Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gomisynu York Consulting LLP i gyflawni adolygiad o drefniadau cydweithio athrawon a chyflogwyr mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru.

Nod yr ymchwil hwn oedd:

  • deall arferion presennol trefniadau cydweithio rhwng athrawon a chyflogwyr ledled Cymru
  • deall a fyddai trefniadau a chyfarfodydd rhwng athrawon a chyflogwyr yn fuddiol i athrawon a chyflogwyr ledled Cymru, ac os felly, pa fodelau gweithredu y dylid eu cynnig
  • datblygu canllawiau i gefnogi trefniadau a chyfarfodydd ystyrlon rhwng athrawon a chyflogwyr a gwneud argymhellion ar gyfer cynllun peilot yn y dyfodol

Cyflawnwyd yr adolygiad o drefniadau rhwng athrawon a chyflogwyr gan York Consulting rhwng misoedd Ebrill a Mehefin 2023. Roedd methodoleg yr adolygiad yn cynnwys adolygiad llenyddiaeth a thystiolaeth, arolwg ysgolion a chyfweliadau gyda rhanddeiliaid allweddol, staff ysgol a chyflogwyr.

Roedd rhanddeiliaid a gyfwelwyd fel rhan o’r adolygiad yn cynnwys Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, Consortia Addysg Rhanbarthol, Gyrfa Cymru, ac eraill fel y Careers and Enterprise Company ac academyddion perthnasol. Derbyniodd yr arolwg i ysgolion 28 o ymatebion. O’r ymatebwyr hyn, fe wnaeth 10 gymryd rhan mewn cyfweliad dilynol ar-lein. Yn ogystal, cyflawnwyd cyfweliadau ag unigolion gyda 12 o gyflogwyr.

Canfyddiadau

Adolygiad llenyddiaeth a thystiolaeth

Mae llawer o’r dystiolaeth sydd ar gael am yr arferion a’r modelau gweithredu presennol ar gyfer trefniadau cydweithio rhwng athrawon a chyflogwyr yn seiliedig ar weithgareddau a ddigwyddodd, neu sy’n digwydd, yn Lloegr ac Unol Daleithiau America. Mae’r modelau gweithredu a nodir yn yr adolygiad hwn yn awgrymu y gall cyfarfodydd rhwng athrawon a chyflogwyr ddigwydd mewn amrywiol ffurfiau, o ryngweithiadau byr i weithgareddau mwy trylwyr sy’n ymestyn dros sawl diwrnod. Fodd bynnag, yn y mwyafrif o achosion, ymddengys fod y model gweithredu yn ymwneud â phrosiectau lleoli athrawon mewn diwydiant, gyda chyflogwyr ac athrawon yn cyd-greu cynlluniau gwersi neu weithgareddau cwricwlwm.

Er bod angen i’r sail dystiolaeth o drefniadau cydweithio rhwng athrawon a chyflogwyr gael ei datblygu ymhellach – yn enwedig o safbwynt Cymreig – mae arwyddion fod rhyngweithio rhwng cyflogwyr ac athrawon yn dod ag amrywiaeth o fanteision i athrawon, disgyblion a chyflogwyr. Mae’r ffactorau sy’n allweddol i lwyddiant a nodir yn y llenyddiaeth yn cynnwys adnoddau digonol, megis broceriaeth penodol i gefnogi cysylltiadau mwy hirdymor rhwng ysgolion a chyflogwyr.

Arferion presennol

Y farn gan randdeiliaid, staff ysgolion a chyflogwyr yw nad yw meithrin cysylltiadau rhwng athrawon a chyflogwyr yn arfer gyffredin mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru. Lle bo cyfarfodydd cydweithio rhwng athrawon a chyflogwyr yn digwydd, maent yn tueddu i fod yn anffurfiol ac o ganlyniad i drefniadau amrywiol, unigol, heb ddim model cyson ar gyfer gweithredu na broceriaeth rhwng ysgolion a chyflogwyr. Roedd consensws ymysg rhanddeiliaid y byddai angen adnoddau a chydgysylltu ychwanegol er mwyn i drefniadau cydweithio rhwng athrawon a chyflogwyr ddod yn arfer gyffredin.

Barn ar fuddion a chanlyniadau

Un canfyddiad allweddol o’r ymchwil yw bod diddordeb a brwdfrydedd dros drefniadau cydweithio rhwng athrawon a chyflogwyr ymysg rhanddeiliaid, ysgolion, a chyflogwyr. Barn gyffredin oedd bod athrawon yn tueddu i fod yn brin o brofiad diwydiant, gyda’r mwyafrif wedi mynd yn syth o brifysgol i hyfforddiant athrawon a gweithio mewn ysgolion. Y teimlad oedd y gallai trefniadau cydweithio rhwng athrawon a chyflogwyr helpu mynd i’r afael â’r bwlch hwn mewn profiad, trwy alluogi athrawon i gael yr wybodaeth ddiweddaraf o sectorau sy’n berthnasol i’w Maes Dysgu a Phrofiad. Roedd rhanddeiliaid a staff ysgolion yn pwysleisio hefyd sut y gallai trefniadau cydweithio rhwng athrawon a chyflogwyr helpu athrawon i gyflawni nodau’r Cwricwlwm newydd i Gymru, yn enwedig ynghylch profiadau dysgu dilys.

Roedd cyflogwyr yn aml yn gweld manteision trefniadau cydweithio rhwng athrawon a chyflogwyr fel ffordd o gynyddu ac amrywio eu dilyniant o ddoniau at y dyfodol trwy arddangos y cyfleoedd maent yn eu cynnig, i ddylanwadu ar gwricwlwm yr ysgol, a/neu fel ffordd o gyflawni eu cyfrifoldebau cymdeithasol corfforaethol.

Rhwystrau a galluogwyr

Y rhwystr rhag gweithredu trefniadau cydweithio rhwng athrawon a chyflogwyr a oedd yn cael ei ragweld yn fwyaf cyffredin oedd diffyg amser digonol. Yn gysylltiedig â’r sylwadau hyn a wnaed gan staff yr ysgol ynghylch diffyg amser, y rhwystr a ragwelwyd fwyaf a grybwyllwyd gan gyflogwyr oedd anawsterau wrth ddatblygu a chynnal cysylltiadau gydag ysgolion. Roedd cost staff cyflenwi – a’r graddau’r oeddent ar gael – hefyd yn rhwystr allweddol a grybwyllwyd gan staff ysgolion.

Pan ofynnwyd iddynt am alluogwyr allweddol a fyddai’n eu helpu i weithredu trefniadau cydweithio rhwng athrawon a chyflogwyr, roedd awgrymiadau gan staff ysgolion a chyflogwyr yn aml yn gysylltiedig â’r rhwystrau cyffredin a grybwyllwyd. Roedd staff ysgolion yn awgrymu cyllid ar gyfer gwaith cyflenwi ac amser fel galluogwyr allweddol. Yn gysylltiedig â’r heriau a grybwyllir uchod ynghylch cyflogwyr yn datblygu a chynnal cysylltiadau ag ysgolion, y galluogwr mwyaf cyffredin a awgrymwyd gan gyflogwyr oedd trydydd parti i’w helpu i froceru cysylltiadau ag ysgolion.

Crynodeb o ganfyddiadau ac argymhellion ar gyfer cynllun peilot yn y dyfodol

Nid oedd adborth gan randdeiliaid, ysgolion na chyflogwyr yn dangos barn glir ar unrhyw fodel gweithredu penodol a oedd yn cael ei ffafrio ar gyfer trefniadau cydweithio rhwng athrawon a chyflogwyr. Yn wyneb y rhwystrau amser ac adnoddau a amlygwyd, dylid cynnig amrywiaeth o ddewisiadau i roi hynny ag sy’n bosibl o hyblygrwydd i ysgolion a chyflogwyr ddewis y model gweithredu sydd fwyaf addas ar gyfer eu cyd-destun a chapasiti. Mae modelau gweithredu posibl yn cynnwys digwyddiadau ar-lein gyda chyflogwyr, sgyrsiau gan gyflogwyr mewn ysgolion, ymweliadau â gweithleoedd gan athrawon ac ‘externships’ (lleoliadau profiad gwaith allanol) i athrawon.

Mae’r adolygiad hwn wedi amlygu amryw o faterion sy’n ymwneud â’r holl fodelau gweithredu a awgrymir ac y dylid eu hystyried wrth ddatblygu cynlluniau peilot trefniadau cydweithio rhwng athrawon a chyflogwyr yng Nghymru.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • cydnabod trefniadau cydweithio rhwng athrawon a chyflogwyr fel rhan o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus athrawon a rhoi canllawiau ar sut y gall prifathrawon ariannu’r gweithgarwch hwn fel rhan o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus Athrawon
  • neilltuo amser ar gyfer datblygu’r cwricwlwm mewn cyfarfodydd
  • cyfuno trefniadau cydweithio rhwng athrawon a chyflogwyr â chyfarfodydd disbyglion â chyflogwyr
  • anelu at ddatblygu perthynas gynaliadwy, hirdymor rhwng athrawon a chyflogwyr
  • yr angen am froceriaeth trydydd parti rhwng ysgolion a chyflogwyr i weithredu trefniadau cydweithio rhwng athrawon a chyflogwyr

Manylion cyswllt

Awduron: Martha Julings, Philip Wilson, Natasha Charlton (York Consulting)

Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Sean Homer
Ebost: cyflogadwyedd.sgiliau.ymchwil@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 94/2023
ISBN digidol: 978-1-83504-578-7

Image
GSR logo