Mae ein hadolygiad o gefnffyrdd 20mya a 30mya bellach wedi'i gwblhau, ac rydym yn cynnig newidiadau i rai ffyrdd.
Cynnwys
Y cefndir
Ym mis Medi 2023, newidiodd y terfyn cyflymder diofyn ar gyfer ffyrdd preswyl a ffyrdd anghyfyngedig i 20mya.
Effeithiodd y newid ar rai cefnffyrdd. Lle roedd angen i ni gadw terfyn 30mya, gwnaed eithriad trwy'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig.
Ym mis Gorffennaf 2024, fe wnaethom gyhoeddi canllawiau i awdurdodau priffyrdd adolygu terfynau cyflymder 20mya a 30mya ar ffyrdd y maent yn gyfrifol amdanynt.
Ar gyfer cefnffyrdd, Llywodraeth Cymru, Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA) ac Asiant Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA) oedd y rhain.
Gwahoddwyd y cyhoedd hefyd i ddweud eu dweud.
Rydym bellach wedi cwblhau'r adolygiad hwn.
Yr hyn fydd yn newid
Terfynau cyflymder
Rydym yn cynnig newidiadau i rai terfynau cyflymder 20mya neu 30mya ar y rhwydwaith cefnffyrdd.
Rydym hefyd yn ystyried cyflwyno terfynau cyflymder byffer mewn rhai ardaloedd. Mae'r rhain yn rhannau byr o'r ffordd sy'n agosáu at neu'n gadael terfyn cyflymder 20mya neu 30mya. Maen nhw'n helpu gyrwyr i arafu yn fwy graddol.
Er enghraifft, os yw gyrrwr yn teithio ar 60mya ac ar fin mynd i mewn i derfyn cyflymder 20mya, gallwn ychwanegu adran fer 40mya rhyngddynt.
Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio terfynau cyflymder byffer hyd yn oed pan nad yw'r prif derfyn cyflymder ar ffordd yn newid.
Bydd angen Gorchmynion Rheoleiddio Traffig (TROs) newydd ar newidiadau terfyn cyflymder.
Gall pobl wrthwynebu newidiadau wedi'u cynllunio pan fydd y TROs drafft yn cael eu cyhoeddi.
Gall y broses gyfreithiol ar gyfer TROs gymryd 9 mis.
Felly, efallai na fydd terfynau cyflymder yn newid ar y ffyrdd hyn tan ddechrau 2027.
Nid ydym yn cynnig newid terfynau cyflymder ar gylchfannau a chyffyrdd sy'n ymuno â ffyrdd awdurdodau lleol.
Ond byddwn yn adolygu arwyddion terfyn cyflymder yn:
- A470 cylchfan Swansea Road
- A40 cylchfan Robeston Wathen
- A48 cylchfan Cross Hands
Mesurau eraill
Rydym hefyd yn ystyried mesurau peirianneg - fel croesfannau a phalmentydd i gerddwyr - i wella diogelwch i bobl sy'n cerdded, olwynio neu feicio.
Efallai y byddwn hefyd yn gwella arwyddion terfyn cyflymder.
Bydd pob rhan o'r ffordd yn cael ei hasesu i benderfynu pa waith sydd ei angen.
Lle rydym yn bwriadu newid terfynau cyflymder
Rydym yn cynnig newidiadau i'r terfynau cyflymder 20mya neu 30mya ar y rhannau hyn o'r ffordd:
A40 Glangrwyne
Cynyddu i 30mya ar ran o'r A40. Ystyried a oes angen croesfan i gerddwyr.
A4076 Johnston
Cynyddu i 30mya ar ran o'r A4076.
A479 Talgarth
Gostwng i 20mya ar ran o'r A479. Ystyried a oes angen croesfan i gerddwyr.
A483 Llandybïe
Cynyddu i 30mya ar ran o'r A483.
A487 Aberaeron
Gostwng i 20mya ar ran o'r A487 lle mae terfyn rhan-amser o 20mya ar hyn o bryd.
A487 Aberystwyth, Southgate, Trefechan a'r A44 Llanbadarn Fawr
Cynyddu i 30mya ar ran o'r A487. Dim newid i'r terfyn cyflymder ar yr A44.
A487 Corris Uchaf
Gostwng i 20mya ar ran o'r A487. Terfyn cyflymder clustogi i'r de o'r 20mya.
A40 a'r A487 Abergwaun a Chwm Abergwaun
Cynyddu i 30mya ar ran o'r A487 ac ar ran o'r A40.
A487 a A489 Machynlleth
Cynyddu i 30mya ar ran o'r A487. Dim newid i'r terfyn cyflymder presennol ar yr A489.
A494 Y Bala
Cynyddu i 30mya ar ran o'r A494. Terfyn cyflymder clustogi i'r gogledd o'r 20mya.
Ffyrdd lle bydd opsiynau eraill yn cael eu harchwilio
Bydd y terfyn cyflymder 20mya a 30mya ar y rhannau hyn o'r gefnffordd yn aros yr un fath, ond byddwn yn ystyried cyflwyno:
- terfynau cyflymder clustogi
- croesfannau i gerddwyr
- palmentydd
- gwell arwyddion terfyn cyflymder.
A40 a'r A4076 Cartlett
Ystyried a oes angen croesfan i gerddwyr.
A40 Crucywel
Dim newid, ond cynigir terfynau cyflymder clustogi ar gyfer y naill ochr a'r llall o'r terfyn 20mya.
A40 Wdig
Ystyried a oes angen croesfan i gerddwyr.
A4076 Pont Fadlen
Ystyried a oes angen croesfannau i gerddwyr.
A4076 Aberdaugleddau
Ystyried a oes angen croesfannau i gerddwyr.
A44 Llangurig
Cynigir terfynau cyflymder clustogi ar gyfer y naill ochr a'r llall o'r terfyn 20mya.
A458 Llanfair Caereinion
Cynigir terfynau cyflymder clustogi ar gyfer y naill ochr a'r llall o'r terfyn 20mya.
A470 Commins Coch
Cynigir terfynau cyflymder clustogi ar gyfer y naill ochr a'r llall o'r terfyn 20mya.
A470 Erwyd
Cynigir terfynau cyflymder clustogi arfaethedig ar gyfer ochr ogleddol y terfyn 20mya. Ystyried a ellir gosod palmant.
A470 Llan Ffestiniog
Terfyn cyflymder clustogi arfaethedig ar gyfer ochr ddeheuol y terfyn 20mya.
Ystyried a oes angen croesfan i gerddwyr.
A470 Llanrwst
Terfyn cyflymder clustogi arfaethedig ar gyfer ochr ogleddol y terfyn 20mya.
A470 a'r A479 Llyswen
Terfyn cyflymder clustogi arfaethedig ar gyfer ochr ddeheuol y terfyn 20mya ar yr A470.
A470 Bontnewydd-ar-Wy
Terfyn cyflymder clustogi arfaethedig ar gyfer ochr ogleddol y terfyn 20mya.
A470 a'r A483 Llanfair-ym-Muallt a Llanelwedd
Terfyn cyflymder clustogi ar gyfer ochr ogleddol y terfyn 20mya ar yr A483.
A40 a'r A483 Llanymddyfri
Terfynau cyflymder clustogi arfaethedig ar gyfer pob un o'r 3 ffordd i'r 20mya.
A487 Bow Street
Ystyried a oes angen croesfan i gerddwyr.
A487 Casnewydd
Terfyn cyflymder clustogi arfaethedig ar gyfer ochr ddeheuol y terfyn 20mya.
A487 Penmorfa
Terfyn cyflymder clustogi arfaethedig ar gyfer ochr orllewinol y terfyn 20mya.
A487 Tal-y-bont
Terfyn cyflymder clustogi arfaethedig ar gyfer ochr ddeheuol y terfyn 20mya.
A494 Llanbedr Dyffryn Clwyd
Terfyn cyflymder clustogi arfaethedig ar gyfer ochr orllewinol y terfyn 20mya.
A494 Rhuthun
Terfynau cyflymder clustogi ar gyfer y naill ochr a'r llall o'r terfyn 20mya.
A5 Bethesda
Ystyried a oes angen croesfan i gerddwyr.
A5 Betws-y-coed
Terfyn cyflymder clustogi ar gyfer ochr ogleddol y terfyn 20mya ar yr A470.
A5 Froncysyllte
Terfyn cyflymder clustogi arfaethedig ar gyfer ochr ddwyreiniol y terfyn 20mya.
A5 Pont Cyfyng ger Capel Curig
Terfyn cyflymder clustogi arfaethedig ar gyfer ochr ddeheuol y terfyn 30mya.
Ffyrdd lle nad oes unrhyw newidiadau neu waith yn cael eu cynnig
Ni fydd unrhyw newid i'r terfynau cyflymder ar y rhannau hyn o gefnffordd ar hyn o bryd:
- A40 Y Fenni
- A40 Bwlch
- A40 Tre Ioan
- A40 Pontsenni
- A40 Sanclêr
- A44 Ponterwyd
- A48 Cas-gwent
- A458 Y Trallwng
- A470 Blaenau Ffestiniog
- A470 Caersws
- A470 Dolwyddelan
- A470 Ganllwyd
- A470 Glan Conwy
- A470 Llandinam
- A470 Rhaeadr Gwy
- A477 London Road, Doc Penfro
- A479 Tretŵr
- A483 Rhydaman, Penybanc a Thycroes
- A483 Y Groes
- A483 Dolfor
- A483 Ffairfach a Llandeilo
- A483 Llandrindod
- A483 Llanwrtyd
- A483 Llanymynech
- A487 Aberarth
- A487 Dinas
- A487 Eglwyswrw
- A487 Llanarth
- A487 Llanfarian
- A487 Llannon
- A487 Llanrhystud
- A487 Penrhyndeudraeth
- A487 Taliesin
- A494 Gwyddelwern
- A5 Corwen
- A5 Glyndyfrdwy
- A5 Llangollen
- A5 Porthaethwy
- A55 Caergybi
- B5125 (Chester Road) a Chylchfan Brychdyn (A55/B5125), Sir y Fflint
