Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o'r adolygiad o wariant ysgolion yng Nghymru.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Diweddariad llywodraeth cymru ar ei hymateb i argymhellion yr adolygiad o wariant ysgolion yng Nghymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 207 KB

PDF
207 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Y Cefndir

Mae cyllido ysgolion yn fater polisi cyfoes iawn yng Nghymru a gweddill y DU. Mae pryderon wedi cael eu codi am lefel gwariant ysgolion fesul disgybl, gwahaniaethau rhwng awdurdodau lleol ac a yw lefelau cyllido yn ddigonol i ddiwallu anghenion disgyblion mewn ardaloedd gwahanol o'r wlad.

O ganlyniad i bryderon o'r fath, lansiodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ymchwiliad i gyllido ysgolion yng Nghymru. Arweiniodd yr ymchwiliad hwn at amrywiaeth o argymhellion a gyhoeddwyd yn eu hadroddiad Cyllido Ysgolion yng Nghymru, gan gynnwys argymhelliad 1:

Y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad ar fyrder o faint
o gyllid y mae ei angen i gyllido ysgolion yn ddigonol yng Nghymru, yn enwedig o gofio lefel y diwygiadau sydd ar y gweill. Dylai’r adolygiad hwn: 

  • ystyried, fel ei sail, beth yw cost sylfaenol rhedeg ysgol ac addysgu
    plentyn yng Nghymru, cyn i’r adnoddau ychwanegol y mae eu hangen
    ar gyfer ffactorau eraill fel amddifadedd a theneurwydd poblogaeth ac
    amgylchiadau lleol, gael eu dyrannu
  • darparu amcangyfrif o’r bwlch cyllid presennol rhwng y swm sy’n cael ei
    wario ar ysgolion ar hyn o bryd a’r swm y mae ei angen i gyflawni’r hyn
    sy’n ofynnol - gan gynnwys yr agenda ddiwygio sylweddol.

Ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at y Pwyllgor ym mis Medi 2019 er mwyn ymateb i'r argymhellion gan gytuno bod “angen adolygiad o’r fath”.

Adolygiad o wariant ysgolion

Comisiynwyd Luke Sibieta, ymgynghorydd annibynnol ac arbenigwr ar gyllid ysgolion, i helpu Llywodraeth Cymru i ymateb i argymhelliad 1 yn adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Cyhoeddodd Kirsty Williams, AC, y Gweinidog Addysg ddatganiad ysgrifenedig ar 24 Hydref 2019. 

Cyhoeddwyd Adolygiad o wariant ysgolion yng Nghymru Luke Sibieta yn 2020.

Ymateb i'r argymhellion

Ym mis Gorffennaf 2022, rhoddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariad ar ei hymateb i argymhellion yr Adolygiad o Wariant Ysgolion yng Nghymru i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. 

Mae'r Adolygiad annibynnol o Wariant Ysgolion yng Nghymru gan Luke Sibieta yn darparu tystiolaeth werthfawr i lywio penderfyniadau cyllido a pholisi yn y dyfodol. Mae wedi tynnu sylw at gymhlethdod y system ariannu. Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid ar bob lefel i weithio drwy'r cymhlethdodau hyn. 

Mae amrywiaeth eang o bortffolios Llywodraeth Cymru yn rhan o'r system addysg a'r cyllid sydd ar gael i'n plant a'n pobl ifanc. Mae llawer o feysydd trawsbynciol sy'n berthnasol i nifer o'r argymhellion a wnaed yn Adolygiad o Wariant Ysgolion yng Nghymru Luke Sibieta ac adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Cyllido Ysgolion yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn 2019. Felly, rydym wedi sefydlu grŵp rhanddeiliaid mewnol i gydgysylltu a rheoli'r gwaith hwn. 

Yn dilyn yr argymhellion, rydym hefyd wedi comisiynu darnau amrywiol o ymchwil er mwyn sicrhau bod gennym y dystiolaeth ddiweddaraf i helpu i lywio'r gwaith o lunio polisïau.

Fe wnaethom gynnal adolygiad o fformiwlâu cyllido ysgolion awdurdodau lleol a chyhoeddwyd crynodeb o'r ganfyddiadau'r adolygiad o fformiwla cyllido ysgolion a'r argymhellion ym mis Chwefror 2025. Bwriad y dadansoddiad hwn oedd deall yn well y cymhlethdodau a'r prosesau gwneud penderfyniadau mewn perthynas â fformiwlâu cyllido ysgolion ar draws Cymru. Bydd yr adolygiad yn ein galluogi i ystyried sut y gellir gwella'r system, er mwyn galluogi cyllid mwy tryloyw, cymaradwy a chyson i bob ysgol yng Nghymru.

Rydym hefyd wedi sefydlu gweithgor gyda chynrychiolwyr awdurdodau lleol ac rydym yn adolygu rheoliadau cyllid ysgolion.

Manylion cyswllt

e-bost: Addysg.SeilwaithLlywodraethiantAChyllid@llyw.cymru

Bost:

Yr Is-adran Seilwaith Addysg, Llywodraethu a Chyllid
Y Gyfarwyddiaeth Addysg
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ