Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar gynigion i ddynodi traeth Nefyn, (Nefyn) a'r Warin (y Gelli Gandryll) yn ddyfroedd ymdrochi dynodedig o dan Reoliadau Dŵr Ymdrochi 2013. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 8 Ionawr a 19 Chwefror 2024.

Gofynnodd yr ymgynghoriad i'r ymatebwyr a oeddent yn cefnogi'r cynigion i ddynodi traeth Nefyn, a'r Warin yn ddyfroedd ymdrochi dynodedig ar gyfer 2024 a rhoi rhesymau/tystiolaeth i gefnogi eu barn.

Mae’r ddogfen hon yn crynhoi’r ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad ac yn dangos sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb iddynt. Nid yw'n cynnig barn fanwl ar sylwadau unigol.

Mae Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar i bawb a roddodd o'u hamser i gyflwyno eu barn.

Cyd-destun

Amcan dynodi traeth neu ardal ymdrochi fewndirol yn ddŵr ymdrochi yw diogelu iechyd ymdrochwyr rhag llygredd carthion a rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd fel y gall pobl wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch ble a phryd i ymdrochi.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn monitro ansawdd dŵr yn ystod y tymor ymdrochi, sy’n para o 15 Mai tan 30 Medi yng Nghymru. Disgrifir Dyfroedd Ymdrochi bob blwyddyn fel ‘rhagorol’, ‘da’, ‘digonol’ neu ‘wael’. Os nad yw ansawdd dŵr yn bodloni’r safonau sy’n ofynnol yn gyfreithiol, bydd CNC yn ymchwilio i ffynonellau llygredd ac yn argymell mesurau adferol i wneud gwelliannau.

Camau i'w cymryd

Mae’r ddogfen hon er gwybodaeth yn unig.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Mae fersiynau print bras, Braille ac iaith amgen o’r ddogfen hon ar gael ar gais.

Manylion cyswllt

Cangen Ddŵr
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10  3NQ
E-bost: dwr@llyw.cymru 

Copïau ychwanegol

Cyhoeddir y crynodeb hwn o ymatebion a chopïau o'r holl ddogfennau ymgynghori ar ffurf electronig yn unig, a gellir eu gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.

Y dogfen ymgynghori

Cyflwyniad

Mae'r ddogfen hon yn rhoi crynodeb o'r ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddynodi traeth Nefyn, Nefyn a'r Warin yn ddyfroedd ymdrochi yn ogystal ag ymateb y Llywodraeth a datganiad polisi sy'n amlinellu'r camau nesaf.

Gofynnodd yr ymgynghoriad i’r ymatebwyr ateb a oeddent yn cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i ddynodi traeth Nefyn a'r Warin yn ddyfroedd ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2024 a beth oedd eu rhesymau/tystiolaeth i gefnogi’r safbwyntiau hynny.

Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys cyfuniad o gwestiynau amlddewis a naratif. 

Trosolwg o niferoedd a’r math o ymatebwyr

Cafwyd 161 o ymatebion i’r ymgynghoriad. O’r rhain, daeth 119 drwy’r porth ar-lein a chafwyd 42 ymateb arall yn uniongyrchol drwy e-bost a thrwy'r post

YmatebyddNifer yr Ymatebion
Unigolion151
CNC1
Cwmni dŵr1
Awdurdod Lleol1
Cyngor Tref/Cynghorydd lleol/Cyngor Cymuned  2
Cyrff Proffesiynol 0
Clybiau a mudiadau lleol sy’n gwneud defnydd o ddyfroedd 5
Corff amgylcheddol anllywodraethol   0
Cyfanswm161

Mae rhestr lawn o’r sefydliadau a ymatebodd wedi’i chynnwys yn Atodiad A (ac eithrio’r unigolion a’r grwpiau a ofynnodd i’w hymateb fod yn ddienw), gyda nifer o’r ymatebwyr yn dewis cadw eu hymateb yn gyfrinachol. 

Cwestiynau a holwyd

Gofynnwyd pum cwestiwn i’r ymatebwyr mewn perthynas â’r dynodiadau arfaethedig, sef: 

Cwestiwn 1

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i ddynodi'r Warin, y Gelli Gandryll yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2024? Beth yw’ch barn am y cynnig a’ch rhesymau/tystiolaeth o blaid y farn honno? 

Cwestiwn 2

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i ddynodi Traeth Nefyn, Nefyn yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2024? Beth yw’ch barn am y cynnig a’ch rhesymau/tystiolaeth o blaid y farn honno?

Cwestiwn 3

Byddem yn hoffi clywed eich barn am yr effeithiau y byddai’r cynigion yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Beth fyddai’r effeithiau yn eich barn chi? Sut y gellir cynyddu’r effeithiau cadarnhaol neu liniaru'r effeithiau negyddol?

Cwestiwn 4

Eglurwch hefyd os gwelwch yn dda sut y credwch y gellir llunio neu newid y camau gweithredu sy’n cael eu cynnig er mwyn cael effeithiau cadarnhaol, neu fwy o effeithiau cadarnhaol, ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, a pheidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Cwestiwn 5

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech dynnu ein sylw at unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw, gallwch wneud hynny yma:

Cynhaliwyd dadansoddiad thematig o’r ymatebion. Roedd hyn yn categoreiddio’r safbwyntiau, y sylwadau, y datganiadau a’r materion a godwyd gan ymatebwyr yn themâu trosfwaol, ar gyfer pob un o gwestiynau’r ymgynghoriad.

Ymatebion i’r ymgynghoriad

Roedd nifer o themâu yn deillio o ymatebion unigol mewn perthynas â dynodi:

Y Warin, y Gelli Gandryll

  • Cael ei gydnabod yn eang fel safle poblogaidd ymhlith teuluoedd a grwpiau cymdeithasol o bob oed.
  • Pwyslais ar y manteision i'r gymuned a'r traddodiad lleol i deuluoedd ymdrochi yn y lleoliad hwn.
  • Manteision nofio agored yn y lleoliad hwn ar iechyd meddwl a chorfforol.
  • Helpu i fonitro ansawdd y dŵr i’w wella ac i ddiogelu iechyd ymdrochwyr.
  • Mae'r afon yn ased naturiol sy'n denu ymwelwyr ac yn cynyddu twristiaeth.
  • Manteision ehangach i'r gymuned, yr amgylchedd a bywyd gwyllt.
  • Cydnabod y safle fel rhan o dreftadaeth y dref sydd angen ei diogelu.
  • Pryderon cyffredinol am lygredd yn afon Gwy ac ansawdd gwael y dŵr yn y lleoliad hwn.
  • Mae’r defnydd presennol a wneir o’r safle hwn sydd o Ddiddordeb Arbennig Gwyddonol (SoDdGA) ac sy’n Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) yn effeithio’n niweidiol ar yr amgylchedd.
  • Diffyg cyfleusterau cyffredinol fel biniau, ardal newid, toiledau a dim digon o le i barcio.
  • Pryderon bod dynodiad yn gwrthdaro â buddiannau pobl sy'n defnyddio ac yn gwerthfawrogi'r ardal gyfagos, ac sy'n gofalu amdani.
  • Pryderon y byddai dynodiad yn cynyddu nifer yr ymwelwyr yn ddramatig ac yn cael effaith negyddol ar fioamrywiaeth.

Traeth Nefyn, Nefyn

  • Barn gyffredinol bod y lleoliad eisoes yn boblogaidd gyda llawer iawn o bobl, nofwyr, padlfyrddwyr, caiacwyr ac eraill yn y gyrchfan wyliau boblogaidd hon drwy gydol y flwyddyn.
  • Cydnabyddiaeth y byddai monitro ansawdd y dŵr yn rhoi data i ymdrochwyr wneud dewisiadau gwybodus ynghylch pryd i fynd i mewn i'r dŵr.
  • Cred y byddai dynodiad yn helpu i ddiogelu ansawdd y dŵr.
  • Cydnabod manteision nofio agored ar iechyd meddwl. 
  • Potensial i gynyddu twristiaeth a gwneud cais am statws y Faner Las.
  • Barn gyffredinol fod gan y cyhoedd hawl i ddŵr ymdrochi glân a diogel.

Tabl o ymatebion 

Mae’r tablau isod yn crynhoi’r cwestiynau a nifer yr ymatebion i’r cwestiynau. Mae crynodeb manwl pellach o’r sylwadau a ddaeth i law ar gyfer yr holl gwestiynau yn cael ei ddarparu hefyd.

Cwestiwn 1: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i ddynodi'r Warin, y Gelli Gandryll yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2024? Beth yw’ch barn am y cynnig a’ch rhesymau/tystiolaeth o blaid y farn honno?
Nifer yr ymatebwyrCytunoAnghytunoDdim yn cytuno nac yn anghytuno neu heb farn
158 147 (93.04%)8 (5.06%)3 (1.90%)
Cwestiwn 2: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i ddynodi Traeth Nefyn yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2024? Beth yw’ch barn am y cynnig a’ch rhesymau/tystiolaeth o blaid y farn honno?
Nifer yr ymatebwyrCytunoAnghytunoDdim yn cytuno nac yn anghytuno neu heb farn
128107 (83.59%)1 (0.78%)20 (15.62%)
Cwestiwn 3: Byddem yn hoffi clywed eich barn am yr effeithiau y byddai’n cynigion yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Beth fyddai’r effeithiau yn eich barn chi? Sut y gellir cynyddu’r effeithiau cadarnhaol neu liniaru'r effeithiau negyddol?
Nifer yr ymatebwyrYmateb naratif
103
Cwestiwn 4: Eglurwch hefyd os gwelwch yn dda sut y credwch y gellir llunio neu newid y camau gweithredu sy’n cael eu cynnig er mwyn cael effeithiau cadarnhaol, neu fwy o effeithiau cadarnhaol, ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, a pheidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 
Nifer yr ymatebwyrYmateb naratif
72
Cwestiwn 5: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech dynnu ein sylw at unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw, gallwch wneud hynny yma:
Nifer yr ymatebwyrYmateb naratif
40

Cwestiwn 1

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i ddynodi'r Warin, Y Gelli Gandryll yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2024? Beth yw’ch barn am y cynnig a’ch rhesymau/tystiolaeth o blaid y farn honno?

Cafwyd 158 o ymatebion i gwestiwn un, gyda 147 (93.04%) o ymatebwyr yn dweud eu bod yn cytuno â’r cynnig i ddynodi'r Warin yn safle ymdrochi. Dywedodd tri  ymatebwr nad oedd ganddyn nhw farn ar y dynodiad neu nad oedden nhw'n benodol gyfarwydd â'r safle, tra bod wyth o'r ymatebwyr yn anghytuno â'r dynodiad. 

Soniodd nifer o’r ymatebwyr fod y traeth yn arbennig o boblogaidd ymhlith teuluoedd, plant a’r gymuned leol, yn ogystal ag ymwelwyr o bob oed. Dywedodd rhai ymatebwyr eu bod yn nofio ar y safle yn ddyddiol, gyda nifer uchel yn defnyddio’r safle’n rheolaidd ar gyfer gweithgareddau dŵr.

Croesawodd y mwyafrif o'r ymatebwyr y broses o fonitro ansawdd y dŵr ar y safle i ddiogelu iechyd ymdrochwyr, gan nodi ei bwysigrwydd i iechyd defnyddwyr dŵr a'r angen am wybodaeth am ba mor lân yw'r dŵr. Tynnodd yr ymatebion sylw at bryderon llygredd a dirywiad canfyddedig yn ansawdd y dŵr dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd llygredd o arferion amaethyddol, ffermydd dofednod a charthffosiaeth yn cael ei ryddhau i afon Gwy. Roedd llawer hefyd yn rhannu'r farn y gallai mynd i mewn i'r dŵr arwain at salwch a theimlad cyffredinol o bryder, ac felly roeddent yn croesawu profion ansawdd dŵr i roi hyder i'r rhai sy'n ymdrochi ar y safle ei bod yn ddiogel gwneud hynny. 

Roedd barn gyffredinol y byddai dynodiad yn arwain at welliant yn ansawdd y dŵr ac y byddai o fudd i'r amgylchedd ehangach a bywyd gwyllt lleol.

Nododd nifer uchel o ymatebion amrywiaeth eang o fuddion iechyd a lles o gymryd rhan mewn gweithgareddau dŵr ar y safle hwn, yn enwedig nofio. Roedd llawer o ymatebion yn cydnabod yn glir y cyfleoedd cymdeithasol gwerthfawr y mae gweithgareddau dŵr yn eu creu hefyd. Amlygodd rhai ymatebwyr hefyd yr effaith gadarnhaol y gallai dynodiad ei chael ar dwristiaeth yn yr ardal a'r manteision economaidd lleol y gallai hynny eu cynnig.

Un rheswm allweddol a godwyd gan ymatebwyr dros anghytuno â'r dynodiad oedd yr effaith amgylcheddol negyddol ar y safle. Roedd pryderon y byddai gweithgareddau sy'n gysylltiedig â chael ei ddynodi'n ddŵr ymdrochi yn cael effaith niweidiol ar fioamrywiaeth ac yn effeithio ar fywyd gwyllt lleol a llawer o rywogaethau gwarchodedig a'r rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf. Mae'r Warin, a'r ardal gyfagos, natur a bywyd gwyllt, eisoes dan straen oherwydd gweithgareddau hamdden yn ystod tymor yr haf sy’n achosi sbwriel, baw dynol a chŵn, a cheir yn parcio mewn ffordd sy'n blocio llwybrau. 

Hefyd, cododd yr ymatebwyr bryderon am effaith niweidiol y cynnydd disgwyliedig yn nifer yr ymwelwyr o ganlyniad i ddynodiad. Er enghraifft, amlygodd yr ymatebwyr erydiad presennol llwybrau troed drwy ddolydd gwarchodedig. Byddai cynnydd yn nifer yr ymwelwyr ar y safle a "Statws Dŵr Ymdrochi" yn debygol o waethygu'r sefyllfa. Nododd yr ymatebwyr hefyd nad oes digon o fynediad i’r safle na mannau parcio eisoes a mynegwyd pryderon ynghylch unrhyw ddatblygiad newydd ar gyfer parcio ychwanegol i ddarparu ar gyfer cynnydd posibl yn nifer yr ymwelwyr yn sgil dynodi’r safle.

Mae Cyngor Tref y Gelli yn anghytuno â'r cynnig. Ar ôl trafod yn helaeth, daeth i'r casgliad y bydd unrhyw gynnydd mewn nofwyr yn cael effaith negyddol ar fioamrywiaeth. Gan ychwanegu fel rhan o'u cyfrifoldebau o dan Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ymgysylltodd Cyngor Tref y Gelli â rhanddeiliaid eraill i ddatblygu "Cynllun Rheoli Adferiad Natur y Warin" ac mae’n ystyried bod unrhyw ddynodiad o'r fath yn peryglu llwyddiant y cynllun hwn. 

Nododd ymatebion a oedd yn anghytuno â’r dynodiad hefyd nad yw'r tirfeddiannwr yn cefnogi'r cynnig ac, fel ceidwad y Warin, dylid parchu ei farn. 

Ymddiriedolaeth Hay Warren (Tirfeddiannwr)

Nododd yr Ymddiriedolaeth ei hunan yn berchennog y Warin gan gynnwys yr hawliau glannau afonydd heb unrhyw bartïon eraill â diddordeb i'w hystyried. Fel ymatebion eraill, tynnodd yr ymddiriedolwyr sylw at y diffyg cyfleusterau o unrhyw fath yn y Warin a dim un wedi'i anelu at ymdrochwyr; mae'n debyg bod y toiledau cyhoeddus agosaf un cilometr i ffwrdd. Mynegodd yr ymddiriedolwyr eu pryder mawr ynghylch y cais i ddynodi'r safle yn ddŵr ymdrochi gan fod yr ardal yn rhan o SoDdGA ac wedi'i lleoli ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mynegodd yr ymddiriedolwyr eu bod yn cefnogi nodau grwpiau ymgyrchu amgylcheddol i wella ansawdd afon Gwy drwy gynyddu profion a gwaith monitro. Fodd bynnag, mae'r Warin eisoes dan bwysau sylweddol gan nifer y defnyddwyr yr ardal; erydiad llwybrau, sbwriel a baeddu gan gŵn a phobl. Mae'r ymddiriedolaeth yn nodi bod y problemau hyn wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y 3 blynedd diwethaf yn unig a byddai unrhyw gynnydd yn nifer yr ymwelwyr yn gwaethygu'r problemau hynny. 

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) 

Nid yw CNC yn argymell bod y Warin yn cael ei ddynodi'n ddŵr ymdrochi, gan fod y safle wedi'i leoli o fewn SoDdGA Gwy Uchaf a ACA Afon Gwy.  Yn unol â Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, rhaid i weithgareddau hamdden sy'n digwydd o fewn SoDdGA, fel nofio, canŵio a cherdded, gael eu hasesu a'u cydsynio gan CNC, ar yr amod nad ydynt yn effeithio'n andwyol ar yr afon, y planhigion a'r anifeiliaid ar y safle. 

Hyd yma nid yw CNC wedi derbyn cais ac felly nid yw CNC wedi asesu'r effeithiau posibl i'r safle yn unol â Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

Dwr Cymru Welsh Water (DCWW)

Mae DCWW wedi cynghori nad oes asedau gwaith trin dŵr gwastraff o fewn 4 cilomedr i'r safle, er bod dau waith trin dŵr gwastraff cymharol fach wedi'u lleoli oddeutu pedwar cilometr i ffwrdd, sef gwaith trin dŵr gwastraff Llanigon a Llowes. Nid yw DCWW wedi cynnal ymchwiliadau ansawdd dŵr ar gyfer y math hwn o ddŵr ymdrochi mewndirol ac felly ni all ddarparu rhagor o wybodaeth am ansawdd y dŵr neu ddosraniad ffynhonnell debygol. 

Cwestiwn 2

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i ddynodi Traeth Nefyn yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2024? Beth yw’ch barn am y cynnig a’ch rhesymau/tystiolaeth o blaid y farn honno?

Cafwyd 128 o ymatebion i gwestiwn dau, gyda 107(83.59%) o ymatebwyr yn dweud eu bod yn cytuno â’r cynnig i ddynodi. Dywedodd 20 o ymatebwyr naill ai nad oedd ganddynt farn ar y dynodiad neu nad oeddent yn gyfarwydd â’r safle penodol, tra mai dim ond un oedd yn erbyn y dynodiad.

Nododd nifer uchel o’r ymatebwyr fod Traeth Nefyn yn safle sy’n cael ei ddefnyddio’n helaeth ar gyfer nofio a gweithgareddau dŵr a’i werthfawrogi’n fawr gan y gymuned leol. Dywedodd llawer o’r ymatebwyr sy’n aelodau o grwpiau nofio eu bod yn defnyddio’r safle drwy’r flwyddyn, a darparwyd ffigyrau i nodi faint o bobl sy'n nofio'n rheolaidd yno. Soniodd nifer o’r ymatebwyr eu bod yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau dŵr ar y safle, ac wedi gweld gweithgareddau o’r fath, gan gynnwys nofio, trochi, padlfyrddio, syrffio, caiacio, rhwyfo a chanŵio. 

Nid oedd llawer o'r ymatebwyr yn ymwybodol o unrhyw broblemau gydag ansawdd y dŵr ac amlygwyd y byddai dynodiad yn cael effaith fuddiol ar dwristiaeth a'r economi leol.

Soniodd nifer uchel am bwysigrwydd monitro er mwyn diogelu ansawdd y dŵr, i hysbysu'r cyhoedd ac i ddiogelu iechyd ymdrochwyr. 

Nid oedd un ymatebydd yn cefnogi’r cynnig, gan nodi seilwaith ffyrdd/trafnidiaeth annigonol a diffyg asesiad effaith ar yr ecosystem forol.

Roedd nifer o ymatebwyr yn anghyfarwydd â'r lleoliad a gellir eu rhannu'n ddau grŵp, y rhai sy'n cefnogi'r cais waeth beth yw unrhyw wybodaeth leol gyda'r diben o fonitro ansawdd y dŵr, ac eraill nad oeddent am wneud sylwadau ar y cynnig. 

Mae Cyngor Tref Nefyn a Chyngor Gwynedd ill dau yn cefnogi'r cynnig i ddynodi'r safle.

CNC

Nid yw CNC yn gwrthwynebu dynodi Traeth Nefyn. Darparodd CNC ymateb cychwynnol i’r ymgynghoriad i Lywodraeth Cymru ar 29 Tachwedd 2023. Roedd hyn yn cynnwys yr angen i ystyried safleoedd dynodedig cyfagos (SoDdGA ac ACA). Mae'r traeth ei hun y tu allan i unrhyw safleoedd dynodedig ac ni ddisgwylir unrhyw effeithiau andwyol.

DCWW

Mae dwy ased gorlif storm yn y dalgylch tua dau gilometr o'r Dŵr Ymdrochi newydd arfaethedig yn Nhraeth Nefyn. Nid yw DCWW wedi cynnal ymchwiliadau arfordirol ar gyfer yr ardal arfordirol benodol hon o'r blaen mewn perthynas â'u heffaith ar Draeth Nefyn ac felly ni all ddarparu rhagor o wybodaeth am ansawdd disgwyliedig y dŵr ac effaith bosibl yr asedau hyn.

Cwestiwn 3 a 4

Byddem yn hoffi clywed eich barn am yr effeithiau y byddai’n cynigion yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Beth fyddai’r effeithiau yn eich barn chi? Sut y gellir cynyddu’r effeithiau cadarnhaol neu liniaru'r effeithiau negyddol?

Eglurwch hefyd os gwelwch yn dda sut y credwch y gellir llunio neu newid y camau gweithredu sy’n cael eu cynnig er mwyn cael effeithiau cadarnhaol, neu fwy o effeithiau cadarnhaol, ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, a pheidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Mae’n amlwg o’r ymatebion a gasglwyd fod aelodau’r cyhoedd yn mwynhau a chefnogi’r defnydd o’r ardaloedd hyn fel dyfroedd ymdrochi. Dangoswyd cefnogaeth bendant i’r defnydd o’r Gymraeg a chydnabyddiaeth o fanteision gallu defnyddio’r iaith yn gymdeithasol, er nad oedd rhai ymatebwyr yn gallu gweld sut y byddai’r adolygiad yn effeithio ar yr iaith. 

Roedd rhai ymatebion ar gyfer Nefyn yn sôn yn benodol am brofiadau cadarnhaol dysgu; defnyddio a chael eu hysbrydoli i ddysgu Cymraeg oherwydd eu hymwneud â grwpiau nofio, gan brofi bod ychydig bach o Gymraeg yn gallu cael effaith. 

Amlygodd sawl ymateb fod y cwestiwn yn amherthnasol tra bod eraill yn credu na fyddai unrhyw effaith negyddol ar y Gymraeg. Fodd bynnag, awgrymodd nifer y byddai defnyddio arwyddion a gwybodaeth ddwyieithog ar gyfer ymdrochwyr yn cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg ac yn gyfle i annog twristiaid ac ymwelwyr i ddysgu Cymraeg.

Cwestiwn 5

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech dynnu ein sylw at unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw, gallwch wneud hynny yma:

Yn ogystal â'r ddau safle a enwir, roedd nifer o ymatebion ar y cyfan yn cefnogi monitro ansawdd y dŵr a dynodi pob ardal ymdrochi yng Nghymru.

Gwnaeth nifer o ymatebwyr hefyd sylwadau ar yr angen i fynd i'r afael â gollyngiadau carthion a mathau eraill o lygredd ar draethau ac mewn afonydd a all gael effaith ar ansawdd dŵr ymdrochi er mwyn cadw'r amgylcheddau hyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Codwyd nifer o bryderon ynghylch y gwrthdaro rhwng nofwyr, canŵ-wyr a padlfyrddwyr a'r hawl i gael mynediad i'r Warin, gan ddweud bod mynediad i ddefnyddwyr chwaraeon padlo yn cael ei wrthod o hyd.  Awgrymwyd cod ymddygiad i leihau'r risg o wrthdaro rhwng defnyddwyr.

Awgrymodd Surfers Against Sewage (SAS) nifer o newidiadau i'r rhaglen, gan gynnwys adolygu darpariaethau llygredd tymor byr sy'n caniatáu diystyru samplau yn ystod y digwyddiadau llygredd gwaethaf, a mabwysiadu technolegau newydd ar ffurf synwyryddion i ddarparu gwybodaeth amser real a chywir am ansawdd y dŵr. Awgrymodd SAS hefyd estyniad i'r 'tymor ymdrochi' swyddogol i adlewyrchu'r ystod eang o ddefnyddwyr dŵr sy'n cyrchu ein dyfrffyrdd drwy gydol y flwyddyn ac estyniad i'r drefn brofi i ddarparu darlun llawn o ansawdd y dŵr a risg i ddefnyddwyr dŵr. Mae'r farn hon yn cyd-fynd â rhai ymatebion a ddywedodd yr hoffent weld profion ansawdd dŵr drwy gydol y flwyddyn.

Mae Cyngor Tref y Gelli yn croesawu syniadau ymarferol i lanhau afon Gwy ond nid dynodi'r safle yn ddŵr ymdrochi. Mae'r syniadau ymarferol a awgrymir yn cynnwys; diweddaru'r holl gweithfeydd trin carthion, ailagor y deorfa eogiaid, rhaglen ar draws yr afon i ailblannu gwelyau chwyn fel blodau ‘menyn, a rhaglen ar draws yr afon o'r ffynhonnell i'r môr i gael gwared ar Jac y Neidiwr.

Ymateb y Llywodraeth

Canlyniad yr ymgynghoriad

Wrth ddod i benderfyniad ynglŷn â dynodi dŵr ymdrochi, y brif ystyriaeth yw nifer yr ymdrochwyr. Fodd bynnag, nid ydym wedi pennu ffigur ffurfiol, gan fod pob dŵr ymdrochi’n wahanol ac ni fyddai un ffigur yn addas ar gyfer pob safle. Rydym yn chwilio am dystiolaeth o niferoedd y nofwyr, pobl yn padlo ar ymyl y dŵr a phobl ar y traeth. Rydym yn edrych hefyd ar dueddiadau’r gorffennol, unrhyw seilwaith neu gyfleusterau a ddarperir neu fesurau sydd wedi’u cymryd i hyrwyddo ymdrochi yn unol â’r hyn a nodir yn Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013. 

Rydym yn cydnabod bod rhai ymatebwyr yn cefnogi dynodiad am resymau sy'n disgyn y tu allan i bwrpas y Rhaglen Dŵr Ymdrochi a chan nodi mai dynodiad yw'r unig ffordd i gynyddu'r pwysau ar DCWW, y sector amaethyddol a llygryddion eraill nad ydynt ar hyn o bryd yn wynebu unrhyw ganlyniadau am lygru'r afon a gorfodi'r rhai sydd â phŵer a chyfrifoldeb i weithredu. Nodwyd bod y rhain yn rhesymau dros gefnogi dynodiad y Warin, fodd bynnag, ni ystyrir materion ehangach o'r fath, gan mai pwrpas y rhaglen yw rhoi penderfyniad gwybodus i ymdrochwyr o ble maent yn dewis ymdrochi. 

Traeth Nefyn

Ar ôl ystyried yr holl ymatebion a ddaeth i law a'r holl wybodaeth a thystiolaeth a ddarparwyd, mae Llywodraeth Cymru'n fodlon bod Traeth Nefyn wedi bodloni'r meini prawf a nodwyd yn Rheoliadau Dŵr Ymdrochi 2013. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu nodi Traeth Nefyn, Nefyn yn ddŵr ymdrochi dynodedig ar gyfer y tymor ymdrochi yn 2024. 

Y Warin, y Gelli Gandryll

Er bod Gweinidogion Cymru yn credu bod tystiolaeth briodol ar nifer yr ymdrochwyr yn y Warin, mae pryderon sylweddol ynghylch yr effeithiau amgylcheddol pe bai'r safle'n cael ei ddynodi' ddŵr ymdrochi.

Gan fod y safle wedi'i leoli mewn SoDdGA ac ACA, caiff ei ddiogelu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017. Nid yw'r dynodiad arfaethedig yn cael ei gefnogi gan y tirfeddiannwr (Ymddiriedolaeth Hay Warren) ac nid yw'r safle wedi cael caniatâd CNC ar gyfer gweithgareddau hamdden gan gynnwys ymdrochi. Mae pryderon hefyd y bydd dynodiad yn creu effeithiau niweidiol ychwanegol i'r amgylchedd a chynefinoedd lleol o'i ddefnyddio at ddibenion ymdrochi a fydd yn golygu mwy o ymwelwyr, erydiad y glannau a'r llwybrau, difrod i'r safle, problemau gyda sbwriel a phresenoldeb baw pobl a chŵn. 

Nid oes llawer o dystiolaeth ategol ychwaith ynghylch unrhyw seilwaith neu gyfleusterau sydd ar gael ar y safle a nodwyd yn yr ymgynghoriad hwn. Mae hyn yn cynnwys diffyg biniau, ardaloedd newid, toiledau, mannau parcio na chysylltiadau trafnidiaeth cyfagos, a dim unrhyw dystiolaeth i hyrwyddo ymdrochi yn y lleoliad. 

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gefnogi adferiad natur a gwella ein hamgylchedd naturiol bioamrywiol gan roi sylw dyledus i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017. Felly, mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu peidio â dynodi'r Warin yn ddŵr ymdrochi tan bo CNC wedi cael cyfle i ystyried cais am gydsyniad. 

Traeth Gorllewin a Thraeth Dwyrain Porth Tywyn

Y llynedd, gohiriodd Gweinidogion Cymru benderfyniad ar ddynodi dŵr ymdrochi ar gyfer Traeth Gorllewin a Thraeth Dwyrain Porth Tywyn Dwyrain oherwydd y risgiau diogelwch corfforol sylweddol a godwyd yn ystod y broses ymgynghori.

Yn dilyn ymgynghoriad pellach â rhanddeiliaid, mae'n amlwg bod y safle'n peri risgiau diogelwch sylweddol sy'n gysylltiedig â pheryglon y llanw yn yr ardal, gan gynnwys llanw cyflym sy'n arwain at bobl yn cael eu dal ar y banc tywod, crychdonnau tonnog mawr, traeth byw a newidiadau annisgwyl i ddyfnder y dŵr ac o ganlyniad, nid yw Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynghori pobl i nofio yn y lleoliad hwn. Mae RNLI Porth Tywyn yn cynghori bod bron i 25% o alwadau’r bad achub eisoes oherwydd y safle hwn a'r materion hyn. Ar ben hynny, cynhaliodd CNC fel rhan o'u hystyriaethau asesiad maes cyn monitro ar draeth y Dwyrain a thraeth y Gorllewin a nododd fod y lleoliadau yn rhy beryglus i samplu'n ddiogel.

Gan nodi nad yw nofio yn cael ei gynghori ar y safle hwn oherwydd y lefel uchel o risgiau diogelwch corfforol a nodwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin a’i fod yn parhau i gyfleu'r risgiau i'r cyhoedd lleol, yr ymateb hollbwysig sy'n ofynnol gan yr RNLI oherwydd y materion hyn a'r ffaith nad yw CNC yn gallu sicrhau diogelwch eu staff monitro, mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu peidio â dynodi Traeth Gorllewin a Thraeth Dwyrain Porth Tywyn yn ddyfroedd ymdrochi dynodedig tan bo'r awdurdodau cymwys yn fodlon bod modd lliniaru'r risgiau er diogelwch ymdrochwyr a staff monitro CNC.

Monitro dyfroedd ymdrochi dynodedig 

Mae CNC yn gyfrifol am fonitro ansawdd dŵr ymdrochi mewn safleoedd dŵr ymdrochi dynodedig yng Nghymru. Pan fo dŵr wyneb wedi’i ddynodi’n ddŵr ymdrochi, mae’n ofynnol i CNC lunio proffil manwl a rhaglen fonitro ar ei gyfer, yn yr un modd ag y mae’n ei wneud ar gyfer pob dŵr ymdrochi a ddynodir yng Nghymru.

Mae proffiliau dŵr ymdrochi’n cynnwys disgrifiad o’r dŵr ymdrochi a’r ardal gyfagos, unrhyw afonydd a nentydd sy’n llifo i mewn i bob safle a manylion ynghylch sut y rheolir llygredd ar y safle. 

Mae’r proffiliau hyn yn nodi canlyniadau cydymffurfio ag ansawdd dŵr ymdrochi hefyd, ac yn esbonio’r gwaith a wneir gyda phartneriaid eraill er mwyn canfod ble mae angen gwella ansawdd y dŵr. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda chwmnïau dŵr, y sector amaeth ac awdurdodau lleol i nodi problemau a allai effeithio ar ansawdd dŵr ymdrochi. 

Yn ogystal, mae’n rhaid i bob awdurdod lleol, sy’n rheoli dŵr ymdrochi dynodedig, sicrhau bod gwybodaeth fanwl am y dŵr ymdrochi ar gael mewn man hygyrch ger y dŵr ymdrochi yn ystod y tymor ymdrochi (15 Mai i 30 Medi). 

Mae’n ofynnol hefyd i awdurdodau lleol arddangos rhagor o wybodaeth ym mhob safle dŵr ymdrochi dynodedig yn ystod y tymor ymdrochi ar ffurf symbolau dosbarthu ansawdd dŵr.

Y camau nesaf

Byddwn yn rhoi gwybod i CNC am benderfyniad Gweinidogion Cymru i bennu Traeth Nefyn, Nefyn yn ddŵr ymdrochi dynodedig a gofyn iddynt baratoi proffil o’r dŵr ymdrochi ac i adolygu’r proffil yn gyson. 

Gall unrhyw un argymell ardal o ddŵr wyneb a ddefnyddir ar gyfer ymdrochi i gael ei dynodi’n ddŵr ymdrochi. Yn y lle cyntaf, rydym yn argymell bod pobl yn siarad â’r awdurdod lleol ac i gael cefnogaeth y tirfeddiannwr oherwydd mae’n debyg y bydd ganddynt wybodaeth ddefnyddiol am draethau yn yr ardal, a’r awdurdod fydd yn gyfrifol am fodloni gofynion amrywiol o dan Reoliadau Dŵr Ymdrochi 2013 os bydd y dŵr yn cael ei ddynodi’n ddŵr ymdrochi.

Hoffai Llywodraeth Cymru ddiolch i’r rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad ar ‘Adolygiad o Ddyfroedd Ymdrochi yng Nghymru 2024’.

Atodiad A: Rhestr o’r sefydliadau a ymatebodd

Nid yw’r rhestr hon o sefydliadau a ymatebodd yn gynhwysfawr ac mae’n seiliedig ar y rhai a wnaeth ddatgan eu Sefydliad. Gall hyn gynnwys ymatebion gan unigolion sy’n aelodau o sefydliadau penodol ac felly nid yw’n adlewyrchu barn y sefydliad hwnnw o reidrwydd. Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys y rhai a ofynnodd i’w hymateb gael ei gadw’n gyfrinachol chwaith na’r rhai na wnaeth gynnwys enw’r sefydliad. Roedd dau sefydliad yn dymuno cadw eu hymatebion yn ddienw.

  • DCWW
  • CNC
  • Cyngor Tref Nefyn
  • Llamwyr Llyn
  • Ymddiriedolaeth Hay Warren
  • Cymru Gynaliadwy
  • A to Z Expeditions
  • Syrffwyr yn erbyn Carthffosiaeth
  • Ffrindiau'r Afon Gwy 
  • Clwb Pysgotwyr
  • Live2Flow (Arweinwyr Chwaraeon Awyr Agored a Hyfforddwyr Personol Llawrydd)
  • Hay Community Woodland Group, Pysgotwyr Warren Hay
  • Woodlands OEC, Oxford Outdoors
  • Cyngor Tref y Gelli
  • Angela Jones swim wild wye
  • Cyngor Gwynedd
  • Nifer o ymatebion unigol