Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Local Partnerships i gynnal adolygiad o fodelau cyflawni rheolaeth adeiladu yng Nghymru.
Yn dilyn yr argymhellion a nodir yn adroddiad Archwilio Cymru "Craciau yn y Sylfeini" ac Ymchwiliad Tŵr Grenfell: Adroddiad Cam 2, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Local Partnerships i gynnal adolygiad o fodelau cyflawni rheolaeth adeiladu yng Nghymru.
Y nod yw asesu a yw'r strwythur presennol o ran rheolaeth adeiladu a'r dull marchnad gymysg yn parhau i fod yn briodol ac yn effeithiol wrth gadw adeiladau'n ddiogel.
Bydd y gwaith hwn yn gwneud y canlynol:
- asesu'r system bresennol yn erbyn modelau amgen, gan gynnwys y rhai a ddefnyddir mewn mannau eraill yn y DU
- ystyried costau, manteision, risgiau a chyfleoedd trwy ddadansoddiad strwythuredig
- tynnu ar ymchwil sy'n bodoli eisoes i nodi arfer da
Mae'r adolygiad hwn yn gam pwysig wrth lunio dyfodol gwasanaethau rheolaeth adeiladu yng Nghymru, a bydd eich mewnbwn yn amhrisiadwy wrth ein helpu i nodi cyfleoedd ar gyfer gwella a sicrhau gwydnwch yn y system.
Y camau nesaf a gwaith ymgysylltu
Fel rhan o'r gwaith hwn, bydd Local Partnerships yn ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol i gasglu safbwyntiau a thystiolaeth.
Er mwyn sicrhau bod eich barn yn cael ei ystyried, cofrestrwch eich diddordeb drwy anfon e-bost atom enquiries.brconstruction@llyw.cymru fel y gallwn hwyluso eich cyfranogiad.
