Neidio i'r prif gynnwy

Nodau a dull yr ymchwil

Adolygiad yw’r papur hwn o’r polisi Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yng Nghymru a’i nod yw asesu argaeledd a digonolrwydd y ddarpariaeth ESOL yng Nghymru yn ogystal â gwneud argymhellion am welliannau hyfyw, ar sail tystiolaeth. Cynhaliwyd yr adolygiad rhwng Chwefror a Gorffennaf 2022.

Nod yr ymchwil oedd pennu pa mor dda y mae’r ddarpariaeth ESOL ffurfiol yng Nghymru yn cynnig cefnogaeth ddigonol ac amserol i ddysgwyr, gan gynnwys asesiad o:  

  • beth sy’n gweithio’n dda wrth ddarparu ESOL ac ESOL+ yng Nghymru, a pha fylchau sy’n bodoli yn y ddarpariaeth.
  • pa heriau/rhwystrau a/neu hwyluswyr sy’n bodoli yn y ddarpariaeth ESOL yng Nghymru
  • pa mor dda y mae’r ddarpariaeth ESOL yn cynnig cefnogaeth ddigonol ac amserol i’r rhai sy’n ddarostyngedig i statws mewnfudo amrywiol, y rhai sy’n wynebu bregrusrwydd penodol, a’r rhai sydd tu allan i’r prif ddinasoedd gwasgaru – Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam
  • a yw’r mathau o ddarpariaeth ESOL yng Nghymru yn ddigonol o ran eu hansawdd, priodoldeb, argaeledd, a’u hyblygrwydd
  • effaith dysgu o bell ac allgauedd digidol ar fynediad at ddarpariaeth ESOL
  • y graddau y mae ffurfiau mwy anffurfiol, cyfranogol o ddysgu yn cefnogi anghenion iaith gwirioneddol oedolion a orfodwyd i fudo
  • sut y mae cynnydd a deilliannau dysgwyr ESOL, a’u nodweddion demograffig, yn cael eu monitro a’u mesur dros amser a sut y gall data dienw gael ei rannu er mwyn cael tryloywder ac atebolrwydd
  • a yw darparwyr ESOL yn datblygu darpariaeth ESOL i gefnogi pobl i waith (neu gadw gwaith) a sut y mae’r ddarpariaeth ESOL yn cyd-fynd â hyfforddiant galwedigaethol
  • a yw darparwyr ESOL yn datblygu darpariaeth ESOL ar gyfer dibenion penodol eraill, fel ymgyfarwyddo â chymuned neu i gefnogi llwyddo mewn prawf gyrru
  • y ddarpariaeth sydd ar gael i ddysgu Cymraeg yn ogystal â, neu yn lle Saesneg pan fydd yn addas, a’r nifer sy’n dewis y ddarpariaeth Gymraeg
  • lle mae’r nifer sy’n dewis y ddarpariaeth ddysgu Cymraeg yn uchel neu’n isel, casglu’r rhesymau am yr amrywiadau
  • a yw’r cyllid ar gyfer y ddarpariaeth ESOL yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau posibl i gyflawni’r effeithiolrwydd a’r deilliannau mwyaf posibl
  • swyddogaeth Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, Sefydliadau, a phartneriaid gwasanaeth cyhoeddus wrth ddarparu arweiniad strategol a chydlynu i sicrhau darpariaeth ESOL ddigonol, o safon uchel yng Nghymru

Edrychodd yr adolygiad hefyd i bennu a oes digon o fynediad at gael gafael ar gyfleoedd eraill i ddatblygu sgiliau iaith mewn lleoliadau anffurfiol a chymdeithasol, fel Cyfeillion a Chymdogion (FAN) sy'n cynnal grwpiau i ddatblygu Saesneg neu Gymraeg sgwrsio, ac a yw partneriaethau rhwng darparwyr ESOL ffurfiol a Hybiau a darparwyr ESOL anffurfiol yn effeithiol. 

Mae’r adroddiad terfynol yn cynnig camau gweithredu/argymhellion hyfyw, ar sail tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi yn y dyfodol a allai wella’r ddarpariaeth ESOL yng Nghymru ac ymdrin â’r bylchau a ddynodwyd yn yr adolygiad hwn. 

Defnyddiwyd amrywiaeth o ddulliau ar gyfer yr adolygiad gan gynnwys adolygiad byr cyflym o lenyddiaeth a’r data nodau dysgu ESOL a gasglwyd gan Lywodraeth Cymru ar y Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru.

Cynhaliwyd arolwg ar-lein yn ystod Ebrill a Mai 2022, a ddosbarthwyd i dros 150 o sefydliadau ledled Cymru gan gynnwys sefydliadau addysg bellach, darparwyr addysg gymunedol i oedolion, awdurdodau lleol, sefydliadau hyfforddiant galwedigaethol a sefydliadau trydydd sector.

Cyflawnwyd pedwar fforwm ar-lein ym Mehefin 2022 i gasglu dealltwriaeth gan ddarparwyr ESOL (ffurfiol ac anffurfiol), sefydliadau oedd yn ymwneud â chefnogaeth ehangach a dysgwyr. Roedd cynrychiolwyr o 24 o sefydliadau a 10 o ddysgwyr i gyd yn bresennol.

Cynhaliwyd cyfweliadau wedi eu strwythuro’n rhannol yn ystod Mehefin a Gorffennaf 2022 yn bersonol ac ar-lein gyda’r rhanddeiliaid allweddol sy’n ymwneud â darparu neu gefnogi ESOL. Rhoddwyd cyfweliadau i gynrychiolwyr o 14 o sefydliadau i gyd.

Cynhaliwyd deuddeng grŵp ffocws ar-lein/yn bersonol gydag athrawon, dysgwyr a rheolwyr o sefydliadau sy’n darparu darpariaeth ESOL ffurfiol ac anffurfiol ym Mai a Mehefin 2022. 

Canfyddiadau allweddol

Roedd nodau’r ymchwil a amlinellir yn 1.3 yn eang. Mae’r crynodeb o’r canfyddiadau allweddol wedi eu grwpio o gwmpas cyllid a seilwaith, ymwybyddiaeth a mynediad, dysgu ar-lein a chyfunol, cwricwlwm ac ansawdd, datblygu gweithlu, darpariaeth Gymraeg, ESOL a Chyflogaeth. Datgelodd yr ymchwil bod timau o addysgwyr iaith proffesiynol rhyfeddol o ymroddedig yn gweithio’n galed ar draws y wlad i ddarparu’r math o addysg iaith y mae pobl sy’n ceisio adeiladu bywydau newydd yng Nghymru wirioneddol ei angen.

Ond, mae problemau angen sylw yn ymwneud ag addysg athrawon ESOL, y diffyg dewisiadau llwybrau dwys, a chydweithio rhwng darparwyr ffurfiol ac anffurfiol, yn ogystal â chyfeirio ac ymwybyddiaeth o’r ddarpariaeth ESOL. Yn ychwanegol, mae’r ddarpariaeth ESOL mewn sefyllfa unigryw a delfrydol i chwarae rhan fwy holistaidd, gadarnhaol wrth feithrin ymdeimlad o berthyn a chynhwysiant. Dylai darparwyr gael eu cefnogi wrth ddylunio meysydd llafur a allai hwyluso’r cyfleoedd hyn.

Cyllid a seilwaith

Yn y rhan fwyaf o drafodaethau a gynhaliwyd gyda thiwtoriaid a darparwyr ESOL, soniodd y rhai a gymerodd ran am bryderon am y ffordd y mae’r ddarpariaeth ESOL yn cael ei hariannu. Roedd yr adborth yn amlygu nad oes gan y peirianwaith cyllido presennol ar gyfer darpariaeth ESOL yr hyblygrwydd angenrheidiol i gyflawni’r deilliannau gorau i ddysgwyr. Amlygodd y rhai a gymerodd ran sut y mae demograffeg y myfyrwyr ESOL yn wahanol iawn i gohortau eraill ac yn ail, bod y defnydd o iaith, a sut y mae’n cael ei dysgu, asesu, a’i haddysgu yn wahanol iawn i bynciau eraill.

Cofnododd llawer o’r ymatebwyr bod cael eu clymu wrth faes llafur ac asesiadau penodol am resymau ariannu yn lleihau hyblygrwydd wrth allu ymateb i anghenion nas cynlluniwyd, gan arwain at restrau aros maith i ymuno â dosbarthiadau i’r rhai sy’n cyrraedd o’r newydd.

Mae peidio â gorffen cyrsiau yn cael effaith negyddol ar y cyllid ar gyfer y ddarpariaeth. Cofnodwyd bod myfyrwyr ESOL, yn amlach na chohortau eraill o ddysgwyr, yn llai tebygol o orffen cwrs - gallai hyn fod oherwydd natur fyrhoedlog rhai dysgwyr, ond mae hefyd oherwydd bod symud ymlaen i waith yn amharu ar gwblhau’r cwrs.

Mae’n ofynnol i ddysgwyr ESOL gymryd asesiadau er mwyn profi cynnydd a rhaid iddynt ailadrodd y flwyddyn gyfan os byddant yn methu mewn un elfen o arholiad y flwyddyn derfynol. Gall y broses hon ladd cymhelliant a gall fod yn gostus o ran yr amser a’r uchelgais ond mae hefyd yn cael effaith uniongyrchol ar y cyllid. Nododd nifer o benaethiaid colegau eu hanfodlonrwydd am y ffaith bod y gyfran fwyaf o’r cyllid presennol yn ddibynnol ar i ddysgwr lwyddo yn y pedair agwedd ar y cymhwyster.

Cyfeiriwyd at y peirianwaith cyllido, a’r gofynion cysylltiedig i brofi cynnydd trwy brofion, fel y rheswm pam na ellid cynnwys mwy o amser yn y dosbarth fel rhan o’r maes llafur. Dywedodd nifer o diwtoriaid a rheolwyr colegau y byddai cynnwys elfen anffurfiol, nad yw’n cael ei hasesu, yn y cwricwlwm yn gwneud dysgu iaith yn brofiad llawer cyfoethocach i’r myfyrwyr dan sylw.

Mae peth tystiolaeth bod y pandemig COVID-19 wedi arwain at lai o gydweithio rhwng darparwyr gan fod y cyfleoedd i rwydweithio wedi bod yn gyfyngedig ac amharu wedi bod arnynt. Canolbwyntiodd yr adborth ar yr angen i gael grwpiau cydlynu a chynllunio ESOL ar draws rhanbarthau ac ardaloedd.

Mae galw cynyddol am ESOL y tu allan i’r prif ardaloedd gwasgaru a’r Hybiau Reach+. Yn yr ardaloedd hyn roedd pryder bod angen mwy o fuddsoddiad i sefydlu gwaith cydlynu a datblygu.

Yn gyffredinol, roedd tystiolaeth bod angen am ragor o hyblygrwydd yn y system i ddarparwyr addasu i anghenion lleol a’i bod yn hanfodol cael system gyllido i alluogi hyn.

Ymwybyddiaeth a mynediad

Adroddodd y mwyafrif o ymatebwyr o leoliadau ffurfiol ac anffurfiol bod diffyg cyfathrebu ar nifer o lefelau yn y proffesiwn, a bod angen mwy o gydlynu rhwng yr holl ddarparwyr yn y rhanbarthau ac yn genedlaethol.

Amlygodd nifer o’r cyfranogwyr yr angen am lwyfan ddigidol i restru pob ffurf ar ddarpariaeth ESOL yng Nghymru. Byddai llwyfan i Gymru gyfan yn hwyluso gwell ymwybyddiaeth o’r cyrsiau sydd ar gael ac yn galluogi i’r ddarpariaeth ar-lein fod yn haws ei chanfod a’i defnyddio. Byddai hyn hefyd yn cynnig ateb i ardaloedd lle nad yw ESOL ar gael oherwydd problemau yn ymwneud â bod yn wledig neu’r angen am lefel neu fath penodol o ddarpariaeth ESOL.

Daeth gwell cyfathrebu o fewn colegau a sefydliadau hefyd i’r amlwg fel pryder ac fe’i mynegwyd gan nifer o reolwyr colegau. Cofnodwyd bod absenoldeb unrhyw “swyddog ymgysylltu” neu “fan canolog i gasglu data holistaidd” yn rhwystr wrth geisio dynodi anghenion dysgwyr unigol.

Awgrymodd adborth hefyd angen am rôl ddeuol, er enghraifft, tiwtoriaid a allai hefyd weithio fel swyddogion datblygu, gan gyflawni angen i allestyn, rhwydweithio, a dynodi dysgwyr a hwyluso cysylltiadau.

Amlygwyd y diffyg cyfleusterau créche a gofal plant fel rhwystr o bwys i atal cymryd rhan mewn dosbarthiadau ESOL. Tynnodd yr adolygiad sylw at yr angen am ragor o gefnogaeth i rieni â phlant trwy ddosbarthiadau ESOL teulu a darparu cyfleusterau.

Amlygodd yr adolygiad hefyd ddiffyg dewisiadau gwahanol i’r cynnydd cyson ar sail lefelau ac amlygu’r angen am ddewisiadau llwybr carlam, dwys ac i’r diben i ddysgwyr yn seiliedig ar ddyheadau’r rhai oedd yn cymryd rhan o ran addysg neu gyflogaeth.

Dysgu ar-lein, o bell a dysgu cyfunol

Amlygodd yr adolygiad y potensial i barhau i brofi a datblygu darpariaeth ESOL o bell a chyfunol i ddysgwyr lefel uwch sydd â mwy o sgiliau i ymdopi â dysgu ac adnoddau digidol. Amlygodd y trafodaethau hefyd y gall darpariaeth ESOL o bell fod â manteision ar gyfer darparu rhywfaint o barhad i’r dysgwyr hynny sy’n symudol, yn wynebu ansicrwydd o ran trefniadau byw ac yn cael eu hunain yn cael eu symud i ardaloedd gwasgaru eraill ar fyr rybudd.

Amlygwyd heriau dysgu o bell i’r dysgwyr ESOL hynny nad ydynt yn llythrennog yn eu hiaith gyntaf ac roedd y rhan fwyaf o’r adborth yn awgrymu, i’r dysgwyr hynny, bod dysgu wyneb yn wyneb yn hanfodol.

Nododd nifer o’r cyfranogwyr y gellid datblygu darpariaeth ddigidol i Gymru gyfan ar gyfer rhai lefelau ESOL neu rai llwybrau ESOL penodol i’r diben, er enghraifft ESOL ar gyfer gwaith. Awgrymodd nifer o’r cyfranogwyr y byddai hyn wedi bod o fudd i’r mewnlifiad sydyn o newydd ddyfodiaid o Wcráin.

Canfu’r adolygiad bryder am y diffyg cefnogaeth i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) – roedd adroddiadau am ADY heb ddiagnosis i rai dysgwyr a allai hefyd fod heb brofi addysg ffurfiol yn eu mamwlad ac amlygwyd bod diffyg cyllid ADY yn rhwystr.

Canfu’r adolygiad bod ansefydlogrwydd llety yn rhwystr i gael deilliannau da i ddysgwyr. Mae symud yn aml yn amharu ar y dysgu a gall fod y heriol i unigolion ddod o hyd i ddarpariaeth mewn ardal newydd a bydd yn rhaid iddynt yn aml ymuno â rhestrau aros cyn y gallant barhau â’u dysgu.

Canfu’r adolygiad bod angen mwy o eglurder i ddarparwyr ar draws Cymru o ran cymhwyster ar gyfer cyllid a pha ddarpariaeth sydd am ddim i ddysgwyr.

Codwyd pryderon cyllido o ran diffyg mynediad at y Lwfans Cynhaliaeth Addysg i geiswyr lloches ifanc dros 16 oed hefyd gan rai darparwyr ac ymarferwyr.

Cwricwlwm ac ansawdd

Amlygodd yr adolygiad yr angen am addysg iaith sy’n fwy anffurfiol, cyfranogol, ar sail anghenion bywyd go iawn y dysgwyr. Mae mudo, ac yn sicr mudo trwy orfodaeth, yn aml yn golygu colli cyfalaf diwylliannol, cymdeithasol ac ieithyddol, ac mae darparwyr ESOL yn ymwybodol bod addysg iaith mewn lle delfrydol i feithrin y mathau o gysylltiadau cymdeithasol, pontydd a dolenni sydd yn aml yn cael eu colli o ganlyniad i fod yn fudwr.

Pan fydd cyllid ar gael, mae gan ddarparwyr trydydd sector yr annibyniaeth a’r hyblygrwydd i fabwysiadu’r math o ddulliau dysgu cyfranogol a all ymdrin â’r materion cymdeithasol a diwylliannol sydd ymhleth mewn addysg iaith.

Canfu’r adolygiad bod digwyddiadau a drefnir mewn ardaloedd a chlybiau sgwrsio yn ychwanegiad derbyniol gan ddarparu cyfleoedd pellach, anffurfiol i ymarfer iaith ac integreiddio. Ond ni ddylid eu gweld fel rhywbeth sy’n cyfateb i’r addysgu anffurfiol a ddarperir gan athrawon neu wirfoddolwyr cymwys nac yn rhywbeth all gymryd ei le.

Mae’r adborth yn awgrymu nad yw gweithio gyda gwirfoddolwyr mewn darpariaeth ffurfiol yn gyffredin ond roedd adroddiadau gan rai darparwyr y byddent yn hoffi gwneud mwy. Gall defnyddio gwirfoddolwyr yn y ddarpariaeth ESOL fod yn fuddiol, er enghraifft trwy gynyddu capasiti a rhoi cefnogaeth ychwanegol i ddysgwyr. Mae hefyd yn gofyn am gynllunio gofalus a digon o gefnogaeth i’r rhai sy’n gwirfoddoli.

Datblygu’r gweithlu

Amlygodd yr adolygiad ddiffyg gweithlu ESOL wedi eu hyfforddi’n addas i fodloni’r galw a’r angen am gymwysterau cychwynnol penodol i ESOL i athrawon a rhaglen barhaus o ddatblygiad proffesiynol i gefnogi’r sector. Roedd yr adborth yn awgrymu bod angen mwy o ddatblygiad proffesiynol parhaus mewn meysydd fel addysgu sgiliau llythrennedd sylfaenol, dylunio dosbarthiadau cyfranogol, dulliau ar sail trawma a chyd-destun cymdeithasol mudo.

Darpariaeth Gymraeg

Archwiliodd yr adolygiad sut yr oedd y ddarpariaeth Gymraeg ar gael i ffoaduriaid a mudwyr. Awgrymodd yr adborth er mai’r flaenoriaeth i lawer o ddarparwyr oedd sicrhau darpariaeth ESOL ddigonol fe welwyd peth cynnydd ar ddatblygu a darparu Cymraeg i siaradwyr ieithoedd eraill, gyda rhai darparwyr yn cynnig hynny neu’n ymwreiddio’r Gymraeg yn y ddarpariaeth.

Sefydlodd y Ganolfan Genedlaethol gwrs blasu “Croeso i Bawb” a sefydlu polisi fel bod y cwrs blasu Dysgu Cymraeg am ddim i’r holl ddysgwyr gan alluogi i Croeso i Bawb gael ei gyflwyno am ddim i fudwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, o fewn y polisi hwn.

ESOL a chyflogaeth

Mae cael mynediad at waith yn nod allweddol i lawer o’r rhai sy’n ymuno â’r ddarpariaeth ESOL. Fodd bynnag, i lawer, gall y llwybr at waith sy’n cyd-fynd â’u sgiliau a’u huchelgais fod yn araf ac anodd.

Cofnododd nifer o diwtoriaid a rheolwyr colegau werth cyrsiau ESOL+ lle mae dysgwyr yn dod at ei gilydd ar gyfer dosbarth ESOL ac yna’n cael eu ffrydio i fodylau galwedigaethol o’u dewis. Canfu’r data a gasglwyd nad yw’r math yma o ddarpariaeth wedi ei datblygu gan golegau eraill ar draws Cymru, gyda’r adborth yn awgrymu bod datblygu cyrsiau ar y model ESOL+ wedi bod yn heriol yn bennaf oherwydd bod y cohort o ddysgwyr yn llai.

Mynegodd y mwyafrif o gyfranogwyr mewn colegau ddymuniad am ESOL sy’n rhoi mwy o bwyslais galwedigaethol. Roedd llawer yn cydnabod yr angen i ddarparu hyn ond yn teimlo eu bod wedi eu cyfyngu yn eu gallu i wneud hynny oherwydd y niferoedd is o ddysgwyr, a chohortau o ddysgwyr gyda llai o allu ieithyddol.

Cydnabuwyd yr angen am gefnogaeth alwedigaethol a chyflogadwyedd i ddysgwyr ESOL fel maes o’r ddarpariaeth sydd angen ei ddatblygu ar frys, i ymateb i anghenion ac uchelgais dysgwyr.

Awgrymodd un rheolwr coleg, o fewn y ddarpariaeth bresennol, nad yw’n cael ei ystyried bod gan gyfran fawr o ddysgwyr ESOL lefel ddigon uchel o sgiliau iaith i fynd i ddosbarthiadau ESOL galwedigaethol. Ond, gall aros i ddysgwr gyrraedd lefel briodol gymryd cryn amser, arwain at rwystredigaeth i ddysgwyr a chreu perygl y byddant yn gadael oherwydd nad yw’r dysgwr yn cael ei fodloni neu ei ysgogi gan y lefel/math o ESOL y mae’n ei gael.

Galwodd nifer o diwtoriaid a rheolwyr coleg am ddull trochi, carlam o gyflwyno ESOL fyddai’n cynnig digon o amrywiaeth a hyblygrwydd i gael ei deilwra i wahanol lwybrau galwedigaethol. Nodwyd hefyd bod angen am gefnogaeth holistaidd yn canolbwyntio ar lesiant, cynyddu hyder a chyfarwyddyd ar gyfer llwybrau i ddysgu pellach neu gyflogaeth.

I rai dysgwyr ESOL, gallai cydnabyddiaeth o’u sgiliau a’u cymwysterau presennol gynnig llwybr cyflymach i’r math o waith y mae arnynt ei eisiau. Mae llawer o fudwyr a ffoaduriaid yn sefydlu yng Nghymru gyda chymwysterau proffesiynol a gall treulio pum mlynedd yn symud trwy’r lefelau ESOL ladd eu cymhelliant.

Casgliadau/argymhellion

Cyllid

Argymhelliad 1

Dylid llunio tasglu yn cynnwys darparwyr a Llywodraeth Cymru i adolygu’r model cyllido ESOL gyda’r nod o i) weithredu system well sy’n cydnabod symudedd y cohort o fyfyrwyr a ii) archwilio dewisiadau fyddai’n caniatáu mwy o hyblygrwydd a blaengaredd wrth redeg y cyrsiau. Yn benodol, y math o gyrsiau carlam, yn canolbwyntio ar gyflogaeth a chyfranogol y cyfeirir atynt trwy gydol yr adroddiad hwn.

Argymhelliad 2

Dylai darparwyr trydydd sector gael eu cydnabod am y rhan y maent yn ei chwarae wrth ddarparu addysg iaith a’u cydgysylltiadau â chynhwysiant cymdeithasol. Dylai darparwyr o’r fath gael eu cefnogi gan gyllid Llywodraeth Cymru i ddarparu cynlluniau addysg iaith dwys, ymatebol a chynhwysol.

Argymhelliad 3

Dylai cyllid Llywodraeth Cymru fod ar gael i golegau, awdurdodau lleol, a darparwyr ffurfiol eraill ar gyfer cynnwys cyrsiau heb eu hachredu fel dosbarthiadau sgwrsio a chyrsiau dwys, carlam. 

Seilwaith

Argymhelliad 4

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r sector i sicrhau bod grwpiau cydlynu a chynllunio ESOL (yn gyson â phob Partneriaeth Dysgu Oedolion ar draws Cymru efallai) yn cael eu sefydlu gyda threfnwyr arweiniol a gweithwyr datblygu. Gallai’r trefnwyr ESOL hyn gael eu rhwydweithio ag arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru ac asiantaethau eraill i adolygu’r ddarpariaeth, dynodi bylchau a bod yn effro i’r galw neu broblemau cyflenwi. 

Argymhelliad 5

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnig model ar gyfer trefnu darpariaeth iaith. Gallai Llywodraeth Cymru ystyried datblygu model tebyg ar gyfer ESOL yng Nghymru gyda chyfrifoldeb am arwain o ran datblygu cwricwlwm a chyrsiau, adnoddau i diwtoriaid a datblygu proffesiynol parhaus yn ogystal ag ymchwil, cyfeirio at gyrsiau a marchnata.

Ymwybyddiaeth

Argymhelliad 6

Dylai pob awdurdod lleol ddatblygu tudalen wybodaeth ddigidol o ddarparwyr lleol, gyda manylion cyfredol am y ddarpariaeth. 

Argymhelliad 7

Dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu llwyfan genedlaethol ar gyfer ESOL a Chymraeg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill, gan annog yr holl ddarparwyr i gael proffil ar y safle i restru cyrsiau (ar-lein a byw) a dolen i’w safleoedd eu hunain. 

Argymhelliad 8

Mae angen i gyfleusterau presennol e.e. hybiau REACH weithio’n fwy clos gyda darparwyr anffurfiol, yn arbennig y rhai mewn lleoliadau cymunedol, i sicrhau bod dysgwyr yn gwybod am yr holl ddewisiadau sydd ar gael.

Argymhelliad 9

Dylai’r prif golegau a’r darparwyr awdurdod lleol gael eu galluogi/cyllido i gefnogi swyddog cyflogaeth / datblygu. Byddai swydd o’r fath yn galluogi gwell dealltwriaeth o anghenion holistaidd dysgwyr a hwyluso gwell cyswllt â phartneriaid allanol fel darparwyr trydydd sector, sefydliadau gwirfoddol, swyddogion gyrfaoedd, prifysgolion ac yn y blaen. 

Mynediad

Argymhelliad 10

Dylai darparwyr ffurfiol ac anffurfiol gael eu galluogi, trwy fodel ariannu priodol, i ddylunio a chyflawni cyrsiau addysg iaith llawn-amser, dwys yn seiliedig, cyn belled ag y mae’n bosibl a dichonol, ar y dyheadau a nodir ar gyfer y cyfranogwyr. 

Argymhelliad 11

Dylai Llywodraeth Cymru ofyn am adolygiad o gyfleusterau créche ar safleoedd lle mae darpariaeth ffurfiol, gyda dilyniant i ymchwilio pam bod diffyg cyfleusterau a dod o hyd i atebion.

Argymhelliad 12

Dylai darparwyr gael eu hannog a’u cefnogi, trwy gyllid priodol, i dreialu cyrsiau carlam i ddysgwyr a ddynodwyd yn briodol.

Effaith dysgu o bell ac allgauedd digidol ar fynediad at ESOL

Argymhelliad 13

Gallai’r dysgu proffesiynol sydd ar gael i ymarferwyr Addysg Bellach a Dysgu Oedolion trwy Jisc gael ei gryfhau neu ategu ato, fel bod arweinwyr ac athrawon yn cael mynediad at ddysgu proffesiynol sy’n cefnogi eu datblygiad wrth ymwreiddio dysgu digidol penodol i ESOL yn eu haddysgu a’u hymarfer. Byddai hyn yn hwyluso llunio gwybodaeth o ran dylunio dysgu o bell ac addysgu cyfunol yn canolbwyntio ar ESOL yn effeithiol, yn ogystal â datblygu sgiliau addysgu ac asesu athrawon ymhellach. 

Argymhelliad 14

Dylai Llywodraeth Cymru adolygu a chomisiynu cyrsiau ar-lein/adnoddau dysgu y gellir eu cynnig ar draws Cymru. Byddai cyrsiau o’r fath yn briodol i lefel, i’r diben ar gyfer grwpiau targed penodol neu â phwyslais galwedigaethol.

Argymhelliad 15

Byddai Grŵp Tasg gyda phwyslais ar ddysgu digidol, cynyddu sgiliau digidol i ddysgwyr a datblygiad proffesiynol parhaus i ymarferwyr yn hyrwyddo argymhellion 13 ac 14.   

Darpariaeth ESOL i’r rhai sy’n wynebu bregrusrwydd penodol

Argymhelliad 16

Mae angen adolygu trefniadau ar gyfer asesiad ADY ac i gefnogaeth fod ar gael i’r dysgwyr ESOL hynny sydd wedi dynodi bod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol.

Argymhelliad 17

Dylai’r adnoddau hyfforddi TrACE gael eu hyrwyddo a’u rhannu’n fwy eang ac maent yn offeryn defnyddiol i ddatblygu mwy o hyfforddiant penodol ar sail trawma ar gyfer y lleoliadau ESOL.

Mynediad at ESOL i’r rhai sy’n ddarostyngedig i wahanol statws mewnfudo

Argymhelliad 18

Dylid datblygu adnodd canolog ar-lein, wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, fyddai’n dwyn at ei gilydd yr holl ffrydiau ariannu sydd ar gael i ddysgwyr â statws mewnfudo amrywiol, gwybodaeth am hyd y cyllid a meini prawf cymhwyster clir.

Argymhelliad 19

Mae angen gweithredu darpariaeth i’r diben a chefnogaeth i fyfyrwyr dan 16 oed a rhoi dolenni mwy effeithiol at ddarparwyr ESOL (yn Lloegr mae colegau yn gallu cefnogi dysgwyr ESOL o 14 oed ymlaen).

Dulliau Anffurfiol a Chyfranogol 

Argymhelliad 20

Dylai cyllid Llywodraeth Cymru fod ar gael ar gyfer cyflwyno, profi ac adolygu prosiectau ar sail addysgu cyfranogol. Mae dull addysgu o’r fath yn cyd-fynd yn gryf â’r dyheadau Cenedl Noddfa o ran cynhwysiant a llesiant.

Argymhelliad 21

Dylai cyllid ESOL i golegau a darparwyr addysg oedolion eraill sydd wedi eu hachredu gynnwys cyfran benodol wedi ei dyrannu i gyflwyno cyrsiau anffurfiol, heb eu hasesu ar sail anghenion y dysgwyr. 

Argymhelliad 22

Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu mwy o gydlynu ac ymwybyddiaeth o’r potensial i wirfoddolwyr gefnogi dysgu iaith. Dylai darparwyr gael eu cefnogi i sicrhau bod gwirfoddolwyr yn cael hyfforddiant digonol a’u cefnogi i gyflawni eu rôl. Gall cefnogaeth gwirfoddolwyr yn y ddarpariaeth ESOL fod yn fuddiol, trwy gynyddu capasiti a rhoi cefnogaeth ychwanegol i ddysgwyr a’r cyfle i ymarfer eu sgiliau iaith. Mae hefyd yn gofyn am gynllunio gofalus a digon o gefnogaeth i’r rhai sy’n gwirfoddoli. Mae hyn yn helpu i osgoi peryglon fel ‘disodli swyddi’, lle gall swyddi gweithwyr proffesiynol am dâl gael eu cyfnewid am wirfoddolwyr.

Argymhelliad 23

Mae’r Gwirfoddolwyr yn y prosiect Migrant Education yn rhoi adnoddau i helpu i wahaniaethu rhwng gwahanol swyddogaethau gwirfoddolwyr. Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith wedi cynhyrchu cyfarwyddyd ar glybiau sgwrsio dan arweiniad gwirfoddolwyr, sy’n addas i’w defnyddio gan grwpiau cymunedol sy’n dymuno sefydlu clybiau sgwrsio anffurfiol. Mae cynllun y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Siarad yn cynnig model y gellid ei adolygu o ran sut y gallai fod yn berthnasol i leoliadau ESOL.

Argymhelliad 24

Dylid sefydlu Grŵp Tasg dan arweiniad ymarferwyr ESOL i adolygu a gwella problemau’n ymwneud â deunyddiau, asesiadau a methodoleg ESOL. 

Datblygu’r gweithlu

Argymhelliad 25

Mae angen ymdrin ag addysg athrawon penodol i ESOL ar lefel genedlaethol a dylai rhaglenni fod ar gael i ymarferwyr ar draws yr holl ddarpariaeth ac i’r holl staff presennol. Nid oes unrhyw raglen addysg athrawon penodol i ESOL ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd. 

Argymhelliad 26

Mae angen buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cymhwyster addysg athrawon ESOL yng Nghymru. Dylid ymdrin ag anghenion y rhai sy’n gweithio yn y proffesiwn ESOL fel rhan o waith Datblygu Gweithlu ôl 16 Llywodraeth Cymru

Argymhelliad 27

Dylid datblygu rhaglen datblygu proffesiynol parhaus i’r gweithlu ESOL, yn benodol mae angen ymwreiddio datblygu proffesiynol parhaus a hyfforddi athrawon mewn ymarfer anghenion dysgu ychwanegol ac ar sail trawma sy’n benodol i ESOL.

Argymhelliad 28

Dylai Llywodraeth Cymru fod yn mynnu bod yr holl athrawon ESOL newydd yn meddu neu yn cytuno i astudio am gymhwyster penodol i ESOL. 

Argymhelliad 29

Dylid archwilio Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Addysgu ESOL i ddatblygu, rhannu ymarfer a chydlynu addysg athrawon, datblygu proffesiynol parhaus a chefnogaeth i’r gweithlu. Dylai darparwyr gael eu hannog i gymryd rhan yn y gangen newydd o NATECLA yng Nghymru (Y Gymdeithas Genedlaethol i Addysgu Saesneg ac Ieithoedd Cymunedol Eraill i Oedolion).

Darpariaeth Gymraeg

Argymhelliad 30

Mae datblygiad y cwrs Croeso i Bawb wedi amlygu manteision cyfraniad y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol at gynadleddau cenedlaethol a fforwm ESOL Cymru. Dylid chwilio am gyfleoedd i barhau’r cydweithio yma gyda’r Ganolfan a’r rhwydwaith o ddarparwyr ESOL.  

Argymhelliad 31

Dylai’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol gael ei chynnwys yn Fforwm ESOL Cymru a’r gangen o’r Gymdeithas Genedlaethol i Addysgu Saesneg ac Ieithoedd Cymunedol Eraill i Oedolion (NATECLA) sy’n datblygu yng Nghymru. Yn ychwanegol, dylid hwyluso cyfleoedd ar gyfer deialog gyda chyfarfodydd y Rhwydwaith Partneriaeth Dysgu Oedolion a gyda phob Partneriaeth Dysgu Oedolion Cymunedol ar draws Cymru. 

ESOL a chyflogaeth

Argymhelliad 32

Dylai Tasglu o ddarparwyr ESOL weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu modelau darpariaeth newydd. Byddai’r rhain yn cynnwys cyrsiau â phwyslais galwedigaethol, cyrsiau carlam dwys, a chyrsiau i ddysgwyr ar lefel sero. Dylai darparwyr gael eu cefnogi trwy beirianweithiau cyllido mwy hyblyg i greu a threialu darpariaeth i’r diben o’r fath.

Argymhelliad 33

Mae angen mwy o gydlynu ar draws y sianeli cefnogi cyflogaeth sy’n bodoli a rhaglenni a drefnir gan Cymru’n Gweithio ac eraill. Gallai hyn gael ei hwyluso gan argymhelliad 10 

Argymhelliad 34

Dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar ddatblygu’r systemau a’r fframwaith angenrheidiol i gydnabod dysgu blaenorol i’w ymwreiddio wrth gefnogi’r holl fudwyr. 

Argymhelliad 35

Dylai Llywodraeth Cymru a Phartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol chwarae rhan arweiniol wrth gysylltu â chyflogwyr i gydnabod gwerth galluogi mynediad at ddysgu yn y gwaith a chynnig amser o’r gwaith i fynd i ddosbarthiadau ESOL. 

Argymhelliad 36

Mae angen mwy o ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth i ddysgwyr ESOL mewn rhaglenni fel ReACT+ a byddai gwybodaeth gyson gan Cymru’n Gweithio yn uniongyrchol i’r rhwydweithiau ESOL yn fuddiol.

Argymhelliad 37

Yn unol ag argymhelliad 10, dylai cyfarwyddyd a chyngor i ddysgwyr ESOL gynnwys cyfleoedd i wirfoddoli yn ogystal â chyfleoedd i dderbyn cefnogaeth gan asiantaethau fel Busnes Cymru, er enghraifft, er mwyn dysgu am lwybrau at hunangyflogaeth.

REACH

Argymhelliad 38

Dylid cynnal gwerthusiad ffurfiol o’r prosiect REACH i asesu ei effeithiolrwydd ar hyn o bryd a dichonolrwydd ei gyflwyno trwy Gymru i gyd. Bydd mwy o frys i wneud hyn petai cynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ehangu’r gwasgaru yn dod i rym.

Argymhelliad 39

Dylid cynnal adolygiad o sut y mae asesiadau cychwynnol yn cael eu cynnal. Byddai hyn yn cynnwys pwyslais ar sut y gellid gwella’r cyfathrebu â’r holl ddarparwyr; sut fyddai orau i drefnu hyfforddiant mewn defnyddio deunyddiau asesu cychwynnol a sut y byddai dull mwy holistaidd o gynnal asesiadau cychwynnol o werth. 

Arall

Argymhelliad 40

Rydym yn awgrymu y dylai nifer o Becynnau Gwaith gael eu sefydlu, a Thasgluoedd cysylltiedig i gyd-greu atebion. Gallai’r Pecynnau Gwaith yma ganolbwyntio ar y meysydd canlynol.

  • adolygiad o’r Model Cyllido
  • cydlynu Cenedlaethol a Lleol
  • llwyfan Ar-lein ar gyfer Ymwybyddiaeth/Mapio
  • dysgu a Datblygu Proffesiynol i’r Gweithlu
  • dysgu ac Addysgu Digidol
  • blaengaredd Cwricwlwm, Deunyddiau ac Asesu
  • ESOL Galwedigaethol a Gwaith

Ynglŷn â'r adroddiad hwn

Image
Logos

Caiff y prosiect Integreiddio Mudol Cymru ei ariannu'n rhannol dwy Gronfa Lloches, Ymfudo ac Integreiddio yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Awdur(on): Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru a Phrifysgol De Cymru.

Ieithoedd amgen

Gallwch hefyd weld cynnwys mewn ieithoedd eraill drwy ddefnyddio cyfieithu awtomatig gan Google Translate.

Mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu i helpu defnyddwyr, ond nid yw Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gynnwys na chywirdeb gwefannau allanol.