Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Amcan yr ymgynghoriad hwn yw gofyn ichi am eich barn am ein cynnig i ddynodi’r Warin, y Gelli Gandryll a Thraeth Nefyn, Nefyn yn ddyfroedd ymdrochi o dan Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 ar gyfer tymor ymdrochi 2024. 

Mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru nodi dyfroedd ymdrochi poblogaidd yng Nghymru, monitro ansawdd eu dŵr a rhoi gwybodaeth i ymdrochwyr am ansawdd y dŵr ar y safleoedd sydd wedi’u dynodi. Yng Nghymru, mae’r tymor ymdrochi’n para o 15 Mai tan 30 Medi.

Un o’r gofynion o dan y Rheoliadau yw bod Llywodraeth Cymru bob blwyddyn yn adolygu ac yn cyhoeddi’r rhestr o ddyfroedd ymdrochi sydd wedi’u dynodi yng Nghymru. 

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 19 Chwefror 2024. 

Ymatebwch i’r ymgynghoriad hwn drwy ateb y cwestiynau ar y ffurflen ymateb. Gallwch gyflwyno’ch ymatebion drwy: 

E-bost: dwr@llyw.cymru

neu’r 

Post: 

Cangen Ddŵr (Ymgynghori ar Ddyfroedd Ymdrochi)
Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays 
Caerdydd 
CF10 3NQ

Os oes gennych gwestiynau am yr ymgynghoriad hwn, e-bostiwch dwr@llyw.cymru neu ffoniwch 03000250423.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg hefyd / This document is also available in English.
 

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb. 

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.
Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod: 

Y Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru    
Parc Cathays
CAERDYDD 
CF10 3NQ
e-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu  0303 123 1113

Cyflwyniad

Pwrpas yr Ymgynghoriad 

Nod yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn pobl am ein cynnig i ddynodi’r Warin, y Gelli Gandryll a Thraeth Nefyn, Nefyn yn ddyfroedd ymdrochi dynodedig o dan Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 (y Rheoliadau) ar gyfer tymor ymdrochi 2024.

O dan y Rheoliadau, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru restru'r holl ardaloedd ymdrochi poblogaidd yng Nghymru bob blwyddyn. Amcan y Rheoliadau yw diogelu iechyd ymdrochwyr rhag llygredd carthion a rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd fel y gall pobl wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch ble a phryd i ymdrochi.

Nifer yr ymdrochwyr yw'r maen prawf y bydd Llywodraeth Cymru'n ei ddefnyddio wrth ystyried a yw'n briodol dynodi safle. Bydd unrhyw seilwaith neu gyfleusterau a ddarperir, neu fesurau eraill a gymerir i hyrwyddo ymdrochi ar y safle hefyd yn cael eu hystyried.

Y sefyllfa bresennol

Cyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi 2006/7/EC sy'n rhoi’r mecanwaith ar gyfer dynodi dyfroedd ymdrochi yn y DU ac mae’n rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir yng Nghymru. Mae Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 yn pennu'r gofynion statudol sy'n gysylltiedig â rheoli dyfroedd ymdrochi yng Nghymru.

Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru nodi ardaloedd ymdrochi poblogaidd yng Nghymru bob blwyddyn. Amcan y Rheoliadau yw diogelu iechyd ymdrochwyr a rhoi gwybod i ymdrochwyr am y peryglon iechyd sy'n gysylltiedig ag ansawdd dŵr gwael.  

Mae 109 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig yng Nghymru ar hyn o bryd. Ar ôl i ddŵr ymdrochi gael ei ddynodi, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn profi ansawdd y dŵr yn ystod y tymor ymdrochi, sy'n para rhwng 15 Mai a 30 Medi. Caiff dyfroedd ymdrochi dynodedig eu disgrifio’n rhai rhagorol, da, digonol neu wael yn dibynnu ar ganlyniadau samplu ansawdd dŵr. Mae'r categorïau ansawdd dŵr ymdrochi yn seiliedig ar ddau baramedr microbiolegol: enterococci coluddol ac E.coli.

Cyhoeddir canlyniadau dyfroedd ymdrochi dynodedig unigol yng Nghymru ar wefan Llywodraeth Cymru yn: Rhestr Dyfroedd Ymdrochi ar gyfer Cymru 2023.

Mae dyfroedd ymdrochi yn werthfawr oherwydd y cyfleoedd hamdden y maent yn eu darparu i bobl Cymru, yr economi leol a thwristiaeth. Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ymrwymo hefyd i ddechrau dynodi dyfroedd mewndirol Cymru ar gyfer hamdden, gan gryfhau’r broses o fonitro ansawdd dŵr i alluogi dyfroedd mewndirol i gyrraedd yr un safonau uchel sy’n cael eu harddel gan draethau Cymru.

Cais i ddynodi’r Warin, y Gelli Gandryll yn ddŵr ymdrochi

Cawsom gais gan Ffrindiau’r Afon Gwy Uchaf i ystyried dynodi’r Warin, y Gelli Gandryll (Cyfeirnod Grid: SO220426) yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2024.  Yn ogystal â bod ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae'r Warin yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardal Cadwraeth Arbennig sydd wedi'u dynodi am nodweddion afonol.

Tystiolaeth a gwybodaeth a ddarparwyd gan Ffrindiau’r Afon Gwy Uchaf o blaid y cais i ddynodi’r Warin, y Gelli Gandryll

Nifer yr ymdrochwyr

Roedd y cais yn darparu arolwg dŵr ymdrochi o’r Warin, y Gelli Gandryll a ddangosodd fod dros 1,300 o nofwyr a phadlwyr wedi defnyddio’r traeth rhwng 1 Mai 2022 a 20 Medi 2022. Dros yr un cyfnod, nodwyd gan yr arolwg bod tua 3000 o bobl eraill wedi defnyddio’r traeth.

Lluniwyd data’r arolwg gan Ffrindiau’r Afon Gwy Uchaf sy'n dîm o wirfoddolwyr dros dymor ymdrochi 2022 (15 Mai tan 30 Medi).

Cyfleusterau

Mae maes parcio ar y safle ar ddiwedd y trac garw sy’n rhedeg i lawr i'r ddôl gyda lle i tua 8 car. Mae mannau parcio eraill ar gael yn y Gelli Gandryll. Mae llwybr cyhoeddus yn rhedeg uwchben glan yr afon.

Tystiolaeth o blaid 

Darparwyd gwybodaeth am ymgynghoriad lleol a dangoswyd cefnogaeth ar gyfer y dynodiad arfaethedig drwy ffotograff a gymerwyd mewn cyfarfod cyhoeddus a drefnwyd yn arbennig yn y Gelli Gandryll ar 5 Rhagfyr 2022. Roedd mwy na 100 o bobl wedi mynychu a chefnogi’r cais yn unfrydol drwy godi llaw.

Cais i ddynodi Traeth Nefyn yn ddŵr ymdrochi

Cawsom gais gan aelod o’r cyhoedd i ystyried dynodi Traeth Nefyn (SH300408)yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2024.

Tystiolaeth a gwybodaeth a ddarparwyd gan aelod o’r cyhoedd o blaid y cais i ddynodi Traeth Nefyn

Nifer yr ymdrochwyr

Roedd y cais yn darparu arolwg dŵr ymdrochi o Draeth Nefyn a luniwyd gan yr ymgeisydd ac roedd grŵp nofio lleol wedi nodi bod dros 460 o nofwyr a phadlwyr wedi defnyddio'r traeth rhwng 5 Ebrill 2023 a 20 Medi 2023. Cynhaliwyd yr arolwg dros gyfnod o ryw 154 o ddiwrnodau gyda phobl yn nofio am ryw 77 o ddiwrnodau. Darparwyd hefyd dystiolaeth ffotograffig yn dangos aelodau o’r cyhoedd yn y dŵr ac ar y traeth. 

Cyfleusterau

Roedd y cais yn darparu gwybodaeth am gyfleusterau ar y safle neu'n gyfagos iddo, gan gynnwys toiledau cyhoeddus a chyfleusterau newid babanod, parcio gerllaw, cymhorthion arnofio, ciosgs a siopau.

Tystiolaeth o blaid 

Cafwyd tystiolaeth ar ymgynghori lleol a chefnogaeth i'r dynodiad arfaethedig gan unigolion, grwpiau lleol a busnesau.

Y camau nesaf ar ôl ymgynghori

Caiff yr holl ymatebion i’r ymgynghoriad hwn eu dadansoddi a’u hystyried a bydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion hynny.

Ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad

Eich enw:    

Sefydliad (os yw’n berthnasol):

e-bost / rhif ffôn:

Eich cyfeiriad:

Cwestiwn 1

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i ddynodi’r Warin, y Gelli Gandryll yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2024?

Beth yw’ch barn am y cynnig a’ch rhesymau/tystiolaeth o blaid y farn honno? 

Cwestiwn 2

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i ddynodi Traeth Nefyn yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2024?

Beth yw’ch barn am y cynnig a’ch rhesymau/tystiolaeth o blaid y farn honno? 

Cwestiwn 3

Byddem yn hoffi clywed eich barn am yr effeithiau y byddai’n cynigion yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

Beth fyddai’r effeithiau yn eich barn chi? Sut y gellir cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol? 

Cwestiwn 4

Eglurwch hefyd os gwelwch yn dda sut y credwch y gellir llunio neu newid y camau gweithredu sy’n cael eu cynnig er mwyn cael effeithiau cadarnhaol, neu fwy o effeithiau cadarnhaol, ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Cwestiwn 5

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol yn y ddogfen hon. Os hoffech dynnu ein sylw at unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw, gallwch wneud hynny yma:
Rhowch eich sylwadau yma:

Mae ymatebion i'r ymgynghoriad yn debygol o gael eu cyhoeddi, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai'n well gennych i'ch ymateb aros yn ddienw, ticiwch yma: