Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 21 Mawrth 2014.

Cyfnod ymgynghori:
7 Chwefror 2014 i 21 Mawrth 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Adolygu ymatebion

Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym yn ymgynghori ynglŷn â chynigion i ddynodi 2 safle arall yng Nghymru yn ddyfroedd ymdrochi o dan y Gyfarwyddeb Dyfroedd Ymdrochi 2006/7/EC.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

O dan y Gyfarwyddeb Dyfroedd Ymdrochi mae'n ofynnol i aelod-wladwriaethau enwi'u holl ddyfroedd ymdrochi bob blwyddyn. Y rheswm dros hynny yw sicrhau bod yr holl ddyfroedd arfordirol a mewndirol a ddefnyddir gan nifer mawr o ymdrochwyr yn ystod y tymor ymdrochi (15 Mai tan 30 Medi) yn rhai sydd wedi'u dynodi.

Y ddau safle ychwanegol yr ydym yn bwriadu'u dynodi ar gyfer tymor ymdrochi 2014 yw:

  • Llyn Padarn Llanberis Gwynedd 
  • Dwyrain y Rhyl Rhodfa'r Dwyrain Sir Ddinbych.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 155 KB

PDF
155 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.