Adolygiad o’r data cyfredol, gydag argymhellion i wella’r broses o adrodd ar y defnydd o’r Gymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae'n cefnogi mesur cynnydd tuag at y cynllun ‘Mwy na geiriau’ (2022 i 2027). Dyma'r fframwaith strategol i gryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Ei nod yw sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu yn Gymraeg heb i ddefnyddwyr orfod gofyn amdanynt (Cynnig Gweithredol).
Mae'r astudiaeth yn adolygu data ar y defnydd o'r Gymraeg ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n defnyddio:
- adolygiad strwythuredig o ddata gweinyddol
- datganiadau ac arolygon rheoleiddiol
- ymgysylltu â rhanddeiliaid
Mae'n canfod bod ystod eang o ddata perthnasol eisoes yn bodoli ar draws y sector. Fodd bynnag, mae data yn aml yn dameidiog ac yn cael ei gofnodi yn anghyson. Mae yna:
- fylchau yn y ddarpariaeth
- amrywiad rhwng sefydliadau
- argaeledd cyfyngedig o ddata ar ffurf sy'n addas ar gyfer ei ddadansoddi’n genedlaethol
Mae hyn yn cyfyngu ar y gallu i asesu'r ddarpariaeth Gymraeg ar lefel system.
Fframwaith dangosydd
Mae'r adroddiad yn cynnig fframwaith i fesur cynnydd dros amser. Mae'n cynnwys 39 o ddangosyddion ar draws 4 maes, y rhain yw:
- cynnig a darparu gwasanaethau dwyieithog yn weithredol
- y galw am wasanaethau yn Gymraeg
- gallu Cymraeg y gweithlu
- gallu Cymraeg y gweithlu yn y dyfodol
Mae angen rhannu neu brosesu data ychwanegol ar gyfer y rhan fwyaf o ddangosyddion cyn y gellir eu hadrodd yn rheolaidd.
Bylchau data a gwelliannau a awgrymir
Mae'r adroddiad yn nodi bylchau yn y sylfaen dystiolaeth. Mae’r rhain yn cynnwys:
- cofnodi iaith yn anghyson
- data cyfyngedig ar brofiad y defnyddiwr
- heriau sy'n cysylltu sgiliau'r gweithlu â darparu gwasanaethau
Mae'n nodi argymhellion i wella cysondeb, cyflawnrwydd a defnydd y data. Nod y rhain yw cefnogi dull cliriach o fonitro cynnydd tuag at nodau'r cynllun ‘Mwy na geiriau’ (2022 i 2027).
Adroddiadau
Crynodeb , HTML
Adroddiad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 719 KB
Cyswllt
Cyfryngau
0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
