Neidio i'r prif gynnwy

Nod yr ymchwil hon oedd adolygu peilot y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig i ddarparu tystiolaeth i ddylanwadu ar drefniadau'r maes hwn yn y dyfodol.

Nod yr ymchwil hon oedd adolygu peilot y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru ('y gronfa' / 'y peilot') i ddarparu tystiolaeth i ddylanwadu ar drefniadau'r maes hwn yn y dyfodol.

Cynhaliwyd yr adolygiad gan Opinion Research Services (ORS) rhwng mis Tachwedd 2022 a mis Mawrth 2023.

Cynhaliwyd adolygiad o'r dystiolaeth; cyfweliadau cwmpasu archwiliadol gyda phersonél strategol o Lywodraeth Cymru ac Anabledd Cymru; cyfres o gyfweliadau manwl â aelodau’r panel; a chyfweliadau manwl gydag ymgeiswyr a ymgeisiodd am y gronfa.

Prif ganfyddiadau

  • Roedd Aelodau'r Panel yn gyffredinol yn gefnogol o'r broses weithredol, ond nodwyd rhai meysydd lle gellid gwneud gwelliannau, gan gynnwys profiad y panel ac amseriad y cymorth.
  • Roedd ymgeiswyr yn hynod gadarnhaol am y broses ymgeisio a'r cymorth a gawsant, ond roeddent yn cael trafferth gydag amserlenni a’r diffyg amser rhwng eu cais a dechrau'r cyfnod ymgyrchu.
  • Roedd rhanddeiliaid ac ymgeiswyr yn tueddu i deimlo y byddai angen ymdrechion ar wahân i'r gronfa i gefnogi pobl â nodweddion gwarchodedig eraill i sefyll am swyddi etholedig.
  • Ar sail canfyddiadau'r ymchwil hon, teimlir y dylai Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid fyfyrio ar y canlynol:
  • Dylai darpariaeth i ymgeiswyr anabl sy'n ceisio etholiad yng Nghymru fod ar gael yn y dyfodol.
  • O fewn cyfyngiadau'r ddeddfwriaeth, dylid ymdrechu i ddarparu offer ategol neu hyfforddiant rhagarweiniol cyn i'r arian gael ei dynnu i lawr.
  • Dylai’r gronfa fod yn rhan o becyn ehangach, mwy cyfannol, o gymorth ac arweiniad gyda brand clir.
  • Dylid ymestyn y pecyn ehangach i unigolion â nodweddion gwarchodedig eraill a heriau eraill.

Adroddiadau

Adolygiad o beilot y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 525 KB

PDF
525 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Adolygiad o beilot y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 289 KB

PDF
289 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Adolygiad o beilot y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru: hawdd ei ddeall , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Nerys Owens

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.