Neidio i'r prif gynnwy

Rydym wedi adolygu'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol i sicrhau ei fod yn glir ac yn cael ei ddeall yn gyson.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Adolygiad o fframwaith deddfwriaethol Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY): crynodeb o ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 452 KB

PDF
452 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Trosolwg

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal adolygiad o'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Yn rhan o'r adolygiad, edrychwyd ar eglurder a chysondeb y fframwaith deddfwriaethol i nodi cyfleoedd i gryfhau dealltwriaeth o'r system ADY a'i chyflwyno'n fwy effeithiol ledled Cymru. 

Yr wybodaeth a gasglwyd 

Yn gynnar yn 2025, gwahoddwyd rhanddeiliaid a phartneriaid cyflawni allweddol i ddarparu gwybodaeth er mwyn deall eu profiad o gyflwyno'r system ADY a'r heriau ymarferol y maent yn eu hwynebu.

Cafwyd 54 o ymatebion ysgrifenedig ac mae crynodeb o'r ymatebion hynny wedi'i gyhoeddi yn yr adran dogfennau i’w lawrlwytho.

Gwahoddwyd Tribiwnlys Addysg Cymru i roi gwybodaeth am ei brofiad o achosion a gofrestrwyd gan y Tribiwnlys, ymholiadau a'r rhai nad ydynt yn cyrraedd apeliadau dilys. Bydd y Tribiwnlys yn cyhoeddi ei dystiolaeth ar wahân.

Canlyniad yr adolygiad

Gyda'i gilydd, bydd yr holl dystiolaeth yn llywio ymrwymiad Llywodraeth Cymru a'r system gyfan ar gyfer darparu a gwella.

Cyhoeddwyd diweddariad ar yr adolygiad o'r fframwaith deddfwriaethol ADY ar 10 Gorffennaf 2025.

Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ddatganiad llafar yn y Senedd ar 14 Hydref 2025.

Roedd y datganiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygio'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru. Amlygwyd cefnogaeth gadarn ar gyfer ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a chydnabyddiaeth i'r ymroddiad i'r newid o ran diwylliant tuag at addysg gynhwysol, gan greu dros 32,000 o gynlluniau datblygu unigol statudol i ddysgwyr ag ADY.

Nodwyd pum blaenoriaeth ar gyfer y cam nesaf, sef:

  1. egluro pwy a sut mae dysgwyr ag ADY yn cael cefnogaeth
  2. sicrhau cysondeb cenedlaethol
  3. gwella cefnogaeth i deuluoedd
  4. cryfhau trefniadau integreiddio amlasiantaeth
  5. hyrwyddo addysg ddwyieithog a chynhwysol

Mae'r datganiad yn pwysleisio bod angen partneriaeth gydweithredol ac ymdrech barhaus i ddarparu system deg, gynhwysol lle mae pob dysgwr yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arno i ffynnu.