Adolygiad o Gymorth Busnes: Atodiad C - cylch gorchwyl
Cylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad o wasanaethau cymorth I fusnesau.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Y cefndir
Mae nifer o gynigion wedi'u gwneud o wahanol gyfeiriadau ar gyfer diwygio'r model cymorth i fusnesau yng Nghymru. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi ystyried y syniadau hyn, o ran cryfder y dystiolaeth sy'n dangos i ba raddau y gellid gwella'r trefniadau presennol.
Mae pawb am weld busnesau cynaliadwy yn creu mwy o dwf a mwy o fuddsoddiad, ond nid yw hynny ar ei ben eu hun yn dystiolaeth bod angen llwyr ailadeiladu'r modd y mae cymorth busnes yn cael ei ddarparu. Nid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn argyhoeddedig y gellid disgwyl i unrhyw un model amgen arwain at wasanaeth gwell am gost debyg. Mae cymhariaeth yn aml yn cael ei wneud â chymorth hanesyddol, fel Awdurdod Datblygu Cymru, heb gydnabod bod lefel y gwariant hanesyddol yn llawer uwch na'r cymorth sydd ar gael heddiw.
Wedi dweud hynny, mae'n amlwg bod lle i wella'n barhaus ac mae rhai themâu cyson yn dod i'r amlwg o'r ddadl, gan gynnwys consensws y gall y sefyllfa cymorth busnes fod yn ddryslyd i fuddsoddwyr rhyngwladol.
Amcanion yr adolygiad
O ystyried bod angen egluro'r Achos Strategol dros newid helaeth o hyd ac o ystyried yr amser cyfyngedig i gyflawni newid cyn etholiad y Senedd yn 2026, mae'r adolygiad hwn yn canolbwyntio ar yr hyn y gellir ei wneud yn gyflym, yn effeithiol a chyda'r lleiafswm o darfu, a hynny er mwyn cyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth hon ac i adlewyrchu amodau economaidd sy'n dod i'r amlwg. Dylai'r adolygiad ystyried y posibilrwydd y dylid cynnal diwygio mwy sylfaenol maes o law a gosod y sylfeini ar gyfer ystyriaeth o'r fath, ond ni ddisgwylir argymhellion penodol yn hynny o beth.
Yn benodol, dylai’r adolygiad gynnwys:
- dadansoddiad o'r hyn y mae Cymru yn ei gael ar gyfer ein gweithgareddau Cymorth Busnes cyfredol, ac a yw'n cyfateb i feysydd yr economi lle ceir y cyfleoedd gorau a'r anghenion mwyaf, gan nodi a ydym yn defnyddio adnoddau yn y ffordd orau bosibl.
- argymhellion ar gyfran gymharol yr adnoddau yr ydym yn eu rhoi i wahanol sectorau, gan gynnwys y rhesymeg dros sut y dylid dyrannu adnoddau, ac opsiynau ar gyfer newid i'r Ysgrifennydd eu hystyried.
- effaith ymyrraeth Llywodraeth y DU ym maes Cymorth i Fusnesau yng Nghymru, i ba raddau y mae'n ailadrodd cynigion presennol a sut y dylai ein cynigion ategu ei gilydd mewn modd amlwg gyson a chlir.
- cyfeirio a chydlynu'r Cymorth i Fusnesau sy'n cael ei gynnig yng Nghymru, gan gynnwys holl ganghennau Llywodraeth Cymru a'i chyrff hyd braich a'i phartneriaid cyflenwi, a
- chyfleoedd i wneud arbedion y gellir eu rhoi yn ôl i gefnogi economi Cymru.
Wrth gwrs, bydd yr adolygiad yn ystyried yr effaith a'r data gwerthuso sydd ar gael, gan gynnwys boddhad cwsmeriaid, a bydd yn cynnal yr asesiadau effaith arferol sy'n briodol i unrhyw newid sylweddol mewn blaenoriaethau, gan gynnwys yr effaith ar economïau a chymunedau gwledig, yr effaith ar grwpiau â nodweddion gwarchodedig a'r Gymraeg.
Gweithredu
Bydd yr adolygiad yn cael ei arwain gan Dîm Gweithrediadau yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth (EET) i gynnig goruchwyliaeth, cydlyniant a chymorth sefydliadol. Mae'r rhan fwyaf o'r arbenigedd sydd ei angen ar gyfer yr adolygiad yn nhîm EET, er nad yw'r cyfan o'r arbenigedd yno. Bydd disgwyl i'r adolygiad ddefnyddio gwybodaeth, cyngor a barn gan bob rhan o Lywodraeth Cymru (Busnes Cymru ac ati) a'i chyrff hyd braich gan gynnwys Banc Datblygu Cymru. Mae gwaith eisoes wedi'i wneud yn fewnol yn y maes hwn, yn nhîm EET a Banc Datblygu Cymru er enghraifft, a dylid datblygu'r gwaith hwn.
Bydd yr adolygiad hefyd yn ystyried tystiolaeth o adroddiadau a phapurau presennol ac arfaethedig o ffynonellau allanol, a hynny o fewn y terfynau a nodwyd uchod. Mae tystiolaeth o'r fath yn cynnwys, er enghraifft, bapurau gan Gomisiynydd y Gymraeg, Dirnad Economi Cymru, Asesiadau Effaith Prifysgol Caerdydd, y y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (yr OECD), Ffederasiwn y Busnesau Bach a chyrff proffesiynol.
Os yn bosibl, dylai arbenigwyr uwch sydd eisoes yn y sefydliad oruchwylio'r adolygiad. Gallai cyfarwyddwr anweithredol sydd â phrofiad priodol gynnig cefnogaeth ac arbenigedd ar lefel uchel.
Nid oes adnoddau ychwanegol ar gyfer yr adolygiad hwn ar gael ar hyn o bryd. Mae'r adolygiad hwn yn debyg i raglenni gwella parhaus y dylai holl swyddogaethau Llywodraeth Cymru fod yn ddarostyngedig iddynt. Wedi dweud hynny, os yw gwaith cynllunio manwl yn dangos bod angen cymorth penodol na ellir ei ddarparu o fewn cyllidebau presennol, yna bydd yr Ysgrifennydd yn barod i ystyried achosion o'r fath.
Adrodd yn ôl
Dylai'r adolygiad adrodd i'r Ysgrifennydd ym mis Medi 2025, gyda'r bwriad o roi argymhellion ar waith erbyn diwedd y flwyddyn. Croesewir argymhellion na ellir eu gweithredu o fewn yr amserlen honno ond ni ddylai fod yn brif ffocws.
Dylid rhoi adroddiadau interim i'r Ysgrifennydd ar waith sy'n mynd rhagddo a chanfyddiadau sy'n dod i'r amlwg fel rhan o gynllun y prosiect ar gyfer yr adolygiad.
Mai 2025
