Nod cyffredinol yr adolygiad oedd asesu’r graddau y gellir priodoli’r canlyniadau a welwyd i’r camau gweithredu a oedd wedi’u datblygu a’u cyflawni o ganlyniad i’r Strategaeth.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Roedd yn nodi pedwar maes gweithgarwch pwysig y credwyd eu bod yn gallu dylanwadu ar y canlyniadau hyn:
- atal niwed
- cynorthwyo camddefnyddwyr sylweddau i wella’u hiechyd a rhoi cymorth iddynt ymadfer a dal ati
- cynorthwyo ac amddiffyn teuluoedd
- mynd i’r afael ag argaeledd ac amddiffyn unigolion a chymunedau drwy weithgarwch gorfodi.
Roedd pumed maes ychwanegol wedi’i gynnwys yn y Strategaeth a oedd yn canolbwyntio ar gyflawni’r Strategaeth a chynorthwyo asiantaethau partneriaid (drwy ddatblygu trefniadau partneriaeth mwy cadarn).
Nod cyffredinol yr adolygiad oedd asesu’r graddau y gellir priodoli’r canlyniadau a welwyd i’r camau gweithredu a oedd wedi’u datblygu a’u cyflawni o ganlyniad i’r Strategaeth.
