awdurdod i ddyrannu safleoedd sy'n hyfyw ac yn gyflawnadwy ac sydd wedi'u lleoli yn unol â'r strategaeth ofodol a'r hierarchaeth aneddiadau. Mae'r Llawlyfr ar Gynlluniau Datblygu (Argraffiad 3) drafft yn nodi'r materion allweddol y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw (Pennod 5) a dylai'r Cyngor sicrhau bod y cynllun Adneuo yn cynnwys yr holl agweddau perthnasol, gan roi sylw arbennig i'r rhestr wirio dadrisgio. Er mwyn dangos sut y caiff safleoedd eu darparu a'u rhoi ar waith, mae'n rhaid i'r cynllun Adneuo gael ei ategu gan waith hyfywedd, cynllun seilwaith a thaflwybr tai cadarn i'w cynnwys yn atodiad y cynllun. Mae’n rhaid i'r cynllun Adneuo fynd i'r afael â'r canlynol:

  • Wrth ganolbwyntio ar ddatblygu safleoedd strategol/allweddol mawr, rhaid i'r awdurdod ddangos bod y safleoedd yn ariannol hyfyw ac yn gyflawnadwy dros gyfnod y cynllun. Mae'n rhaid i'r safleoedd allweddol gael eu hategu gan dystiolaeth gan gynnwys fframweithiau sgematig, gwybodaeth am hyfywedd, costau, camau, gofynion seilwaith allweddol, Cynllun Seilwaith a thystiolaeth o ymrwymiad gan ddatblygwyr drwy Ddatganiadau Tir Cyffredin.  
  • Tystiolaeth i ddangos sut y caiff yr holl safleoedd eraill a ddyrennir eu darparu, gan gynnwys safleoedd a gaiff eu 'cario drosodd' o'r CDLl presennol.
  • Dylid rhoi tystiolaeth o'r ffordd y darperir y safleoedd drwy lunio disgrifiad manwl o amseroedd cyflenwi, camau, costau a gofynion seilwaith, gan gynnwys paratoi Datganiadau Tir Cyffredin lle bo angen, er mwyn dangos sut y caiff y safleoedd eu darparu.   
  • Paratoi astudiaeth hyfywedd lefel uchel i lywio targedau tai fforddiadwy, a gwaith hyfywedd penodol i safleoedd lle bo'n briodol, gan sicrhau cysondeb â'r rhaniad deiliadaeth a nodir yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol.
  • Dylai'r cynllun nodi'n glir ddosbarthiad gofodol elfennau'r ddarpariaeth tai yn unol â'r tablau a nodir yn y Llawlyfr ar Gynlluniau Datblygu (Tabl 4 ac Atodiadau 2-5) sydd, gyda'i gilydd, yn nodi dosbarthiad gofodol darpariaeth tai yn y cynllun, y taflwybr tai ac amseriad a chamau holl gydrannau'r cyflenwad yn ôl haen aneddiadau. 
  • Paratoi taflwybr tai wedi'i ategu gan ddadansoddiad a dealltwriaeth o amseroedd datblygu, y cysylltiad rhwng y safleoedd, cyfyngiadau posibl, costau, gofynion seilwaith, dwysedd a ffrydiau ariannu, ynghyd â thybiaethau cadarn ar hap-safleoedd.
  • Mae'r Llawlyfr ar Gynlluniau Datblygu yn nodi hyblygrwydd o 10% fel man cychwyn, gyda thystiolaeth gadarn o unrhyw amrywiad. Nid rôl Llywodraeth Cymru yw rhoi sylwadau ar rinweddau nac amseriad safleoedd unigol yn y cynllun. Y pwynt pwysig yw bod yr ACLl yn dangos bod digon o hyblygrwydd ar adegau allweddol yng nghyfnod y cynllun drwy'r taflwybr. Bydd Datganiadau Tir Cyffredin yn helpu i gadarnhau amseriad pob safle a'r camau sy'n gysylltiedig â nhw. Dylai'r taflwybr ddangos faint o hyblygrwydd sy'n bodoli drwy gydol cyfnod y cynllun. 
  • Gyda chyfyngiadau ar gyfuno ar gytundebau A106, dylai'r awdurdod sicrhau ei fod yn gallu ariannu unrhyw ofynion seilwaith angenrheidiol.

Tai Fforddiadwy a'r Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (LHMA)

Casglodd LHMA'r awdurdod (2019/20) fod angen cyfanswm o 411 o dai fforddiadwy y flwyddyn dros y 5 mlynedd nesaf, sy'n cyfateb i 6,165 o unedau (411 x 15 mlynedd) dros gyfnod y cynllun (2018-2033). Mae'r LHMA yn nodi mai unedau â dwy neu dair ystafell wely sy'n cyfrif am y rhan fwyaf o'r angen hwn, gyda 68% yn eiddo rhent cymdeithasol a 32% yn eiddo angen canolradd.

Mae'r cynllun wedi ystyried nifer o opsiynau twf a gofodol, ond ni cheir unrhyw drafodaeth na chasgliad ynghylch y ffordd y mae'r opsiynau hyn wedi cael eu llywio gan ganfyddiadau yn yr LHMA. Dylai'r cynllun Adneuo egluro sut y mae lefel yr angen am dai fforddiadwy yn yr LHMA wedi dylanwadu ar raddfa a lleoliad y twf yn y cynllun. Mae'n hanfodol bod yr awdurdod yn dangos ei fod wedi darparu cymaint o dai fforddiadwy â phosibl er mwyn ymdrin â'r Materion a'r Amcanion Allweddol. Nid oes unrhyw asesiad bras o hyfywedd tai fforddiadwy wedi cael ei gyflwyno i ategu'r Strategaeth a Ffefrir. Felly, nid yw'n glir sut y mae hyfywedd wedi llywio dosbarthiad gofodol y cynllun na graddfa'r safleoedd tai.  

Mae'r Llawlyfr ar Gynlluniau Datblygu (Argraffiad 3) yn nodi gofynion y polisi tai fforddiadwy (ym Mhennod 5) ac mae'n rhaid cynnwys:

  • Targed polisi ar gyfer darparu tai fforddiadwy. Dylai'r targed tai fforddiadwy yn y cynllun gynnwys holl elfennau'r cyflenwad er mwyn sicrhau bod y dyhead yn realistig ac at ddibenion monitro.
  • Nodi sut y caiff targed y cynllun ei gyflawni gan ddefnyddio dulliau polisi a nodwyd a fydd yn cynnwys targedau a throthwyon penodol i safleoedd. Mae angen i dargedau polisi heriol fod yn seiliedig ar y dystiolaeth o hyfywedd ac yn gymwys i'r mwyafrif o geisiadau 
  • Cynnwys tabl sy'n nodi'r elfennau tai fforddiadwy a'u dosbarthiad gofodol yn yr hierarchaeth aneddiadau yn glir. 

Y Ddarpariaeth ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr

Mae Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr y Cyngor yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 2016 a 2031. Er mwyn sicrhau y cydymffurfir â deddfwriaeth a pholisi cynllunio, mae'n rhaid paratoi Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr ac mae'n rhaid i Weinidogion Cymru gytuno arno cyn y cam Adneuo ar gyfer cyfnod cyfan y cynllun (2018-2033) gyda darpariaeth ar gyfer dyraniadau safle priodol a chyflawnadwy er mwyn diwallu angen a nodwyd o fewn yr amserlenni gofynnol, os yw hynny'n briodol. Bydd methu â pharatoi Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr a diwallu'r angen yn debygol o arwain at ystyried nad yw'r cynllun yn 'gadarn'. Felly, byddem yn annog yr awdurdod i weithio gydag Is-adran Cydraddoldebau Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod y dystiolaeth ar gael erbyn y cam Adneuo.  

Polisi Strategol 7: Llety ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr 

Dylai'r cyfiawnhad rhesymedig gyfeirio at Gylchlythyr mwyaf diweddar Llywodraeth Cymru, 005/2018. Mae maen prawf 1 a (b) yn groes i bolisi cenedlaethol. Mae Atodiad B i'r Cylchlythyr yn nodi y byddai gofynion polisi i ddangos ‘angen nas diwallwyd yn yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr’ yn gweithredu yn erbyn rhyddid symud i Sipsiwn a Theithwyr, a fyddai efallai am ddatblygu eu safleoedd eu hunain. Ni ddylai'r fath gyfyngiadau gael eu rhoi ar Sipsiwn a Theithwyr. Mae'r cylchlythyr yn nodi'n glir bod yn rhaid i bolisïau sy'n seiliedig ar feini prawf fod yn deg, yn rhesymol, yn realistig ac yn effeithiol wrth ddarparu safleoedd ac na ddylent ddiystyru na chyfyngu'n ormodol ar ddatblygu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr (paragraff 49). Mae Atodiad B i'r Cylchlythyr yn nodi y byddai gofynion polisi i ddangos ‘angen nas diwallwyd yn yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr’ yn gweithredu yn erbyn rhyddid symud i Sipsiwn a Theithwyr, a fyddai efallai am ddatblygu eu safleoedd eu hunain. Ni ddylai'r fath gyfyngiadau gael eu rhoi ar bobl nad ydynt yn Sipsiwn a Theithwyr.

Yn ogystal, nid yw'r dull dilyniannol o ddewis safleoedd a nodir yn y Cylchlythyr wedi cael ei adlewyrchu'n ddigonol yn y polisi. Mae'n nodi y gellid rhoi caniatâd i safleoedd y tu allan i ffiniau aneddiadau (h.y. mewn ardaloedd gwledig ac 'i ffwrdd' o aneddiadau presennol) os nad oes safleoedd addas realistig 'o fewn neu gerllaw' ffiniau aneddiadau ac ar yr amod eu bod yn bodloni meini prawf cynaliadwyedd. Fel y mae wedi'i eirio, nid yw Polisi Strategol 7 yn rhoi pwysoliad cyfartal i safleoedd a allai godi 'o fewn neu gerllaw' ffiniau aneddiadau ac nid yw'n nodi meini prawf i asesu cynigion ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr mewn ardaloedd gwledig. Mae'r polisi yn rhy gaeth a dylid ei ddiwygio yn unol â pholisi cenedlaethol. 

Ynni Adnewyddadwy

Mae cyfran o'r awdurdod o fewn Ardal Blaenoriaeth 14 ar gyfer ynni solar ac ynni gwynt yn y FfDC drafft. Fel y cyfryw, dylai'r awdurdod sicrhau ei fod yn cydymffurfio'n gyffredinol â'r FfDC pan gaiff ei fabwysiadu. Er ei bod hi'n siomedig nad oes Asesiad Ynni Adnewyddadwy ar gael i ategu'r Strategaeth a Ffefrir, mae'r cynllun yn nodi'n glir bod yr asesiad yn cael ei baratoi ar hyn o bryd ac y bydd, ar y cyd â Chynllun Ynni Clyfar y Cyngor (2019), yn nodi ardaloedd chwilio penodol neu'r potensial ar gyfer mathau arbennig o ynni adnewyddadwy a charbon isel gan gynnwys rhwydweithiau gwres rhanbarthol.

Dylai'r cynllun Adneuo wneud y canlynol:

  • Cael ei lywio gan Asesiad Ynni Adnewyddadwy er mwyn sicrhau "potensial sylweddol" yr ardal i gyfrannu at gynhyrchu cymaint o ynni adnewyddadwy â phosibl. Dylai'r Asesiad alluogi'r awdurdod i esbonio sut y datblygwyd ei ddull polisi ynni adnewyddadwy yn unol â PCC a dogfen Pecyn Cymorth ar gyfer Cynllunwyr Llywodraeth Cymru (2015) gan ystyried yr holl faterion perthnasol a, lle bo'n briodol, wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth lle mae'r Pecyn Cymorth yn hwyluso hyn.
  • Dangos sut mae'r Asesiad Ynni Adnewyddadwy wedi'i ymgorffori ym mhroses y safleoedd ymgeisiol ac esbonio sut mae cyfleoedd ynni adnewyddadwy a charbon isel wedi llywio graddfa a lleoliad twf gan gynnwys y safleoedd allweddol.
  • Cynnwys cyfraniad ardal y cynllun at ddatblygu a hwyluso ynni adnewyddadwy ac ynni carbon isel yn y polisi ac fel rhan o'r fframwaith monitro.
  • Cynnwys cyfleoedd ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy a charbon isel lleol yn y fframwaith polisi, fel y cynigir yn Atodiad 1 i'r cynllun. 

Tir Amaethyddol Gorau a Mwyaf Amlbwrpas 

Mae Polisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 10) yn nodi'n glir mai tir amaethyddol o radd 1, 2 a 3a yn y Dosbarthiad Tir Amaethyddol yw'r tir gorau a mwyaf amlbwrpas ac y dylid ei warchod. Wrth ystyried y drefn chwilio am safleoedd ac ym mholisïau'r cynllun datblygu, dylid rhoi cryn bwys ar ddiogelu tir o'r fath rhag ei ddatblygu yn gynnar yn y broses (PCC, paragraff 3.55). Yn y Strategaeth a Ffefrir, mae'n aneglur sut mae'r awdurdod wedi ystyried y tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas wrth ddatblygu'r strategaeth ofodol, y broses dewis safleoedd a'r dyraniadau newydd gan fod symiau sylweddol o'r tir hwn (cyfanswm o 186ha) yn cwmpasu safleoedd allweddol yn yr Ardaloedd Twf Cynaliadwy yn Island Farm, Pen-y-bont ar Ogwr, Campws Pencoed a Thir i'r dwyrain o'r Pîl. Byddem yn annog yr awdurdod i weithio gyda Thîm Amgylchedd Naturiol ac Amaeth Llywodraeth Cymru hyd at y cam Adneuo gan ddefnyddio Map Rhagweld mwyaf diweddar y Dosbarthiad Tir Amaethyddol ar gyfer Cymru.      

Llifogydd  

Dylai canfyddiadau Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd Strategol y Cyngor lywio'r cynllun Adneuo a dylid cael cyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru lle bo hynny'n briodol. Dylai'r Cyngor sicrhau na chaiff unrhyw ddatblygiad sy'n agored iawn i niwed ei ddyrannu i Ardal Gorlifdir C2. Lle ceir datblygiad ym mharth C1, er y gall yr egwyddor datblygu fod yn briodol yng nghyd-destun y polisi cenedlaethol, y brif ystyriaeth ar gyfer yr ACLl fydd dangos bod dyraniadau'n addas ac yn gyflawnadwy yn unol ag unrhyw fesurau lliniaru a all fod yn ofynnol er mwyn bodloni gofynion y polisi cenedlaethol. Bydd angen i'r ACLl ymgymryd ag Asesiad digon manwl o Ganlyniadau Llifogydd lle bo hynny'n briodol ac yn berthnasol, a gofyn am gyngor gan y corff statudol, sef Cyfoeth Naturiol Cymru, cyn y cam archwilio. Dylai'r awdurdod fod yn ymwybodol o Nodyn Cyngor Technegol 15 newydd Llywodraeth Cymru (sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd) o ran dyraniadau a'r fframwaith polisi o fewn y cynllun. 

Cyflogaeth – Eglurder a diwyg yn unol â'r Llawlyfr ar Gynlluniau Datblygu a pholisi cenedlaethol

Dylai'r Cynllun Adneuo wneud y canlynol: 

  • Rhestru'r dyraniadau cyflogaeth strategol a lleol ym mholisi'r CDLl yn glir gan gynnwys hyd a lled pob safle cyflogaeth (ha), ei ddefnydd Dosbarth B arfaethedig a'i gyfraniad at y cynnydd mewn swyddi, yn ogystal ag esboniad o'i ddosbarthiad gofodol a sut y caiff ei ddarparu.
  • Cynnwys rhestr o safleoedd cyflogaeth presennol allweddol i'w cadw at ddibenion cyflogaeth mewn polisi diogelu ar wahân. Nid yw'n glir o'r geiriad presennol a yw'r safleoedd i'w diogelu wedi'u rhestru yn Nhabl 7 gan fod y derminoleg ar gyfer safleoedd cyflogaeth a ddiogelwyd/dyrannwyd yn cael ei defnyddio'n gyfnewidiol. 
  • Cynnwys polisïau sy'n seiliedig ar feini prawf er mwyn asesu ceisiadau cyflogaeth newydd mewn ardaloedd trefol a gwledig a rhoi cymorth i'r economi wledig drwy ehangu busnesau sydd eisoes yn bodoli, ailddefnyddio neu addasu adeiladau presennol, hunangyflogaeth a microfusnesau (TAN 6).
  • Cynnwys polisi ar wahân ar arallgyfeirio ffermydd, lle bo hynny'n briodol
  • Nodi'r safleoedd cyflogaeth sy'n addas ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff.