Adolygiad o addysg uwch yng Nghymru: cylch gorchwyl
Bydd yr adolygiad o addysg uwch yng Nghymru yn gwneud argymhellion ar ariannu a threfnu addysg uwch.
Ar y dudalen hon
Y cyd-destun
Addysg uwch yw un o asedau cenedlaethol mwyaf Cymru. Mae ein prifysgolion yn addysgu gweithlu’r dyfodol, yn ysgogi ymchwil ac arloesi, yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus, yn cryfhau cymunedau ac yn cyfrannu at ein hiaith a’n diwylliant.
Fodd bynnag, mae prifysgolion Cymru bellach yn wynebu heriau dwys sy’n galw am ddiwygio beiddgar a sylfaenol os yw’r sector am barhau i ffynnu.
Mae cynaliadwyedd ariannol y sector o dan straen sylweddol. Mae prifysgolion yn wynebu cynnydd yn eu costau gweithredu a gweithlu, twf incwm cyfyngedig, a chystadleuaeth sylweddol yn y farchnad myfyrwyr domestig a rhyngwladol.
Mae Llywodraeth y DU wedi cymryd camau i leihau cost y system benthyciadau myfyrwyr yn Lloegr, gan danseilio fforddiadwyedd y polisi cymorth i fyfyrwyr yng Nghymru a sefydlwyd gan Adolygiad Diamond yn 2018. Mae myfyrwyr a graddedigion yn dod yn fwyfwy pryderus am gostau addysg uwch, dyledion myfyrwyr, costau byw wrth astudio, ac effaith ad-daliadau benthyciadau. Mae disgwyl i sefyllfa gyllidol Llywodraeth Cymru barhau i fod yn gyfyngedig dros dymor y Senedd sydd i ddod.
Mae’r gystadleuaeth am fyfyrwyr domestig a rhyngwladol yn cynyddu oherwydd newidiadau i bolisïau mewnfudo a gostyngiad yn nifer y bobl ifanc. Mae diwygiadau Llywodraeth y DU i gyllid ymchwil yn golygu y bydd angen dull newydd os yw sefydliadau Cymru am aros ar flaen y gad ym maes ymchwil ac arloesi. Ac wrth i’n heconomi newid yn gyflym, bydd gofyn cael dulliau newydd o ddarparu sgiliau lefel uchel.
Oherwydd maint a brys y pwysau hyn, mae’n rhaid mynd i’r afael â chynaliadwyedd ariannu sylfaenol prifysgolion Cymru a system cymorth myfyrwyr Cymru nawr. Mae angen ymateb cenedlaethol ar Gymru i’r her ddifrifol hon.
Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n penodi panel annibynnol i ystyried y materion hyn a gwneud argymhellion ar ariannu a threfnu addysg uwch yng Nghymru. Bydd y gwaith hwn yn sicrhau bod y sector yn barod i wynebu heriau’r degawd nesaf a thu hwnt, sector addysg uwch sy’n cyflawni ar gyfer pobl Cymru.
Cenhadaeth
Sicrhau bod y sector addysg uwch a’r system cyllid myfyrwyr yng Nghymru yn sefydlog ac yn gynaliadwy, ac yn barod i ddiwallu anghenion Cymru i’r 2030au a thu hwnt.
Yr amcanion
Gofynnir i’r panel wneud argymhellion ar gyfer polisi a fydd yn:
- galluogi sector addysg uwch gwydn a chynaliadwy
- sicrhau bod addysg uwch yn darparu’r sgiliau a’r arloesi sydd eu hangen ar economi Cymru a gwasanaethau cyhoeddus Cymru
- cynyddu cyfran y cyllid cymorth i fyfyrwyr gan Lywodraeth Cymru sy’n cael ei wario yng Nghymru, a chymell mwy o fyfyrwyr a graddedigion o Gymru i astudio, gweithio a hyfforddi yng Nghymru
- cynyddu nifer y myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog
- sicrhau bod myfyrwyr o bob cefndir yn gallu cael mynediad at addysg uwch os ydynt yn gymwys o ran gallu a chyrhaeddiad
- galluogi prifysgolion i gyflawni ymchwil sy’n gystadleuol ar lefel fyd-eang ac sy’n denu buddsoddiadau economaidd i Gymru
- cefnogi sector addysg drydyddol fwy cydweithredol a chydlynol yng Nghymru, lle mae prifysgolion yn gweithio’n agos gyda phartneriaid lleol, cyflogwyr a sefydliadau addysgol eraill
- gwneud y mwyaf o werth buddsoddiad cyhoeddus a buddsoddiad myfyrwyr mewn addysg uwch
Cwmpas
Gofynnir i’r panel ystyried:
- cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer addysg uwch, gan gynnwys darparu benthyciadau myfyrwyr addysg uwch a grantiau ar gyfer ffioedd dysgu a chostau byw, a grantiau ar gyfer sefydliadau a ddarperir gan Medr
- cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd ariannol sefydliadau addysg uwch, a’u cyfraniad at anghenion sgiliau blaenoriaeth yr economi a gwasanaethau cyhoeddus
- y strwythur, trefniadaeth a llywodraethu priodol ar gyfer y sector addysg uwch
- rôl buddsoddiadau cyfalaf gan y llywodraeth ym maes addysg uwch ac anghenion yr ystad addysg uwch
- cyllid ar gyfer ymchwil ac arloesi mewn prifysgolion, ac ansawdd y gwaith hwnnw
- cyfran y boblogaeth (yn 18 oed ac yn ddiweddarach mewn bywyd) sy’n cymryd rhan mewn addysg uwch, a’r rhwystrau i gymryd rhan gan gynnwys costau byw
- nifer y myfyrwyr o Gymru sy’n symud y tu allan i Gymru ar gyfer addysg uwch, i ble y mae graddedigion yn mynd a chanlyniadau myfyrwyr, a sut y gellir denu graddedigion o Gymru sydd wedi gadael yn ôl i Gymru
- darpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, a chyfleoedd i fyfyrwyr addysg uwch ddefnyddio a gwella eu sgiliau Cymraeg
- telerau ac amodau benthyciadau myfyrwyr Llywodraeth Cymru, gan gynnwys effeithiau ariannol dyledion ac ad-daliadau graddedigion
- ariannu a darparu llwybrau amgen drwy addysg uwch, gan gynnwys darpariaeth ran-amser, cymwysterau lefel 4 a 5, addysg uwch mewn colegau, a phrentisiaethau uwch a gradd-brentisiaethau, yn ogystal â darpariaeth ôl-raddedig a doethuriaeth
Cwmpas ariannol
Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu rhagolygon ariannol cyfyngedig yn y tymor byr. Felly mae’n rhaid i argymhellion yr adolygiad fod yn gyllidol niwtral ar gyfer gwariant Terfyn Gwariant Adrannol Adnoddau nad yw wedi’i glustnodi Llywodraeth Cymru ar addysg uwch a grantiau myfyrwyr.
Rhaid i argymhellion yr adolygiad hefyd fod yn fforddiadwy i Lywodraeth Cymru o fewn y cyfyngiadau gwario ar wariant benthyciadau myfyrwyr a’r amhariadau a ganiateir gan Drysorlys EF o dan y Datganiad o Bolisi Ariannu ar gyfer y gweinyddiaethau datganoledig.
Aelodaeth
Bydd y panel, gan gynnwys y cadeirydd, yn cael ei benodi gan y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol. Byddant yn arbenigwyr annibynnol ac, ar y cyd, bydd ganddynt gefndiroedd a meysydd arbenigedd amrywiol i’w cyfrannu at waith yr adolygiad.
Gall y panel hefyd ofyn am gyngor arbenigol allanol i gefnogi ei waith.
Penodir aelodau’r panel fel unigolion a disgwylir iddynt ddarparu cyngor diduedd.
Bydd disgwyl i aelodau’r panel gadw Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus Nolan mewn cof a:
- meddwl yn strategol
- bod â meddwl agored
- gweithio ar sail tystiolaeth
- sicrhau’r gwerth gorau ac effeithlonrwydd
- bod yn gydweithredol
- croesawu technoleg a dulliau arloesol
Adrodd
Bydd y panel yn adrodd ar amlder a bennir gan y cadeirydd mewn cytundeb â’r Dirprwy Weinidog.
Bydd cofnodion cyfarfodydd y panel yn cael eu cadw yn gyfrinachol ac mewn modd priodol, er mwyn galluogi trafodaeth a dadl lawn.
Bydd y cadeirydd yn cwrdd o bryd i’w gilydd â’r Dirprwy Weinidog, i roi diweddariad am waith yr adolygiad.
Yr amserlen
Mae’r pwysau ar ein sector addysg uwch yn ddybryd ac yn fater o frys, ac mae’n rhaid ymateb yn gyflym. Nodir amserlen dros dro ar gyfer cyflawniadau allweddol isod. Efallai y bydd y cadeirydd a’r Dirprwy Weinidog yn cytuno i ddiwygio’r amserlen hon:
- Cymeradwyo’r Cylch Gorchwyl: Awst 2026.
- Penodi aelodau’r panel: Medi 2026.
- Cyflwyno adroddiad Cam 1 ar gyllid a chymorth i fyfyrwyr i Weinidogion Cymru: Haf 2027.
- Cyflwyno adroddiad llawn Cam 2 i’r Dirprwy Weinidog: Gaeaf 2027 i 2028.
Bydd adroddiadau’r Panel yn cael eu cyflwyno i’r Dirprwy Weinidog, a fydd yn ystyried ei argymhellion ar gyfer polisi yn y dyfodol.
Bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio gwneud newidiadau i bolisi cyllido cymorth i fyfyrwyr, wedi’u llywio gan argymhellion y panel, mewn pryd ar gyfer dechrau blwyddyn academaidd 2028 i 2029.
Ymgysylltu â rhanddeiliaid
Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnull Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau allweddol yng Nghymru yr effeithir arnynt gan gwmpas yr adolygiad.
Bydd y Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid yn cefnogi’r panel drwy ddarparu tystiolaeth, gwybodaeth a her ymarferol o bob rhan o’r sector. Bydd yn gweithredu fel fforwm lle gall y panel brofi dadansoddiadau, materion ac argymhellion sy’n dod i’r amlwg, gan helpu i sicrhau bod ei gasgliadau wedi’u llywio gan ystod eang o safbwyntiau a’u bod wedi’u seilio ar realiti gweithredol addysg uwch a’r system addysg drydyddol ehangach yng Nghymru. Ni fydd y Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid yn gyfrifol am wneud argymhellion. Bydd y cadeirydd yn gyfrifol am y gwaith cyswllt â’r Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid.
Bydd y Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid yn cynnwys cynrychiolwyr enwebedig o sefydliadau rhanddeiliaid allweddol, a bydd ei aelodau’n cael eu cadarnhau yn fuan.
Ymgysylltu â’r Senedd
Bydd y cadeirydd yn cwrdd yn rheolaidd â llefarwyr priodol y gwrthbleidiau yn y Senedd, i roi diweddariad iddynt am waith yr adolygiad a’r canfyddiadau sy’n dod i’r amlwg. Bydd y Dirprwy Weinidog a’r cadeirydd ar gael ar gyfer gwaith craffu gan bwyllgor(au) perthnasol y Senedd.
Gwrthdaro buddiannau
Dylai aelodau fod yn ymwybodol o bob achos o wrthdaro buddiannau gwirioneddol, canfyddedig a phosibl, a rhoi gwybod i’r cadeirydd cyn unrhyw gyfarfod. Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn cadw cofrestr o bob achos o wrthdaro sydd wedi’i ddatgan. Os bydd unrhyw wrthdaro buddiannau yn codi i aelodau’r panel yn ystod eu tymor, mae’r cadeirydd yn gyfrifol am benderfynu ar gamau lliniaru i fynd i’r afael â hynny.
Yr ysgrifenyddiaeth
Bydd y Gyfarwyddiaeth Sgiliau ac Addysg Drydyddol yn darparu gwasanaethau ysgrifenyddiaeth a mynediad at adnoddau Llywodraeth Cymru.
Bydd y cadeirydd a Llywodraeth Cymru yn cytuno ar unrhyw weithgareddau eraill sy’n arwain at gostau cyn i’r costau hynny gael eu hysgwyddo.
Diwygiadau
Gall y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol ddiwygio’r cylch gorchwyl hwn mewn cytundeb â’r cadeirydd.
