Mae'r adroddiad hwn yn adolygu'r dystiolaeth ryngwladol ar effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol ardollau ymwelwyr mewn gwahanol gyrchfannau byd-eang.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Comisiynwyd yr ymchwil yn haf 2023 i adolygu tystiolaeth ryngwladol ar effeithiau aneconomaidd ardoll ymwelwyr. Roedd hyn yn rhan o ddatblygu deddfwriaeth ardoll ymwelwyr, ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu.
Prif amcanion yr ymchwil hwn oedd:
- casglu ac adrodd sut mae refeniw ardoll ymwelwyr yn cael ei wario mewn gwahanol gyrchfannau byd-eang, a dadansoddi eu systemau llywodraethu
- adolygu effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol y gwariant hwn
- nodi cyffredinrwydd a gwahaniaethau mewn llywodraethu ar draws y cyrchfannau hyn
- gwneud argymhellion ar gyfer llywodraethu refeniw ardoll ymwelwyr yng Nghymru yn y dyfodol
