Neidio i'r prif gynnwy

Aelodau

Mae'r tîm adolygu yn cynnwys:

  • Phil Jones, Cadeirydd y Grŵp Tasglu 20mya
  • Peter Jones, Athro Trafnidiaeth a Datblygu Cynaliadwy yng Ngholeg Prifysgol Llundain, sydd heb fod yn rhan o'r gwaith o weithredu’r terfyn cyflymder 20mya a bydd yn darparu persbectif annibynnol.
  • Kaarina Ruta, Cynghorydd Trafnidiaeth yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Bydd y tîm yn gweithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru, swyddogion awdurdodau lleol, ac arbenigwyr a phartneriaid eraill.

Diben

Bydd yr adolygiad yn archwilio sut y caiff y canllawiau a roddir i awdurdodau priffyrdd eu cymhwyso wrth osod eithriadau i'r terfyn 20mya diofyn.

Cylch gwaith

Mae adborth gan yr awdurdodau priffyrdd wedi helpu'r tîm adolygu i gael dealltwriaeth o sut y mae'r canllawiau yn cael eu cymhwyso mewn gwahanol rannau o Gymru; adlewyrchu ar y cymhwysiad hwnnw ac ystyried a oes angen eglurhad ac addasiadau i'r canllawiau i annog mwy o gysondeb ledled Cymru yn y dull a gymerir at ffyrdd sy'n ymddangos ar y trothwy rhwng 20mya a 30mya. 

Bydd y tîm adolygu yn ystyried yr adborth ochr yn ochr â thystiolaeth arall i baratoi casgliadau drafft ac argymhellion cychwynnol i'w hystyried gan y grŵp adolygu ac yna eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w cyhoeddi ym mis Chwefror 2024. Wedyn bydd y tîm adolygu yn gweithio ag aelodau cabinet awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill, yn ogystal â chynrychiolwyr diwydiannau y mae'r newid i'r terfyn cyflymder yn effeithio arnynt, gan gynnwys gweithredwyr bysiau a thimau cynllunio gwasanaethau bysiau rhanbarthol. Bydd y tîm, ynghyd â Llywodraeth Cymru, yn cynnig cymorth i awdurdodau lleol lle maent yn awyddus i ystyried newidiadau i ffyrdd yn gyflym, pan fydd y penderfyniad rhwng terfyn cyflymder o 20mya a 30mya yn llai clir.

Bydd y tîm adolygu'n paratoi adroddiad terfynol, ynghyd â chanllawiau drafft wedi'u diweddaru, ar osod y terfynau cyflymder mewn aneddiadau yr effeithir arnynt gan y terfyn cyflymder 20mya diofyn ynghyd ag eithriadau, gan adeiladu ar y profiad o weithredu'r terfyn cyflymder hyd yma a gwneud argymhellion ar sut y gellid cymhwyso hyn i gymunedau ar ffyrdd lle mae cyfyngiadau cyflymder uwch ar hyn o bryd. Gallai diweddariadau i'r canllawiau gynnwys, er enghraifft, ystyried yr effaith ar lwybrau bysiau a chymunedau lleol.