Bydd yr astudiaeth yma yn archwilio a phrofi newidiadau potensial i’r mecanweithiau strwythurol i addasiadau byw annibynnol.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae hyn er mwyn symud ymlaen bwriad Llywodraeth Cymru i sicrhau fod addasiadau’n cael eu trosglwyddo’n fwy buan i’r bobl sydd eu hangen. Wrth wneud hyn, bydd yn helpu lleihau anghydraddoldebau cynhenid yn y gyfundrefn gyfredol trwy sicrhau ymagwedd gyd gysylltiedig, ataliad a gweithgaredd ymyrraeth cynnar.
Comisiynwyd y prosiect gan fod awdurdodau lleol yng Nghymru yn gwario tua £35 miliwn bob blwyddyn ar Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl ac am fod Llywodraeth Cymru yn gwario tua £8 miliwn ar Grantiau Addasiadau Ffisegol ar gyfer tenantiaid cymdeithasol.
Cynhaliwyd yr adolygiad rhwng misoedd Mai a Thachwedd 2014 a dyma oedd ei dri nod:
- amlinellu’r system bresennol
- dangosyddion perfformiad
- asesu pa mor ymarferol yw ffyrdd newydd o weithio.
