Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Amcan yr ymgynghoriad hwn yw gofyn ichi am eich barn am ein cynnig i ddynodi Traeth Aberogwr, Bae’r Tŵr Gwylio, Traeth Gorllewin Porth Tywyn a Thraeth Dwyrain Porth Tywyn yn ddyfroedd ymdrochi o dan Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 ar gyfer tymor ymdrochi 2023.

Mae’n ofynnol i Lywodraeth Cymru nodi dyfroedd ymdrochi poblogaidd yng Nghymru, monitro ansawdd eu dŵr a rhoi gwybodaeth i ymdrochwyr am ansawdd y dŵr ar y safleoedd sydd wedi’u dynodi. Yng Nghymru, mae’r tymor ymdrochi’n para o 15 Mai tan 30 Medi.

Un o’r gofynion o dan y Rheoliadau yw bod Llywodraeth Cymru bob blwyddyn yn adolygu ac yn cyhoeddi’r rhestr o ddyfroedd ymdrochi sydd wedi’u dynodi yng Nghymru.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 1 Mawrth 2023.

Ymatebwch i’r ymgynghoriad hwn drwy ateb y cwestiynau ar y ffurflen ymateb.  Gallwch gyflwyno’ch ymatebion drwy:

E-bost: dwr@llyw.cymru

neu’r

Post:

Cangen Ddŵr (Ymgynghori ar Ddyfroedd Ymdrochi)
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Dolen i wefan ymgynghori Llywodraeth Cymru

Os oes gennych gwestiynau am yr ymgynghoriad hwn, e-bostiwch dwr@llyw.cymru neu ffoniwch 03000250423.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg hefyd / This document is also available in English

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb. 

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod: 
 
Y Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru    
Parc Cathays
CAERDYDD 
CF10 3NQ
e-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru
 
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 
0303 123 1113                                  Gwefan: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Pwrpas yr Ymgynghoriad

Nod yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn pobl am ein cynnig i ddynodi Traeth Aberogwr, Bae’r Tŵr Gwylio, Traeth Gorllewin Porth Tywyn a Thraeth Dwyrain Porth Tywyn yn ddyfroedd ymdrochi dynodedig o dan Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 ar gyfer tymor ymdrochi 2023.

O dan Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013, mae'n ofynnol i Lywodraeth Cymru restru'r holl ardaloedd ymdrochi poblogaidd yng Nghymru bob blwyddyn.  Amcan y Rheoliadau yw diogelu iechyd ymdrochwyr rhag llygredd carthion a rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd fel y gall pobl wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch ble a phryd i ymdrochi.

Nifer yr ymdrochwyr yw'r maen prawf y bydd Llywodraeth Cymru'n ei ddefnyddio wrth ystyried a yw'n briodol dynodi safle. Bydd unrhyw seilwaith neu gyfleusterau a ddarperir, neu fesurau eraill a gymerir i hyrwyddo ymdrochi ar y safle hefyd yn cael eu hystyried.

Y sefyllfa bresennol

Cyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi 2006/7/EC sy'n rhoi’r mecanwaith ar gyfer dynodi dyfroedd ymdrochi yn y DU ac mae’n rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir yng Nghymru. Mae Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 yn pennu'r gofynion statudol sy'n gysylltiedig â rheoli dyfroedd ymdrochi yng Nghymru.

Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru nodi ardaloedd ymdrochi poblogaidd yng Nghymru bob blwyddyn. Amcan y Rheoliadau yw diogelu iechyd ymdrochwyr a rhoi gwybod i ymdrochwyr am y peryglon iechyd sy'n gysylltiedig ag ansawdd dŵr gwael.  

Mae 107 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig yng Nghymru ar hyn o bryd. Ar ôl i ddŵr ymdrochi gael ei ddynodi, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn profi ansawdd y dŵr yn ystod y tymor ymdrochi, sy'n para rhwng 15 Mai a 30 Medi. Caiff dyfroedd ymdrochi dynodedig eu disgrifio’n rhai rhagorol, da, digonol neu wael yn dibynnu ar ganlyniadau samplu ansawdd dŵr. Mae'r categorïau ansawdd dŵr ymdrochi yn seiliedig ar ddau baramedr microbiolegol: enterococci coluddol ac E.coli.

Cyhoeddir canlyniadau dyfroedd ymdrochi dynodedig unigol yng Nghymru ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae dyfroedd ymdrochi yn werthfawr oherwydd y cyfleoedd hamdden y maent yn eu darparu i bobl Cymru, yr economi leol a thwristiaeth. Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo hefyd i ddechrau dynodi dyfroedd mewndirol Cymru ar gyfer hamdden.

Cais i ddynodi Traeth Aberogwr yn ddŵr ymdrochi

Cawsom gais gan Gyngor Cymuned Saint-y-brid i ystyried dynodi Traeth Aberogwr (SS860754) yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2023. 

Tystiolaeth a gwybodaeth a ddarparwyd gan Gyngor Cymuned Saint-y-brid o blaid y cais i ddynodi Traeth Aberogwr

Roedd y cais yn darparu gwybodaeth am gyfleusterau ar y safle neu gerllaw, gan gynnwys parcio, toiledau cyhoeddus a lleiniau masnachu bwyd sydd wedi eu trwyddedu gan y cyngor lleol. Mae'r cyngor lleol hefyd wedi dweud bod achubwyr bywyd yn bresennol yn ystod yr haf.

Ni wnaeth y cais ddarparu tystiolaeth o ymdrochwyr ar y safle, ond fe nododd ei fod yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd ar gyfer syrffio, padlfyrddio a nofio. Ceir gwybodaeth am Draeth Aberogwr yn: Aberogwr (valeofglamorgan.gov.uk)

Cais i ddynodi Bae'r Tŵr Gwylio, y Barri yn ddŵr ymdrochi

Cawsom gais gan Gyngor Bro Morgannwg i ystyried dynodi Bae'r Tŵr Gwylio, y Barri (ST103662) yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2023. 

Tystiolaeth a gwybodaeth a ddarparwyd gan Gyngor Bro Morgannwg o blaid y cais i ddynodi Bae’r Tŵr Gwylio, y Barri

Roedd y cais yn darparu arolwg dŵr ymdrochi o Fae’r Tŵr Gwylio, y Barri a ddangosodd fod dros 2,000 o nofwyr a phadlwyr wedi defnyddio’r traeth rhwng 15 Mai 2022 a 21 Medi 2022. Dros yr un cyfnod, nodwyd gan yr arolwg bod tua 750 o bobl eraill wedi defnyddio’r traeth.

Lluniwyd yr arolwg gan nifer o grwpiau a sefydliadau sy'n defnyddio ac yn gweithredu ar y safle, gan gynnwys grŵp nofio a chlwb achubwyr bywyd.

Darparwyd gwybodaeth am ymgynghori lleol a chefnogaeth ar gyfer y dynodiad arfaethedig. Rhoddwyd ffotograffau yn dangos aelodau o'r cyhoedd yn y dŵr ac ar y traeth. Darparwyd ffotograffau hefyd a oedd yn cynnwys tystiolaeth o’r ramp mynediad i’r traeth, y toiledau cyhoeddus, parcio a’r man picnic ger y traeth.

Cais i ddynodi Traeth Gorllewin Porth Tywyn yn ddŵr ymdrochi

Cawsom gais gan aelod o’r cyhoedd i ystyried dynodi Traeth Gorllewin Porth Tywyn (SS440999) yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2023.   

Tystiolaeth a gwybodaeth a ddarparwyd gan aelod o’r cyhoedd o blaid y cais i ddynodi Traeth Gorllewin Porth Tywyn

Roedd y cais yn darparu arolwg dŵr ymdrochi o Draeth Gorllewin Porth Tywyn a ddangosodd fod dros 1,400 o nofwyr a phadlwyr wedi defnyddio'r traeth rhwng 27 Mai 2022 ac 11 Medi 2022. Dros yr un cyfnod, nodwyd gan yr arolwg bod tua 15 o bobl eraill wedi defnyddio’r traeth.

Lluniwyd yr arolwg gan aelod o’r cyhoedd a gyflwynodd y cais, a darparwyd ffotograffau yn dangos aelodau o’r cyhoedd yn y dŵr ac ar y traeth.

Cafwyd tystiolaeth ar ymgynghori lleol a chefnogaeth i'r dynodiad arfaethedig gan unigolion, grwpiau lleol a busnesau. Darparwyd gwybodaeth am gyfleusterau'r traeth a mynediad hefyd, gan gynnwys parcio, toiledau a siopau. Mae'r cyngor lleol wedi dweud nad oes achubwyr bywyd yn bresennol ar y traeth hwn.

Cais i ddynodi Traeth Dwyrain Porth Tywyn yn ddŵr ymdrochi

Cawsom gais gan aelod o’r cyhoedd i ystyried dynodi Traeth Dwyrain Porth Tywyn (SN447001) yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2023.  

Tystiolaeth a gwybodaeth a ddarparwyd gan aelod o’r cyhoedd o blaid y cais i ddynodi Traeth Dwyrain Porth Tywyn

Roedd y cais yn darparu arolwg dŵr ymdrochi o Draeth Dwyrain Porth Tywyn a ddangosodd fod dros 1,000 o nofwyr a phadlwyr wedi defnyddio'r traeth rhwng 27 Mai 2022 ac 11 Medi 2022. Dros yr un cyfnod, nodwyd gan yr arolwg bod tua 60 o bobl eraill wedi defnyddio’r traeth.

Lluniwyd yr arolwg gan aelod o’r cyhoedd a gyflwynodd y cais, a darparwyd ffotograffau yn dangos aelodau o’r cyhoedd yn y dŵr ac ar y traeth.

Cafwyd tystiolaeth ar ymgynghori lleol a chefnogaeth i'r dynodiad arfaethedig gan unigolion, grwpiau lleol a busnesau. Darparwyd gwybodaeth am gyfleusterau'r traeth a mynediad hefyd, gan gynnwys toiledau a siopau. Mae'r cyngor lleol wedi dweud nad oes achubwyr bywyd yn bresennol ar y traeth hwn.

Y camau nesaf ar ôl ymgynghori

Caiff yr holl ymatebion i’r ymgynghoriad hwn eu dadansoddi a’u hystyried a bydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion hynny.

Ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad 

Eich enw:    

Sefydliad (os yw’n berthnasol):

e-bost / rhif ffôn:

Eich cyfeiriad:


Cwestiwn 1

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i ddynodi Traeth Aberogwr yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2023?

Beth yw’ch barn am y cynnig a’ch rhesymau/tystiolaeth o blaid y farn honno? 

Cwestiwn 2

: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i ddynodi Bae’r Tŵr Gwylio, y Barri yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2023?

Beth yw’ch barn am y cynnig a’ch rhesymau/tystiolaeth o blaid y farn honno? 

Cwestiwn 3

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i ddynodi Traeth Gorllewin Porth Tywyn yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2023?

Beth yw’ch barn am y cynnig a’ch rhesymau/tystiolaeth o blaid y farn honno? 

Cwestiwn 4

: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i ddynodi Traeth Dwyrain Porth Tywyn yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2023?

Beth yw’ch barn am y cynnig a’ch rhesymau/tystiolaeth o blaid y farn honno? 

Cwestiwn 5

Byddem yn hoffi clywed eich barn am yr effeithiau y byddai’n cynigion yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

Beth fyddai’r effeithiau yn eich barn chi? Sut y gellir cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol? 

Cwestiwn 6

Eglurwch hefyd os gwelwch yn dda sut y credwch y gellir llunio neu newid y camau gweithredu sy’n cael eu cynnig er mwyn cael effeithiau cadarnhaol, neu fwy o effeithiau cadarnhaol, ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, a pheidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Cwestiwn 7: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol yn y ddogfen hon. Os hoffech dynnu ein sylw at unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw, gallwch wneud hynny yma:

Rhowch eich sylwadau yma:

Mae ymatebion i'r ymgynghoriad yn debygol o gael eu cyhoeddi, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai'n well gennych i'ch ymateb aros yn ddienw, ticiwch yma: