Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae partneriaethau a chydweithio yn nodweddion unigryw o'r ffordd rydym yn gweithio yng Nghymru. Ers datganoli, mae Llywodraeth Cymru wedi annog gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol fel ffordd o ddod o hyd i'r atebion gorau i'r heriau sy'n ein hwynebu. Mae yna felly lawer o drefniadau partneriaeth gymdeithasol rhwng sefydliadau unigol, grwpiau sy'n cynrychioli sectorau cyfan ac undebau llafur cydnabyddedig, rhai ohonynt â hanes hir. Yn absenoldeb unrhyw sail statudol, mae'r strwythurau partneriaeth presennol hynny wedi datblygu'n wirfoddol ac yn organig dros amser gan ddefnyddio amrywiaeth o ffyrdd o weithio mewn partneriaeth.

Er mwyn cryfhau partneriaeth gymdeithasol fel ffordd o weithio, gwnaed ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i osod partneriaeth gymdeithasol ar sail statudol yng Nghymru sydd wedi arwain at Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Er mwyn cefnogi'r gwaith o roi'r Ddeddf ar waith a helpu i fynd â'r model partneriaeth gymdeithasol o ymgysylltu y tu hwnt i ddarpariaethau'r ddeddfwriaeth, comisiynwyd adolygiad i edrych ar weithio mewn partneriaeth gymdeithasol ledled Llywodraeth Cymru.

Mae'r adroddiad hwn yn grynodeb o'r adolygiad o bartneriaethau cymdeithasol ledled Llywodraeth Cymru. Mae'r wybodaeth a gasglwyd ynghyd yn cynnig dealltwriaeth ac asesiad sylfaenol o strwythur a swyddogaeth partneriaethau cymdeithasol presennol a nifer o argymhellion i gefnogi gweithio mewn partneriaeth yn effeithiol. Rhannwyd yr adolygiad yn dri cham i greu proses ailadroddol gyda rhanddeiliaid yn ymateb a chymryd rhan drwyddi draw. 

I gael rhagor o wybodaeth am yr adolygiad neu'r ddeddfwriaeth cysylltwch â'r Tîm Partneriaeth Gymdeithasol yn PartneriaethGymdeithasol@llyw.cymru.

Crynodeb o'r canfyddiadau

Cam 1: adolygiad o'r strwythurau presennol

Roedd y cam cyntaf yn rhoi trosolwg o'r trefniadau presennol ar gyfer partneriaethau cymdeithasol ar draws Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag asesiad cymharol o'u strwythur, eu gweithrediad a'u pwrpas. Roedd y cam hwn yn casglu gwybodaeth am amrywiaeth eang o bartneriaethau a arweinir gan y llywodraeth, gan gynnwys partneriaethau cymdeithasol a gyfansoddwyd yn ffurfiol a grwpiau ymgysylltu ehangach. Roedd hyn yn amlygu cymhlethdod y sefyllfa o ran partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru.

Dyma'r canfyddiadau allweddol:

  • Mae'r sefyllfa ynghylch partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru yn gymhleth iawn o ran nifer y partneriaethau a'r gwahaniaeth mewn dulliau o weithio mewn partneriaeth.
  • Nid oes un model sy'n addas i bawb ar gyfer gweithio mewn partneriaeth ar draws Llywodraeth Cymru.
  • Mae nifer o nodweddion sy'n gyffredin ar draws y rhan fwyaf o'r partneriaethau a nodwyd, ond nid pob un, gan gynnwys Llywodraeth Cymru yn darparu ysgrifenyddiaeth a chadeirydd, y nod o gael statws cyfartal i bartneriaid, a'r defnydd o gylchoedd gorchwyl.
  • Mae sawl nodwedd strwythurol yn ymddangos yn bwysig, yn enwedig y gofynion rhagofynnol ar gyfer partneriaethau a gyfansoddwyd yn ffurfiol, ond nid ydynt ynddynt eu hunain yn creu nac yn gwarantu gwaith effeithiol mewn partneriaeth.
  • Mae nodweddion strwythurol a gweithredol yn ymddangos yn ffordd gymharol arwynebol o wahaniaethu rhwng gwahanol ddulliau o weithio mewn partneriaeth.
  • Ymddengys mai un agwedd sylfaenol ar y partneriaethau hyn yw eu bod yn mabwysiadu, i raddau mwy neu lai, egwyddorion arweiniol partneriaeth gymdeithasol (gan gynnwys cydweithredu, parch, ymddiriedaeth, llais a chyfranogiad, a buddion i bob ochr).

Heb fframwaith clir ar gyfer partneriaeth gymdeithasol a arweinir gan y llywodraeth, mae'r sefyllfa hon yn cyflwyno her a chyfle i ddiffinio beth yw partneriaeth gymdeithasol a beth mae'n ei olygu yng Nghymru.

Cam 2: nodi nodweddion ategol

Roedd yr ail gam yn cynnwys adolygiad diagnostig o bartneriaethau presennol gan nodi ymddygiadau a nodweddion cyffredin sy'n cefnogi gweithio mewn partneriaeth yn effeithiol. Casglodd y cam hwn wybodaeth gan amrywiaeth eang o swyddogion ar eu profiad o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, yn ogystal ag adolygu'r llenyddiaeth a gyhoeddwyd.

Dyma'r nodweddion allweddol a welwyd:

  • Pwysigrwydd pwrpas a ffocws y mae pob parti'n eu deall ac sydd wedi'u diffinio'n glir.
  • Ymgysylltiad ystyrlon a pharhaus pob parti o'r cychwyn a thrwy gydol y broses ddatrys problemau / datblygu polisi.
  • Ymrwymiad clir i egwyddorion cydweithio a phartneriaeth gymdeithasol sef cyfuniad o gydweithredu, parch, ymddiriedaeth, llais a chyfranogiad, a chwilio am fuddion cyffredin i bawb.
  • Dealltwriaeth ar y cyd o sut mae gwybodaeth a phenderfyniadau yn cael eu rhaeadru a'u gweithredu. Dylai'r rhain fod yn sianeli dwy ffordd sy'n darparu gwybodaeth am yr effaith ar lawr gwlad.
  • Mae trefniadau clir ar gyfer monitro ac adolygu llwyddiant yn hanfodol er mwyn cynnal yr ymrwymiad i bartneriaeth gymdeithasol rhwng partneriaid.

Roedd y canfyddiadau hyn yn awgrymu bod llwyddiant partneriaeth gymdeithasol fel proses yn cael ei ddylanwadu'n sylweddol gan fabwysiadu nodweddion ategol allweddol, waeth beth fo'r sector, aelodaeth neu ddull o weithio mewn partneriaeth. Mae'n ymddangos bod y nodweddion hyn yn darparu'r symbyliad sydd ei angen ar gyfer ymgysylltu ystyrlon a all arwain at ganlyniadau gwell i wasanaethau cyhoeddus a lles yng Nghymru.

Ar sail y nodweddion hyn, lluniwyd Adnodd Asesu Partneriaeth Gymdeithasol i roi ffordd i bartneriaethau presennol hunanasesu effeithiolrwydd cyfredol eu gwaith partneriaeth eu hunain.

Cam 3: asesiad beirniadol o'r dirwedd o ran partneriaeth gymdeithasol 

Darparodd y trydydd cam asesiad beirniadol o'r partneriaethau cymdeithasol presennol ledled Llywodraeth Cymru er mwyn nodi'r hyn sy'n gweithio'n ymarferol a'r gwersi a ddysgwyd wrth weithio mewn partneriaeth. Y bwriad yw i'r wybodaeth hon helpu i adeiladu ar lwyddiannau presennol partneriaethau cymdeithasol at berwyl llywio'r broses o greu system gryfach a mwy cydgysylltiedig ar lefel genedlaethol. Casglwyd barn gan uwch reolwyr Llywodraeth Cymru ar y strwythurau a'r trefniadau yn eu Cyfarwyddiaethau a chyfleoedd i gryfhau partneriaethau cymdeithasol ar draws y llywodraeth. 

Mae crynodeb o'r atebion isod:

Manteision partneriaethau cymdeithasol

  • Y gallu i adeiladu perthnasoedd parhaol.
  • Rhwyddineb ac uniondeb cyfnewid gwybodaeth.
  • Y gallu i wella dealltwriaeth.
  • Gwelliannau mewn allbynnau polisi a'r nifer sy'n manteisio arnynt.

Anfanteision partneriaethau cymdeithasol

  • Gorbenion adnoddau a chapasiti.
  • Dealltwriaeth wahanol o faterion.
  • Heriau diwylliannol.
  • Cau partneriaid ehangach allan.

Atgyfnerthu partneriaethau cymdeithasol

  • Gwella dealltwriaeth o derminoleg partneriaeth gymdeithasol.
  • Cynyddu effeithlonrwydd o ran gweithredu partneriaethau cymdeithasol.
  • Dylunio pecyn o gefnogaeth ac arweiniad.
  • Creu amgylchedd mwy hyblyg ac ystwyth mewn perthynas â phartneriaeth gymdeithasol.

Mae'r dystiolaeth a gasglwyd yn y cam hwn o'r adolygiad yn awgrymu bod amrywiaeth o fanteision i bartneriaethau cymdeithasol sy'n hynod werthfawr i'r llywodraeth, y partneriaid, a phobl Cymru. Felly, mae'n bwysig bod y manteision hyn yn cael lle o fewn y llywodraeth sydd wedi'i warchod, a bod partneriaid yn parhau i allu ychwanegu gwerth i'r broses o ddatblygu a gweithredu polisi. Roedd hefyd yn amlwg bod sawl maes allweddol a allai wella partneriaethau cymdeithasol ar draws y llywodraeth, ymgorffori egwyddorion allweddol, a pharhau i gryfhau perthnasoedd â phartneriaid. 

Canlyniadau

Mae'r dystiolaeth a gasglwyd ar draws 3 cham yr adolygiad hwn wedi'i ddistyllu i gyfres o ganfyddiadau allweddol a luniwyd i gefnogi a chryfhau partneriaethau cymdeithasol. Mae'r canfyddiadau hyn yn ymestyn y tu hwnt i'r seilwaith statudol ar gyfer partneriaeth gymdeithasol drwy Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Eu bwriad yw helpu i greu a gwreiddio ffordd unigryw Gymreig o weithio ar lefel genedlaethol, wedi'i hategu gan ar egwyddorion allweddol. 

Ceir crynodeb o’r canfyddiadau isod:

Y fframwaith partneriaeth gymdeithasol ar lefel genedlaethol

Mynegodd uwch swyddogion eu bod o blaid sefyllfa nad yw'n gofyn m gymaint o adnoddau er mwyn lleihau'r gorbenion ar gyfer y llywodraeth a phartneriaid. Fodd bynnag, mae'r dystiolaeth a gasglwyd yn awgrymu nad oes awydd i ailstrwythuro neu symleiddio'r trefniadau presennol yn sylfaenol, ac ni chafwyd unrhyw awgrymiadau i uno neu ddod â phartneriaethau presennol i ben. Nododd nifer o gyfarwyddiaethau gyfleoedd posibl i drefnu partneriaethau newydd, ac rydym yn bwriadu gweithio gyda chydweithwyr yn y meysydd hyn i ymchwilio i'r opsiynau. Efallai y bydd cyfleoedd i greu amgylchedd mwy hyblyg ac ystwyth drwy sefydlu trefniadau am gyfnod pendant i fynd i'r afael â materion penodol, yn hytrach na sefydlu strwythurau parhaol.

Cynyddu effeithlonrwydd o ran gweithredu partneriaethau cymdeithasol

Ffrwyth yr adolygiad hwn yw'r 'Adnodd Asesu Partneriaeth Gymdeithasol', a ddyluniwyd i roi ffordd i bartneriaethau cymdeithasol asesu dros eu hunain eu cryfderau a lle mae angen iddynt wella. Mae'n canolbwyntio ar nodweddion allweddol sy'n cefnogi gweithredu'n effeithiol, fel: sicrhau bod diben a ffocws clir i'r grŵp; ymgysylltu ystyrlon a pharhaus; eglurder ar sut mae gwybodaeth a phenderfyniadau yn cael eu rhaeadru a threfniadau ar gyfer monitro ac adolygu. Gellir defnyddio'r adnodd i hwyluso trafodaeth a galluogi pob partner i gymryd rhan mewn nodi ffyrdd o gryfhau eu trefniadau presennol. 

Gwella dealltwriaeth o derminoleg partneriaeth gymdeithasol

Mae angen clir am derminoleg safonol sy'n pennu'r hyn sy'n diffinio partneriaethau cymdeithasol, y strwythurau dan sylw, y disgwyliadau o ran y dull gweithredu a'r ymrwymiadau cyffredin sy'n ofynnol gan yr holl bartneriaid. 

Er y byddwn yn parhau i annog ymgysylltu'n ehangach â phartneriaid cymdeithasol, ni ddylid ystyried trefniadau o'r fath fel partneriaethau cymdeithasol ffurfiol. Mae naratif ar gyfer y 'Ffordd Gymreig' o ymdrin â phartneriaeth gymdeithasol hefyd wedi'i ddrafftio i helpu cyd-ddealltwriaeth rhwng y partïon a bydd hwn yn cael ei roi ar brawf gan bartneriaid.

Dylunio Pecyn Cymorth o gefnogaeth ac arweiniad

Er mwyn manteisio i'r eithaf ar bartneriaethau cymdeithasol, rydym yn cynnig datblygu pecyn o arweiniad a chefnogaeth a fydd ar gael i'r llywodraeth a phartneriaid. Dylai pecyn o'r fath anelu at wella dealltwriaeth partïon ar y cyd o bartneriaeth gymdeithasol a darparu meini prawf ar gyfer ffyrdd effeithiol o weithio (e.e., gwerthoedd, ymddygiadau, ac egwyddorion allweddol). Mae cynlluniau ar gyfer pecyn o fodiwlau hyfforddi ac amrywiaeth eang o ddeunyddiau cyfathrebu eisoes yn cael eu datblygu. Elfen allweddol o'r pecyn cymorth hwn fydd yr Adnodd Asesu Partneriaeth Gymdeithasol.